Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Nodiad

Oddi ar Wicidestun
Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf) Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cynhwysiad

NODIAD.

UN o effeithiau mwyaf nodedig y deffroad addysg diweddar yng Nghymru fu'r diddordeb a enynwyd yng ngweithiau Goronwy Owen. Addefir yn gyffredinol, a chan yr athrawon mewn Cymraeg yn ein hysgolion a'n colegau, fod Llythyrau a Barddoniaeth Goronwy yn parhau yn eu gwerth, ac yn addas fel testyn-lyfr i efrydwyr ein hen iaith odidog, yng nghyfoeth geiriau, ceinder arddull, a thanbeidrwydd awen. Rhaid addef ddarfod i lawer o'r beirdd Cymreig, wedi amser y Bardd o Fôn, ddirywio, i raddau helaeth, oddiwrth ei arddull cryno a'i briod-ddull gwir Gymreig ef. Ac mae'r un mor wir ddarfod i gyfarwydd-deb amryw o'r beirdd diweddar â gweithiau beirdd estronol ddwyn i'w gwaith ormod o'r ddelw efelychiadol, ac anghydnaws âg awen naturiol y Cymru. Ond bydd efrydiaeth drwyadl o weithiau ardderchog Goronwy Owen yn foddion i ddiwygio'r ddau ddrwg—llacrwydd arddull ac efelychiad estronol. I geisio cyflenwi'r alwad am y Llythyrau a'r Farddoniaeth y cyhoeddir yr argraffiad hylaw a rhad presennol.

Y CYHOEDDWYR.

Nodiadau

[golygu]