Beibl (1620)/Gweddi Manasses

Oddi ar Wicidestun

GWEDDI MANASSES BRENIN JWDA, PAN OEDDID YN EI DDAL EF YN GARCHAROR YN BABILON

O Argwlydd, hollalluog Dduw ein tadau, Abraham, Isaac, a Jacob, a'u cyfiawn hiliogaeth hwynt:

yr hwn a wnaethost nefoedd a daear, a'u gwychder oll:

yr hwn a rwymaist y môr â gair dy orchymyn;

yr hwn a gaeaist y dyfnder, ac a'i seliaist â'th enw ofnadwy a gogoneddus:

yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth:

oblegid ni ellir aros mawredd dy ogoniant, na dioddef dicter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid.

Eithr trugaredd dy addewid di sydd anfeidrol ac anchwiliadwy:

oblegid tydi sydd Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ddrwg dyn.

Tydi, O Arglwydd, yn ôl amldra dy ddaioni, a addewaist edifeirwch a maddeuant i'r rhai a bechasant i'th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iachawdwriaeth.

Am hynny tydi, O Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist edifeirwch i'r rhai cyfiawn, i Abraham, Isaac, a Jacob, y rhai ni phechasant i'th erbyn, ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur.

Mi a bechais yn fwy na rhifedi tywod y môr; fy anwireddau a amlhasant, O Arglwydd, fy anwireddau a amlhasant, ac nid wyf fi deilwng i edrych, ac i weled uchder y nefoedd, oherwydd amldra fy anwireddau.

Mi a grymais i lawr gan rwymau haearn, fel na allaf godi fy mhen; ni allaf chwaith gymryd fy anadl, am gyffroi ohonof dy lid di, a gwneuthur yr hyn sy ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys nis gwneuthum, a'th orchmynion nis cedwais; gosodais i fyny ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau.

Ac yr awr hon yr ydwyf fi yn plygu glin fy nghalon, gan ddymuno daioni gennyt: pechais, O Arglwydd, pechais; ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau.

Am hynny yr ydwyf fi yn deisyf, gan atolwg i ti, maddau i mi, O Arglwydd, maddau i mi, ac na ddifetha fi ynghyd â'm hanwireddau, ac na chadw ddrwg i mi, gan ddigio byth wrthyf, ac na ddamnia fi i geudod y ddaear:

canys tydi sy Dduw, Duw, meddaf, i'r edifeiriol:

ac ynof fi y dangosi dy holl ddaioni: oblegid ti a'm hachubi i, yr hwn ydwyf annheilwng, yn ôl dy fawr drugaredd.

Am hynny y'th foliannaf di bob amser, holl ddyddiau fy einioes: oblegid y mae holl nerthoedd y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae'r gogoniant yn oes oesoedd.

Amen.