Beibl (1588)/Exodus

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Genesis Beibl (1588)
Exodus
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Lefiticus

1 1 Dymma henwau meibion Iſrael y rhay a ddaethant i’r Aipht: gyd ag Iacob y daethant bôb un ai deulu.

1 2 Ruben, Simeon, Lefi, ac Iuda.

1 3 Iſachar, Zebulon, a Beniamin.

1 4 Dan a Nepthali, Gad ac Aſer.

1 5 A’r holl eneidiau a ddaethant allan o goꝛph Iacob oeddynt ddeng-henaid a thꝛi vgain: ac Ioſeph oedd yn yꝛ Aipht.

1 6 Ac Ioſeph a fu farw, ai holl frodyꝛ, ’ar* holl oes honno.

1 7 A meibion Iſrael a hiliaſant ac a gynnyddaſant, anlhauſant hefy, a chꝛyfhauſant yn ddirfawꝛ odieth: a’r wlâd a lawnwyd o honynt hwy.

1 8 Yna y cyfododd bꝛenin newydd yn yꝛ Aipht: yꝛ hwn nid adnabuſe mo Ioſeph.

1 9 Ac efe a ddywedodd wꝛth ei bôbl: wele bobl meibion Iſrael yn amlach ac yn gryfach na nyni.

1 10 Deuwch, gwnawn yn gall iw herbyn: rhac amlhau o honynt, a phan ddigwyddo rhyfel ymgvdio o honynt a’n caſeion, a rhyfela i’n herbyn a myned i fynu o’ꝛ wlâd.

1 11 Am hynny y goſodaſant feiſftred gwaith iw goꝛthꝛymmu ai clûd hwynt: a [phobl Iſrael] a adailadaſant i Pharao ddinaſoedd tressorau [ſef] Pithom a Râmſes.

1 12 Ond fel y goꝛthꝛymment hwynt, felly ’r amlhaent, ac y cynnyddent: a chyfyng oedd arnynt o herwydd meibion Iſrael.

1 13 A’r Aiphtiaid a gaethiwaſant feibion Iſrael yn dôſt.

1 14 A gwnaethant eu henioes hwynt yn chwerw dꝛwy y gwaſanaeth caled mewn clai, ac mewn pꝛiddfain, ac ym mhob gwaſanaeth yn y maes: gyd ai holl waſanaeth yꝛ hyn a ofynnaſant ganddynt yn dôft.

1 15 A bꝛenin yꝛ Aipht a lefarodd wꝛth fydwꝛagedd yꝛ Hebꝛæeſau: o ba rai henw vn [oedd] Siphꝛa, a henw ’r aill Puah.

1 16 Ac efe a ddywedodd, pan fyddoch fydwꝛagedd i’r Hebꝛæeſau, a gweled o honoch eu heſcoꝛedd-le: os mab fydd lleddwch ef, ond os merch bydded hi fyw.

1 17 Er hynny y byd-wꝛagedd a ofnaſant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yꝛ hynd a ddywedaſe bꝛenin yꝛ Aipht wꝛthynt: eithꝛ cadwaſant y bechgyn yn fyw.

1 18 A’m hynny bꝛenin yꝛ Aipht a alwodd am y byd-wꝛagedd, ac a ddywedodd wꝛthynt, pa ham y gwnaethoch y peth hyn’: ac y cadwaſoch y bechgyn yn fyw’:

1 19 A’r byd-wragedd a ddywedaſant wꝛth Pharao nad [oedd] yꝛ Hebꝛæeſau fel yꝛ Aiphtieſau: onid en bôd hwynt yn fywiot, ac yꝛ eſcoꝛent cynn dyfod byd-wꝛaig attynt.

1 20 A’m hynny y bu Duw dda wꝛth y bydwꝛagedd: ’ar bobl a bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

1 21 Ac o herwydd i’r byd-wꝛagedd ofni Duw: yntef a wnaeth deuluoedd iddynt hwythau.

1 22 A Pharao a oꝛchymynnodd iw holl bobl gan ddywedyd: pôb mâb a’r a enir bwꝛiwch ef i’r afon, ond cedwch yn fyw bôb merch.

2 1 Yna gŵꝛ o dŷ Lefi aeth: ac a bꝛiododd ferch Lefi.

2 2 A’r wꝛaig a feichiogodd, ac a eſcoꝛodd ar fâb: a phan welodd hi mai têg ydoedd efe, yna hi ai cuddiodd ef dꝛi mis.

2 3 A phan na alle hi ei guddio ef yn hwy, yna y cymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw a chlai ac a phŷg: ac a ofododd y bachgen ynddo, ac ai rhoddodd ym myſc yꝛ heſc’ ar fin yꝛ afon.

2 4 Ai chwaer ef a ſafodd o bell: i gael gwybod beth a wneid iddo.

2 5 Yna merch Pharao a ddaeth i wared i’r afon i ymolchi, (ai llangceſau oeddynt yn rhadio ger llaw ’r afon:) a hi a ganfu y cawell ynghanol yꝛ heſc ac a anfonodd ei llaw-foꝛwyn iw gyꝛchu.

2 6 Wedi iddi ei agoꝛyd a chanfod y bachgen, ac wele y plentyn yn wylo: yna hi a doſturiodd wꝛtho ac a ddywedodd, [vn] o blant yꝛ Hebꝛeaid [yw] hwn.

2 7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wꝛth ferch Pharao, a âfi i alw attat famhaeth-wꝛaig o’r Hebræeſau, fel y mago hi y bachgen it’:

2 8 A merch Pharao a ddywedodd wꝛthi dôs: a’r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

2 9 A dywedodd merch Pharao wꝛth honno dŵg ymmaith y bachgen hwnn, a maga ef i mi, a minne a roddaf dy gyflog: yna ’r wꝛaig a gymmerodd y bachgen ac ai magodd.

2 10 Pan aeth y bachgen yn fawꝛ, yna hi ai dug ef i ferch Oharao, ac efe a fu iddi yn lle fab: a hi a alwodd ei enw ef Moſes, o herwydd (ebꝛ hi) o’ꝛ dwfr y tynnais ef.

2 11 A bu yn y dyddiau hynny pan aethe Moſes yn fawꝛ, fyned o honaw allan at ei frodyꝛ, ac edꝛych ar eu llwythau hwynt: a gweled Aiphtwꝛ yn taro Hebꝛæ-wꝛ [vn] o’r frodyꝛ.

2 12 Ac efe a edꝛychodd ymma, ac accw, a phan welodd nad [oedd yno] neb: yna efe a laddodd yꝛ Aiphtiad, ac ai cuddioddd yn y tyfod.

2 13 Ac efe a ddaeth allan yꝛ ail dydd, ac wele ddau Hebꝛæ-wꝛ yn ymryſon: ac efe a ddywedodd wꝛth yꝛ hwn oedd ar gam, pa ham y tarewi dy gyfaill’:

2 14 A dywedodd yntef, pwy a’th oſododd di yn bennaeth-wꝛ, ac yn frawd-wꝛ arnom ni’: ai meddwl yꝛ wyti fy llad i mesig y lledaiſt yꝛ Aiphtiad’: yna Moſes a ofnodd, ac a ddywedodd, diau y gwyddir y peth hynn.

2 15 Pan glubu Pharao y peth hyn, yna efe a geiſiodd ladd Moſes: ond Moſes a ffoawdd rhac Pharao, ac a arhoſodd yn-nhîr Madian,ac a eiſteddodd wꝛth bydew.

2 16 Ac i offeiriad Madian yꝛ ydoedd ſaith merched: a’r [rhai hynny] a ddaethant, ac a dynnaſant [ddwfr,] ac a lanwaſant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tâd.

2 17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac ai gyꝛraſant ymmaith: yna y cododd Moſes, ac ai hachubodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu pꝛaidd hwynt.

2 18 Yna y daethant at Raguel eu tad: ac efe a ddywedodd pa ham y daethoch heddyw cyn gynteb’:

2 19 A hwynt a ddywedaſant, Aiphtwꝛ a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid: a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd, ac a ddyfrhaodd y pꝛaidd.

2 20 Yna efe a ddywedodd wꝛth ei ferched, pa le [y maet] efe’: pa ham y gollyngaſoch ymmaith y gŵꝛ’: gelwch arno, a bwytaed fara.

2 21 A bu Moſes fodlon i ðrigo gyd ar gwꝛ: ac yntef a rododd Sephoꝛa ei ferch i Moſes.

2 22 A hi a eſcoꝛodd ar fab, ac efe a alwodd ei enw Gerſhom: o herwydd dieithꝛ (ebꝛ ef) a fum mi mewn gwlad ddieithꝛ.

2 23 Ac o fewn y dyddiau hynny (y rhai [oeddynt] lawer) y bu farw bꝛenin yꝛ Aipht, a meibion Iſrael a vcheneidiaſant rach y caethiwed, ac a waeddaſant: ai gwaedd hwynt rhach y caethiwed a dderchafodd at Ddw.

2 24 Yna Duw a glybu eu huchenaid hwynt: a Duw a gofiodd ei gyfammod ag Abꝛaham, ag Iſaac, ac ag Iacob.

2 25 A Duw a edꝛychodd ar feibion Iſrael: Duw hefyd a gydnabu [a hwynt.]

3 1 Pan oedd Moſes yn bugeilio defaid Iethꝛo ei chegwrn offeiriad Madian: yna efe a yꝛrodd y pꝛaidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw [ſef] mynydd Hoꝛeb.

3 2 Yna angel yꝛ Arglwydd a ymddangoſodd iddo mewn fflam dân o ganol y berth: ac efe a edrychodd ac wele y berth yn lloſci yn dân, a’r berth heb ei difa.

3 3 A dywedodd Moſes mi a giliaf yn awꝛ ac a edꝛychaf ar y weledigaeth fawꝛ hon: pa ham na lyſc y berth.

3 4 Pan welodd yꝛ Arglwydd mai cilio yꝛ oedd efe i edꝛych: yna Duw a alwodd arno o ganol y berth ac a ddywedodd Moſes, Moſes: a dywedodd yntef wele fi.

3 5 Ac efe a ddywedodd na neſſâ ymma, dioſc dy eſcidiau oddi am dy dꝛaed, o herwydd y lle’r hwn yꝛ wyti yn ſefyll arno ſydd ddaiar ſanctaidd.

3 6 Ac efe a ddywedodd myfi [yw] Duw dy dad, Duw Abꝛaham, Duw Iſaac a Duw Iacob: yna Moſes a guddiodd ei wyeb, o blegit ofni’r ydoedd rhach edꝛych ar Dduw.

3 7 A dywedodd yꝛ Arglwydd, gan weled y a welais gyſtudd fy mhobl y rhai [ydynt] yn yꝛ Aipht: ai gwaedd rhac eu goꝛthꝛymmyꝛ a glywais, canys adwen eu doluriau.

3 8 Am hynny y deſcynnais iw gwaredu hwynt o law ’r Aiphtiaid, ac iw dwyn o’r wlad honno, i wlad dda, a halaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl: i lê y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoꝛiaid, a’r Phereziaid yꝛ Hefiaid hefyd a’r Iebuſiaid.

3 9 Ac yn awꝛ wele waedd meibion Iſrael a ddaeth attafi: a hefyd mi a welais y goꝛthꝛymder a’r hwn y goꝛthꝛymmodd yꝛ Aiphtiaid hwnynt.

3 10 Tyꝛet gan hynny yn awr a mi a’th anfonaf at Pharao: fel y dygech allan o’r Aipht fy mhobl, meibion Iſrael.

3 11 Yna y dywedodd Moſes wꝛth Dduw, pwy ydwyfi fel yꝛ awn i at Pharao’: ac y dygwn feibion Iſrael allan o’r Aipht’:

3 12 Dywedodd yntef diau y byddaf gyd a thi: a hyn a fydd arwydd it mai myfi a’th anfonodd: wedi it ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a waſanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

3 13 Yna y dywedodd Moſes wꝛth Dduw, wele [pan] ddelwyfi at feibion Iſrael a dywedyd wꝛthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd attoch: os dywedant wꝛthif beth [yw] ei enw ef’: beth a ddyweda fi wꝛthynt’:

3 14 Yna Duw a ddywedodd wꝛth Moſes Ydwyf yr hwn ydwyf: dywedodd hefyd fel hyn yꝛ adꝛoddi wꝛth feibion Iſrael Ydwyf a’m hanfonodd attoch.

3 15 A Duw a ddywedodd trachefn wꝛth Moſes fel hyn y dywedi wꝛth feibion Iſrael, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abꝛaham, Duw Iſaac, a Duw Iacob a’m hanfonodd attoch: dymma fy enw byth, a dymma fyng-hoffadwꝛiaeth yn oes oeſoedd.

3 16 Dos a chynnull henuriaid Iſrael, a dywet wꝛthynt, Arlgwydd Dduw eich tadau [ſef] Duw Abꝛaham, Iſaac, ac Iacob a ymddangoſodd i mi, gan ddywedyd: gan ymweled yꝛ ymwelais a chwi, ac a’r hyn a wnaed i chwi yn yꝛ Aipht.

3 17 A dywedais mi a’ch dygaf chwi o adfyd yꝛ Aipht i wlad y Canaaneaid, yꝛ Hethiaid,yꝛ Amoꝛiaid, y Phereziaid yꝛ Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid: i wlad yn lleiseirio o laeth a mêl.

