Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Brut Sibli

Oddi ar Wicidestun
Ad Apollinem et Musas Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englyn o Gynghor

BRUT SIBLI.

Awdl[1] yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i DRAHAIARN vab Caradawg, a MEILIR mab Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddiaeth y Gogynfeirdd.

Y Bart du a gant yr Awdyl honn, yn y lluyt y llas,. . . . uap Hywel.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 89.]

YOLAFI naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pa les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hy wel o hil cewri

Dypryd vym pryd ym pryderi lawer
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi[2]
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawc eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori
Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a doyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nenawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llabir
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet[3] buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep ith dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi
Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi
"Dieu[4] y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai

A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Titheu gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi
Ucher yth later ti ny leti
A chan anreith gwoleith gwael dy uri
Diardwy abwy abar fyti
Esgyrn dy syrn hyd Sarn Teivi a grein
A byt lawen urein ar uraen weli."

Diwet yr Awdyl. A phocd gwir a vo,

hebai Oronwy Ddu, 1754.


Nodiadau

[golygu]
  1. Ymgais athrylith gref Goronwy i ddynwared geir- wedd a sillebiaeth Meilir Brydydd, bardd Cymreig of gryn deilyngdod, yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, ydyw yr awdl hon. Bydd yn ddigon hawdd i'r darllenydd cywrain ddilyn rhediad y cyfansoddiad ond iddo ymgynghori hefo Geiriadur, yn enwedig yr eiddo Thomas Richards o Langrallo.
  2. Chwi a welwch nad oedd Sibli yn gwisgo dim clos; Sibylla oedd hi, mae yn debyg.-G.O.
  3. Geiriau gau broffwyd yw y rhai hyn.-G.O.
  4. Geiriau Sibli yw y rhai hyn.-G.O.