Beibl (1620)/Tobit

Oddi ar Wicidestun
(Ailgyfeiriad o Beibl/Tobit)

TOBIT PENNOD i º1 TLYFR ymadroddion Tobit fab Tobiel A-* fab Ananiel, fab Aduel, fab Gabael, o hil Asael, o Iwyth Neffthali;

º2 Yr hwn yn amser Enemessar bren-in yr Asyriaid a gaethgludwyd o Thisbe, yr hon sydd o'r tu deau i'r ddinas a elwir yn briodol Neffthali yn Galilea, goruwch Aser.

º3 Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy hoedl yn fTyrdd gwirionedd a chyfiawnder, ac a wneuthum elusennau lawer i'm brodyr, ac i'm cenedl, y rhai a aethant gyda mi i wlad yr Asyriaid, sef i Ninefe.

º4 A phan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun yn nhir Israel, a mi eto yn ieuanc, cwbl o Iwyth Neffthali fy nhad a gil-iodd oddi wrth dy Jerwsalem, yr hwn a ddewisasid o holl Iwythau Israel, megis y gallai'r holl Iwythau aberthu yno, lie yr oedd term trigfa'r Goruchaf wedi ei chysegru a'i hadeiladu yn dragwyddol.

º5 A'r holl Iwythau y rhai a gydgil-iasant, a thy fy nhad innau Neffthali, a offrymasant i'r anner Baal:

º6 Eithr myfi fy hunan, yn 61 yr ordin-had tragwyddol a orchmynasid i holl Israel, a euthum yn fynych i Jerwsalem ar y gwyliau nodedig, gan ddwyn gyda mi gynffrwyth a degwm cynnydd yr anifeiliaid, a'r cyngnaif, y rhai a rodd-ais i i'r offeiriaid, sef meibion Aaron, y rhai oedd yn gweini wrth yr allor.

º7 Y degwm cyntaf mi a'i rhoddais i feibion Aaron, y rhai oedd weinidogion yn Jerwsalem: yr ail degwm mi a'i gwerthais, ac a euthum, ac a'i gweriais yn Jerwsalem bob blwyddyn:

º8 A'r trydydd mi a'i rhoddais i'r sawl y gweddai, megis y gorchmynasai Debora mam fy nhad i mi: canys gad-awsid fi yn amddifad o'm tad.

º9 Wedi i mi ddyfod mewn oedran gwr,


mi a briodais Anna, gwraig o dylwyth fy nhad, ac a enillais ohoni hi Tobeias.

º10 A phan y'n caethgludwyd yn gar-charorion i Ninefe, fy holl frodyr, ac eraill o'm cenedl, a fwytasant fara'r cenhedloedd:

º11 Er hynny myfi a'm cedwais fy hun heb fwyta;

º12 Am fy mod yn meddwl am Dduw o wir ewyllys fy nghalon.

º13 A'r Goruchaf a roddes i mi rTafr a hawddgarwch gerbron Enemessar, fel y bum oruchwyiiwr iddo.

º14 Felly mi a euthum i Media, ac a adewais ddeg talent o arian yn Haw Gabael brawd Gabrias, yn Rages dinas ym Media.

º15 Ac wedi marw Enemessar, Sennacherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; yr hwn y rhwystrodd ei fTyrdd, fel na ellais i mwy ymdaith i dir Media.

º16 Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneuthum lawer o elusennau i'm brodyr, ac a roddais fy mara i'r newynog,

º17 A'm dillad i'r noethion: ac os gwelwn neb o'm cenedl wedi ei ladd, a'i fwrw ynghylch muriau Ninefe, mi a'i claddwn ef.

º18 Ac os lladdai Sennacherib y bren-in, wrth ddyfod ar fToi o Jwdea yr un, mi a'i claddwn ef yn ddirgel: canys llawer a laddodd efe yn ei wyn : a phan geisiai'r brenin y cyrff, ni byddent i'w cael.

º19 Yna aeth un o'r Ninefeaid, ac a ddangosodd i'r brenin fy mod i yn eu claddu hwynt, a minnau a ymgudd-iais; a phan wybum fod yn fy ngheisio i'm lladd, mi a giliais ymaith rhag ofn.

º20 Yna y ducpwyd fy holl dda byd; ac ni adawyd i mi ddim, ond Anna fy ngwraig a Thobeias fy mab.

º21 A chyn pen pymtheng niwrnod a deugain, dau o'i feibion a'i lladd-asant ef, ac a ffoesant i fynyddoedd Ararath: a Sarchedonus ei fab a deyrnas-

odd yn ei le ef; ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd yn olygwr ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl oruchwyl-iaeth.

º22 Ac Achiacarus a eiriolodd drosof fi, oni chafais ddyfod adref i Ninefe: canys gosodasai Sarchedonus Achiacarus yn nesaf iddo ei hun; ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, goruchwyliwr, a chyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minnau.


PENNOD 2 º1 VyTEDI i mi ddyfod adref i'm ty fy VV hun, a rhoddi i mi Anna fy ngwraig, a Thobeias fy mabj ar wyl y Pentecost, yr hon yw uchel wyl y saith wythnos, y gwnaethpwyd i mi ginio mawr.

º2 Eithr pan eisteddais i fwyta, a gweled amlder o fwyd, mi a ddywedais with fy mab, Dos, a chyrch pa ddyn tlawd bynnag a gaffech o'n brodyr ni, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd; ac wele, mi a arhosaf amdanat.

º3 Eithr efe a ddaeth drachefn, ac a ddywedodd wrthyf, Fy nhad, y mae un o'n cenedl ni wedi ei dagu, a'i fwrw allan i'r heol.

º4 Yna cyn profi dim bwyd, mi a neid-iais ar fy nhraed, ac a'i dugum ef i dy, nes machludo haul.

º5 Ac wedi dychwelyd ohonof, mi a ymolchais, ac a fwyteais fy mara yn athrist;

º6 Gan feddwl am broffwydoliaeth Amos, y modd y dywedasai efe, Eich uchel wyliau a droir yn alar, a'ch llawen-ydd oil yn gwynfan.

º7 A mi a wylais. A phan fachludodd yr haul, mi a euthum, ac a wneuthum fedd, ac a'i cleddais ef.

