Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/I ofyn Cosyn o Laeth Geifr
← Odlig arall | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Englyn a Sain Gudd ynddo → |
ENGLYNION.
I ofyn Cosyn Llaeth-geifr gan WILLIAM GRUFFYDD o
Ddrwsycoed yn Eifionydd, dros Domos Huws, mab Huw
ab Ifan o Landygai, oedd yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.
DYNYN wyf a adwaenoch—er enyd,
A yrr anerch atoch;
Rhad a hedd ar a feddoch,
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.
I chwi mae, i'ch cae, uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall,
Llawer mynyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.[1]
Mae iwch gaws liaws ar led—eich anedd,
A'ch enwyn[2] cyn amled;
Y mwynwr, er dymuned,
Rhowch im' gryn gosyn o ged.
Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith, lofr,
Cosyn o flith[3] gofrith gafr.
Blysig, anniddig ei nâd,—yw meistres,
A mwstro mae'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad,
Na gwledd ond o gaws ein gwlad.
Myn Mair onis cair y caws
Ar fyr, y gwr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.
Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.