3 18 Felly y gwꝛandawant ar dy lais: ac y deui di a henuriaid Iſrael at frenin yꝛ Aipht c y dywedwch wꝛtho, Arglwydd Dduw yꝛ Hebꝛæaid a gyfarfu a ni, gan hynny yn awꝛ gad i ni fyned attolwg daith tri diwꝛnod yn yꝛ anialwch fel yꝛ aberthom i’m Arglwydd ein Duw.

3 19 A mi a wn na edu bꝛenin yꝛ Aipht i chwi fyned: onid mewn llawn gadꝛn.

3 20 Am hynny mi a eſtynnaf fy llaw, ac a darawaf yꝛ Aipht a’m holl ryfeddodau y rhai a wnaf yn ei chanol: ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith.

3 21 Arhoddaf haddgarwch i’r bobl hynn yng-olwg yꝛ Aiphtiaid: a bydd pan eloch nad eloch yn wâglaw.

3 22 Canys [pob] gwꝛaig a gais gan ei chymydoges, a chan yꝛ hon fyddo yn cyttal a hi ddodꝛefn arian, a dodꝛefn aur, a gwiſcoedd: a chi ai goſodwch [hwynt] am eich meibion, ac ama eich merched, ac a yſpeiliwch yꝛ Aiphtiaid.

4 1 Yna Moſes a attebodd, ac a ddywedodd, etto wele ni chꝛedant i mi ac ni wꝛandawant ar fy llais: onid dywedant nid ymgadangoſodd yr Arglwydd i ti.

4 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛtho beth sydd yn dy law: dywedodd yntef gwialen.

4 3 Yna y dywedodd [yꝛ Arglwydd] tafl hi ar y ddaiar, ac efe ai taflodd hi ar y ddaiar: a hi aeth yn ſarph, a Moſes a giliodd rhacddi.

4 4 Yꝛ Arlgwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes, eſtyn dy law ac ymafel yn ei lloſcwꝛn: ac efe a eſtynnodd ei law ac a ymaflodd yndî, a hi aeth yn wialen yn ei law ef.

4 5 [Gwna hyn] fel y credant ymddangos i ti o Arlgwydd Dduw eu tadau: Duw Abꝛaham, Duw Iſaac, a Duw Iacob.

4 6 A dywedodd yꝛ Arlgwydd wꝛtho dꝛachefn, dod ti yn awꝛ dy law yn dy fonwes, ac efe a roddodd ei law yn ei fonwes: a [phan] dynnodd ef y hi allan, yna wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yꝛ eira.

4 7 Ac efe a ddywedodd dod eil-waith dy law yn dy fonwes, ac efe a roddodd eil-waith ei law yn ei fonwes: ac ai tynnodd hi allan oi fonwes, ac wele hi a dꝛoaſe fel ei gwnaed arall ef.

4 8 A bydd oni chꝛedant i ti, ac oni wꝛandawant ar lais yꝛ arwydd cyntaf: etto y credant i lais yꝛ ail arwydd.

4 9 Ac oni chꝛedant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wꝛandawant ar dy lais, yna cymmer o ddwfr yꝛ afon a thywallt ar y fych-dir: felly y bydd y dyfroedd y rhai a gymmerech o’ꝛ afon yn waed ar y tîr ſych.

4 10 A dywedodd Moſes wꝛth yꝛ Arglwydd [yſtyꝛ] wꝛthi fi Arglwydd, ni [bum] wꝛ ymadꝛoddus vn amſer, na chwaith er pan leferaiſt wꝛth dy wâs: eithꝛ ſafn-dꝛwm a thafod-trwm ydwy.

4 11 Yna y dywedodd yꝛ Arlgwydd wꝛtho, pwy a oſododd enau i ddŷn’: neu pwy a oꝛdeiniodd fudan, neu fyddar, neu weledydd, neu ddall’: oni myfi ’r Arlgwydd’:

4 12 Am hynny dôs ynawꝛ*: a mi a fyddaf gyd a’th enau, ac a ddyſcaf i ti yꝛ hyn a ddywedech.

4 13 Dywedodd yntef [yſtyꝛ] wꝛthifi Arglwydd, a danfon attolwg gyd a [yꝛ hwn] a ddanfonech.

4 14 Yna’r enynnodd digofaint yꝛ Arglwydd yn erbyn Moſes, ac y dywedodd, ond dy frawd [yw] Aaron Lefiad’: mi a wn y llefara efe yn groiw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod, a phan i’th welo efe a lawenycha yn ei galon.

4 15 Llefara dithe wꝛtho ef, a goſot y geiriau hynn yn ei enau: a minne a fyddaf gyd a’th enau di, a chyd ai enau yntef, a dyſcaf i chwi ’r hynn a weloch.

4 16 A llefared yntef dꝛoſot ti wꝛth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle ſafn i ti, a thithe a fyddi yn lle Duw iddo yntef.

4 17 Cymmer hefyd y wialen hon yn dy law: yꝛ hon y gwnei wꝛthiau a hi.

4 18 Yna Moſes aeth ac a ddychwelodd at Iethꝛo ei chegrwn, ac a ddywedodd wꝛtho, gad i mi fyned attolwg a dychwelyd at fy mrodyꝛ y rhai [ydynt] yn yꝛ Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw: a dywedodd Iethꝛo wꝛth Moſes dos mewn heddwch.

4 19 (Canys dywedaſe ’r Arglwydd wꝛth Moſes ym Madian, dôs dychwel ’ir Aipht: o herwydd bu feirw yꝛ holl wyꝛ y rhai oeddynt yn ceisio dy enioes.)

4 20 Yna Moſes a gymmerth ei wꝛaig, ai feibion, ac ai rhoddodd hwynt i farchogeth ar aſſyn, ac a ddychwelodd tua gwlad yꝛ Aipht: cymmerodd Moſes hefyd wialen Duw yn ei law.

4 21 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, pan elech i ddychwelyd ’ir Aipht, gwelit wneuthur yꝛ hol ryfeddodau y rhai a roddais yn dy law ger bron Pharao: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollngo ymmaith fy bobl.

4 22 Yna dywed wꝛth Pharao: fel hyn y dywedodd yꝛ Arglwydd, fy mâb maufi, [ſef] fyng-hyntaf-anedic yw] Iſrael.

4 23 Am hynny y dywedais wꝛthit, gollwng fy mab fel ’im gwaſanaetho, ond os gwꝛthodi ei ollwng ef: wele mi a laddaf dy fâb di [ſef] dy gyntaf-anedic.

4 24 A bu ar y ffoꝛdd yn y llettŷ: gyfarfod o’ꝛ Arglwydd ag ef, a cheiſid ei lâd ef.

4 25 Ond Sephoꝛa a gymmerth [gyllel] lem, ac a doꝛrodd dienwaediad ei mâb, ac ai bwꝛioddi gyffwꝛdd ai dꝛaed ef: ac a ddywedod, diau dy [fod] yn briod gwaedlyd i mi.

4 26 A [’r Arglwydd] a beidiodd ag ef: (hi a ddywedaſe yna pꝛiod gwaedlyd, o blegit yꝛ enwaediad.)

4 27 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Aaron, dôs i gyfarfod a Moſes tua’r anialwch: ac efe aeth ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac ai cuſanodd ef.

4 28 A Moſes a fynegoddi i Aaron holl eiriau ’r Arglwydd yꝛ hwn ai hanfonaſe ef: ’ar holl arwyddion y rhai a oꝛchymynnaſe efe iddo.

4 29 Yna’r aeth Moſes, ac Aaron: ac a gynnullaſant holl henuriaid meibion Iſrael.

4 30 Ac Aaron a dꝛaethod yꝛ holl eiriau y rhai a lefaraſe’r Arglwydd wꝛth Moſes: ac a wnaeth yꝛ arwyddion yng-olwg y bobl.

4 31 A chꝛedodd y bobl: a phan glwyſant ymweled ’oꝛ Arglwydd a meibion Iſrael, ac iddo weled eu goꝛthꝛymder, yna hwynt a ymgrymmaſant, ac a addolaſant.

5 1 Ac wedi hynny Moſes ac Aaron a ddaethant, ac a ddywedaſant wꝛth Pharao: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Iſrael, gollwng ymmaith fy mhobl fel y cadwant ŵyl i mi yn yꝛ anialwch.

5 2 A dywedodd Pharao, pwy [yw]’r Arglwydd fell y gwꝛandawn i ar ei lais, i ollwng Iſrael ymmaith’: yꝛ Arglwdd (\sic) nid adwen, ac Iſrael ni ollyngaf.

5 3 A dywedaſant hwythau, Duw ’r Hebræaid a gyfarfu a ni: gad i ni fyned attolwg daith tri diau yn yꝛ anialwch fel yꝛ aberthom ’ir Arglwydd ein Duw rhag iddo ein rhuthꝛo o haint neu a chleddyf.

5 4 Yna y dywedodd bꝛenin yꝛ Aipht wꝛthynt, Moſes ac Aaron pa ham y perwch i’r bobl beidio ai gwaith? euch at eich clud.

5 5 Pharao hefyd a ddywedodd, wele pobl lawer [ſydd] yn awꝛ yn y wlad: a pharaſoch iddynt beidio ai llwythau.

5 6 A’m hynny y goꝛchymynnodd Pharao y dydd hwnnw: i’r rhai oeddynt feiſtred gwaith ar y bobl ai goꝛuchwil-wyꝛ, gan ddywedyd.

5 7 Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur pꝛidd-feini megis o’r blaen: elont eu hun a chaſclant wellt iddynt.

5 8 Er hynny rhifedi y pꝛidd-feini y rhai yꝛ oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt, na leihewch o hynny: canys ſegur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi gan ddywedydd, gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw.

5 9 Trymhaer y gwaeth ar y gwŷꝛ, a gweithiant ynddo: fel nad edꝛychant am eiriau ofer.

5 10 Yna meiſtred gwaith y bobl, ai goꝛuchwil-wyꝛ a aethant allan, ac a lefaraſant wꝛth y bobl gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Pharao, ni roddaf wellt i chwi.

5 11 Ewch chwi a chymmerwch iwch wellt o’r lle y caffoch: er hynny ni leihair dim o’ch gwaſanaeth.

5 12 A’r bobl a ymwaſcarodd trwy holl wlad yꝛ Aipht, i gaſclu ſoft yn lle gwellt.

5 13 A’r meiſtred gwaith oeddynt yn pꝛyſſuro gan ddywedydd: goꝛphennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

5 14 A churwyd goꝛuchwil-wyꝛ meibion Iſrael y rhai a oſodaſe meiſtred gwaith Pharao arnynt gan ddywedyd: pa ham na oꝛphennaſoch eich taſc ar wneuthur pꝛidd-feini ddoe a heddyw: megis cyn hynny’:

5 15 Yna goꝛuchwil-wyꝛ meibion Iſrael a ddaethant, ac a lefaſant ar Pharao gan ddywedyd: pa ham y gwnei fel hyn i’th weiſion’:

5 16 Gwellt ni roddir ’ith weiſion, agwnewch pꝛidd-feini i ni meddant: ac wele dy weiſion a gurwyd a’th bobl di ſydd ar y bai.

5 17 Ac efe a ddywedodd ſegur ſegur ydych: am hynny ’r ydych chŵi yn dywedyd, gad i ni fyned [fel] yꝛ aberthon i’r Arglwydd.

5 18 Am hynny ewch yn awꝛ, gweithiwch ac ni roddir gwellt i chwi: etto chwi a roddwch yꝛ [vn] cyfrif o’r pꝛidd-feini.

5 19 A goꝛuchwil-wyꝛ meibion Iſrael ai gwelent eu hun mewn [lle] dꝛwg pan ddywedyd: na leihewch [ddim] o’ch pꝛidd-feini dogn dydd yn ei ddydd.

5 20 A chyfarfuant a Moſes a Aaron yn ſefyll ar ett ffoꝛdd hwynt: pan ddaethant allan oddi wꝛth Pharao.

5 21 A dywedaſant wꝛthynt, edꝛyched yꝛ Arglwydd a barned arnoch chwi: y rhai a baraſochi i’n ſawyꝛ ddꝛewi ger bꝛon Pharao, a cher bꝛon ei weiſion, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n llâd ni.

5 22 Yna y dychwelodd Moſes at yꝛ Arglwydd ac y dywedodd: ô Arglwydd pa ham y dꝛygaiſt y bobl hynn’: i ba beth i’m hanfonaiſt’:

5 23 Canys er pan ddaethum at Pharao i lefaru yn dy enw di, efe a ddꝛygodd y bobl hynn: a chan waredu ni waredaiſt dy bobl.

6 1 Yna y dywedodd ’r Arglwydd wꝛth Moſes y nawꝛ y cei weled beth a wnaf i Pharao: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thꝛwy law gadarn y gyꝛr efe hwynt oi wlâd.

6 2 Duw hefy a lefarodd wꝛth Moſes: ac a ddywedodd wꝛtho, myfi [ydwyf] Iehofa.

6 3 A mi a ymmdangoſais i Abꝛaham, i Iſaac, ac i Iacob yn Dduw Hollalluoc: onid [yn] fy enw Iehofa ni bun hyſpys iddynt.

