Beibl (1620)/Histori Bel a'r Ddraig

Oddi ar Wicidestun

HISTORI DINISTR BEL A'R DDRAIG, WEDI EI THORRI YMAITH ODDI WRTH DDIWEDD DANIEL

1 A’r brenin Astyages a roddwyd at ei dadau, a Cyrus o Persia a gymerodd ei frenhiniaeth ef.

2 A Daniel oedd yn byw gyda'r brenin, ac yn fwy urddasol na'i holl gyfeillion.

3 Ac yr ydoedd eilun gan y Babiloniaid, a elwid Bel, ar yr hwn yr oeddid yn treulio beunydd ddeuddeng mesur mawr o beilliaid, a deugain o ddefaid, a chwe llestr o win.

4 A'r brenin a'i haddolai ef, a beunydd yr ai i ymgrymu iddo: eithr Daniel a addolai ei Dduw ei hun. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Paham nad wyt ti'n addoli Bel?

5 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Am nad anrhydeddaf fi eilunod gwneuthuredig â dwylo, ond y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaear, ac y sydd iddo feddiant ar bob cnawd.

6 A'r brenin a ddywedodd wrtho, Onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwyta ac yn ei yfed beunydd?

7 A Daniel a ddywedodd dan chwerthin, Na thwyller di, O frenin: hwn oddi mewn sy glai, ac oddi allan yn bres; ni fwytaodd ac nid yfodd erioed.

8 Yna'r brenin yn ddicllon a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddywedwch i mi pwy sydd yn bwyta'r draul hon, meirw fyddwch:

9 Eithr os gellwch chwi ddangos i mi fod Bel yn bwyta'r pethau hyn, marw a gaiff Daniel, am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin, Fel y dywedaist, bydded.

10 Offeiriaid Bel oeddynt ddeg a thrigain, heblaw eu gwragedd a'u plant. A'r brenin a aeth gyda Daniel i deml Bel.

11 A'r offeiriaid hefyd a ddywedasant, Wele, ni a awn allan: dod di, O frenin, y bwydydd yn eu lle, a gosod y gwin, wedi i ti ei gymysgu, a chae'r drws, a selia â'th fodrwy dy hun.

12 A'r bore, pan ddelych, oni bydd Bel wedi bwyta'r cwbl, lladder ni; os amgen, Daniel, yr hwn a ddywedodd gelwydd yn ein herbyn ni.

13 A diofal oeddynt: oherwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd, i'r hon yr aent i mewn bob amser, ac y llwyr fwytaent y pethau hynny.

14 Yna wedi iddynt fyned allan, ac i'r brenin osod y bwydydd gerbron Bel, y gorchmynnodd Daniel i'w weision ddwyn lludw, yr hwn a daenasant dros gwbl o'r deml yng ngŵydd y brenin ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a gaeasant y porth, ac a'i seliasant â modrwy'r brenin, ac a aethant ymaith.

15 A'r offeiriaid a aethant i mewn, gefn y nos, yn ôl eu harfer, a'u gwragedd a'u plant, ac a fwytasant ac a yfasant y cwbl.

16 A'r bore y brenin a gododd yn fore iawn, a Daniel gydag ef.

17 A'r brenin a ddywedodd, A ydyw y seliau yn gyfain, Daniel? Ac yntau a atebodd, Y maent yn gyfain, O frenin.

18 A chyn gyflymed ag yr agorasid y drws, y brenin a edrychodd tua'r bwrdd, ac a lefodd yn uchel, Mawr wyt ti, O Bel, ac nid oes dim twyll gyda thi.

19 Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd, Gwêl y llawr, ac edrych ôl traed pwy yw y rhain.

20 A'r brenin a ddywedodd, Mi a welaf ôl traed gwŷr, a gwragedd, a phlant: ac yna y digiodd y brenin,

21 Ac a ddaliodd yr offeiriaid, a'u gwragedd, a'u plant, y rhai a ddangosasant iddo y drysau dirgel, i'r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i fwyta'r pethau oedd ar y bwrdd.