º8 A'm cymdogion a'm gwatwarent, gan ddywedyd, Onid ofna hwn eto ei angau? am y peth yma y ffodd efe unwaith; ac wele, y mae efe eilchwyl yn claddu'r meirw.

º9 Ac ar y nos honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gysgais, wedi ymhalogi, wrth bared y neuadd, yn wynebnoeth;

º10 Heb wybod fod adar y to yn aros yn y fagwyr, y rhai a fwriasant dail twym yn fy llygaid, fel yr oeddynt yn agored; ac felly y daeth y rhuchen ar fy llygaid: ac er fy myned at fedd-ygon, ni wnaethant i mi ddim lies. Ac Achiacarus a'm porthodd i hyd onid euthum i Elymais.

º11 Ac Anna fy ngwraig a weithiai mewn nydd-dai gwragedd.

º12 A phan aeth hi a'r gwaith adref i'r perchenogion, hwy a dalasant iddi ei chyflog, gan roddi myn yn ychwaneg:

º13 Yr hwn, pan ddaeth i'm t£ i, a ddechreuodd frefu; yna y gofynnais iddi, O ba le y daeth y mynnyn? ai lladrad yw efe? dod ef eilchwyl i'w berchen-ogion: canys nid cyfreithlon yw bwyta lladrad.

º14 A hithau a ddywedodd, Ei roi ef a wnaethpwyd i mi gyda'm cyflog. Eto nid oeddwn i yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef i'w berchenogion; ac yr oedd yn waradwydd gennyf drosti: eithr hi a'm hatebodd, gan ddywedyd, Mae dy elusennau di, a'th gyfiawnderau? wele, y maent amlwg oil gyda thi.


PENNOD 3 º1 YNA yr wylais yn athrist, ac a wedd-iais mewn gorthrymder, gan ddywedyd,

º2 Cyfiawn wyt, O Arglwydd, a chwbl o'th weithredoedd a'th ffyrdd oil yd-ynt drugaredd a gwirionedd; dy farn hefyd a roddi yn uniawn ac yn gyfiawn yn dragywydd.

º3 Cofia fi, ac edrych arnaf, ac na ddial arnaf am fy mhechodau, nac am fy an-wybodaeth, nac am yr eiddo fy hynaf-iaid, y rhai a bechasant ger dy fron di.

º4 O achos nad ufuddhaent i'th orch-mynion, am hynny ti a'n rhoddaist ni yn ysbail, ac i gaethiwed, ac i angau, ac yn ddihareb waradwyddus i'r rhai oil y'n gwasgarwyd yn eu plith.

º5 Ac yn awr llawer a chyfiawn yw dy farnedigaethau: gwna a myfi yn 61 fy mhechodau, a phechodau fy hynafiaid; am na chadwasom dy orchmynion, ac na rodiasom yn y gwirionedd ger dy fron di.

º6 Yr awr hon gan hynny gwna a myfl y peth a fyddo cymwys yn dy olwg di: psir gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, fel y'm datoder, ac yr elwyf yn ddaear: canys gwell i mi farw na byw, o achos y gwaith anwir a glywais, a'r mawr dristwch sydd arnaf: am hynny par fy ngollwng yn rhydd o'r cyfyngder yma, i fyned i le tragwyddol: na thro dy wynepryd oddi wrthyf.

º7 A'r un dydd fe a ddigwyddodd i Sara merch Raguel yn Ecbatane, dinas ym Media, gael ei gwaradwyddo gan forynion ei thad;

º8 Sef ei rhoi hi i saith o wyr, ac i Asmodeus yr ysbryd drwg eu lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent a hi yn 61 arfer gwragedd. Oni wyddost ti, meddent, dagu ohonot ti dy wyr? bu saith o wyr i ti hyd yn hyn, ac ni'th gyfenwyd yn 61 yr un ohonynt.

º9 Paham y'n curi ni amdanynt? os meirw ydynt, dos ganddynt, na welom byth ohonot na mab na merch.

º10 A phan glybu hi y pethau hynny, tristau yn ddirfawr a wnaeth, fel y meddyliodd ymdagu : ac eto hi a ddywedodd, Un ferch fy nhad ydwyf; os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, a'i henaint a ddygaf i'r bedd mewn gorthrymder.

º11 Ac yna hi a wedd'iodd tua'r ffen-estr, gan ddywedyd, Bendigaid wyt ti, O Arglwydd fy Nuw, a bendigaid yw enw sanctaidd dy ogoniant, ac anrhyd-eddus byth bythoedd; molianned dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd.

º12 Ac yr awron, O Arglwydd, y cyfeiriaf fy llygaid a'm hwyneb atat,

º13 Gan ddeisyf fy ngollwng yn rhydd oddi ar y ddaear, fel na chlywyf waradwydd mwyach.

º14 Ti a wyddost, Arglwydd, fy mod yn Ian oddi wrth bob pechod gyda gwr,

º15 Ac na halogais fy enw, nac enw fy nhad, yn nhir fy nghaethiwed. Un ferch wyf i'm tad, ac nid oes ganddo blentyn i fod yn etifedd iddo; nac un car agos, na mab iddo yn fyw, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw seithwr i mi, i ba beth y byddwn i byw? eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, par edrych arnaf, a thrugarhau wrthyf, fel na chlywyf waradwydd mwyach.

º16 A'u gwedd'iau hwy ill dau a wran-dawyd gerbron gogoniant y Duw mawr.

º17 A Raffael a anfoned i iachau'r ddau, sef i dynnu'r rhuchen oddi ar lygaid Tobit, ac i roddi Sara merch Raguel yn wraig i Tobeias mab Tobit, ac i rwymo Asmodeus yr ysbryd drwg; o achos bod yn perthynu i Tobeias o gyf-iawnder ei chael hi. Yn y cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe i'w dy; a Sara merch Raguel a ddisgynnodd o'i stafell.


PENNOD 4 º1 YN y dydd hwnnw y meddyliodd Tobit am yr arian a roddasai efe at Gabael yn Rages, dinas ym Media,

º2 Ac a ddywedodd wrtho ei hun, Mi a ddeisyfais farw: eithr paham nad ydwyf yn galw am Tobeias fy mab, fel y gallwyf ei gynghori ef cyn fy marw?

º3 Ac wedi iddo alw amdano ef, y dywedodd, Fy mab, pan fyddwyf marw, cladd di fi; ac na ddiystyra dy fam, eithr anfhydedda hi holl ddyddiau dy einioes, a gwna'r peth a ryngo bodd iddi, ac na thrista hi.