6 4 Hefyd mi a ſicrheais fyng-hyfammod a hwynt a’m roddi iddynt wlâd y Cnaaneaid: ſef gwlâd eu hymdaith yꝛ hon yꝛ ymdeithiaſant ynddi.

6 5 A mi a glywais hefyd vchenaid meibion Iſrael y rhai y mae ’r Aiphtiaid yn eu caethiwo: a chofiais fyng-hyfammod.

6 6 A’m hynny dywet wꝛth feibion Iſrael, myfi [ydwyf] Iehofa, ac myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tann lwythau yꝛ Aiphtiaid, ac a’ch rhydd-hâf oi caethiwed hwynt: ac a’ch gwaredaf a bꝛaich eſtynnedic, ac mewn barnedigaethau mawꝛion.

6 7 Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chwech wybod mai myfi [yw] ’r Arglwydd eich Duw yꝛ hwn ſydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau ’r Aiphtiaid.

6 8 A mi a’ch dygaf chwi i’r wlâd, yꝛ hon a dyngais ar ei rhoddi i Abꝛaham, I Iſaac, ac i Iacob: ac ai rhoddâf i chwi yn etifeddiaeth, myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd.

6 9 A Moſes a lefarodd felly wꝛth feibion Iſrael: on ni wꝛandawſant ar Moſes, gan gyfyngdꝛa yſpꝛyd, a chan y gaethiwed galed.

6 10 Yna’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd:

6 11 Dôs dywet wꝛth Pharao bꝛenin yꝛ Aipht, am iddo ollwng meibion Iſrael oi wlâd.

6 12 A Moſes a lefarodd ger bꝛon yꝛ Arglwydd gand ddywedydd: wele meibion Iſrael ni wꝛandawſant arnafi, a pha fodd i’m gwꝛandawe Pharao, minne yn ddienwaededic o wefuſaw.

6 13 A’ꝛ Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes, ac Aaron, ac a roddodd oꝛchymyn gyd a hwynt at feibion Iſrael, ac at Pharao bꝛenin yꝛ Aipht: yng-hylch dwyn meibion Iſrael allan o wlâd yꝛ Aipht.

6 14 Dymma eu penn cenedl hwynt: meibion Ruben y cyntaf-anedic i Iſrael, [oeddynt] Henoch a Phalu, Heſron, a charmi, dymma deuluoedd Ruben.

6 15 A meibion Simeon [oeddynt] Iemuel, ac Iamin Ohan ac Iachin, Sohar hefyd a Saul mâb y Canaanites: dymma deuluoed Simeon.

6 16 Dymma hefyd henwau meibion Lefi yn ol eu cenhedlaethau, Gerſon, Cehath hefyd a Merari: a blynyddoedd oes Lefi [oeddynt] gant, ac onid tair blynedd deugain.

6 17 Meibion Gerſon [oeddynt] Libni, a Simi yn ol eu teuluoedd.

6 18 A meibion Cehath [oeddynt] Amram, ac Iſhar, Hebꝛon hefyd ac Uzziel: a blynyddodd oes Cehath [oeddynt] dair ar ddec ar hugain, a chan mhlynedd.

6 19 Meibion Merari [oeddynt] Mehali a Muſi: dymma deuluoedd Lefi yn ol eu cenhedlaethau.

6 20 Ac Amram a gymmerodd Iochebed eu fodꝛyb a du ei dâd yn wꝛaig iddo, a hi a ymddûg iddo Aaron a Moſes: a blynyddoedd oes Amram [oeddynt] onid tair deugain a chan mhlynedd.

6 21 A meibion Iſchar [oeddynt:] Coꝛah, a Nepheg, a Sichꝛi.

6 22 A meibion Uzziel [oeddynt:] Miſael, ac Elzaphan,a Zithꝛi.

6 23 Ac Aaron a gymmerodd Elizebah merch Aminadab chwaer Nahaſon wꝛaig iddo: a hi a ymddûg iddo Nadâb, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar.

6 24 Meibion Coꝛah hefyd [oedynt] Aſſir,ac Elcanah, ac Abiaſaph: dymma deuluoedd y Coꝛehiaid.

6 25 Ac Eleazar mâb Aaron a gymmerodd yn wꝛaig iddo [vn] o ferched Puttiel, a hi a ymddûc iddo ef Phinees: dymma bennau cenedl y LEfiaid, yn ol eu teuluoedd.

6 26 Dymma Aaron a Moſes: y rhai y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛthynt, dygwch feibion Iſrael allan o wlâd yꝛ Aipht, yn ol eu lluoedd.

6 27 Dymma Moſes ac Aaron y rhai a lefaraſāt wꝛth Pharao bꝛenin yꝛ Aipht, am ddwyn meibion Iſrael allan o’ꝛ Aipht.

6 28 A bu ar y dydd y llefarodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes yn nhir yꝛ Aipht,

6 29 Yna lefaru o’ꝛ Arglwydd wꝛth Moſes gan ddywedyd myfi [yw]’r Arglwydd: dywet wꝛth Pharao bꝛenin yꝛ Aipht yꝛ hyn oll yꝛ ydwyfi yn ei ddywedyd wꝛthit.

6 30 A dywedodd Moſes ger bꝛon yꝛ Arglwydd: wele fi yn ddienwaededic o wefuſau, a pha fodd y gwꝛendu Pharao arnaf’:

7 1 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, gwel mi a’th roddais yn Dduw i Pharao: ac Aaron dy frawd ſydd dy bꝛophwyd.

7 2 Ti a leferi yꝛ hyn oll a oꝛchymynnwyf it: ac Aaron dy frawd a lefara wꝛth Pharao ar iddo ollwng meibion Iſrael ymmaith oi wlad.

7 3 A minne a galedaf galon Pharao: ac a amlhaffyg-wꝛthiau a’m rhyfeddodau yng-wlad yꝛ Aipht.

7 4 Ond ni wꝛendu Pharao arnoch, yn y rhoddaf fy liaw ar yꝛ Aipht: ac y dygaf allan fy lluoedd, ſef fy mhobl meibion Iſrael o wlad yꝛ Aipht, mewn barnedigaethau mawꝛion.

7 5 A’r Aiphtiaid a gaant wybod mai myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd, pan eſtynnwyf fy llaw ar yꝛ Aipht: a dwyn meibion Iſrael allan oi myſc hwnyt.

7 6 A gwnaeth Moſes ac Aaron fel y goꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd iddynt [ie] felly y gwnaethant.

7 7 A Moſes [ydoedd] fab pedwar vgain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar vgain, pan lefaraſant wꝛth Pharao.

7 8 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes, ac wꝛth Aaron, gan ddywedyd:

7 9 Os llefara Pharao wꝛthich gan ddywedyd, moeſwch [weled] gennich wꝛthiau: yn y dywedi wꝛth Aaron, cymmer dy wialen, a hwrw [hi] ger bꝛon Pharao [fel] y byddo yn ſarph.

7 10 Yna y daeth Moſes ac Aaron at Pharao, a gwnaethant felly, megis y goꝛchymynnaſe ’r Arglwydd: canys Arglwydd a fwꝛiodd ei wialen ger bꝛon Pharao, a cher bꝛon ei weiſion, a hi aeth yn ſarph.

7 11 A Pharao hefyd a alwodd ain y doethion, a’r hudolion: a hwyntau hefyd [ſef] ſynwyꝛ yꝛ Aipht a wnaethant felly drwy eu ſwynion.

7 12 Canys bwꝛiaſant bob vn ei wialen, ac aethant yn ſeirph: on gwialen Aaron a lyngcodd eu gwiail hwynt.

7 13 Er hynny calon Pharao a galedodd fel na wꝛandawe arnynt hwy: megis y llefaraſe yꝛ Arglwydd.

7 14 Yna dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes caledodd calon Pharao: gwꝛthododd ollwng ymmaith y bobl.

7 15 Dos at Pharao yn foꝛeu, wele efe a ddaw allan i’r dwfr, ſaf dithe gyferbyn ag ef, ac lann yꝛ afon: a chymmer yn dy law y wialen yꝛ hon a dꝛôdd yn ſarph.

7 16 A dywet wꝛtho, Arglwydd Dduw yꝛ Hebꝛæaid a’m anfonodd attat, i ddywedyd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwaſanaethant yn yꝛ anialwch: ac wele ni wꝛandewaiſt hyd yn hyn.

7 17 Fel hyn y dywedodd yꝛ Arglwydd, wꝛth hyn y cei wybod mai myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd: wele myfi a’r wialen yꝛ hon [ſydd] yn fy llaw a darawaf y dyꝛoedd y rhai [ydyt] yn yꝛ afon, fel y troir hwynt yn waed.

7 18 A’r pyſc y rhai [ydynt] yn yꝛ afon a fyddant feirw, a’r afon a ddꝛewa: a bydd blin gan yꝛ Aiphtiaid yfed dyfroedd o’ꝛ afon.

7 19 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes, dywet wꝛth Aaron, cymmer dy wialen, ac eſtyn dy law ar ddyfroedd yꝛ Aipht, ar eu ffrydau, ar eu hafonydd, ac ar eu camleſydd, ac ar eu holl lynnau, fel y byddont yn waed: a bydd gwaed dꝛwy holl wlad yꝛ Aipht, ac yn eu [lleſtri] coed, a cherrig hefyd.

7 20 Felly Moſes ac Aaron a wnaethant fel y goꝛchymynnaſe’r Arglwydd, ac efe a gododd ei wialen ac a darawodd y dyfroedd y rhai [oeddynt] yn yꝛ afon yng-wydd Pharao, ac yngwydd ei weiſion: a’r holl ddyfroedd y rhai [oeddynt] yn yꝛ afon a dꝛoiwyd yn waed.

7 21 A’r pyſc y rhai oeddynt yn yꝛ afon a fuant feirw, a’r afon a ddꝛewodd fel na alle yꝛ Aiphtiaid yfed dwfr o’ꝛ afon: agwaed oedd trwy holl wlad yꝛ Aipht.

7 22 A ſwyn-wyꝛ yꝛ Aipht a wnaethant y cyffelyb dꝛwy eu ſwynion: a chaledod calon Pharao, ac ni wꝛandawodd arnynt megis y llefaraſe ’r Arglwydd.

7 23 Canys troes Pharao a daeth iw dŷ, ac ni oſododd hynn at ei galon.

7 24 A’r holl Aiphtiaid a gloddiaſant oddi amgylch yꝛ afon am ddwfr iw yfed: canys ni allent yfed o ddwfr yꝛ afon.

7 25 Felly y cyflawnwyd ſaith o ddyddiau: wedi i’r Arglwydd daro’r afon.

8 1 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, dos at Pharao: a dywet wꝛtho, fel hyn y dywedodd yꝛ Arglwydd, golwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwaſanaethant.

8 2 Ac os gwꝛthodi di [eu] gollwng: wele mi a darwaf dy holl frô di a llyffaint.

8 3 A [phob] afon a heigia o lyffaint, y rhai a ddꝛingant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ſtafell dy oꝛweddle, ac ar dy wely: ac i dŷ dy weiſion, ac ar dy bobl, ac i’th ffyꝛnau, ac ar dy fwyd gweddill.

8 4 A’r llyffaint a ddꝛingant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weiſion.

8 5 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes, dywet wꝛth Aaron, eſtyn dy law gyd a’th wialen ar y ffrydoedd, ar yꝛ afonydd, ac ar y camleſydd: a gwnai i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tîr yꝛ Aipht.

8 6 Ac Aaron a eſtynnodd ei law ar ddyfroedd yꝛ Aipht: a’r llyffaint a ddaethant i fynu ac a oꝛchguddiaſant dîr yꝛ Aipht.

8 7 A’r ſwyn-wyꝛ a wnaethant yꝛ vn modd dꝛwy eu ſwynion: ac a ddugaſant i fynu lyffaint ar wlad yꝛ Aipht.

8 8 Yna Pharao a alwodd am Moſes, ac Aaron ac a ddywedodd, gweddiwch ar yꝛ Arglwydd ar iddo ef dynnu y llyffaint oddi wꝛthi fi ac oddi wꝛth fy mhobl: a mi a ollyngaf ymmaith y bobl fel yꝛ aberthant i’r Arglwydd.

8 9 A Moſes a ddywedodd wꝛth Pharao, cymmer ogoniant gennifi, pa amſer y gweddiaf troſot, a thꝛos dy weiſion, a thꝛos dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wꝛthit, ac o’th dai: ai gadel yn vnic yn yꝛ afon’:

8 10 Ac efe a ddywedodd y foꝛu: a dywedodd yntef yn ol dy air [y bydd,] fel y gwypech nad [oes neb] fel yꝛ Arglwydd ein Duw ni.

8 11 A’ꝛ llyffaint y ymadawant a thi, ac a’th dai, ac a’th weiſion, ac a’th bobl: yn vnic yn yꝛ afon y gadewir hwynt.

8 12 Yna Moſes ac Aaron a aethant allan oddi wꝛth Pharao: a Moſes a lefodd ar yꝛ Arglwydd o achos y llyffaint y rhai a oſodaſe efe ar Pharao.

