Beibl (1620)/Josua
| ← Deuteronomium | Beibl (1620) Josua Josua wedi'i gyfieithu gan William Morgan |
Barnwyr → |
Llyfr Josua.
Pennod I.
1 Yr Arglwydd yn gorchymyn i Josua gymmeryd lle Moses. 3 Terfynau gwlad yr addewid. 5, 9 Duw yn addaw cynnorthwyo Josua; 8 ac yn rhoddi iddo addysg. 10 Yntau yn parottôi y bobl i fyned dros yr Iorddonen; 12 ac yn dwyn ar gôf i’r ddau lwyth a hanner eu haddewid wrth Moses. 16 Hwythau yn addaw ufuddhâu iddo ef.
Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,
2 Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.
3 Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.
4 O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Euphrates, holl wlad y Hethiaid, hyd y môr mawr, tu a machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.
5 Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
6 Ymgryfhâ, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu y wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.
7 Yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ol yr holl gyfraith a orchymynodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ol yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
9 Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.
10 ¶ Yna Josua a orchymynodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,
11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchymynwch i’r bobl, gan ddywedyd, Parottôwch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.
12 ¶ Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasseh, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,
13 Cofiwch y gair a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.
14 Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynnorthwywch hwynt;
15 Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tu a chodiad yr haul.
16 ¶ Hwythau a attebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchymynaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.
17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandâwn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi, megis y bu gyd â Moses.
18 Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchymynech iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola.
Pennod II.
1 Rahab yn derbyn i’w thŷ, ac yn celu y ddau ysbïwr a ddanfonasid o Sittim. 8 Y cyfammod rhyngddi hi â hywnt. 23 Eu dychweliad a’u newyddion hwynt.
A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau wr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ putteinwraig a’i henw Rahab, ac a lettyasant yno.
2 A mynegwyd i frenhin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio y wlad.
3 A brenhin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth attat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4 Ond y wraig a gymmerasai y ddau wr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth attaf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5 A phan gauwyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hol hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.
6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bolldeidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7 A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hol hwynt, tu a’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gauwyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hol hwynt allan.
8 ¶ A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fynu attynt hwy ar nen y tŷ:
9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonnasant rhag eich ofn.
10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aipht; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12 Yn awr gan hynny, tyngwch, attolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, o herwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwïorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.
14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
15 Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy y ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.
17 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dïeuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist.
18 Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, attat i’r tŷ yma.
19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddïeuog: a phwy bynnag fyddo gyd â thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddïeuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist.
21 A hi a ddywedodd, Yn ol eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.
22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arhosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23 ¶ Felly y ddau wr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddïau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylaw ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.
Pennod III.
1 Josua yn dyfod i’r Iorddonen. 2 Y swyddogion yn dysgu i’r bobl fyned trwodd. 7 Yr Arglwydd yn cysuro Josua. 9 Josua yn cysuro y bobl. 14 Hollti dyfroedd yr Iorddonen.
A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.
2 Ac ym mhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;
3 Ac a orchymynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hol hi.
4 Etto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesêwch atti, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen.
5 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys y fory y gwna yr Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.
6 Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfammod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfammod, ac a aethant o flaen y bobl.
7 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhâu di y’ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau.
8 Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfammod, gan ddywedyd, Pan ddelych hyd gwrr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
9 ¶ A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesêwch yma, a gwrandêwch eiriau yr Arglwydd eich Duw.
10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyrr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Phereziaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.
11 Wele arch cyfammod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen.
12 Gan hynny cymmerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gwr o bob llwyth.
13 A phan orphwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd Ior yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
14 ¶ A phan gychwynodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfammod o flaen y bobl;
15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, y’nghwrr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhauaf,)
16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
17 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, y’nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.
Pennod IV.
1 Gorchymyn deuddeg o wŷr i gymmeryd deuddeg carreg allan o’r Iorddonen, er coffadwriaeth. 9 Gosod deuddeg eraill o gerrig yng nghanol yr Iorddonen. 10, 19 Y bobl yn myned drwodd. 14 Duw yn anrhydeddu Josua. 20 Sefydlu y deuddeg carreg yn Gilgal.
A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
2 Cymmerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gwr o bob llwyth;
3 A gorchymynwch iddynt, gan ddywedyd, Cymmerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyd â chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y llettŷoch ynddo heno.
4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a barottoisai efe o feibion Israel, un gwr o bob llwyth:
5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ol rhifedi llwythau meibion Israel:
6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoccâu i chwi?
7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfammod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy yr Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae y cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchymynasai Josua; ac a gymmerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ol rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyd â hwynt i’r llety, ac a’u cyfleasant yno.
9 A Josua a osododd i fynu ddeuddeg carreg y’nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfammod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
10 ¶ A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant y’nghanol yr Iorddonen, nes gorphen pob peth a orchymynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ol yr hyn oll a orchymynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.
11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, y’ngŵydd y bobl.
12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:
13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.
14 ¶ Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod o honynt i fynu allan o’r Iorddonen.
17 Am hynny Josua a orchymynodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fynu allan o’r Iorddonen.
18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, i fynu o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19 ¶ A’r bobl a ddaethant i fynu o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20 ¶ A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.
21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?
22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy yr Iorddonen hon ar dir sych.
23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.
Pennod V.
1 Arswyd y Canaaneaid. 2 Josua yn adnewyddu yr enwaediad. 10 Cadw y Pasc yn Gilgal. 12 Y manna yn darfod. 13 Angel yn ymddangos i Josua.
Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
2 ¶ Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.
3 A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaen-grwyn.
4 A dyma yr achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aipht, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aipht.
5 Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aipht, nid enwaedasent arnynt.