22 A'r brenin a'u lladdodd hwynt, ac a roes Bel ar law Daniel, yr hwn a'i dinistriodd ef a'i deml.

23 Yr oedd hefyd ddraig fawr yno; a'r Babiloniaid a'i haddolent hi.

24 A'r brenin a ddywedodd wrth Daniel, A ddywedi di mai efydd yw hon? Wele hi yn fyw, ac yn bwyta, ac yn yfed: ni elli di ddywedyd nad yw hon Dduw byw: am hynny addola hi.

25 A dywedodd Daniel, Myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw y Duw byw.

26 Eithr tydi, O frenin, dod i mi gennad, a mi a laddaf y ddraig hon, heb na chleddyf na ffon. A'r brenin a ddywedodd, Yr ydwyf yn rhoddi i ti gennad.

27 Yna y cymerth Daniel byg, a gwêr, a blew, ac a'u berwodd ynghyd, ac a wnaeth dameidiau ohonynt, ac a'u rhoes yn safn y ddraig; a'r ddraig a dorrodd ar ei thraws. Ac efe a ddywedodd, Wele'r pethau yr ydych chwi yn eu haddoli!

28 Ac fe ddigwyddodd i'r Babiloniaid, pan glywsant hynny, ddirfawr lidio, a throi yn erbyn y brenin, gan ddywedyd, Y brenin a aeth yn Iddew; Bel a ddistrywiodd efe, a'r Ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid i farwolaeth.

29 Ac wedi eu dyfod at y brenin, y dywedasant, Dod i ni Daniel; onis rhoi, ni a'th ddifethwn di a'th dŷ.

30 Pan welodd y brenin eu bod hwy yn daer iawn arno, yna y gorfu iddo, o'i anfodd, roi Daniel iddynt.

31 A hwythau a'i bwriasant ef i ffau y llewod, lle y bu efe chwe diwrnod.

32 Ac yn y ffau yr oedd saith o lewod, i'r rhai y rhoid beunydd ddau gorff, a dwy ddafad, y rhai y pryd hynny ni roesid iddynt, fel y gallent lyncu Daniel.

33 A Habacuc y proffwyd oedd yn Jwdea; ac efe a ferwasai sew, ac a friwasai fara mewn cawg, ac oedd yn myned i'w ddwyn i'r maes i fedelwyr.

34 Ac angel yr Arglwydd a ddywed odd wrth Habacuc, Dwg y cinio sy gennyt hyd yn Babilon, i Daniel, yr hwn sydd yn ffau y llewod.

35 A Habacuc a ddywedodd, Arglwydd, ni welais i Babilon erioed; ac ni wn i pa le y mae'r ffau.

36 Yna angel yr Arglwydd a'i cymerth ef erbyn ei gorun; ac wedi iddo ei ddwyn erbyn gwallt ei ben, a'i dodes ef yn Babilon, oddi ar y ffau, trwy nerth ei ysbryd ef.

37 A Habacuc a lefodd, gan ddywedyd, Daniel, Daniel, cymer y cinio a anfonodd Duw i ti.

38 Yna y dywedodd Daniel, Ti a feddyliaist amdanaf fi, O Dduw, ac ni adewaist mewn gwall y rhai a'th geisiant ac a'th garant.

39 Felly Daniel a gyfododd i fyny, ac a fwytaodd. Ac angel yr Arglwydd a ddodes Habacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.

40 A'r brenin a aeth y seithfed dydd i alaru am Daniel; a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn, ac wele, yr oedd Daniel yn eistedd.

41 Yna y llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd, Mawr wyt ti, O Arglwydd Dduw Daniel; ac nid oes arall ond tydi.

42 Ac efe a'i tynnodd ef allan o'r ffau, ac a fwriodd y rhai oedd achos o'i ddifetha ef i'r ffau: a hwy a lyncwyd yn y fan o flaen ei lygaid ef.