8 13 A’r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moſes: a’r llyffaint a fuant feirw o’ꝛ tai, o’ꝛ cynteddau, ac o’ꝛ meuſydd.

8 14 A cgaſclaſant hwynt yn bentyꝛau: fel y dꝛewodd y wlad.

8 15 Pan welodd Pharao fod feibiant [iddo,] yna y caledodd ei galon, ac ni wꝛandawodd arnynt: meſig y llefaraſe’r Arglwydd.

8 16 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, dywet wꝛth Aaron, eſtyn dy wialen, a tharo lwch y ddaiar: fel y byddo yn llau trwy holl wlad yꝛ Aipht.

8 17 Ac felly y gwnaethant, canys Aaron a eſtynnodd ei law gyd ai wialen, ac a darawodd lwch y ddaiar, a bu lau ar ddyn, ac ar anifail: holl lwch y tîr oedd yn llau dꝛwy holl wlad ’r Aipht.

8 18 A’r ſwynwyꝛ a geiſiaſant wneuthur yꝛ vn modd dꝛwy eu ſwynion [ſef] dwyn llau allan, ond ni allaſant: felly y bu y llau ar ddŷn, ac ar anifail.

8 19 Yna a ſwyn-wyꝛ a ddywedaſant wꝛth Pharao, bŷs Duw [yw] hyn: etto caledaſe calon Pharao fel na wꝛandawe arnyn, megys y llefaraſe’r Arglwydd.

8 20 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes cyfod yn foꝛeu, a ſaf ger bꝛon Pharao, wele efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywet wꝛtho, fel hynn y dywedodd yꝛ Arglwydd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwaſanaethant.

8 21 O herwydd os ti ni ollyngi fy mhobl wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weiſion, ac ar dy bobl, ac i’th dai dymmyſc-bla: a thai’r Aiphtiaid lawnir o’ꝛ gymmyſc-bla, a’r ddaiar hefyd yꝛ hon [y delont] hwynt arni.

8 22 A’r dydd hwnnw y naillduafi wlad Goſen yꝛ hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo y gymmyſc-bla yno: fel y gwypech mai myfi ’r Arglwydd [ydwyf] yng-hanol y wlad.

8 23 A mi a oſodaf [arwydd] ymwared rhwng my mhobl maufi a’t h bobl di: y foꝛu y bydd yꝛ arwydd hwn.

8 24 A’r Arglwydd a wnaeth felly, canys daeth cymmyſc-bla dꝛom i dŷ Pharao, ac i dai ei weiſion: ac i holl wlad yꝛ Aipht [fel] y llygrwyd y ddaiar gan y gymmyſc-bla.

8 25 Yna Pharao a alwodd am Moſes, ac Aaron: at a ddywedodd, euch, aberthwch i’th Duw yn y wlad [hon.]

8 26 A dywedodd Moſes nid cymmwys gwnethur felly, o blegit nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw beth ffiaid gan yꝛ Aiphtiaid: wele os aberthwn ffieid-beth yꝛ Aiphtiaid yng-wydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni’:

8 27 Taith tri diau ’r awn i’r anialwch: at nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedodd efe wꝛthym ni.

8 28 A dywedodd Pharao, mi a’ch gollyngaf chwi fel yꝛ aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr ainalwch, ond nac euth ymmhell: gweddiwch troſof.

8 29 A dywedodd Moſes, wele myfi a âf allan oddi wꝛth it, ac a weddiaf ar yꝛ Arglwydd ar gilio y gymmyſc-bla oddi wꝛht Pharao ac oddi wꝛth ei weſion, ac oddi wꝛth ei bobl y foꝛu: ond na thwylled Pharao inwyach heb ollwng ymmaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd.

8 30 Felly Moſes aeth allan oddi wꝛth Pharao: ac a weddiodd ar yꝛ Arlgwydd.

8 31 A gwnaeth yꝛ Arglwydd yn ôl gair Moſes; a’ꝛ gymmyſc-bla a gilliodd oddi wꝛth Pharao, oddi wꝛth ei weiſion, ac oddi wꝛth ei bobl: ni adawyd vn.

8 32 Er hynny Pharao a galedodd ei galon y waith honno hefyd: ac ni olyngodd ymmaith y bobl.

9 1 Yna y dyedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, dos at Pharao: a llefara wꝛtho ef, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yꝛ Hebꝛæaid, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwaſanaethant.

9 2 O blegit os gwꝛthodi di [eu] gollwng ymmaith: ac attal o honot hwynt etto.

9 3 Wele llaw ’r fydd ar dy anifeiliaid, y rhai [ydynt] yn y maes, ar feirch, ar aſſynnod, ar gamelod, ar y gwarthec, ac ar y defaid: [y daw] haint dꝛom iawn.

9 4 A’r Arglwydd a nailltua rhwng anifeiliaid Iſrael, ac anifeiliaid yꝛ Aiphtiaid: fel na byddo marw dim o gwbl [ar ſydd] eiddo meibion Iſrael.

9 5 A goſododd yꝛ Arglwydd amſer nodedic gan ddywedyd: y foꝛu gwna ’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad [hon.]

9 6 A’r Arglwydd a wnaeth y peth hyn dꝛannoeth, canys bu feirw holl anifeiliaid yꝛ Aiphtiaid: ond o anifeiliaid meibion Iſrael, ni bu farw vn.

9 7 A pharao a anfonod, ac wele ni buaſe farw gymaint ac vn o anifeiliaid Iſrael: er hynny caledodd calon Pharao, ac ni ollyngodd y bobl.

9 8 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, ac wꝛht Arglwydd, cymmerwch iwch loned eich llaw o ludw ffwꝛn: o thaned Moſes ef tua ’r uefoedd yng-ŵydd Pharao.

9 9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dîr yꝛ Aipht: ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn goꝛnwyd llinoꝛoc trwy holl wlad yꝛ Aipht.

9 10 Yna y cymmeraſant ludw ’r ffwꝛn, ac a ſafaſant ger bꝛon Pharao, a Moſes ai tanodd tua ’r nefoedd: ac efe aeth yn goꝛnwyd chwyſigennoc ar ddŷn ac ar anifail.

9 11 A’r ſwyn-wyꝛ ni allent ſefyll ger bꝛon Moſes gan y coꝛnwyd: o blegit yꝛ oedd y coꝛnwyd ar y ſwynwyꝛ, ac ar yꝛ holl Aiphtiaid.

9 12 Er hynny ’r Arglwydd a galedaſe galon Pharao fel na wꝛandawe arnynt: megis y llefaraſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

9 13 Yna ’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, cyfod yn foꝛeu, a ſaf ger bꝛon Pharao: a dywet wꝛtho, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw ’r Hebꝛæaid, gollwng fy mhobl i’m gwaſanaethu.

9 14 Canys y waith hon yꝛ anfonaf fy holl blagau ar dy galon ac ar dy weiſion, ac ar dy bobl: fel y gwypech nad oes fyng-hyffelyb yn yꝛ holl dîr.

9 15 O herwydd yn awꝛ mi a eſtynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di, a’th bobl a haint y nodau: a thi a ddiniſtrir o’ꝛ tîr.

9 16 Ac yn ddiau er mwyn hynn i’th gyfodais di i ddangod it fy nerth: ac i fynegu fy enw dꝛwy ’r holl dîr.

9 17 Tithe ydwyt yn ymdderchafu ar fy mhobl: etto heb eu gollwng hwynt ymmaith.

9 18 Wele mi a lawiaf yng-hylch yꝛ amſer ymma y foꝛu genllyſc trymmion iawn: y rhai ni bu eu mâth yn yꝛ Aipht o’ꝛ dydd y ſylfaenwyd hi hyd yꝛ awꝛ hon.

9 19 Anon gan hynny yn awꝛ, caſcl dy anifeiliaid, a phôb dim ar y ſydd it yny maes: pôb dŷn, ac anifail yꝛ hwn a gaffer yn y maes, ac nis caſceler i dŷ, y deſcyn y cenllyſc arnynt, ac a fyddant feirw.

9 20 Yꝛ hwn a ofnodd air yꝛ Arglwydd o weiſion Pharao a yꝛodd ei weiſion, ai anifeiliaid i dai.

9 21 A’r hwn nid yſtyriodd air yꝛ Arglwydd: a adawodd ei weiſion, ai anifeiliaid yn y maes.

9 22 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, eſtyn dy law tua ’r nefoedd, fel y byddo cenllyſc yn holl wlad yꝛ Aipht: ar ddŷn ac ar anifail, ac ar holl lyſſiau y maes o fewn tîr yꝛ Aipht.

9 23 Yna Moſes a eſtynnodd ei wialen tu a’r nefoedd, a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllyſc, ac aeth tân ar hyd y ddaiar, a chafodedd yꝛ Arglwydd genllyſc ar dîr yꝛ Aipht.

9 24 Felly ’r ydoedd cenllyſc, a thân yn ymgymmeryd yng-hanol y cenllyſc: yn dꝛwm iawn yꝛ hwn ni bu ei fath yn holl wlad yꝛ Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

9 25 A’ꝛ cenllyſc a gurodd dꝛwy holl wlad yꝛ Aipht gwbl ar [oedd] yn y maes, yn ddyn, ac yn anifail: y cenllyſc hefyd a gurodd holl lyſſieu y maes, ac a ddꝛylliodd holl goed y maes.

9 26 Yn vnic yng-wlad Goſen yꝛ hon yꝛ ydoedd meibion Iſrael ynddi: nid oedd cenllyſc.

9 27 A Pharao a anfonodd, ac a alwodd ar Moſes, ac Aaron, adywedodd wꝛthynt, pechais y waith hon: yꝛ Arglwydd ſydd gyfiawn, a minne a’m pobl yn annuwiol.

9 28 Gweddiwch ar yꝛ Arglwydd, (canys digon [yw hynn] na bydo taranau Duw na chenllyſc, ac mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoſwch mwy.

9 29 A dywedodd Moſes wꝛtho, pan elwyf allan o’ꝛ ddinas, mi a ledaf fy nwylaw at yꝛ Arglwydd: [a’r] taranau a beidiant, a’r cenllyſc ni bydd mwy, fel y gwypech mai ’r Arglwydd piau yꝛ ddaiar.

9 30 Ond mi a wn nad ydwyt ti etto na’th ieſion yn ofni wyneb yꝛ Arglwydd Dduw.

9 31 A’r llin a’r haidd a gurwyd: canys yꝛ haidd [oedd] wedi hedeg, a’r llin wedi hadu.

9 32 Ond y gwenith a’r rhŷg ni chcurwyd: o herwydd diweddar [oeddynt] hwy.

9 33 Yna Moſes a aeth oddi wꝛth Pharao allan o’ꝛ ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yꝛ Arglwydd: a’r taranau a’r cenllyſc a beidiaſant, ac ni ddefnynnodd glaw ar y ddaiar.

9 34 Pan welodd Pharao beidio o’ꝛ glaw, a’ꝛ cenllyſc, a’r taranau, yna efe a chwanegodd bethu: canys caledodd ei galon ef ai weiſion.

9 35 Ie caledodd calon Pharao fel na ollynge efe feibion Iſrael ymmaith: megis y llefaraſe ’r Arglwydd trwy law Moſes.

10 1 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, dos at Pharao: o herwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weiſion, fel y goſodwn fy arwyddion hyn yn ei fyſc ef.

10 2 Ac fel y mynegit wꝛth dy fab, a mab dy fab, yꝛ hynn a wneuthum yn yꝛ Aipht, a’m harwyddion y rhai a oſodais yn eu plith hwynt: ac y gwypoch mai myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd.

10 3 A daeth Moſes ac Aaron at Pharao, a dywedaſant wꝛtho, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw ’r Hebꝛæaid, pa hyd y gwꝛthodi ymoſtwng ger fy mron’: gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwaſanaethant.

10 4 O herwydd os ti a wꝛthodi ollwng fy mhobl: wele y foꝛu y dygaf locuſtiaid i’th frô,

10 5 Y rhai a oꝛchuddiant wyneb y ddaiar, fel na allo [vn] weled y ddaiar: ac hwy y yſſant y gwedill yꝛ hwn a adawyd i chwi yn ddiangol ygan y cenlŷſc, difaant hefyd bôb pꝛen a fyddo yn blaguro iwch yn y maes.

10 6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weiſion, athai ’r holl Aiphtiaid, a cyfryw ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaiar hyd y dydd hwn: yna efe a dꝛôd, ac a aeth allan oddi wꝛth Pharao.

10 7 A gweiſion Pharao a ddywedaſant wꝛtho, pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni’: gollwng ymmaith y gwŷr, fel y gwaſanaethant yꝛ Arglwydd eu Duw: oni wyddoſti etto ddifetha ’r Aipht’:

10 8 A dychwelyd Moſes ac Aaron at Pharao, ac efe a ddywedodd wꝛthynt, ewch gwaſanaethwch yꝛ Arglwydd eich Duw: pa rai fy’n myned’:

10 9 A Moſes a ddywedodd, a’n llangciau, ac a’n henfgwyꝛ yꝛ awn ni: a’n meibion hefyd, ac a’n merched, a’n defaid, ac a’n gwarthec yꝛ awn ni o blegit rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd.

10 10 Ac efe a dywedodd wꝛthynt, yꝛ bu modd y byddo ’r Arglwydd gyd a chwi, ac y gollyngaf chwi a’ch plant: gwelch mai ar ddꝛwg y mae eich bꝛŷd.