6 Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
7 A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dïenwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.
8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arhosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiachâu.
9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Heddyw y treiglais ymaith waradwydd yr Aipht oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddyw.
10 ¶ A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynhaliasant y Pasc, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brydnawn, yn rhosydd Jericho.
11 A hwy a fwyttasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi y Pasc, fara croyw, a chras-ŷd, o fewn corph y dydd hwnnw.
12 ¶ A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwytta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwyttasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
13 ¶ A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn sefyll gyferbyn âg ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyd â ni yr ydwyt ti, ai gyd â’n gwrthwynebwyr?
14 Dywedodd yntau, Nag ê; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?
15 A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Dattod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.
Pennod VI.
1 Cau Jericho. 2 Duw yn dysgu Josua pa fodd y gwarchaeïr arni. 11 Amgylchu y dref. 17 Rhaid iddi fod yn ddïofryd-beth. 20 Y muriau yn syrthio. 22 Arbed Rahab. 26 Melldithio adeiladwr Jericho.
A Jericho oedd gauedig a gwarchaëedig, o herwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.
2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Gwel, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenhin, gwŷr grymmus o nerth.
3 A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.
4 A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r udgyrn.
5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr udgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fynu bawb ar ei gyfer.
6 ¶ A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfammod, a dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.
7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8 ¶ A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith udgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â’r udgyrn: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hol hwynt.
9 ¶ A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r udgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ol yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r udgyrn.
10 A Josua a orchymynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
11 Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12 ¶ A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.
13 A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r udgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ol arch yr Arglwydd, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r udgyrn.
14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.
15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hudgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17 ¶ A’r ddinas fydd yn ddïofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y butteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyd â hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y dïofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddïofryd-beth, os cymmerwch o’r dïofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddïofryd-beth, ac y trallodech hi.
19 Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haiarn, fyddant gyssegredig i’r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.
20 ¶ A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r udgyrn. A phan glybu y bobl lais yr udgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fynu i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.
21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn wr ac yn wraig, yn fachgen ac yn henafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22 ¶ A Josua a ddywedodd wrth y ddau wr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y butteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.
23 Felly y llangciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel.
24 A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haiarn, a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd.
25 A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y butteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ym mysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
26 ¶ A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melldigedig ger bron yr Arglwydd fyddo y gwr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf-anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.
27 Felly yr Arglwydd oedd gyd â Josua; ac aeth ei glod ef trwy yr holl wlad.
Pennod VII.
1 Taro yr Israeliaid wrth Ai. 6 Cŵyn Josua. 10 Duw yn dangos iddo beth a wnai. 16 Dala Achan wrth y coelbren: 19 ei gyffes: 22 ei ddinystrio ef a’r hyn oll oedd iddo, yn nyffryn Achor.
Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y dïofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah, a gymmerodd o’r dïofryd-beth: ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.
2 A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du y dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fynu, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fynu, ac a edrychasant ansawdd Ai.
3 A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho, Nac eled yr holl bobl i fynu; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fynu, ac a darawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
4 Felly fe a aeth o’r bobl i fynu yno ynghylch tair mil o wŷr; a hwy a ffoisant o flaen gwŷr Ai.
5 A gwŷr Ai a darawsant ynghylch un gwr ar bymtheg ar hugain o honynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a tharawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6 ¶ A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd Ior, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem foddlawn, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen!
8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei warr o flaen ei elynion!
9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?
10 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?
11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfammod a orchymynais iddynt: cymmerasant hefyd o’r dïofryd-beth, ïe, lladrattasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ym mysg eu dodrefn eu hun.
12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwarr o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymmunbeth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr ysgymmunbeth o’ch mysg.
13 Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn y fory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Dïofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y dïofryd-beth o’ch mysg.
14 Am hynny nesêwch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn wr.
15 A’r hwn a ddèlir a’r dïofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: o herwydd iddo droseddu cyfammod yr Arglwydd, ac o herwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
16 ¶ Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Judah a ddaliwyd.
17 Ac efe a ddynesodd deulu Judah, a daliwyd teulu y Zarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Zarhiaid bob yn wr, a daliwyd Zabdi:
18 Ac efe a ddynesodd ei dŷaid ef bob yn wr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah.
19 A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, attolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.
20 Ac Achan a attebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.
21 Pan welais ym mysg yr yspail fantell Babilonig dêg, a dau càn sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwennychais hwynt, ac a’u cymmerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear y’nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.
22 ¶ Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.
23 Am hynny hwy a’u cymmerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.
24 A Josua a gymmerth Achan mab Zerah, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gyd âg ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
25 A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â than, wedi eu llabyddio â meini.
26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
Pennod VIII.
1 Duw yn rhoi cysur yn Josua. 3 Y ddyfais â’r hon yr ennillwyd Ai. 29 Crogi ei brenhin hi. 30 Josua yn adeiladu allor; 32 yn ysgrifenu y gyfraith ar gerrig; 33 yn datgan bendithion a melldithion.
A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac na arswyda: cymmer gyd â thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fynu i Ai: gwel, mi a roddais yn dy law di frenhin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad.
2 A thi a wnei i Ai a’i brenhin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenhin: etto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
3 ¶ Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fynu i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos:
4 Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ym mhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.
5 Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyd â mi, a nesâwn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt,
6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hol ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt.
7 Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi.
8 A phan ennilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ol gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchymynais i chwi.
9 ¶ Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arhosasant rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i Ai: a Josua a lettŷodd y noson honno ym mysg y bobl.
10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fynu, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tu ag at Ai.
11 A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gyd âg ef, a aethant i fynu, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du y gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.