º4 Cofia, fy mab, ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi: a phan fyddo hi marw, cladd hi gyda myfi yn yr un bedd.

º5 Fy mab, meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau; ac na ddod dy fryd ar bechu, na thorri ei orchmynion ef: gwna gyfiawnder tra fyddych byw, ac na rodia yn ffyrdd an- wiredd.

º6 Canys os dilyni wirionedd, dy holl weithredoedd a Iwyddant i ti, ac i bawb a'r a wnel gyfiawnder.

º7 Dod elusen o'r peth a fyddo gen-nyt; ac na chenfigenned dy lygad wrth

º57 roddi elusen; ac na thro dy wyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry wyneb Duw oddi wrthyt tithau.

º8 Fel y byddo gennyt yr amlder, dod ohono elusen; os ychydig fydd gennyt, o ychydig nac arswyda roi elusen:

º9 Canys felly y trysori i ti dy hun wobr daionus erbyn dydd yr anghen-raid:

º10 Oblegid elusen a wared rhag ang-au, ac a lestair ddyfod i'r tywyllwch.

º11 Oherwydd ced ddaionus yw elus-enni i bawb a'r a'i gwnel, gerbron y Goruchaf.

º12 Fy mab, gochel bob godineb: ac yn bennaf cymer wraig o dylwyth dy hyn-afiaid; ac na chymer estrones, yr hon aid ydyw o Iwyth dy dad: canys plant y proffwydi ydym ni, Noe, Abraham, Isaac, a Jacob: eintadau o'r dechreu-ad, cofia fy mab, iddynt oil briodi gwragedd o'u cenedl eu hun; a hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, a'u hil a etifedda'r ddaear.

º13 Ac yr awron, fy mab, car dy frodyr, ac na fydded diystyr gennyt yn dy galon dy dylwyth, meibion a merched dy bob!, i gymryd i ti wraig ohonynt: canys o ddiystyrwch y daw dinistr a dirfawr gythrwfl, ac o drahaustra y daw prinder a mawr eisiau: oherwydd trahaustra yw mam newyn.

º14 Nac atal gyda thi gyflog neb a'r a wnaeth dy waith, eithr tal iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti a gei daledigaeth: edrych arnat dy hun, fy mab, yn dy holl weithredoedd, a bydd ddiesgeulus ym mhob tro a wnelych.

º15 Y peth sy gas gennyt dy hun, na wna i arall. Nac yf win hyd feddwdod, ac na fyn feddwdod gyda thi i ym-daith.

º16 Dod o'th fara i'r newynog, ac o'th ddillad i'r noeth  : ac yn 61 dy amlder dod elusen, ac na fydd lygad-genfigennus wrth roi elusenni.

º17 Bydd helaeth o'th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod ddim i'r pechadur-iaid.

º58 TOBIT 4, 5

º18 Gofyn gyngor i bob un synhwyrol, ac na wrthod un cyngor buddiol.

º19 Mola'r Arglwydd dy Dduw bob amser, a deisyf arno uniawni dy ffyrdd a chwbl o'th Iwybrau, a gwneuthur dy amcanion yn llwyddiannus: canys ni fedr pob cenedl roddi cyngor: eithr yr Arglwydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni, ac efe a ddarostwng y neb a fynno, fel y mynno. Yr awron gan hynny, fy mab, cadw i'th gof fy ngorch-mynion, ac na ddileer hwynt o'th feddwl.

º20 Ac yn awr yr ydwyf yn dangos i ti, adael ohonof fi ddeg talent o arian gyda Gabael mab Gabrias yn Rages, dinas ym Media.

º21 Ac nac ofna, fy mab, o ran ein myned ni mewn tlodi: y mae i ti lawer, od ofni di Dduw, a gochelyd pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymeradwy yn ei olwg ef.

PENNOD 5

º1YNA yr atebodd Tobeias, ac y dy-wedodd, Fy nhad, y cwbl oil a orchmynnaist i mi, mi a'i gwnaf:

º2 Eithr pa fodd y gallaf fi gael yr arian, a minnau heb ei adnabod ef?

º3 Yntau a roddes iddo yr ysgrifen-law, ac a ddywedodd wrtho, Cais i ti ryw un, yr hwn, tra fyddwyf fi yn y byd, a elo gyda thydi, a myfi a dalaf gyflog iddo ef: a dos, a derbyn yr arian.

º4 Ac efe a aeth i geisio un gydag ef, ac a gafodd Raffael, yr hwn oedd angel.

º5 Ac efe nis gwyddai. Ac efe a ddywedodd wrtho, A elli di fyned gyda mi i Rages? ac a adwaenost ti y lleoedd hynny yn dda?

º6 A'r angel a ddywedodd wrtho, Mi a af gyda thydi, ac mi a adwaen y ffordd yn dda; canys mi a fum yn aros gyda'n brawd Gabael.

º7 Yna Tobeias a ddywedodd wrtho, Aros fi oni ddywedwyf i'm tad.

º8 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos, ac na thrig. Ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, mi a

gefais un i fyned gyda mi. Yna y dywedodd yntau, Galw ef ataf fi, modd y gallwyf wybod o ba Iwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe yn ffyddlon i fyned gyda thi.

º9 Ac efe a alwodd arno, ac yntau a ddaeth i mewn: ac yna y cyfarchasant ei gilydd.

º10 A Thobit a ddywedodd wrtho, Fy mrawd, dangos i mi o ba Iwyth a theulu yr wyt yn dyfod.

º11 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Ai llwyth neu deulu yr wyt yn ei geisio, ai cyfiogddyn i fyned gyda'th fab? A Thobit a'i hatebodd ef, Mi a ewyllysiwn, fy mrawd, gael gwybod dy genedl a'th enw di.

º12 Yntau a ddywedodd, Asareias ydwyf fi, fab Ananeias fawr, ac o'th frodyr di.

º13 Yna y dywedodd Tobit, Croeso wrthyt, fy mrawd: na ddigia wrthyf am i mi geisio gwybod y llwyth a'r teulu y daethost ohonynt: canys, fy mrawd, yr wyt ti o dylwyth onest a da: p achos mi a adwaen Ananeias a Jon-athas, meibion Samaias fawr; fel yr oeddem yn myned ynghyd i Jerwsalem i addoli, gan ddwyn gyda ni y cyn-ffrwyth, a degwm cynnydd yr anifeil-iaid; hwy ni throseddasant yn arnry-fusedd ein brodyr ni  : yr wyt ti o wreiddyn da, fy mrawd.

