Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd y Farf

Oddi ar Wicidestun
Awdl y Gofuned Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
I'r Awen

CYWYDD Y FARF. 1752.

[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 4].

CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir[1] boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion,
Yn fargod—da bod heb hon;

Trwsa'n[2] difwyno traserch;
Athrywyn[3] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
"Ffei o hon, hwt!"—ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân.
Briwio'i boch wrth ei llochi,
Och i'r rhawn ! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew;
Sofl a blyg, ond di syfil blew.
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur:
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fa! cangau coed;
Ffluwch[4] lednoeth, yn boeth y bo;
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.
Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwale yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch, gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn â charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y—rhydd ei hannedwydd nôd—
Briw cyfled, â lled ei llafn,
Llun osgo law anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wanaf[5] o waed;

Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[6] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb.
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch—
Odid filyn, barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach;
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch;
Hortair[7] na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.

Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt;
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.
Bid pawb oll i'w harfolli,[8]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf.


Nodiadau

[golygu]
  1. Dir—sicr
  2. Trws—a truss
  3. Ysgaru
  4. Cudyn o wallt
  5. Cynyrch ergyd pladur
  6. Ebrwydd
  7. Difri-air
  8. Croesawu