12 Ac efe a gymmerth ynghylch pùm mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i’r ddinas.
13 A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du y gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du y gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14 ¶ A phan welodd brenhin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.
15 A Josua a holl Israel, fel pe tarawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoisant ar hyd yr anialwch.
16 A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hol hwynt: a hwy a erlidiasant ar ol Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
17 Ac ni adawyd gwr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ol Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ol Israel.
18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tu ag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynodd y waywffon oedd yn ei law tu a’r ddinas.
19 A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac ennillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
20 A gwŷr Ai a droisant yn eu hol, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac accw: canys y bobl y rhai a ffoisent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.
21 A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a darawsant wŷr Ai.
22 A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt y’nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu accw: a tharawsant hwynt, fel na adawyd un y’ngweddill nac yn ddïangol o honynt.
23 A brenhin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a tharawsant hi â min y cleddyf.
25 A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.
26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hol, yr hon a estynasai efe gyd â’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ol gair yr Arglwydd, yr hwn a orchymynasai efe i Josua.
28 A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffaethwch hyd y dydd hwn.
29 Ac efe a grogodd frenhin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchymynodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30 ¶ Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,
31 Megis y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haiarn arnynt: a hwy a offrymmasant arni boeth-offrymmau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.
32 Ac efe a ysgrifenodd yno ar y meini gopi o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe y’ngŵydd meibion Israel.
33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll o ddeutu yr arch, ger bron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r prïodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garizim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel.
34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felldith, yn ol y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchymynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua ger bron holl gynnulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
Pennod IX.
1 Y brenhinoedd yn ymwneuthur yn erbyn Israel. 3 Y Gibeoniaid, trwy dwyll, yn cael cyfammod: 23 am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol.
Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;
2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
3 ¶ A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.
4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymmerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,
5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad am danynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:
6 Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfammod â ni.
7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfammod â thi?
8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?
9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, o herwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht;
10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenhin Hesbon, ac i Og brenhin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.
11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymmerwch luniaeth gyd â chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod â ni.
12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymmerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod attoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.
13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.
14 A’r gwŷr a gymmerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgynghorasant â genau yr Arglwydd.
15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.
16 Ond ym mhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Chephirah, Beeroth hefyd, a Chiriath-jearim.
18 Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, oblegid tywysogion y gynnulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a’r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.
21 A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.
22 ¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
23 Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn gaeth-weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.
24 A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.
27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynnulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.
Pennod X.
5 Pùm brenhin yn rhyfela yn erbyn Gibeon. 7 Josua yn ei hachub hi. 10 Duw yn ymladd yn eu erbyn hwynt â chenllysg. 12 Yr haul a’r lleuad yn sefyll ar air Josua. 18 Cau ar y pùm brenhin mewn ogof. 23 Eu dwyn allan; 24 eu dïystyru, 26 a’u crogi. 28 Gorchfygu saith brenhin ychwaneg. 43 Josua yn dychwelyd i Gilgal.
A phan glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:
2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac o herwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.
3 Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,
4 Deuwch i fynu attaf fi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.
5 Am hynny pùm brenhin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu, sef brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, a brenhin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.
6 ¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd, a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.
7 Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.
8 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.
9 Josua gan hynny a ddaeth yn ddïattreg attynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.
10 A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac a’u tarawodd hwynt hyd Azecah, ac hyd Maccedah.
11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy y’ngoriwaered Beth-horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Azecah; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.
12 ¶ Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd y’ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
13 A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddïal ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd y’nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.
14 Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ol ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.
15 ¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll i Gilgal.
16 Ond y pùm brenhin hynny a ffoisant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Maccedah.
17 A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pùm brenhin a gafwyd y’nghûdd mewn ogof ym Maccedah.
18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt:
19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ol eich gelynion, a tharêwch y rhai olaf o honynt; na adêwch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid o honynt a aethant i’r dinasoedd caerog.
21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Maccedah mewn heddwch, heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pùm brenhin hynny attaf fi o’r ogof.
23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pùm brenhin atto ef o’r ogof; sef brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, a brenhin Eglon.
24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gyd âg ef, Nesêwch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.
26 Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchymynodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion y’ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorph y dydd hwn.
28 ¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.
29 ¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.
30 A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.
31 ¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Libnah i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.
32 A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i hennillodd hi yr ail ddydd, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Libnah.
33 ¶ Yna Horam brenhin Geser a ddaeth i fynu i gynnorthwyo Lachis: a Josua a’i tarawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un y’ngweddill.
34 ¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.
35 A hwy a’i hennillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.
36 ¶ A Josua a esgynodd, a holl Israel gyd âg ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.
37 A hwy a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf, a’i brenhin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddiil, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.
38 ¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn.
39 Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.
40 ¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel.
41 A Josua a’u tarawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gazah, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.
42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a ennillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.
43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll yn Gilgal.
Pennod XI.
5 Gorchfygu amryw frenhinoedd wrth ddyfroedd Meron. 10 Ennill Hasor, a’i llosgi. 16 Josua yn goresgyn yr holl wlad; 21 ac yn torri yr Anaciaid.
A phan glybu Jabin brenhin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenhin Madon, ac at frenhin Simron, ac at frenin Achsaph,
2 Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhosdir tu a’r dehau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tu a’r gorllewin;
3 At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, y’ngwlad Mispeh.
4 A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyd â hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
5 A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys y fory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.
7 Felly Josua a ddaeth, a’r holl bobl o ryfel gyd âg ef, yn ddisymmwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Merom; a hwy a ruthrasant arnynt.
8 A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.
9 A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.
10 ¶ A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a ennillodd Hasor, ac a darawodd ei brenhin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.
11 Tarawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.
12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a holl frenhinoedd hwynt, a ennillodd Josua, ac a’u tarawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd.