º14 Ond dywed i mi, pa gyflog a roddaf i ti? a fynni di ddrachmon beunydd, a chyfreidiau fel i'm mab fy hun?

º15 A hefyd mi a chwanegaf at y cyflog, os dychwelwch drachefn yn iach.

º16 Ac felly y cytunasant. Yna y dywedodd efe wrth Tobeias, Ymdrwsia i'r daith; a rhwydd hynt i chwi. Ac wedi i'r mab baratoi pob peth i'r daith, y dywedodd ei dad wrtho, Dos gyda'r gwr hwn, a Duw, yr hwn sydd a'i drigfa yn y nef, a Iwyddo eich ffordd chwi, ac eled angel Duw gyda chwi. Yna yr aethant yrcaith ill dau, a chi'r llanc gyda hwynt.

º17 Eithr Anna ei fam ef a wylodd, gan ddywedyd wrth Tobit, Paham yr anfonaist ymaith ein mab? onid efe yw ffon eia llaw ni, i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau?

º18 Na fydd chwannog i chwanegu arian at arian, ond bydded fel sorod wrth ein plentyn:

º19 Oherwydd yr hyn a roddes yr Arglwydd i ni i fyw, hynny sy ddigon i ni.

º20 A Thobit a ddywedodd wrthi, Na chymer ofal, fy chwaer; efe a ddaw yn ei 61 yn iach lawen, a'th lygaid di a'i gwelant ef.

º21 Canys yr angel daionus sydd yn cydymdaith ag ef; a'i ffordd ef a Iwydda, ac efe a ddaw eilchwyl yn iach lawen.

º22 Yna hi a beidiodd ag wylo.


PENNOD 6 º1 A^. fel yr oeddynt yn ymdaith, hwy a ddaethant yn yr hwyr i ymyl afon Tigris, ac a arosasant yno.

º2 A'r llanc a aeth i waered i ymolchi, a physgodyn a neidiodd o'r afon, ac a fynasai ei lyncu ef.

º3 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Cymer afael yn y pysgodyn. A'r llanc a ddaliodd y pysgodyn, ac a'i tynnodd i'r tir.

º4 A'r angel a ddywedodd wrtho, Agor y pysgodyn, a chymer y galon, a'r afu, a'r bustl, a chadw hwynt yn ddiesgeulus.

º5 A'r llanc a wnaeth y modd yr archasai'r angel iddo. Ac wedi iddynt rostio'r pysgodyn, hwy a'i bwytasant, ac a aethant rhagddynt ill dau, oni ddaethant yn gyfagos i Ecbatane.

º6 A'r lianc a ddywedodd wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, i ba beth y mae calon, ac afu, a bustl y pysgodyn, yn dda?

º7 Yntau a ddywedodd wrtho, Am y galon a'r afu, o bydd i gythraul neu ysbryd drwg flino neb, rhaid yw gwneuthur mwg ohonynt gerbron y gwr hwnnw, neu'r wraig honno, ac nis blinir ef mwyach.

º8 Ac am y bustl, da yw i iro ag ef y dyn a fyddo a rhuchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.

º9 A phan ddaethant yn gyfagos i


Rages, yt angel a ddywedodd wrth y llanc,

º10 Fy mrawd, heddiw y lletywn ni gyda Raguel, yr hwn sy gar i ti: ac y mae iddo ef un unig ferch a elwir Sara; mi a ddywedaf amdani, sef am ei rhoddi i ti yn wraig:

º11 Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn unig sydd o'i chenedl hi.

º12 Ac y mae hi yn llances Ian, syn-hwyrol. Yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf a'i thad hi; a phan ddychwelom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na all Raguel ei rhoddi hi i neb arall yn 61 cyfraith Moses, heb fod yn euog o angau; am fod cyfiawnder yr etifeddiaeth yn perthyn i ti o flaen neb arall.

º13 Yna y dywedodd y llanc wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, mi a glyw-ais roi'r llances hon i saith o wyr, a marw ohonynt cymain un yn yr ystafell briodas.

º14 Ac yr awron myfi yw unig blentyn fy nhad: ac yr ydwyf yn ofni, od awn i mewn ati hi, y derfydd amdanaf, fel am y rhai o'r blaen; am fod cythraul yn ei charu hi, yr hwn nid yw yn gwneuthur niwed ond i'r rhai sydd yn dyfod ati hi: ac am hynny yr wyf yn ofni rhag fy marw, a dwyn einioes fy nhad a'm mam mewn tristwch i'w beddau; canys mab arall nid oes iddynt i'w claddu.

º15 A'r angel a ddywedodd wrtho, Onid cof gennyt eiriau dy dad, pan orchmynnodd i ti gymryd gwraig o'th genedl dy hun? ac felly yr awron gwrando, fy mrawd; a chymer hi yn wraig i ti, ac nac arswyda mo'r cythraul: canys y nos heno y rhoddir hi i ti yn wraig.

º16 Eithr pan ddelych i'r ystafell briodas, cymer farwydos y peraroglau, a dod beth o galon y pysgodyn ac o'r afu arnynt, a gwna fyctarth:

º17 A'r ysbryd a glyw'r arogl hwnnw, ac a fry ymaith, ac ni ddychwel byth drachefh: eithr pan ddelych ati hi,

º60

codwch eich dau, a gelwch ar y tru-garog Dduw, ac efe a'ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna; o-herwydd i ti y darparwyd hi o'r dech-reuad, a thi a'i gwaredi hi, a hi a ddaw gyda thi: ac, yn fy nhyb i, ti a gei blant ohoni. A phan glybu Tobeias y pethau hyn, efe a rodd ei serch ami, a'i galon ef a lynodd yn ddirfawr wrthi hi.

PENNOD 7

º1 A PHAN ddaethant i Ecbatane, hwy a aethant i dy Raguel: a Sara a gyfarfu a hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hithau; a hi a'u dug hwynt i'r ty.

º2 Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, Mor debyg yw'r gwr ieuanc yma i'm cefnder Tobit!