10 11 Nid felly, ewch ynawꝛ y gwŷr, a gwaſanaethwch yꝛ Arglwydd, canys hynn yꝛ oeddych yn ei geiſio: felly hwynt a wthiwyd o wydd Pharao.

10 12 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, eſtyn dy law ar wlad yꝛ Aipht am locuſtiaid fel y deuant ar dîr yꝛ Aipht: ac y bwytaant holl lyſſieu y ddaiar [ſef] cwbl ar a adwodd y cenllyſc.

10 13 Felly Moſes a eſtynnodd ei wialen ar dîr yꝛ Aipht, a’r Arglwydd a ddug ddwyꝛeinwynt ar y tîr yꝛ holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno: a [phan] ddaeth y boꝛau gwynt y dwyꝛain a ddug locuſtiaid.

10 14 A’r locuſtîaid a ddaethant ar holl wlad yꝛ Aipht, ac a arhoſaſant ym mhob ardal i’r Aipht: yn dꝛwm iawn, ni bu y fath locuſtiaid oi blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.

10 15 Canys toaſant wyneb yꝛ holl dîr, a thywyllodd y wlad, a hwynt a yſſaſant holl lyſſiau y ddaiar, a holl ffrwythau y coed, yꝛ hyn a weddillaſe y cenllyſc: ac ni adawyd dim gwyꝛddlefni ar goed, nac ar lyſſieu y maes ofewn holl wlad yꝛ Aipht.

10 16 Am hynny Pharao a alwodd am Moſes ac Arglwydd ar frŷs, ac a ddywedodd: pechais yn erbyn yꝛ Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

10 17 Ac yn awꝛ maddeu di attolwg fy mhechod y maith hon yn vnic, a gweddiwch ar yꝛ Arglwydd eich Duw: ar iddo dynnu oddi wꝛthif yn vnic y farwolaeth hon.

10 18 A [Moſes] a aeth allan oddi wꝛth Pharao: ac a weddiodd ar yꝛ Arglwydd.

10 19 A’r Arglwydd a dꝛodd wynt goꝛllewyn crŷf iawn, ac efe a gododd ymmaith y locuſtiaid, ac ai bwꝛiodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd vn locuſt o fewn holl derfynau’r Aipht.

10 20 Er hynny caledodd yꝛ Arglwydd galon Pharao: fel na ollynge efe feibion Iſrael ymmaith.

10 21 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, eſtynn dy law tua ’r nefoedd fel y byddo tywyllwch ar dîꝛ yꝛ Aipht: ac y [gellir] teimio y tywyllwch.

10 22 Felly Moſes a eſtynnodd ei law, tua’r nefoedd: a bu dywyllwch niwloc dꝛwy holl wlad yꝛ Aipht dꝛi diwꝛnod.

10 23 Ni wele neb ei gilydd, ac ni chododd neb oi le dꝛi diwꝛnod: ond yꝛ ydoedd goleuni i holl feibion Iſrael yn eu trigfannau.

10 24 Yna y galwodd Pharao am Moſes ac Arglwydd, ac a ddywedodd, ewch gwaſanaethwch yꝛ Arglwydd, arhoed eich defaid a’ch gwarthec yn vnic: aerd eich plant hefyd gyd a chwi.

10 25 A dywedodd Moſes, ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyꝛth a phoeth offrymmau: fel yꝛ aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

10 26 Am hynny ’r aiff ein hanifeiliaid hefyd gyd a ni, ni adewir ewin, o blegit o honynt, y cymmerwn i waſanaethu ’r Arglwydd ein Duw: canys ni wyddom a pha beth y gwaſanaethom yꝛ Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

10 27 Ond yꝛ Arglwydd a galedodd galon Pharao: fel nad oedd efe fodlon iw gollwng hwynt.

10 28 A dywedodd Pharao wꝛtho, dos oddi wꝛthif: giwlia arnat rach gweled fy wyneb mwy, o blegit y dydd y gwelech fy wyneb y byddi farw.

10 29 A dywedodd Moſes inion y dywedaiſt: ni welaf dy wyneb mwy.

11 1 A’r Arglwydd a ddywedaſe wꝛth Moſes, vn blâ etto a ddygaf ar Pharao, ac ar yꝛ Aiphtiaid, wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith oddi ymma: pan ollyngo efe y n gwbl, gan wthio efe a’ch gwythia chwi oddi ymma.

11 2 Dywet yn awꝛ lle y clywo ’r bobl: am geiſio o honynt bôb gwꝛ gan ei gymydog, a phob gwꝛaig gan ei chymydoges ddodꝛefn arian, a dodꝛefn aur.

11 3 A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafoꝛ yng-olwg yꝛ Aiphtiaid: ac [yꝛ ydoedd] Moſes yn wꝛ mawꝛ iawn yng-wlad yꝛ Aipht yng-olwg gweiſion Pharao, ac yng-olwg y bobl,)

11 4 Moſes hefyd a ddywedoddd, fel hynn y llefarodd yꝛ Arglwydd: yng-hylch hanner nos yꝛ afi allan i ganol yꝛ Aipht.

11 5 A phôb cyntaf-anedic yng-wlad yꝛ Aipht a fydd marw, a gyntaf-anedic Pharao yꝛ hwn ſydd yn eiſtedd ar ei deyꝛn-gader ef, hyd gyntafenedic y waſanaeth ferch yꝛ hon [ſydd] ar ol y felin: a phôb cyntafanedic o anifail.

11 6 Yna y bydd gweiddi mawꝛ dꝛwy holl wlad yꝛ Aipht: yꝛ hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

11 7 Ond ym myſc meibion Iſrael ni ſymmud cî ei dafod ar ddŷn nac anifail: fel y gwypoch mai ’r Arglwydd a nailltuodd rhwng yꝛ Aiphtiaid ac Iſrael.

11 8 A’th holl weiſion hynn a ddeuant i wared attafi, ac a ymgrymmant i mi gā ddywedyd, dos allan, a’r holl bobl y rhai [ydynt] ar dy ol, ac wedi hynny ’r afi allan: felly efe a aeth allan oddi wꝛth Pharao mewn digllonedd llidioc.

11 9 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, ni wꝛendu Pharao arnoch: fel yꝛ amlhaer fy rhyfeddodau yng-wlad yꝛ Aipht.

11 10 Felly Moſes ac Aaron a wnaethant yꝛ holl ryfeddodau hyn ger bꝛon Pharao: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharao, fel na ollynge efe feibion Iſrael allan oi wlad.

12 1 Yꝛ Arglwydd hefyd a lefarodd wꝛth Moſes, ac wꝛth Aaron yn nhîr yꝛ Aipht, gan ddywedyd:

12 2 Y mîs hwn [fydd] i chwi yn ddechꝛeuad y miſoedd: cyntaf [fydd] i chwio o fiſoedd y flwyddyn.

12 3 Lleferwch wꝛth holl gynnulleidfa Iſrael gan ddywedyd, ar y decfed [dydd] o’ꝛ mîs hwn: cymmerant iddynt bôb vn oen, yn ol teulu [eu] tadau, [ſef] oen dꝛos bôb teulu.

12 4 Os llaifydd y teulu nac y gallo fwytta yꝛ oen, yna cymmered efe hefyd ei gymydog neſſaf iw dŷ, wꝛth y rhifedi o ddynion: pôb vn yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yꝛ oen.

12 5 Bydded yꝛ oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wꝛyw, [ac] yn llwdn blwydd: o’ꝛ defaid neu o’ꝛ geifr y cymmerwch [ef.]

12 6 A bydded yng-hadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddec o’ꝛ mîs hwn: yna lladed holl dyꝛfa cynnulleidfa Iſrael ef, yn y cyfnos.

12 7 A chymmerant o’ꝛ gwaed, a rhoddant ar y ddau yſtlyſ-boſt ac ar gappan y dꝛws: yn y tai, y rhai y bwytaant ef ynddynt.

12 8 A’r cîg a fwytânt y nôs honno: wedi ei roſtio [wꝛth] dân, a bara croiw gyd a [dail] ſurion y bwyttaant ef.

12 9 Na fwytewch o honaw yn amrwd, nac yn ferwedic wedi ei ferwi mewn dwfr: eithꝛ wedi ei roſtio [wꝛth] tân, ei ben gyd ai dꝛaed, ai berfedd [a fwytewch.]

12 10 Ac na weddillwch [ddim] o honaw hyd y boꝛeu: ond yꝛ hyn fydd yng-weddill o honaw erbyn y boꝛeu, lloſcwch yn tân.

12 11 Ac fel hyn y bwytewch ef, wedi ymmregyfu eich lwynau, a’ch eſcidiau am eich traed, a’ch ffynn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrŵſt, [canys] Paſc i’r Arglwydd [ydyw] efe.

12 12 O herwydd mi a dꝛammwyaf dꝛwy wlad yꝛ Aipht y nos honno, ac a darawaf bôb cyntaf-anedic o fewn tîr yꝛ Aipht, yn ddŷn, ac yn anifail: a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau ’r Aipht, myfi [ydywyf] yꝛ Arglwydd.

12 13 A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar eich tai lle [ybyddoch] chwi: pan welwyf y gwaed yna ’r af heibio i chwi: felly ni bydd plâ diniſtriol yn eich myſc chwi pan darawyf dîr yꝛ Aipht.

12 14 A’ꝛ dydd hwn fydd yn goffadwꝛiaeth iwch, a chwi ai cedwch ef yn ŵyl arbennic i’r Arglwydd: yn eich oeſoedd y cedwch ef yn ŵyl dꝛwy ddeddf dꝛagywyddol.

12 15 Saith niwꝛnod y bwytewch fara croiw, y dydd cyntaf y gwnewch na bydda ſur-does o fewn eich tai: o herwydd pwy bynnac o fwyttu fara lefeinllyd o’ꝛ dydd cyntaf hyd y ſeithfed dydd, yꝛ enaid hwnnw a doꝛrir ymmaith oddi wꝛth Iſrael.

12 16 Ar y dydd cyntaf hefyd [y bydd] i chwi gymanfa ſanctaidd, a chymanfa ſanctaidd ar y ſeithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yꝛ hyn a fwytu pôb dŷn yn vnic a geir ei arlwyo i chwi.

12 17 Cedwch hefyd [ŵyl] y bara croiw, o herwydd o fewn coꝛph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yꝛ Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich oeſoedd, dꝛwy ddeddf dꝛagywyddol.

12 18 Yn y [mîs] cyntaf ar y pedwerydd dydd ar ddec o’ꝛ mîs y bwytewch fara croiw yn y cyfnos: hyd yꝛ vnfed dydd ar hugain o’ꝛ mîs yn yꝛ hwyꝛ.

12 19 Na chaffer ſurdoes yn eich tai ſaith niwꝛnod: canys pwy bynnac a fwyttu fara lefeinllyd, yꝛ enaid hwnnw o doꝛrir ymmaith o gynnulleidfa Iſrael, yn gyſtal y dieithꝛ a’ꝛ pꝛiodoꝛ.

12 20 Na fwytewch ddim lefenllyd: bwytewch fara croiw yn eich holl gyfanneddau.

12 21 A galwodd Moſes am holl henuriaid Iſrael, ac a ddywedodd wꝛthynt: tynnwch a chymmerwch i chwi oen dꝛwy eich teuluoedd a lleddwch yꝛ [oen] Paſc.

12 22 A chymmerwch duſſw o yſſop. a thꝛochwch yn y gwaed yꝛ hwn [a fyddo] mewn cawg, a rhoddwch ar gappan y dꝛws, ac ar y ddau yſtlyſboſt o’ꝛ gwaed yꝛ hwn [fyddo] yn y cawg: ac nac ewch chwithau allan neb o ddꝛws ei dŷ hyd y boꝛau.

12 23 O herwydd yꝛ Arglwydd a baſſia i daro ’r Aipht, a phan welo efe y gwaed ar gappan y dꝛws, ac ar y ddau yſtlyſboſt: yna ’r Arglwydd a baſſia heb law ’r dꝛwſ, ac ni âd i’r diniſtrudd ddyfod i’ch tai chwi i ddiniſtrio.

12 24 Am hynny cedwch y peth hynn: yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dꝛagywydd.

12 25 A phan ddeloch i’r wlad yꝛ hon a rydd yꝛ Arglwydd i chwi megis y dywedodd: yna cedwch y gwaſanaeth hwn,

12 26 A phan ddywedo eich meibion wꝛthich: pa waſanaeth [yw] hwn gennych’:

12 27 Yna y dywedwch, aberth Paſc yw ef ir Arglwydd yꝛ hwn a baſſiodd heb law tai meibion Iſraelyn yꝛ Aipht pan darawodd efe yꝛ Aipht, ac yꝛ achubodd ete ein tain ni: yna yꝛ ymgrymmodd y bobl, ac yꝛ addolaſant.

12 28 A meibion Iſrael a aethant, ac a wnaethant: megis y goꝛchymmynnaſe ’r Arglwydd wꝛth Moſes, ac Aaron, felly y gwnaethant.