13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a darawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15 ¶ Fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchymynodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd i Moses.
16 Felly Josua a ennillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddehau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;
17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir, hyd Baal-Gad, y’nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; tarawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.
18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heb law yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a ennillasant hwy trwy ryfel.
20 Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod âg Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21 ¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
22 Ni adawyd un o’r Anaciaid y’ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gazah, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
23 Felly Josua a ennillodd yr holl wlad, yn ol yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ol eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.
Pennod XII.
1 Y ddau frenhin a ennillodd Moses eu gwledydd, ac a’u rhannodd. 7 Yr un brenhin ar ddeg ar hugain o’r tu arall i’r Iorddonen, y rhai a darawodd Josua.
Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a darawodd meibion Israel, ac a feddiannasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tu a’r dwyrain:
2 Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;
3 Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tu a Beth-jesimoth; ac o du y dehau, dan Asdoth-Pisgah:
4 A goror Og brenhin Basan, yr hwn oedd o weddill y cawri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;
5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salchah, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenhin Hesbon.
6 Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u tarawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.
7 ¶ Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a darawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, y’nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ol eu rhannau;
8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y dehau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:
9 ¶ Brenhin Jericho, yn un; brenhin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;
10 Brenhin Jerusalem, yn un; brenhin Hebron, yn un;
11 Brenhin Jarmuth, yn un; brenhin Lachis, yn un;
12 Brenhin Eglon, yn un; brenhin Gezer, yn un;
13 Brenhin Debir, yn un; brenhin Geder, yn un;
14 Brenhin Hormah, yn un; brenhin Arad, yn un;
15 Brenhin Libnah, yn un; brenhin Adùlam, yn un;
16 Brenhin Maceedah, yn un; brenhin Bethel, yn un;
17 Brenhin Tappuah, yn un; brenhin Hepher, yn un;
18 Brenhin Aphec, yn un; brenhin Lasaron, yn un;
19 Brenhin Madon, yn un; brenhin Hasor, yn un;
20 Brenhin Simron-Meron, yn un; brenhin Achsaph, yn un;
21 Brenhin Taanach, yn un; brenhin Megido, yn un;
22 Brenhin Cades, yn un; brenhin Jocneam o Carmel, yn un;
23 Brenhin Dor yn ardal Dor, yn un; brenhin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;
24 Brenhin Tirsah, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.
Pennod XIII.
2 Terfynau y wlad ni orchfygesid etto. 8 Etifeddiaeth y ddau lwyth a hanner. 14, 33 Yr Arglwydd a’i aberthau yw etifeddiaeth Lefi. 15 Terfynau etifeddiaeth Reuben. 22 Lladd Balaam. 24 Terfynau etifeddiaeth Gad, 29 a hanner llwyth Mnasseh.
A phan heneiddiodd Josua, a phwyso o hono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd etto i’w feddiannu.
2 Dyma y wlad sydd etto yn ol: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,
3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron tu a’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pùm tywysog y Philistiaid: y Gazathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
4 O’r dehau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Aphec, hyd derfyn yr Amoriaid:
5 A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tu a chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.
6 Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misrephoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchymynais i ti.
7 Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasseh.
8 Gyd â’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;
9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
10 A holl ddinasoedd Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salchah;
12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cawri: canys Moses a’u tarawsai hwynt, ac a’u gyrrasai ymaith.
13 Ond meibion Israel ni yrrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ym mhlith Israel hyd y dydd hwn.
14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
15 ¶ A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy en teuluoedd:
16 A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;
17 Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baal-meon;
18 Jahasah hefyd, a Cedemoth, a Mephaath;
19 Ciriathaim hefyd, a Sibmah, a Sareth-sahar, ym mynydd-dir y glyn;
20 Beth-peor hefyd, ac Asdoth-Pisgah, a Beth-Jesimoth,
21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyd â thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, duciaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
22 ¶ Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ym mhlith eu lladdedigion hwynt.
23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.
24 ¶ Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
25 A Jazer oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabbah;
26 Ac o Hesbon hyd Ramath-Mispeh, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;
27 Ac yn y dyffryn, Beth-Aram, a Beth-Nimrah, a Succoth, a Saphon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenhin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwrr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.
28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.
29 ¶ Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasseh: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ol eu teuluoedd:
30 A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenhin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, tri ugain dinas;
31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasseh, sef i hanner meibion Machir, yn ol eu teuluoedd.
32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du y dwyrain.
33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.
Pennod XIV.
1 Y naw llwyth a hanner i gael eu hetifeddiaeth wrth goelbren. 6 Caleb trwy ragorfraint yn cael Hebron.
Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.
2 Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchymynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
3 Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
4 Canys meibion Joseph oedd ddau lwyth, Manasseh ac Ephraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meusydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.
5 Fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a rannasant y wlad.
6 ¶ Yna meibion Judah a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jephunneh y Ceneziad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gwr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-Barnea.
7 Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades-Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.
8 Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fynu gyd â mi, a ddigalonnasant y bobl: etto myfi a gyflawnais fyned ar ol yr Arglwydd fy Nuw.
9 A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Dïau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ol yr Arglwydd fy Nuw.
10 Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pùm mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddyw yn fab pùm mlwydd a phedwar ugain.
11 Yr ydwyf etto mor gryf heddyw a’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.
12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.
13 A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jephunneh yn etifeddiaeth.
14 Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jephunneh y Ceneziad hyd y dydd hwn: o herwydd iddo ef gwblhâu myned ar ol Arglwydd Dduw Israel.
15 Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba: yr Arba hwnnw oedd wr mawr ym mysg yr Anaciaid. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.
Pennod XV.
