Barn fi, O Dduw! a chlyw fy llais

Oddi ar Wicidestun

Mae Barn fi, O Dduw! a chlyw fy llais, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Barn fi, O Dduw! a chlyw fy llais,
Mi rodiais mewn perffeithrwydd;
Ni lithraf am i'm roi fy mhwys,
Yn llawn ddwys ar yr Arglwydd.


Prawf di fy muchedd, Arglwydd da,
A hola ddull fy mywyd;
A manwl chwilia'r galon fau,
A phrawf fy arenau hefyd.


O flaen fy llygaid, wyf ar led
Yn gweled dy drugaredd;
Gwnaeth dal ar hynny ar bob tro,
I'm rodio i'th wirionedd.


Mi olchaf fy nwy law yn líin,
Cans felly byddan, f'Arglwydd;
Ac a dueddaf tua'th gôr,
Ac allor dy sancteiddrwydd.


Fe saif fy nhroed i ar yr iawn,
Ni syfl o'r uniawn droedfedd;
Mi a'th glodforaf, Arglwydd da,
Lle byddo mwya'r orsedd. e. p.