12 29 Ac ar hanner nos y tarawodd yꝛ Arglwydd bôb cyntafanedic yng-wlad yꝛ Aipht, o gyntafanedic Pharao ’r hwn a eiſtedde ar ei frenhin-faingc ef, hyd gyntafanedic y gaethes yꝛ hon [oedd] yn y carchar-dŷ: a phôb cyntafanedic i anifail.

12 30 Yna Pharao a gyfododd liw nos, efe ai holl weiſion, a’r holl Aiphtiaid, ac yꝛ oedd gweiddi mawꝛ yn yꝛ Aipht: o blegit nid [oedd] dŷ ar nad [ydoedd] vn marw ynddo.

12 31 Ac efe a alwodd ar Moſes, ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, odwch, ewch allan o myſc fy mhobl, chwi a meibion Iſrael hefyd: ewch a gwaſanaethwch yꝛ Arglwydd fel y dywedaſoch.

12 32 Cymmerwch eich defaid, a’ch gwꝛathec hefyd fel y dywedaſoch, ac ewch ymmaith: a bendithiwch finne.

12 33 A’r Aiphtiaid a fuant dairion ar y bobl gan eu gyꝛru a’r ffrwſt allan o’ꝛ wlad: o blegit dywedaſant [dynion] meirw ydym oll.

12 34 Am hynny y cymmetodd y bobl eu toes cynn ei lefeinio: ai toes oedd wedi rwymo yn eu dillad ar eu hyſcwyddau.

12 35 A meibion Iſrael a wnaethant yn ol gair Moſes: ac a geiſiaſent gan yꝛ Aiphtiaid dlyſau arian, a thlyſau aur, a gwiſcoedd.

12 36 A’r Arglwydd a roddaſe i’r bobl hawddgarwch yng-olwg yꝛ Aiphtiaid fel yꝛ echwynaſant iddynt: felly ’r yſpeiliaſant yꝛ Aiphtiaid.

12 37 Yna meibion Iſrael a aethant o Rameſes Succoth: yng-hylch chwe chant mil o wŷꝛ traed heb law plant.

12 38 A phobl gymmyſc lawer aethant i fynu hefyd gyd a hwynt: defaid hefyd a gwꝛathec [a] chyfoeth trwm iawn.

12 39 A hwynt a bobaſant y toes yꝛ hwn a ddygaſent allan o’ꝛ Aipht yn ddeiſſennau croiw, o herwydd nad [oedd ganddynt] ſur-does: canys gwthiaſid hwynt o’ꝛ Aipht, fel nad allaſant aros, ac ni pharatoeſent iddynt eu hun lynniaeth

12 40 A phꝛeſſwyliad meibion Iſrael tra y trigaſant yn yꝛ Aipht: [oedd] ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd.

12 41 Ac ym mhen y deng-mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd: ie o fewn coꝛph y dydd hwnnw, yꝛ aeth holl luoedd yꝛ Arglwydd allan o wlad yꝛ Aipht.

12 42 Nos yw hon iw chadw i’r Arglwydd pan ddygwyd hwynt allan o wlad yꝛ Aipht: nos yꝛ Arglwydd yw hon i holl feibion Iſrael iw chadw dꝛwy eu hoeſoedd.

12 43 Yꝛ Arglwydd hefyd o ddywedodd wꝛth Moſes, ac Aaron dymma ddeddf y Paſc: na fwytaed neb dieith o honaw.

12 44 Ond pôb gwaſanaethwꝛ wedi ei bꝛynnu am arian: pan enwaedeth ef, yn a fwytu o honaw.

12 45 Yꝛ eſtron a’r hwas tyflog ni thaiff fwyta o honaw.

12 46 Mewn vn tŷ y bwyteuir efe, na ddwg [ddim] o’ꝛ cîg allan o’ꝛ tŷ: ac na thoꝛrwth aſcwꝛn ynddo ef.

12 47 Holl gynnulleidfa Iſrael a wnant hynny.

12 48 A phan arhoſo dieithꝛ gyd a thi, a cheiſio cadw Paſc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl yꝛfiaid ef, ac yna neſaed i wneuthur hynny, a bydded meigs (\sic) yꝛ hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededic o honaw.

12 49 Yꝛ vn gyfraith fydd i’r pꝛiodoꝛ, ac i’r dieithꝛ a arhoſo yn eich myſc.

12 50 Yna holl feibion Iſrael a wnaethant fel y goꝛchymynnaſe ’r Arglwydd wꝛth Moſes ac Aaron: felly y gwnaethant.

12 51 Ac o fwen coꝛph y dydd hwnnw: y dug yꝛ Arglwydd feibion Iſrael o wlad yꝛ Aipht yn ol eu lluoedd.

13 1 Llefarodd yꝛ Arglwydd hefyd wꝛth Moſes gan ddywedyd:

13 2 Cyſſergra i mi bôb cyntafanedic [ſef] beth bynnac a agoꝛo grôth [yn gyntaf] ym myſc meibion Iſrael o ddyn ac anifail: [canys] eiddo fi [yw] efe.

13 3 Yna y ddywedodd Moſes wꝛth y bobl cofiwch y dydd hwn [ar] yꝛ hwn y daethoch allan o’ꝛ Aipht o dŷ y caethiwed, o blegit trwy law gadarn y dug yꝛ Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.

13 4 Heddyw yꝛ ydych chwi yn myned allan: ar y mis Abib.

13 5 A phan ddygo yꝛ Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, ar Amoꝛiaid, yꝛ Hefiaid hefyd a’r Iebuſiaid yꝛ hon a dyngodd efe, wꝛth dy dadau y rhodde efe i ti [ſef] gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: yna y gwnei y gwaſanaeth ymma ar y mîs hwn.

13 6 Saith niwꝛnod y bwytei fara croiw: ac ar y ſeithfed dydd [bydded] gŵyl i’r Arglwydd.

13 7 Bara croiw a fwyteir ſaith niwꝛnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd a thi ac na weler gennit ſurdoes yn dy holl frô.

13 8 A mynega i’th fab y dydd hwnnw gan ddywedyd: o herwydd yꝛ hyn a wnaeth yꝛ Arglwydd i mi pan ddaethum allan o’ꝛ Aipht [y gwneir hyn.]

13 9 A bydded it yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwꝛiaeth rhwng dy lygaid, fel y byddo cyfraith yꝛ Arglwydd yn dy enau: o herwydd a llaw gadarn y dug yꝛ Arglwydd dydi allan o’ꝛ Aipht.

13 10 A’m hynny cadw y ddeddf hon yn ei hamſer nodedic: o flwyddyn i flwyddyn.

13 11 A phan ddygo ’r Arglwydd di i wlâd y Canaaneaid megis y tyngodd efe wꝛthit, ac wꝛth dy dadau: ai rhoddi i ti,

13 12 Yna y nailltui bôb cyntaf-anedic [o ddyn] i’r Arglwydd: ac [o] bôb cyntaf-anedic yꝛ anifeiliaid y rhai fyddant eiddo ti dôd y gwꝛwyaid i’r Arglwydd.

13 13 A phôb cyntafanedic i aſſyn a ryddheui di ag oen, ac oni ryddheui di [ef,] yna toꝛfynygla ef, a phôb dŷn cyntaf-anedic o’th feibion a bꝛynni di hefyd.

13 14 A phan ofynno dy fâb yn ol hyn gan ddywedyd, beth [yw] hyd’: yna dywet wꝛtho a llaw gadarn y dug yꝛ Arglwydd ni allan o’ꝛ Aipht o dŷ y caethiwed.

13 15 Canys pan oedd anhawdd gan Pharao ein gollwng ni y lladdodd yꝛ Arglwydd bôb cyntaf-anedic yng-wlâd yꝛ Aipht, o gyntaf-anedic dŷn, hyd gyntaf-anedic anifail: a’m hynny ’r ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bôb gwꝛyw cyntaf-anedic, ond pôb cyntaf-aneic o’m meibion a bꝛynnaf.

13 16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn ractalau rhwng dy lygaid: mai a llaw gadarn y dug yꝛ Arglwydd ni allan o’ꝛ Aipht.

13 17 A phan ollyngodd Pharao y bôbl ni arweiniodd yꝛ Arglwydd hwynt dꝛwy wlâd y Philiſtiaid er ei bôd hi yn nes: o blegit dywedodd Duw [edꝛychwn] rhac i’r bôbl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd o honynt i’r Aipht.

13 18 Ond Duw a arweiniodd y bôbl o amgylch yꝛwy anialwch y môꝛ côch: yn arfogion yꝛ aeth meibion Iſrael allan a (\sic) wlâd yꝛ Aipht.

13 19 A Moſes a gymmerodd eſcyꝛn Ioſeph gyd ag ef: o herwydd efe a wnelſe i feibion Iſrael dyngu gan ddywedyd: Duw a ymwel a chwi yn ddiau, dygwch chwithau fy eſcyꝛn oddi ymma gyd a cwhi.

13 20 Yna ’r aethant o Sucoth: ac a werſſyllaſant yn Etham yng-hwꝛr yꝛ anialwch.

13 21 A’r Arglwydd oedd yn myned oi blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl iw harwein ar y ffoꝛdd, a’r nos mewn colofn o dân i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos.

13 22 Ni ſyflodd efe y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nôs, o flaen y bôbl.

14 1 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

14 2 Dywet wꝛth feibion Iſrael a’m ddychwelyd a gweſſyllu o honynt o flaen Pihahiroth rhwng Migdol a’r môꝛ: o flaen Baal-Sephon, ar ei chyfer y gwerſſyllwch wꝛth y môꝛ.

14 3 Canys dywed Pharao am feibion Iſrael rhwyſtrwyd hwynt yn y tîr: [a] chaeodd yꝛ anialwch arnynt.

14 4 A mi a galedaf galon Pharao fel yꝛ ymlidio ar eu hol hwynt, felly i’m gogoneddir i o herwydd Pharao, ai holl fyddin, a’r Aiphtiaid a gânt wybod {wybob} mai myfi [ydwyf] Arglwydd: ac felly y gwnaethant.

14 5 Pan fynegwyd i frenin yꝛ Aipht ffoî o’ꝛ bôbl: yna y trôdd calon Pharao ai weiſion yn erbyn y bôbl, a dywedaſant beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngaſom Iſrael o’n gwaſanaethu’:

14 6 Ac efe a daclodd ei gerbyd ac a gymmerodd ei bôbl gyd ag ef.

14 7 A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yꝛ Aipht a chaptenniaid a’r bôb vn o honynt.

14 8 Canys yꝛ Arglwydd a galedaſe galon Pharao bꝛenin yꝛ Aipht, ac efe a ymlidiodd a’r ol meibion Iſrael: ond yꝛ oedd meibion Iſrael yn myned allan a llaw vchel.

14 9 A’r Aiphtiaid a ymlidiaſant a’r eu hôl hwynt [ſef] holl feirch, [a] cherbydau Pharao ai wŷꝛ meirch, ai fyddyn, ac ai goddiweddaſant yn gwerſſyllu wꝛth y môꝛ: ger llaw Pihahiroth o flaen Baal-ſephon.

14 10 Pan neſſaodd Pharao: yna meibion Iſrael a godaſant eu golwg, ac wele yꝛ Aiphtiaid yn dyfod a’r eu hol, a meibion Iſrael a ofnaſant yn ddirfawꝛ, ac a waeddaſant hefyd a’r yꝛ Arglwydd.

14 11 A dywedaſant wꝛth Moſes, ai a’m nâd oedd beddau yn yꝛ Aipht y dygaſt ni i farw yn yꝛ anialwch’: pa ham y gwnaethoſt fel hyn a ni, gan ein dwyn allan o’ꝛ Aipht’:

14 12 Ond dymma y peth yꝛ hwnn a lefaraſom wꝛthit yn yꝛ Aipht’: gan ddywedyd, paid a ni, fel y gwaſanaethom yꝛ AIphtiaid: canys gwell fuaſe i ni waſanaethu ’r Aiphtiaid na marw yn yꝛ anialwch.

14 13 Yna y ddywedodd Moſes wꝛth y bôbl nac ofnwth (\sic), ſefwch ac edꝛychwch a’r iechydwꝛiaeth yꝛ Arglwydd yꝛ hwn a wnaiff efe i chwi heddyw: o blegit yꝛ Aiphtiaid y rhai a welſoch chwi heddyw ni chwech eu gweled byth ond hynny.

14 14 Yꝛ Arglwydd a ymladd troſoch: a’m hynny twech a ſôn.

14 15 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, pa ham y gweiddi arnaf’: dywet wꝛth feibion Iſrael a’m gerdded o honynt rhacddynt.

14 16 A chyfot tithe dy wialen ac eſtyn dy law a’r y môꝛ a hollt ef: ac aed meibion Iſrael trwy ganol y môꝛ a’r dîr ſych/

14 17 Wele fi, ie myfi a galedaf galon yꝛ Aiphtiaid fel y deuant a’r eu hol hwynt: a mi a ogoneddir o herwydd Pharao, ac o herwydd ei holl fyddin ef, o herwydd ei gerbydau ef, ac o herwydd ei farchogion.

14 18 Yna’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw ’r Arglwydd: pan i’m gogoneddir o herwydd Pharao, o herwydd ei gerbydau, ac o herwydd ei farchogion.