º3 A Raguel a ofynnodd iddynt, O ba le yr ydych, fy mrodyr? Yna y dywed-asant wrtho, O feibion Neffthali, y rhai sy gaethion yn Ninefe.

º4 Yna y dywedodd efe wrthynt, A adwaenoch chwi Tobit ein brawd? A hwythau a atebasant, Adwaenom. Yna y dywedodd yntau wrthynt, A ydyw efe yn iach?

º5 A hwy a ddywedasant, Y mae efe yn fyw ac yn iach. A Thobeias a ddywedodd, Fy nhad i yw efe.

º6 Yna Raguel a neidiodd i fyny, ac a'i cusanodd ef, ac a wylodd,

º7 Ac a'i bendithiodd ef, gan ddywedyd wrtho, Yr wyt ti yn fab i wr onest, ac i wr da. Eithr pan glybu efe fyned Tobit yn ddall, tristau a wnaeth, ac wylo.

º8 Ac Edna ei wraig, a Sara ei ferch, a wylasant: ac wedi hynny eu croesawu hwy a wnaethant yn llawen, ac a ladd-asant faharen o'r defaid, ac a roddasant ger eu bronnau lawer o seigiau. Yna y dywedodd Tobeias wrth Rarfael, Fy mrawd Asareias, dywed am y pethau hynny a soniaist amdanynt ar y ffordd, fel y gallo'r peth ddyfod i ben.

º9 Ac yntau a ddywedodd y chwedl wrth Raguel. A Raguel a ddywedodd wrth Tobeias, Bwyta ac yf, a gwna'n llawen.

º10 Gweddus ydyw i ti gael fy merch i yn briod: eto mi a ddangosaf i ti'r gwirionedd.

º11 Mi a roddais fy merch yn briod i saith o wyr, a'i nos yr aethant i mewn ati, y buant feirw: eithr bydd di yn awr yn llawen. A Thobeias a ddywedodd, Ni fwytaf fi ddim yma, nes i ni gytuno, a thyngu i'n gilydd.

º12 A Raguel a ddywedodd wrtho, Cymer dithau hi o hyn allan yn 61 y gyfraith; canys tras wyt iddi, a hithau i tithau: a'r trugarog Dduw a'ch llwyddo ym mhob peth.

º13 Ac efe a alwodd Sara ei ferch, a hi a ddaeth at ei thad; yna efe a'i cym-erth hi erbyn ei Haw, ac a'i rhoddes yn wraig i Tobeias, gan ddywedyd, Wele, cymer hi yn 61 cyfraith Moses; a dwg hi ymaith at dy dad. Ac efe a'u bendithiodd hwynt.

º14 Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe a gymerth lyfr, ac a sgrifennodd ysgrifen o'r amodau, ac a'i seliodd.

º15 Ac yna y dechreuasant fwyta.

º16 A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, Fy chwaer, trefh-a stafell arall, a dwg hi i mewn yno.

º17 A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a'i dug hi i mewn i'r ystafell; a hithau a wylodd, a'i mam a dderbyniodd ddagrau ei merch, ac a ddywedodd wrthi,

º18 Cymer gysur, fy merch; rhodded Arglwydd nef a daear i ti lawenydd yn lle'r tristwch yma: bydd gysurus, fy merch.


PENNOD 8

º1 AC wedi iddynt swperu, hwy a •** ddygasant Tobeias i mewn ati hi;

º2 Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau Raffael, ac a gymerth farwydos yr aroglau, ac a roddes arnynt galon y pysgodyn, a'i afu, ac a wnaeth fwg ft hwynt.

º3 Pan aroglodd y cythraul yr arogl hwnnw, efe a ffodd i oruchafion yr Aifft: a'r angel a'i rhwymodd ef.

º4 Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu cau i mewn, Tobeias a gyfododd o'i wely, ac ddywedodd wrth Sara, Cyfod, fy chwaer, gwedd'iwn yr Arglwydd, ar iddo fod yn drugarog wrthym.

º5 Yna y dechreuodd Tobeias ddywed-ydj Bendigedig wyt ti, O Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy enw sanctaidd gogoneddus yn dragwyddol: bendiged y nefoedd a'th greaduriaid oil dydi.

º6 Tydi a wnaethost Adda, ac a rodd-aist Efa ei wraig yn gymorth ac yn nerth iddo: ohonynt y daeth pob rhyw ddya: ti a ddywedaist, Nid da bod gwr yn unig, gwnawn iddo gymorth cyffelyb iddo.

º7 Ac yr awron, Arglwydd, nid er mwyn godineb yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, eithr mewn uniawnfryd: yn drugarog gan hynny gwna i ni heneiddio ynghyd.

º8 A hi a ddywedodd gydag ef, Amen.

º9 Ac felly y cysgasant ill dau y nos honno. A phan gyfododd Raguel i fyny, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,

º10 Gan ddywedyd, Y mae arnaf ofn ei farw ef.

º11 Ac wedi dyfod Raguel i'w dy,

º12 Efe a ddywedodd wrth Edna ei wraig, Anfon un o'r morynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallom ei gladdu ef heb wybod i neb.

º13 A'r forwyn a agorodd y drws, ac a aeth i mewn, ac a'u cafodd hwynt ill dau yn cysgu.

º14 A phan ddaeth allan, hi a fynegodd iddynt ei fod ef yn fyw.

º15 Yna Raguel a foliannodd Dduw, gan ddywedyd, Bendigedig ydwyt ti, O Dduw, ft phob duwiol a sanctaidd fen-dith: bendiged dy saint dydi, a'th greaduriaid oil; a chwbl o'th angylion a'th etholedigion, molant di byth byth-oedd.

º16 Bendigedig fych, O Arglwydd, am i ti fy llawenhau i, ac na ddaeth i mi fel yr oeddwn yn tybied; eithr ti a wnaethost i ni yn 61 dy fawr dru-garedd.

º17 A bendigedig fyddych, am i ti drugarhau wrth ddau unig-anedig.


Dangos iddynt drugaredd, O Arglwydd; diwedda eu bywyd mewn iechyd, gyda llawenydd a thrugaredd.

º18 Yna yr archodd Raguel i'w weision lenwi'r bedd.

