Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach/Deio Bach
← Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach | Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach gan Anhysbys |
→ |
DEIO BACH.
Neu hiraeth mam ar ol ei mab aeth i'r America.
MEGAIS fachgen bach ac anwyl,
Ar fy mron mewn trafferth mawr,
Deio, ti yw'r bachgen hwnw,
Nad wn p'le yr wyt yn awr; It
Maith yw'r amser er y'th welais,
'Machgen anwyl wyt ti'n iach?
Os na elli ddyfod drosodd, yw'
Anfon lythyr Deio bach.
Pan y gwenit yn fy ngwyneb,
Pan chwareuit gylch fy nhra'd
Codai hiraeth yn fy nghalon
Am dy anwyl, anwyl dad;
Do, mi'th godais dan fy nwyfron
Y mae hiraeth mawr a chlwy',
Ond mae'th oeraidd ddiofalwch,
Heddyw'n peri hiraeth mwy.
Gauaf oer i'm fu'r diweddaf,
Anwyd lawer ddygais i,
Peidiais cwyno rhag cwtogi
Gronyn ar dy lawnder di;
Nid oes rhaid i wraig y dafarn,
Nac i'th flys dy hun gael cam;
Os yw'n anawdd sbario dimai
Gad yn anghof gŵyn dy fam
Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin;
Tra mae 'mhlentyn mi obeithiaf
Gyd a'i fara o wenith gwyn;
Os wyt ti, fy mhlentyn anwyl,
Wrth dy fwrdd, heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn
Cofia damaid gwael dy fam.
Os nad yw yn ormod hyfdra
Ar afradlon lencyn hael
I adgofio pwy a'i magodd,
A bod ganddo fam i'w chael;
'F allai y goddefi imi
Deio Bach heb dybied cam,
I ryw fenyw a adwaenost
Dd'weyd fod genyt tithau fam.
Os na elli ddyfod drosodd,
Os na elli'm helpu ddim,
Beiddiaf ofyn un peth i ti
F' allai rhoddi hwnw im':
Careg fedd nid wyf yn ddisgwyl,
Gormod yw gan hiraeth iach;
Dyro ddeigryn wrth fy nghofio,
Dim ond deigryn, Deio Bach.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.