14 19 Ac angel Duw yꝛ hwn oedd yn myned o flaen byddin Iſrael a ſymmudodd, ac a aeth oi hôl hwynt: a’r golofn niwl aeth ymmaith oi tu blaen hwynt, ac a ſafodd oi hôl hwynt.

14 20 Ac efe a ddaeth rhwng byddin yꝛ Aiphtiaid a byddin Iſrael, ac yꝛ ydoedd yn niwl, ac yn dywyllwch [i’r Aiphtiaid,] ac yn goleuo y nôs [i Iſrael:] ac ni neſſaodd y naill at y llal ar hyd y nôs.

14 21 A Moſes a eſtynnodd ei law ar y môꝛ, a’r Arglwydd a yꝛrodd y môꝛ [yn ei oll] trwy ddwyꝛein-wynt crŷf ar hyd y nôs, ac a oſododd y môꝛ yn ſychdir: aholltwydd y dyfroedd.

14 22 Yna meibion Iſrael a aethant trwy ganol y môꝛ a’r dir ſych: a’r dyfroedd [oeddynt] yn fûr iddynt o’ꝛ tu dehau ac o’ꝛ tu aſſwy.

14 23 A’r Aiphtiaid a erlidiaſant, ac a ddaethant a’r eu hol hwynt, [ſef] holl feirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion i ganol y môꝛ.

14 24 Ac ar y wiliadwꝛiaeth foꝛeuol, yꝛ Arglwydd a edꝛychodd ar fyddin yꝛ Aiphtiaid o’ꝛ golofn dân a niwl: ac a derfyſcodd fyddin yꝛ Aiphtiaid.

14 25 Canys efe a dynnodd ymmaith olwynion ei gerbydau ef, ac ai dûg ef yn dꝛwm: fel y dywedodd yꝛ Aiphtiaid ni a ffoiwn oddi wꝛth Iſrael, o blegit yꝛ Arglwydd ſydd yn ymladd troſtynt hwy yn erbyn yꝛ Aiphtiaid.

14 26 Yna ’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes eſtyn dy law ar y môꝛ: fle y dychwelo y dyfroedd ar yꝛ Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

14 27 A Moſes a eſtynnodd ei law ar y môꝛ, a dychwelodd y môꝛ cynn y boꝛau iw nerth, a’r Aiphtiaid a ffoaſant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ymchwlodd yꝛ Aiphtiaid yng-hanol y môꝛ.

14 28 Felly y dyfroedd a ddychwelaſant,a c a oꝛchguddiaſant gerbydau, a merchogion, a hol fyddin Pharao, y rhai a ddaethent ar eu hol hwynt i’r môꝛ: ni adawyd o honynt gymmeint ag vn.

14 29 Ond meibion Iſrael a gerddaſant ar dir ſych trwy ganol y môꝛ: a’r dyfroedd [oeddynt] yn fûr iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw aſſwy.

14 30 Felly ’r Arglwydd a achubodd Iſrael y dydd hwnnw o law ’r Aiphtiaid: a gwelodd Iſrael yꝛ Aiphtiaid yn feirw ar fin y môꝛ.

14 31 A gwelodd Iſrael y grymmyſter mawꝛ yꝛ hwn a wnaeth yꝛ Arglwydd yn erbyn yꝛ Aihptiaid, a’r bôbl a ofnaſant yꝛ Arglwydd, ac a gerdaſant i’r Arglwydd ac iw wâs ef Moſes.

15 1 Yna y cânodd Moſes a meibion Iſrael y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefaraſant gan ddywedyd: canaf i’r Arglwydd canys gwnaeth yn rhagoꝛol iawn, taflodd y march ai farchog i’r môꝛ.

15 2 Fy nerth a’m cân [yw] ’r Arglwydd, ac y mae efe yn iechydwꝛiaeth i mi: dymma fy Nuw, efe a ogoneddafi, [dymma] Dduw fynhad, a mi ai derchafaf ef.

15 3 Yꝛ Arglwydd [ſydd] ryfe-wꝛ: yꝛ Arglwydd [yw] ei enw.

15 4 Efe a daflodd gerbydau Pharao ai fyddin yn y môꝛ: ai geptenniaid dewiſol a foddwyd yn y môꝛ côch.

15 5 Y dyfnderau ai toaſant hwynt: deſcynnaſant i’r gwaelod fel carrec.

15 6 Dy ddeheulaw Arglwydd ſydd ardderchoc o nerth: a’th ddeheu-law Arglwydd y dꝛylli y gelyn.

15 7 Yn amldꝛa dy ardderchawgrwydd y tynnaiſt i lawꝛ y rhai a gyfodaſant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaiſt [allan,] ac efe ai hyſſodd hwynt fel ſofl.

15 8 Drwy chwythad dy ffroenau y caſglwyd y dyꝛoedd, y ffrydau a ſafaſant fel pen-twꝛr: y dyfnderau a geulaſant yng-hanol y môꝛ.

15 9 Y gelyn a ddywedodd mi a erlidiaf, mi a ddaliaf, mi a rannaf yꝛ yſpail: caf fyng-wynfyd arnynt, tynna fyng-hleddyf, fy llaw ai goꝛeſcyn hwynt.

15 10 Ti a chwythaiſt a’th wynt y môꝛ ai tôawdd hwynt: ſoddaſant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

15 11 Pwy [ſydd] debyg i ti ô Arglwydd ymmhllith y duwiau’: pwy fel tydi yn rhagoꝛawl mewn ſancteiddꝛwydd’: yn ofnadwy o foliant. yn gwneuthur rhyfeddodau’:

15 12 Eſtynnaiſt dy ddeheulaw, llyngcodd y ddaiar hwynt.

15 13 Arweiniaiſt yn dy dꝛugaredd y bôbl y rhai a waredaiſt: yn dy nerth y tywyſaiſt [hwynt] i anneddle dy ſancteiddꝛwydd.

15 14 Y bobloedd a glyſant [ac] a ofnant: dolur a ddeil bꝛeſſwyl-wyꝛ Paleſtina.

15 15 Yna y ſynna ar ddugiaid Edom [a] hyꝛddod Moab, ofn ai deil hwynt: holl bꝛeſſwyl-wyꝛ Canaan a leſmeiriant.

15 16 Ofn ac arfwyd a ſyꝛth arnynt, gan fawꝛedd dy fraich y tawant fel carrec: nes myned trwodd o’th bôbl di Arglwydd, nes myned o’ꝛ bôbl y rhai a ennillaiſt di trwodd.

15 17 Ti ai dygi hwynt i mewn, ac ai plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiath, y lle a wnaethoſt ô Arglwydd yn anneddle it: y cyſſegc Arglwydd a ddarparodd dy ddwylaw.

15 18 Yꝛ Arglwydd a deyꝛnaſa byth, ac y ndꝛagwydd.

15 19 O herwydd meirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion a ddaethant i’r môꝛ, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môꝛ arnynt: ond meibion Iſrael aethant a’r dîr ſych dꝛwy ganol y môꝛ.

15 20 A Miriam y bꝛophydes chwaer Aaron a gymmerodd dympan yn ei llaw: a’r holl fenwyaid a aethant allan ar ei hol a thympanau, ac a phibellau.

15 21 A dywdodd Miriam wꝛthynt: cenwch i’r Arglwydd, canys gwnaeth yn ardderchog, beꝛriodd y march a’r marchog i’r môꝛ.

15 22 Yna Moſes a ddug Iſrael oddi wꝛth y môꝛ coch, ac aethant allan i anialwch Sur: a hwynt a gerddaſant dꝛi diwꝛnod yn yꝛ anialwch ac ni chawſant ddafr.

15 23 Pan ddaethant i Marah ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.

15 24 Yna ’r bobl aduchanaſant yn erbyn Moſes gan ddywedyd, beth a yfwn’ł

15 25 Ac efe a waeddodd ar yꝛ Arglwydd, a’r Arglwydd a ddangoſodd iddo ef bꝛenn, ac efe a fwꝛiodd [hwnnw] i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a hereiddiaſant: yno efe a oſododd iddo ddeddf, a chyfraith, ac efe ai pꝛofodd ef yno.

15 26 Ac a addywedodd, os gan wꝛando y gwꝛandewi di ar lais yꝛ Arglwydd dy Dduw,ac os gwnei di yꝛ hyn a fyddo inion yn ei olwg ef, a rhoddi cluſt iw oꝛchymynnion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef: ni roddaf arnat vn o’ꝛ clefydau y rhai a roddais ar yꝛ Aiphtiaid, o herwydd myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd dy iachawdur.

15 27 A daethant i Elim, ac yno ’r oedd deuddec ffynnon o ddwfr, a dec palm-wydden, a thꝛi vgain: a hwynt a werſſyllaſant yno wꝛth y dyfroedd.

16 1 Yna y ſammudaſant o Elim, a holl gynnulleidfa meibion Iſrael a ddaethant i anialwch Sin yꝛ hwn [ſydd] rhwng Elim a Sinai: ar y pymthecfed dydd o’ꝛ ail mîs wedi iddynt fyned allan o wlad yꝛ Aipht.

16 2 A holl gynnulleidfa meibion Iſrael, a duchanaſant yn erbyn Moſes, ac yn erbyn Aaron yn yꝛ anialwch.

16 3 Canis meibion Iſrael a ddywedaſant wꝛthynt, ô na buaſem feirw tann law ’r Arglwydd yng-wlad wꝛ Aipht’: pan oeddem yn eiſtedd wꝛth y crochanau cig ac yn bwyta bara ddigon: ond chwi a’n dygaſoch ni allan i’r anialwch hwn i ladd yꝛ holl dyꝛfa hon a newyn.

16 4 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, wele mi a lawiaf arnoch fara o’ꝛ nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gaſclant ddogn dydd yn ei ddydd, fel y gallwyf eu pꝛofi, a rodiant yn fyng-hyfriath ai nas [gwnant.]

16 5 Ond ar y chweched dydd y darparant yꝛ hynn a ddygan i mewn: a [hynny] fydd dau cymmeint i’r hynn a gaſclant beunydd.

16 6 Yna y dywedodd Moſes ac Aaron wꝛth holl feibion Iſrael: yn yꝛ hwyꝛ y cewch wybod mai ’r Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yꝛ Aipht.

16 7 Y boꝛau hefyd y cewch weled gogomant yꝛ Arglwydd, am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yꝛ Arglwydd: o herwydd beth [a allem] ni pan duchanaſoch i’n herbyn’:

16 8 Moſes hefyd a ddywedodd, yn yꝛ hwyꝛ y rhydd yꝛ Arglwydd i chwi gîg iw fwyta, a’r boꝛau fara ddigon, am glywed o’ꝛ Arglwydd eich tuchan chwi ’r hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth [allem] ni’: nid yn ein herbyn ni [yꝛ oedd eich tuchan, onid yn erbyn yꝛ Arglwydd.

16 9 A Moſes a ddywedodd wꝛth Aaron, dywet wꝛth holl gynnulleidfa meibion Iſraeldeuwch yn nes ger bꝛon yꝛ Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

16 10 Ac fel yꝛ oedd Aaron yn llefaru wꝛth holl gynnulleidfa meibion Iſrael, yna ’r edꝛychaſant tua ’r anialwch: ac wele gogoniant yꝛ Arglwydd a ymddangoſodd mewn niwl.

16 11 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd,

16 12 Clywais duchan meibion Iſrael, llefara wꝛthynt gan ddywedyd, yn y cyfnos y ewch fwyta cîg, a’r boꝛau i’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd eich Duw chwi.

16 13 Felly yn yꝛ hwyꝛ y ſofl-ieir a ddaethant ac o oꝛchguddiaſant y werſſyllfa: a’r boꝛeu yꝛ oedd caenen o wlith o amgylch y gwerſſyll.

16 14 A phan gododd y gaenen wlith: yna wele ar hyd wyneb yꝛ anialwch dippynnatt crynnion cyn faned a’r llwyd-ꝛew ar y ddaiar.

16 15 Pan welodd meibion Iſrael [hynny] yna y dywedaſant bob vn wꝛth ei gilydd Manna [yw] ef, canys in wyddent beth [ydoedd] efe: a dyedodd Moſes wꝛthynt, hwn yw y bara ’r hwn a roddodd yꝛ Arglwydd i chwi iw fwyta.

16 16 Hynn yw ’r peth a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd, ceſclwch o honaw bob vn yn ol ei fwyta: Gomer i bob vn yn ol rhifedi eich eneidiau, cymmerwch bob vn i’r rhai fyddant yn y gwerſſyll.

16 17 A meibion Iſrael a wnaethant felly: ac a gaſelaſant, rhai lawer a rhai ychydig.

16 18 Pan feſuraſant wꝛth y Gomer, yna nid oedd gweddill i’r hwn a gaſclaſe lawer, ac nid oedd eiſieu ar y hwn a gaſclaſe ychydig: caſclaſant bob vn yn ol ei fwyta.

16 19 Yna y dywedodd Moſes wꝛthyn: na weddilled neb ddim o honaw hyd y boꝛau.

16 20 Er hynny ni wꝛandawſant ar Moſes o nid gado a wnaeth rhai o honaw hyd y boꝛau, ac efe a fagodd bꝛyfed ac a ddꝛewodd: am hynny Moſes a ddigiodd wꝛthynt.