1 Terfynau rhandir Judah. 13 Rhan Caleb, a’i oresgyniad. 16 Othniel am ei wrolaeth yn cael Achsah merch Caleb yn wraig. 18 Hithau yn cael rhodd gan ei thad. 12 Dinasoedd Judah. 63 Y Jebusiaid heb eu gorchfygu.
A rhandir llwyth meibion Judah, yn ol eu teuluoedd, ydoedd tu a therfyn Edom: anialwch Sin, tu a’r dehau, oedd eithaf y terfyn dehau.
2 A therfyn y dehau oedd iddynt hwy o gwrr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tu a’r dehau.
3 Ac yr oedd yn myned allan o’r dehau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fynu o du y dehau i Cades-Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaah.
4 Ac yr oedd yn myned tu ag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aipht; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn dehau.
5 A’r terfyn tu a’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.
6 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu i Beth-Hoglah, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth-Arabah; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu at faen Bohan mab Reuben.
7 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu a Debir o ddyffryn Achor, a thu a’r gogledd yn edrych tu a Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y dehau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwrr eithaf sydd wrth En-rogel.
8 A’r terfyn sydd yn myned i fynu trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y dehau, honno yw Jerusalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fynu i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tu a’r gorllewin, yr hwn sydd y’nghwrr glyn y cawri, tu a’r gogledd.
9 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Ephron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baalah, honno yw Ciriath-jearim.
10 A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baalah tu a’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timnah.
11 A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tu a’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baalah, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.
12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Judah o amgylch, wrth eu teuluoedd.
13 ¶ Ac i Caleb mab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysg meibion Judah, yn ol gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
15 Ac efe a aeth i fynu oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-Sepher.
16 ¶ A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a darawo Ciriath-Sepher, ac a’i hennillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsah fy merch yn wraig.
17 Ac Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, a’i hennillodd hi. Yntau a roddodd Achsah ei ferch iddo ef yn wraig.
18 A phan ddaeth hi i mewn atto ef, yna hi a’i hannogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y dehau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Judah, wrth eu teuluoedd.
21 ¶ A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Judah, tu a therfyn Edom, ar du y dehau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
22 Cinah hefyd, a Dimonah, ac Adadah,
23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,
24 A Ziph, a Thelem, a Bealoth,
25 A Hasor, Hadattah, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,
26 Ac Amam, a Sema, a Moladah,
27 A Hasar-Gàdah, a Hesmon, a Bethpalet,
28 A Hasar-sual, a Beer-seba, a Biziothiah,
29 Baalah, ac Iim, ac Asem,
30 Ac Eltolad, a Chesil, a Hormah,
31 A Siclag, a Madmannah, a Sansannah,
32 A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd.
33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Soreah, ac Asnah,
34 A Zanoah, ac En-gannim, Tappuah, ac Enam,
35 Jarmuth, ac Adùlam, Sochoh, ac Azecah,
36 A Saraim, ac Adithaim, a Gederah, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
37 Senan, a Hadasah, a Migdal-Gad,
38 A Dilean, a Mispeh, a Joctheel,
39 Lachis, a Boscath, ac Eglon,
40 Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,
41 A Gederoth, Beth-Dagon, a Naamah, a Maccedah; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
42 Libnah, ac Ether, ac Asan,
43 A Jiphtah, ac Asnah, a Nesib,
44 Ceilah hefyd, ac Achzib, a Maresah; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.
45 Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:
46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd ger llaw Asdod, a’u pentrefydd:
47 Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gazah, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aipht; a’r môr mawr, a’i derfyn.
48 ¶ Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Sochoh,
49 A Dannah, a Ciriath-sannath, honno yw Debir,
50 Ac Anab, ac Astemoh, ac Anim,
51 A Gosen, a Holon, a Giloh; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.
52 Arab, a Dumah, ac Esean,
53 A Janum, a Beth-tappuah, ac Aphecah,
54 A Humtah, a Chaer-Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd.
55 Maon, Carmel, a Ziph, a Juttah,
56 A Jezreel, a Jocdeam, a Zanoah,
57 Cain, Gibeah, a Thimnah; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
58 Halhul, Bethsur, a Gedor,
59 A Maarath, a Beth-anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
60 Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabbah; dwy ddinas, a’u pentrefydd.
61 ¶ Yn yr anialwch; Beth-arabah, Midin, a Sechachah,
62 A Nibsan, a dinas yr halen, ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
63 Ond ni allodd meibion Judah yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerusalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyd â meibion Judah yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
Pennod XVI.
1 Terfynau cyffredinol meibion Joseph. 5 Terfyn etifeddiaeth Ephraim. 10 Y Canaaneaid heb eu llwyr-oresgyn.
A rhandir meibion Joseph oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fynu o Jericho i fynydd Bethel;
2 Ac yn myned o Bethel i Luz, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
3 Ac yn disgyn tu a’r gorllewin i ardal Japhleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Gezer: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.
4 Felly meibion Joseph, Manasseh ac Ephraim, a gymmerasant eu hetifeddiaeth.
5 ¶ A therfyn meibion Ephraim oedd yn ol eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth-adar, hyd Beth-horon uchaf.
6 A’r terfyn sydd yn myned tu a’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Siloh, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janohah:
7 Ac yn myned i waered o Janohah, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.
8 O Tappuah y mae y terfyn yn myned tu a’r gorllewin i afon Canah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim, yn ol eu teuluoedd.
9 A dinasoedd neillduedig meibion Effraim oedd ym mysg etifeddiaeth meibion Manasseh; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd.
10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.
Pennod XVII.