º19 Ac efe a gadwodd y neithior bed-war diwrnod ar ddeg:

º20 Canys Raguel cyn cyflawni dydd-iau'r neithior a ddywedasai wrtho, gan dyngu, nad ai efe ymaith nes darfod cyflawni dyddiau'r neithior, nid am-gen pedwar diwrnod ar ddeg;

º21 Ac yna y cai efe banner ei dda ef, a dychwelyd yn iach at ei dad; ac y cai efe y rhan arall, pan fyddwyf fi a'm gwraig farw.


PENNOD 9

º1 YNA Tobeias a alwodd Raffael, ac a ddywedodd wrtho,

º2 Fy mrawd Asareias, cymer gyda thi was a dau gamel, a dos i Rages dinas Media, at Gabael, a chyrch i mi yr arian, a dwg ef i'r neithior:

º3 Canys tyngodd Raguel na chawn i ymadael.

º4 Eithr y mae fy nhad yn cyfrif y dyddiau; ac os trigaf fi yn hir, athrist iawn fydd ganddo.

º5 A Raffael a aeth ymaith at Gabael, ac a roddes iddo yr ysgrifen-law; ac yntau a ddug godau wedi eu selio, ac a'u rhoddes iddo.

º6 A'r bore y cyfodasant, ac a ddaeth-ant i'r neithior. A Thobeias a fen-dithiodd ei wraig.


PENNOD 10 º1 A I dad ef Tobit a gyfrifai bob dydd. Ac wedi cyflawni dyddiau'r daith, a hwythau heb ddyfod adref,

º2 Yna y dywedodd Tobit, A siom-wyd hwynt? ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi'r arian iddo?

º3 Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.

º4 A'i wraig a ddywedodd wrtho, Darfu am y bachgen: ac am ei fod ef yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd alaru amdano, gan ddywedyd,

º5 Nid oes gennyf ofal am ddim, fy mab, gan i mi dy ollwng di ymaith, llewyrch fy llygaid i.

º6 Eithr Tobit a ddywedodd wrthi, Taw son, ac na ofala ddim; y mae efe yn iach lawen.

º7 A hithau a ddywedodd wrtho, Taw a son, na huda fi; darfu am fy machgen i. A beunydd yr ai hi allan i'r ffordd yr aethent hwy: y dydd ni fwytai hi mo'r bwyd, a'r nos ni pheidiai ag wylo am Tobeias ei mab: a hyn nes darfod pedwar diwrnod ar ddeg y neithior, y rhai y tyngasai Raguel y gorfyddai i Tobeias aros yno. Yna y dywedodd Tobeias wrth Raguel, Gollwng fi ymaith: canys nid yw fy nhad a'm mam yn edrych am fy ngweled byth.

º8 A'i chwegrwn a ddywedodd wrtho, Aros gyda myfi, a mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i'th dad.

º9 Eithr Tobeias a ddywedodd, Nage ddim; ond gollwng fi at fy nhad.

º10 Yna y cyfododd Raguel i fyny, ac a roddes Sara ei wraig iddo, a hanner ei dda, sef gweision, ac anifeiliaid, a da bathol:

º11 Ac wedi iddo eu bendithio, efe a'u I danfonodd ymaith, gan ddywedyd, O fy mhlant, Duw nef a'ch llwyddo.

º12 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, Anrhydedda dy chwegrwn a'th chwegr, canys hwynt-hwy bellach sy dad a mam i ti: gad i mi glywed gair da amdanat: ac efe a'i cusanodd hi. Edna hefyd a ddywedodd wrth Tobeias, Fy annwyl frawd, Arglwydd y nef a'th ddygo drachefn, ac a wnel i mi weled dy blant di o'm merch Sara cyn fy marw, fel y j Uawenychwyf gerbron yr Arglwydd: ac wele, yr ydwyf yn rhoddi fy merch i ti mewn ymddiried; na ofidia hi.


PENNOD 11

º1 xxx 61 hynny yr aeth Tobeias ymaith,


gan foliannu Duw, o achos iddo Iwyddo ei daith ef; ac efe a fendithiodd Raguel ac Edna ei wraig: ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddaethant yn agos i Ninefe.

º2 Yna Raffael a ddywedodd wrth

Tobeias, Ti a wyddost, fy mrawd, pa fodd y gadewaist dy dad.

º3 Brysiwn o flaen dy wraig, a threfnwn yty;

º4 A chymer yn dy law fustl y pysg-odyn. Ac felly yr aethant; a'r ci a'u canlynodd hwynt.

º5 Ac Anna oedd yn eistedd, ac yn disgwyl am ei mab ar y ffordd;

º6 Ac a'i hadnabu ef yn dyfod, ac a ddywedodd wrth ei dad ef, Wele dy fab di yn dyfod, a'r gwr a aeth gydag ef.

º7 Yna y dywedodd Raffael, Mi a wn, Tobeias, yr egyr dy dad ei lygaid.

º8 Am hynny ir di ei lygaid ef si'r bustl; a phan ferwinont, efe a'u rhwbia hwynt, ac fe syrth y rhuchen ymaith, ac efe a'th wel di.

º9 Yna y rhedodd Anna allan, a hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan ddywedyd wrtho, Mi a'th welais, fy mab, ac weithian bodlon ydwyf i farw. A hwy a wylasant ill dau.

º10 Tobit hefyd a aeth allan tua'r drws, ac a dramgwyddodd; ond ei fab a redodd ato,

º11 Ac a ymaflodd yn ei dad, ac a daenellodd beth o'r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, Bydd gysurus, fy nhad.

º12 Ac wedi i'w lygaid ddechrau mer-wino, efe a'u dwys rwbiodd hwynt;

º13 A'r rhuchen a ddirisglodd ymaith oddi wrth giliau ei lygaid ef: ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrthiodd ar ei wddf ef,

º14 Ac a wylodd, gan ddywedyd, Ben-digedig wyt, O Dduw, a bendigedig yw dy enw yn dragywydd, a'th holl ang-ylion sanctaidd sy fendigedig:

º15 Canys ti a'm ffrewyllaist, ac a dosturiaist wrthyf; wele fi yn gweled fy mab Tobeias. Yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd i'w dad y mawr bethau a ddigwyddasai iddo ym Media.

º16 Yna yr aeth Tobit allan i gyfarfod a'i waudd hyd ym mhorth Ninefe, gan ymlawenhau a moliannu Duw. A rhyfedd oedd gan y rhai oedd yn edrych arno ef yn cerdded, ei fod ef yn gweled.