1 Rhandir Manasseh, 7 a’i derfynau. 12 Y Canaaneaid heb eu gyrru allan. 14 Meibion Joseph yn cael rhandir arall.
Ac yr oedd rhandir llwyth Manasseh, (canys efe oedd gyntaf-anedig Joseph,) i Machir, cyntaf-anedig Manasseh, tad Gilead: o herwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
2 Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasseh, yn ol eu teuluoedd; sef i feibion Abïezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasseh mab Joseph, sef y gwrrywiaid, yn ol eu teuluoedd.
3 ¶ Ond Salphaad mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasseh, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Malah, a Noah, Hoglah, Milcah, a Thirsah:
4 Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchymynodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ol gair yr Arglwydd, ym mysg brodyr eu tad.
5 A deg rhandir a syrthiodd i Manasseh heb law gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen;
6 Canys merched Manasseh a etifeddasant etifeddiaeth ym mysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasseh.
7 ¶ A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd ym myned ar y llaw ddehau, hyd breswylwyr En-tappuah.
8 Gwlad Tappuah oedd eiddo Manasseh: ond Tappuah, yr hon oedd ar derfyn Manasseh, oedd eiddo meibion Ephraim.
9 A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Canah, o du dehau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Ephraim, oedd ym mhlith dinasoedd Manasseh: a therfyn Manasseh sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.
10 Y dehau oedd eiddo Ephraim, a’r gogledd eiddo Manasseh; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.
11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasseh, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaeth.
12 Ond ni allodd meibion Manasseh yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
13 Etto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrrasant hwynt ymaith yn llwyr.
14 ¶ A meibion Joseph a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?
15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fynu i’r coed, a thorr goed i ti yno y’ngwlad y Phereziaid, a’r cawri, od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
16 A meibion Joseph a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heiyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd y’nglyn Jezreel.
17 A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseph, wrth Ephraim ac wrth Manasseh, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:
18 Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heiyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.
Pennod XVIII.
1 Gosod y tabernacl i fynu yn Siloh. 9 Dosparthu y rhan arall o’r tir, a’i gyfrannu yn saith ran. 10 Josua yn ei rannu wrth goelbren. 11 Rhandir a therfyn Benjamin: 21 eu dinasoedd.
A holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.
2 A saith lwyth oedd yn aros ym mysg meibion Israel, i’r rhai ni rannasent eu hetifeddiaeth etto.
3 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?
4 Moeswch o honoch dri-wŷr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosparthont hi yn ol eu hetifeddiaeth hwynt; ac y de!ont attaf drachefn.
5 A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Judah a saif ar ei derfyn o du y dehau, a thŷ Joseph a safant ar eu terfyn o du y gogledd.
6 A chwi a ddosperthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosparthiadau attaf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.
7 Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; o herwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasseh, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.
8 ¶ A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchymynodd i’r rhai oedd yn myned i rannu y wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy y wlad, a dosperthwch hi, a dychwelwch attaf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren ger bron yr Arglwydd yn Siloh.
9 A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy y wlad, ac a’i dosparthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Siloh.
10 ¶ A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy ger bron yr Arglwydd yn Siloh: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ol eu rhannau.
11 ¶ A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fynu yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Judah a meibion Joseph.
12 A’r terfyn oedd iddynt hwy tu a’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fynu gan ystlys Jericho, o du y gogledd, ac yn myned i fynu trwy y mynydd tu a’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Beth-afen.
13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Luz, gan ystlys Luz, honno yw Bethel, tu a’r dehau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth-adar, i’r mynydd sydd o du y dehau i Beth-horon isaf.
14 A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tu a’r dehau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tu a’r dehau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, dinas meibion Judah. Dyma du y gorllewin.
15 A thu y dehau sydd o gwrr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tu a’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah.
16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tu a chwrr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cawri tu a’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tu a’r dehau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
17 Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tu a Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:
18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Arabah tu a’r gogledd, ac yn disgyn i Arabah.
19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth-hoglah tu a’r gogledd: a chwrr eithaf y terfyn oedd wrth làn y môr heli tu a’r gogledd, hyd gwrr yr Iorddonen tu a’r dehau. Dyma derfyn y dehau.
20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ol eu teuluoedd.
21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hoglah, a glyn Cesis,
22 A Beth-arabah, a Semaraim, a Bethel,
23 Ac Afim, a Pharah, ac Ophrah,
24 A Chephar-haammonai, ac Ophni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
25 Gibeon, a Ramah, a Beeroth,
26 A Mispeh, a Chephirah, a Mosah,
27 A Recem, ac Irpeel, a Tharalah,
28 A Selah, Eleph, a Jebusi, (honno yw Jerusalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd.
Pennod XIX.
1 Rhandir Simeon, 10 Zabulon, 17 Issachar, 24 Aser, 32 Naphtali, 40 a Dan. 49 Plant Israel yn rhoddi etifeddiaeth i Josua.
A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Judah.
2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Moladah,
3 A Hasar-sual, a Balah, ac Asem,
4 Ac Eltolad, a Bethul, a Hormah,
5 A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susah,
6 A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:
7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o’r dehau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd.
9 O randir meibion Judah yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Judah oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10 ¶ A’r trydydd coelbren a ddaeth i fynu dros feibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fynu tu a’r môr, a Maralah, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tu a chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Japhia;
13 Ac yn myned oddi yno ym mlaen tu a’r dwyrain, i Gittah-Hepher, i Ittah-Casin; ac yn myned allan i Rimmon-Methoar, i Neah.
14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad y’nglyn Jiphtahel.
15 Cattath hefyd, a Nahàlal, a Simron, ac Idalah, a Beth-lehem; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
16 Dyma etifeddiaeth meibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
17 ¶ Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ol eu teuluoedd.
18 A’u terfyn hwynt oedd tu a Jezreel, a Chesùloth, a Sunem,
19 A Haphraim, a Sihon, ac Anaharath,
20 A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21 A Remeth, ac En-gannim, ac En-hàdah, a Beth-passes.
22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasimah, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
24 ¶ A’r pummed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd.
25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaph,
26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tu a’r gorllewin, ac i Sihor-Libnath:
27 Ac yn troi tu a chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Zabulon, ac i ddyffryn Jiphtahel, tu a’r gogledd i Beth-Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Canah, hyd Sidon fawr.
29 A’r terfyn sydd yn troi i Ramah, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achzib.
30 Ummah hefyd, ac Aphec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.
31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
32 ¶ Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Naphtali, dros feibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd.
33 A’u terfyn hwy oedd o Heleph, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34 A’r terfyn sydd yn troi tu a’r gorllewin i Aznoth-Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Zabulon o du y dehau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Judah a’r Iorddonen tu a chyfodiad haul.
35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36 Ac Adamah, a Ramah, a Hasor,
37 A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,
38 Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
40 ¶ Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd.
41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sorah, ac Estaol, ac Ir-Semes,
42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithlah,
43 Ac Elon, a Thimnathah, ac Ecron,
44 Ac Elteceh, a Gibbethon, a Baalath,
45 A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,
46 A Meiarcon, a Raccon, gyd â’r terfyn ar gyfer Japho.
47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fynu i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i hennillasant hi; tarawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddiannasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ol enw Dan eu tad.
48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
49 ¶ Pan orphenasant rannu y wlad yn etifeddiaethau yn ol ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynodd efe; sef Timnath-Serah, ym mynydd Ephraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Siloh, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorphenasant rannu y wlad.
Pennod XX.
1 Duw yn gorchymyn, 7 a phlant Israel yn ordeinio y chwe dinas noddfa.
A llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:
3 Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dïalydd y gwaed.
4 A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymmerant ef attynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyd â hwynt.
5 Ac os dïalydd y gwaed a erlid ar ei ol ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.
6 Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoisai efe o honi.
7 ¶ Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Galilee, ym mynydd Naphtali, a Sichem ym mynydd Ephraim, a Chaer-Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Judah.
8 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasseh.
9 Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dïalydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa.
Pennod XXI.
1 Rhoddi wyth ddinas a deugain i’r Lefiaid, wrth goelbren, allan o’r llwythau eraill. 43 Duw yn rhoddi y wlad, a llonyddwch i’r Israeliaid, yn ol ei addewid.
Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleazar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;
2 Ac a lefarasant wrthynt yn Siloh, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchymynodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meusydd pentrefol i’n hanifeiliaid.
3 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a’u meusydd pentrefol.
4 A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o Lefiaid, allan o lwyth Judah, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
5 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Ephraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasseh, ddeg dinas, wrth goelbren.
6 Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Naphtali, ac o hanner llwyth Manasseh yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
7 I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Zabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.
8 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meusydd pentrefol, fel y gorchymynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
9 ¶ A hwy a roddasant, o lwyth meibion Judah, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;
10 Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.
11 A rhoddasant iddynt Gaer-Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd-dir Judah, a’i meusydd pentrefol oddi amgylch.
12 Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jephunneh, yn etifeddiaeth iddo ef.
13 ¶ Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meusydd pentrefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libnah a’i meusydd pentrefol,
14 A Jattir a’i meusydd pentrefol, ac Estemoa a’i meusydd pentrefol,
15 A Holon a’i meusydd pentrefol, a Debir a’i meusydd pentrefol,
16 Ac Ain a’i meusydd pentrefol, a Juttah a’i meusydd pentrefol, a Beth-semes a’i meusydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny.
17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meusydd pentrefol, a Geba a’i meusydd pentrefol,
18 Anathoth a’i meusydd pentrefol, ac Almon a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.
19 Holl ddinasoedd meibion Aaron, yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meusydd pentrefol.
20 ¶ A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Ephraim.
21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meusydd pentrefol, ym mynydd Ephraim, a Gezer a’i meusydd pentrefol,
22 A Cibsaim a’i meusydd pentrefol, a Beth-horon a’i meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
23 Ac o lwyth Dan, Elteceh a’i meusydd pentrefol, Gibbethon a’i meusydd pentrefol,
24 Ajalon a’i meusydd pentrefol, Gath-Rimmon a’i meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
25 Ac o hanner llwyth Manasseh, Tanac a’i meusydd pentrefol, a Gath-Rimmon a’i meusydd pentrefol: dwy ddinas.
26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meusydd pentrefol.
27 ¶ Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasseh, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meusydd pentrefol, a Beesterah a’i meusydd pentrefol: dwy ddinas.
28 Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meusydd pentrefol, Dabareth a’i meusydd pentrefol,
29 Jarmuth a’i meusydd pentrefol, En-gannim a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.
30 Ac o lwyth Aser, Misal a’i meusydd pentrefol, Abdon a’i meusydd pentrefol,
31 Helcath a’i meusydd pentrefol, a Rehob a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.
32 Ac o lwyth Naphtali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilee a’i meusydd pentrefol, a Hammoth-dor a’i meusydd pentrefol, a Cartan a’i meusydd pentrefol: tair dinas.
33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ol eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meusydd pentrefol.
34 ¶ Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Zabulon, Jocneam a’i meusydd pentrefol, a Cartah a’i meusydd pentrefol,
35 Dimnah a’i meusydd pentrefol, Nahalal a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.
36 Ac o lwyth Reuben, Beser a’i meusydd pentrefol, a Jahasah a’i meusydd pentrefol,
37 Cedemoth a’i meusydd pentrefol, Mephaath a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.
38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a’i meusydd pentrefol, a Mahanaim a’i meusydd pentrefol,
39 Hesbon a’i meusydd pentrefol, Jazer a’i meusydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.
40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ol eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.