º17 A Thobit a gyffesodd yn eu gwydd hwynt oil, ddarfod i Dduw dosturio wrtho. Ac wedi iddo nesau at Sara ei waudd, efe a'i bendithiodd hi, gan ddywedyd, Croeso wrthyt, fy merch: bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'th ddug di atom ni, a bendigedig fyddo dy dad a'th fam. A llawenydd oedd ymysg ei holl frodyr ef, y rhai oedd yn Ninefe.

º18 Ac Achiacarus a ddaeth yno, a Nasbas ei nai ef fab ei frawd.

º19 A neithior Tobeias a gadwyd a llawenydd mawr saith niwrnod.


PENNOD 12 º1 YNA y galwodd Tobit ei fab Tobeias, ac y dywedodd wrtho, Edrych, fy rnab, am ei gyflog i'r gwr a aeth gyda thi: a rhaid ydyw ei chwanegu.

º2 A Thobeias a ddywedodd wrtho, Fy nhad, nid colled gennyf roi iddo ef hanner yr hyn a ddugum gyda mi:

º3 Oherwydd efe a'm dug i adref i ti drachefn yn iach, ac a iachaodd fy ngwraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a'th iachaodd dithau hefyd.

º4 A'r hynafgwr a ddywedodd, Mae yn gyfiawn iddo eu cael.

º5 Yna y galwodd efe yr angel, ac a ddywedodd wrtho, Cymer hanner yr hyn oil a ddygasoch, a dos yn iach.

º6 Eithr efe wedi eu galw hwy ill dau o'r neilltu, a ddywedodd wrthynt, Diolchwch i Dduw, a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant; cyff-eswch ef yng ngwydd pawb o'r rhai byw, am y pethau a wnaeth efe i chwi. Peth daionus yw diolch i'r Arglwydd, a mawrhau ei enw ef, gan adrodd gweith-redoedd Duw yn barchedig: ac na ddiogwch yn ei foliannu ef.

º7 Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogon-eddus eu cyhoeddi. Gwnewch ddaioni, ac ni'ch goddiwedd drwg.

º8 Daionus yw gweddi gydag ympryd, elusenni, a chyfiawnder. Gwell yw


ychydig gyda chyfmwnder, na llawer gydag anghyfiawnder. Gwell yw rhoi elusennau na phentyrru aur:

º9 Canys elusenni a wared rhag angau, ac a lanha bob pechod: y rhai a wnel elusen a chyfiawnder, a gyflawnir a bywyd:

º10 Eithr pechaduriaid sy elynion i'w bywyd eu hunain.

º11 Ni chuddiaf ddim rhagoch. Mi a ddywedais mai da yw cadw cyfrinach brenin, a gogoneddus dangos gweith-redoedd Duw ar gyhoedd.

º12 Ac yr awron pan weddiiaist ti a'th waudd Sara, myfi a ddugum gof am eich gweddiiau gerbron y Sanctaidd. A phan oeddit yn claddu'r meirw, yr oeddwn i gyda thi hefyd.

º13 A phan nad oedaist godi a gadael dy ginio, i fyned i gladdu'r dyn marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedig rhagof: eithr yr oeddwn gyda thi.

º14 Ac yr awron Duw a'm danfonodd i i'th iachau di a'th waudd Sara.

º15 Myfi yw Raffael, un o'r saith angel sanctaidd, y rhai sy'n dwyn i fyny weddi'au'r rhai sanctaidd, ac sydd yn tramwy gerbron gogoniant yr hwn sydd Sanctaidd.

º16 Yna y dychrynasant ill dau, a hwy a syrthiasant ar eu hwynebau: oblegid hwy a ofnasent.

º17 Yna y dywedodd efe wrthynt, Nac ofhwch; canys bydd tangnefedd i chwi: eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.

º18 Canys nid o'm caredigrwydd fy nun, eithr trwy ewyllys ein Duw ni, y deuthum : am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.

º19 Beunydd yr ymddangosais i chwi: eithr nid oeddwn yn bwyta nac yn yfed; namyn chwi a welech weledig-aeth.

º20 Ac yr awron moliennwch Dduw; canys mi a esgynnaf at yr hwn a'm danfonodd: eithr ysgrifennwch yr hyn oil a wnaethpwyd mewn llyfr.

º21 Yna y codasant i fyny, ac ni wel-sant ef mwy.

º22 A chyffesu rhyfeddfawr weithred-

º12, 13 oedd Duw a wnaethant, a'r modd ytj ymddangosasai angel yr Arglwydd idd-ynt.


PENNOD 13 º1 ATHOBIT a sgrifennodd weddi Q orfoledd, ac a ddywedodd, Bendig-aid fyddo Duw, yr hwn sydd yn byw yn dragwyddol, a bendigedig fyddo ei deyrnas ef:

º2 Canys efe sydd yn ffrewyllu, ac yn trugarhau; yn dwyn i uffern, ac yn dwyn i fyny eilchwyl: ac nid oes neb a all ddianc o'i law ef.

º3 Clodforwch ef, meibion Israel, gerbron y cenhedloedd: canys efe a'n gwasgarodd ni yn eu plith hwynt.

º4 Yno mynegwch ei fawredd, a dyr-chefwch ef yng ngwydd pawb sydd fyw: oherwydd efe yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein Tad ni byth bythoedd.

º5 Ac efe a'n cerydda ni am ein cam-weddau, ac a drugarha eilchwyl, ac a'n casgl ynghyd o fysg yr holl genhed-loedd, ymhlith y rhai y'n gwasgarodd ni.

º6 Os dychwelwch ato ef a'ch holl galon, ac a'ch holl feddwl, a gwneuthur yn uniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yntau atoch chwi, ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch weled beth a wna efe i chwi: am hynny cyffeswch ef a'ch holl eriau, a moliennwch Arglwydd y gallu, dyrchefwch Frenin y tragwyddoldeb. Myfi a'i cyfFesaf ef yn nhir fy nghaethiwed, ac a fynegaf ei nerth a'i fawredd ef i genedl bechad-urus. Trowch, bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef: pwy a wyr a fyn efe chwi, ac a wna efe drugaredd a chwi?

º7 Clodforaf fy Nuw, a'm henaid a fawl Frenin y nefoedd, ac a lawenha yn ei fawredd ef.