41 Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meusydd pentrefol.
42 Y dinasoedd hyn oedd bob un a’u meusydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.
43 ¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.
44 Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ol yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylaw hwynt.
45 Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.
Pennod XXII.
1 Anfon y ddau lwyth a hanner adref, a’u bendithio. 10 llwythau yn adeiladu allor y dystiolaeth ar y ffordd. 11 Yr Israeliaid yn anfoddlawn iddi. 21 Hwythau yn eu boddloni hwynt yn helaeth.
Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasseh,
2 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchymynnais i chwi.
3 Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw.
4 Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
5 Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi; sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchymynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.
6 A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.
7 ¶ Ac i hanner llwyth Manasseh y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyd â’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tu a’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt;
8 Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, âg anifeiliaid lawer iawn, âg arian, ac âg aur, â phres hefyd, ac â haiarn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.
9 ¶ A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Siloh, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddiannasant, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
10 ¶ A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd y’ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.
11 ¶ A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.
12 A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, i ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel.
13 A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlad Gilead, Phinees mab Eleazar yr offeiriad,
14 A deg o dywysogion gyd âg ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ym mysg miloedd Israel.
15 A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,
16 Fel hyn y dywed holl gynnulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddyw oddi ar ol yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd?
17 Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho etto hyd y dydd hwn, er bod pla ym mysg cynnulleidfa yr Arglwydd,
18 Ond bod i chwi droi ymaith heddyw oddi ar ol yr Arglwydd? Ac am i chwi wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia y fory yn erbyn holl gynnulleidfa Israel.
19 Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymmerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu o honoch i chwi eich hun allor, heb law allor yr Arglwydd ein Duw.
20 Oni wnaeth Achan mab Zerah gamwedd, o herwydd y dïofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe oedd un gwr; etto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
21 ¶ Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a attebasant, ac a lefarasant wrth bennaethiaid miloedd Israel;
22 Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)
23 Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ol yr Arglwydd, neu os offrymmasom arni boeth-offrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a’i gofyno:
24 Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ol hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch âg Arglwydd Dduw Israel?
25 Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnai eich meibion chwi i’n meibion ni beidio âg ofni yr Arglwydd.
26 Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boeth-offrwm, nac i aberth;
27 Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hol, i gael o honom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â’n poeth-offrymmau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymmau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ol hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.
28 Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein heppil ar ol hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth-offrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.
29 Na atto Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, a dychwelyd heddyw oddi ar ol yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boeth-offrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heb law allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd ger bron ei dabernacl ef.
30 ¶ A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynnulleidfa, a phennaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gyd âg ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasseh, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.
31 Phinees mab Eleazar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasseh, Heddyw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith; o herwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd.
32 ¶ Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.
33 A da oedd y peth y’ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant Dduw, ac ni soniasant am fyned i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.
34 A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.
Pennod XXIII.
1 Josua yn annog y bobl cyn ei farwolaeth, 3 trwy gofio bendithion o’r blaen, 5 trwy addewidion, 11 a thrwy fygythion.
A darfu, ar ol dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.
2 A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:
3 Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.
4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tu a’r gorllewin.
5 A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyrr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.
6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tu a’r llaw ddehau na thu a’r llaw aswy;
7 Ac na chyd-ymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyd â chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymmoch iddynt:
8 Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
9 Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac am danoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10 Un gwr o honoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.
11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.
12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyd â chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn attynt hwy, a hwythau attoch chwithau:
13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
14 Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw am danoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim o honynt.
15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
16 Pan droseddoch gyfammod yr Arglwydd eich Duw, a orchymynodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
Pennod XXIV.
1 Josua yn cynnull y llwythau yn Sichem. 2 Ystori ferr o fendithion Duw er amser Terah. 14 Mae efe yn adnewyddu cyfammod rhyngddynt hwy a Duw. 26 Carreg yn dyst o’r cyfammod. 29 Oedran Jusua; ei farwolaeth, a’i gladdedigaeth. 32 Claddu esgyrn Joseph. 33 Marwolaeth Eleazar.
A Josua a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant ger bron Duw.
2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
3 Ac mi a gymmerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
4 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aipht.
5 A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a darewais yr Aiphtiaid, yn ol yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,
6 Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aipht: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Aiphtiaid a erlidiodd ar ol eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.
7 A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
8 A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddiannasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.
9 Yna Balac mab Sippor brenhin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melldigo chwi.
10 Ond ni fynnwn i wrandaw ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.
11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12 A mi a anfonais gaccwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenhin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.
13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch am dani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olew-lannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwytta o honynt.
14 ¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddyw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
16 Yna yr attebodd y bobl, ac y dywedodd, Na atto Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dïeithr;
17 Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fynu a’n tadau o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ym mysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
18 A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni.
19 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddïoddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.
20 O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dïeithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
21 A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nag ê; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
22 A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis o honoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23 Am hynny yn awr, eb efe, bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
24 A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandâwn.
25 Felly Josua a wnaeth gyfammod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, yn Sichem.
26 ¶ A Josua a ysgrifenodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymmerth faen mawr, ac a’i gosododd i fynu yno dan dderwen oedd yn agos i gyssegr yr Arglwydd.
27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.
29 ¶ Ac wedi y pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
30 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-serah; yr hon sydd ym mynydd Ephraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
31 Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ol Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.
32 ¶ Ac esgyrn Joseph, y rhai a ddygasai meibion Israel i fynu o’r Aipht, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er càn darn o arian; a bu i feibion Joseph yn etifeddiaeth.
33 ¶ Ac Eleazar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.