º8 Llefared pob dyn, a moled yr Arglwydd am ei gyfiawnder.

º9 O Jerwsalem y ddinas sanctaidd, efe a'th ffrewylla di am weithredoedd dy blant, ac efe a dosturia eilchwyl wrth feibion y rhai cyfiawn.

jo Molianna'r Arglwydd; oblegid da yw: a bendithia'r Brenin tragwyddol; fel yr adeilader drachem ei babell ef ynot mewn llawenydd: a llawenhaed efe dy gaethion, a chared ynot y truein-iaid yn oes oesoedd:

º11 Cenhedloedd lawer a ddeuant o bell at enw yr Arglwydd Dduw, a rhoddion yn eu dwylo, a rhoddion i Frenin y nefoedd. Yr holl gened-laethau a'th foliannant di, ac a roddant roddion gorfoledd,

º12 Melltigedig yw pawb a'th gasant, a bendigedig yw pawb a'th garant, yn dragywydd.

º13 Bydd hyfryd a llawen am blant y rhai cyfiawn: canys hwy a gesglir ynghyd, ac a fendithiant Arglwydd y rhai cyfiawn.

º14 Gwyn eu byd y rhai a'th garant di; canys hwy a lawenychant yn dy dangnefedd: gwyn eu byd y rhai a fuant athrist am dy holl ffrewyllau di; canys hwy a fyddant hyfryd o'th blegid, pan welont gwbl o'th ogoniant, ac a lawenychant yn dragywydd.

º15 Moled fy enaid Dduw, y Brenin mawr.

º16 Oherwydd Jerwsalem a adeiledir a saffir, ac a smaragdus, ac a meini gwerth-fawr, dy furiau a'th ragfuriau ag aur coeth;

º17 A heolydd Jerwsalem a balmentir I meini beryl a charbuncl, ac a meini Offir.

º18 A'i heolydd hi oil a lefant Hale-liwia, ac a'i molant ef, gan ddywedyd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'i dyrchafodd hi yn dragywydd.

PENNOD 14 º1 ATHOBIT a ddiweddodd ei gyffes. 2 Ac yr oedd efe namyn dwy trigain o flynyddoedd pan gollodd ei olwg; ac yn 61 wyth mlynedd y cafodd ef eil-waith. Ac efe a wnaeth elusennau; ac efe a gynyddodd yn ofn yr Arglwydd Dduw ac yn ei foliant ef. 3 Ac wedi ei fyned yn hen iawn, efe a alwodd ei fab, a chwe mab ei fab, ac a ddywedodd wrtho, Wele, fy mab, cym-er dy blant; wele, mi a heneiddiais, ac ar ymado a'r byd hwn yr ydwyf.

º4 Dos i Media, fy mab  : o achos yr ydwyf yn credu pob peth a'r a ddywedodd Jonas y proffwyd ynghylch Ninefe; y distrywir hi, ac y bydd hedd-wch yn nhir Media yn hytrach dros amser, ac y gwasgerir ein brodyr ni ar hyd y gwledydd, allan o'r tir da, ac y diffeithir Jerwsalem; a theml yr Arglwydd, yr hon sydd ynddi, a ddiffeithir dros amser;

º5 A thrachefh y trugarha Duw wrthynt, ac a'u dychwel hwynt i'r v/lad: yno yr adeiladant y deml, nid o fath y gyntaf, oni chyflawner amser yr oes honno: ac yn 61 hynny y dychwelant o bob man o'u caetbiwed, ac a adeiladant Jerwsalem yn anrhydeddus, a thy Dduw a adeiledir ynddi ag adeilad gogoneddus, yn holl oesoedd y byd, modd y dywedodd y proffwydi amdani.

º6 A'r holl genhedloedd a wir ddy-chwelant i ofni'r Arglwydd Dduw, ac a gladdant eu delwau.

º7 Yna y bendithia'r holl genhedloedd yr Arglwydd: a'i bobl ef a gyffesant Dduw, a'r Arglwydd a ddyrchaif ei bobl; a phawb a lawenychant a'r a garant yr Arglwydd Dduw mewn gwir-ionedd a chyfiawnder, gan wneuthur trugaredd a'n brodyr ni.

º8 Ac yn awr, fy mab, dos ymaith o Ninefe; oblegid diamau y daw y pethau a ddywedodd y proffwyd Jonas i ben.

º9 Eithr cadw di'r ddeddf a'r gorch-mynion, a bydd elusengar a chyfiawn, fel y byddo rhwydd rhagot.


º10 Cladd fi yn weddaidd, a'th fam gyda mi; ac nac arhoswch mwy haeach yn Ninefe. Cofia, fy mab, beth a wnaeth Aman i Achiacarus, yr hwn a'i magodd ef, y modd yr arweiniodd efe ef o'r goleuni i'r tywyllwch, ac fel y gob-rwyodd efe ef drachefn: ac eto Achiacarus a ddihangodd; eithr efe a gafodd ei haeddedigaeth, ac a ddisgynnodd i'r tywyllwch. Manasses a wnaeth

elusen, ac a ddihangodd o fagi yr angau a Osodasent iddo: eithr Aman a syrth-iodd i'r fagi, a darfu amdano.

º11 Ac yr awron, fy mhlentyn, ystyria beth a wna elusendod, a'r modd y gwared cyfiawnder. A phan ddjrwed-odd efe'r pethau hyn, ei enaid ef a ballodd yn y gwely; acyr oedd efe yn gant a namyn dwy trigain mlwydd o oed. Ac efe a'i claddodd ef yn an-rhydeddus.

º12 A phan fu farw Anna ei fam ef, efe a'i claddodd hi gyda'i dad. Ac


aeth Tobeias, efe a'i wraig, a'i Want, i Ecbatane, at Raguel ei chwegrwn.

º13 Ac efe a heneiddiodd mewn urddas, ac a gladdodd dad a mam ei wraig yn anrhydeddus, ac a berchenogodd eu da hwynt, gyda da Tobit ei dad:

º14 Ac a fu farw yn Ecbatane yng ngwlad Media, pan oedd gant a saith ar hugain o flwyddau o oed.

º15 A chyn ei farw, efe a glybu ddin-istrio Ninefe, yr hon a ddug Nabu-chodonosor ac Assuerus i gaethiwed: felly efe a lawenychodd cyn ei farw am Ninefe.