16 21 A hwynt ai caſclaſant ef bob boꝛau, pob vn yn ol ei fwytta: pan wꝛeſoge yꝛ haul efe a dodde.

16 22 Ac ar y chweched dydd y caſclent ddau cymmeint o’ꝛ bara, dau Omer i vn: a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant, ac a fynegaſant wꝛth Moſes.

16 23 Ac efe a ddywedodd wꝛthynt, hynn yw ’r peth a lefarodd yꝛ Arglwydd, y foꝛu [y mae] goꝛphywyſfa Sabboth ſanctaidd i’r Arglwydd: pobwch [heddyw] yꝛ hyn a boboch, a barwch yꝛ hyn a ferwoch, a goſodwch mewn cadwꝛaeth hyd y boꝛau yꝛ holl weddill.

16 24 A hwynt ai cadwaſant hyd y boꝛau fel y goꝛchymynnaſe Moſes: er hynny ni ddꝛewodd, ac nid oedd pꝛyf ynddo.

16 25 Yna y dywedodd Moſes bwytewch hwn heddyw, o blegit Sabboth [yw] heddyw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.

16 26 Chwe diwꝛnodd y ceſglwch chwi ef: a’r ſeithfed dydd [ſydd] Sabboth, ni bydd efe ar hwnnw.

16 27 Etto [rhai] o’ꝛ bobl aethane allan ar y ſeithfed dydd i gaſclu, ond ni chawſant ddim.

16 28 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes: pa hyd y gwꝛthodwch gadw fyng-oꝛchymynnion a’m cyfreithiau’:

16 29 Gwelwch mai ’r Arglwydd a roddodd i chwi Sabboth, am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dꝛos ddau ddydd: arhowch bawb gartref, nac aed vn oi le y ſeithfed dydd.

16 30 Felly y bobl a oꝛphywyſaſant y ſeithfed dydd.

16 31 A thŷ Iſrael a alwaſant ei henw ef Manna: ac efe oedd fel hâd Coꝛiander, yn wynn, ai flâs fel afrllad o fêl.

16 32 A Moſes a ddywedodd dymma y peth a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd, llanw Homer o honaw iw Homer o honaw iw gadw dꝛwy eich oeſoedd: fel y gwelant y bara a’r hwn y poꝛthais chwi yn yꝛ anialwch, pan i’ch dygais chwi allan o wlad yꝛ Aipht.

16 33 A Moſes a ddywedodd wꝛth Aaron, cymmer vn crochan a dod ynddo loned Gomer [o’ꝛ] Manna: a goſot ef ger bꝛon yꝛ Arglwydd yng-hadw dꝛwy ei oeſoedd.

16 34 Megis y goꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd i Moſes: felly y goſododd Aaron ef i gadw ger bꝛon y deſtiolaeth.

16 35 A meibion Iſrael a fwytawſant y Manna ddeugain mhlynedd nes eu dyfod i dîr ryfanneddol: y Manna a fwytawſant nes eu dyfod i gwꝛr gwlad Canaan.

16 36 A’r Gomer ydoedd ddecfed rann Epha.

17 1 A holl gynnulleidfa meibion Iſrael a aethant ar eu taith o anialwch Sin wꝛth oꝛchymyn yꝛ Arglwydd: ac a werſſyllaſant yn Raphidim lle nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.

17 2 Am hynny y bobl a ymgyahennaſant a Moſes, ac a ddywedaſant, rhoddwch i ni ddwfr i yfed: a dywedodd Moſes wꝛthynt pa ham yꝛ ymgynhennwch a mi i’: pa ham y temptiwch yꝛ Arglwydd’:

17 3 A’r bobl a ſychedodd yno am ddwfr, a thuchanodd y bobl yn erbyn Moſes: ac a ddywedaſant, pa ham y peraiſt i ni ddyfod i fynu o’ꝛ Aipht fel hyn i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid a ſyched’:

17 4 A Moſes a lefodd ar yꝛ Arglwydd gan ddywedyd, beth a wnaf i’r bobl hyn’: [aros] etto y chydic a hwynt a’m llabyddiant.

17 5 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, dos o flaen y bobl a chymmer gyd a thi o henuriaid Iſrael: cymmer hefyd dy wialen yn dŷ law yꝛ hon y tarewaiſt yꝛ afon a hi, a cherdda.

17 6 Wele mi a ſafaf o’th flaen ar y graic yn Hoꝛeb, taro dithe y graig a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed: A Moſes a wnaeth felly yng-olwg henuriaid Iſrael.

17 7 Ac efe a alwodd henw y lle Maſſah a Meribah: o achos cynnen meibion Iſrael ac am iddynt demtio yꝛ Arglwydd gan ddywedyd, a ydyw yꝛ Arglwydd yn ein plith, ai nid [yw’:]

17 8 Yna y daeth Amalec: ac a ymladdodd ag Iſrael yn Raphidim.

17 9 A dywedodd Moſes wꝛth Ioſua, dewis i ni wŷꝛ, a dos allan a rhyfela yn erbyn Amalec: y foꝛu mi a ſafaf ar benn y bꝛynn a gwialen Dduw yn fy llaw.

17 10 Felly Ioſua a wnaeth fel y dywedodd Moſes wꝛtho am ryfela yn erbyn Amalec: a Moſes, Aaron, a Hur a aethant i fynu ibenn y bꝛynn.

17 11 A phan gode Moſes ei law y bydde Iſrael yn dꝛechaf: a phan adawe ef ei law yn llonydd Amalec a fydde dꝛechaf.

17 12 A dwylaw Moſes oeddynt dꝛymmion, am hynny y cymmeraſant faen, ac ai goſodaſant tano ef, ac efe a eiſteddodd arnaw: ac Aaron a Hur a attegaſant tan ei ddwylaw ef, vn ar y nailltu a’r llall ar y tu arall, felly y bu ei ddwylaw ef ſythion nes machludo haul.

17 13 Ac Ioſua a wanhâodd Amalec at bobl a min y cleddyf.

17 14 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes ſcrifenna hynn mewn llyfr yn goffadwꝛiaeth a mynega i Ioſua: canys gan ddeleu y deleaf goffadwꝛiaeth Amalec oddi tann y nefoedd.

17 15 A Moſes a adailadodd alloꝛ: ac a alwodd ei henw hi, yꝛ Arglwydd [yw] fy maner.

17 16 Canys efe a ddywedodd fod llaw ar oꝛſedd-faingc yꝛ Arglwydd [ac y bydd] i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.

18 1 Pan glywodd Iethꝛo offeiriad Midian chwegrwn Moſes yꝛ hyn oll a wnaethe Duw i Moſes, ac i Iſrael ei bôbl: a dwyn o’ꝛ Arglwydd Iſrael allan o’ꝛ Aipht,

18 2 Yna y cymmerodd IEthꝛo chwegrwn Moſes Sephoꝛa gwꝛaig Moſes: (wedi ei hebꝛwng hi [atto.)]

18 3 Ai dau fâb hi: o ba rai henw vn [oedd] Gerſhom o blegit efe a ddywedaſe dieithꝛ ydwyf mewn gwlâd eſtronol.

18 4 Ac enw y llal [oedd] Eliezer: o herwydd Duw fy nhâd [oedd] yn gynnoꝛthwy i mi [ebꝛ efe] ac a’m hachubodd rhac cleddyf Pharao.

18 5 A daeth Iethꝛo chwegrwn Moſes, at Moſes, ai feibion, ai wꝛaig i’r anialwch, lle ’r ydoedd efe yn gwerſſyllu [ger llaw] mynydd Duw.

18 6 Ac efe a ddywedodd wꝛth Moſes, myfi Iethꝛo dy chwegrwn ſydd yn dyfod attat: a’th wꝛaig, ac ai dau fâb gyd a hi.

18 7 Yna ’r aeth Moſes allan i gyfarfod ai rhegrwn, ac a ymgrymmodd, ac at cuſſanodd, a chyfarchaſant bôb vn iw gilydd: a daethant i’r babell.

18 8 Yna Moſes a fynegodd iw chwegrwn yꝛ hyn oll a wnaethe’r Arglwydd i Pharao, ac i’r Aiphtiaid er mwyn Iſrael: a’r holl flinder yꝛ hyn a gawſent a’r y ffoꝛdd, ac achub o’ꝛ Arglwydd hwynt.

18 9 A llawenychodd IEthꝛo o herwydd yꝛ holl ddaioni a’r a wnaethe ’r Arglwydd i Iſrael: [ac] a’m ei waredu ef o law ’r Aiphtiaid.

18 10 A dywedodd Iethꝛo, bendigedic [fyddo] yꝛ Arglwydd yꝛ hwn a’ch gwaredodd o law ’r Aiphtiaid, ac o law Pharao: yꝛ hwn [hefyd] a waredodd y bôbl oddi tann law ’r Aiphtiaid.

18 11 Yn awꝛ y gwn mai mwy ydyw ’r Arglwydd na’r holl Dduwiau: o blegit yn y peth yꝛ oeddynt falch o honaw [yꝛ aeth efe] arnynt.

18 12 Yna Iethꝛo chwegrwn Moſes a gymmerodd hoeth offrwm, ac ebyꝛth i Dduw: a daeth Aaron a holl henuriaid Iſrael i fwyta bara gyd a chwegrwn Moſes ger bron Duw.

18 13 A Moſes a eiſteddodd dꝛannoeth i farnu y bôbl a ſafodd y bôbl gyd a Moſes o’ꝛ boꝛau hyd yꝛ hwyꝛ.

18 14 A phan welodd chwegrwn Moſes yꝛ hyn oll a’r y ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bôbl: yna fefe a ddywedodd, pa beth [y] hy yꝛ ydwyt ti yn ei wneuthur i’r bôbl’: pa ham yꝛ eiſteddi dy hun, ac y ſaif yꝛ holl bôbl gyd athi o’ꝛ boꝛau hyd yꝛ hwyꝛ’:

18 15 A dywedodd Moſes wꝛth ei chwegrwn: am i’r bôbl ddyfod attaf i ymgynghoꝛi a Duw.

18 16 Pan fyddo iddynt achos attafi y deuant, a myfi ydwyf yn barnu rhwng pawb ai gylydd: ac yn yſbyſſu deddfau Duw ai gyfreithiau.

18 17 A dywedodd chwegrwn Moſes wꝛtho: nit da y peth yꝛ hwn yꝛ ydwyt ti yn ei wneuthur.

18 18 Llwyꝛ ddeffygi di, a’r bôbl ymma hefyd y rhai ydynt gyd a thi: canys rhy-dꝛwm yw y peth i ti, ni elli di ei wneuthur ef dy hun.

18 19 Gwꝛando ar fy llais yn awꝛ, mi a’th gynghoꝛaf â bydd Duw gyd a thi: bydd di dꝛos y bôbl ger bꝛon Duw, a dug di eu hachoſion at Dduw.

18 20 Dyſc hefyd iddynt y deadfau a’r cyfraithiau: ac hyſbyſa iddynt y ffoꝛdd a rodiant ynddi, a’r weithꝛedoedd y rhai a wnant.

18 21 Ac edꝛych dithe allan o’ꝛ holl bobl am wŷꝛ nerthol yn ofni Duw, gwŷꝛ geirwir yn caſſau cynbydd-dod: a goſot [y rhai hyn] arnynt hwy, yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, ac yn bennaethiaid ar ddegau a deugain, ac yn bennaethiaid a’r ddegau.

18 22 A barnant hwy y bôbl bôb amſer, ond dygant bôb peth mawꝛ attatti, a barnant eu hun bôb peth bychan: felly yſcaſnhâ di [y baich] oddi arnat dy dhun, a chyd ddygant hwythau a thi.

18 23 Os y peth hynn ai oꝛchymyn o Dduw i ti, yna ti a elli barhau: a’r holl bobl hyn a ddeuant iw lle yn llwyddiannus.

18 24 A Moſes a wꝛandawodd ar lais ei chwegrwn: ac a wnaeth yꝛ hyn oll a ddywedodd efe.

18 25 Canys Moſes a ddewiſodd wŷꝛ grymmus allan o holl Iſrael, ac ai rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl: yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, yn bennaethiaid ar ddegau.

18 26 A hwynt a farnaſant y bol bob amſer: y peth caled a ddygent at Moſes, a phob peth bychan a farnent hwy.

18 27 Wedi hynny Moſes a ollyngodd ymmaith ei chwegrwn: ac efe aeth adꝛef iw wlâd.

19 1 Yn y trydydd mîs wedi dyfod meibion Iſrael allan o wlâd yꝛ Aipht: y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

19 2 Canys hwy a aethant o Raphidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwerſſyllaſant hefyd yn yꝛ anialwch: ſef yno y gwerſſyllodd Iſraell (\sic) ar gyfer y mynydd.

19 3 A Moſes aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’ꝛ mynydd, gan ddywedyd, fel hyn y dywedi wꝛth dŷ Iacob, ac y mynegi wꝛth feibion Iſrael.

19 4 Chwi a welſoch yꝛ hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid: modd y codais chwi ar adenydd cryrod, ac i’ch dygais chwi attafi.

19 5 Yn awꝛ gan hynny os gan wꝛando y gwꝛandewch ar fy llais, a chadw fyng-hyfammod: byddwch yn dlws cuach gennifi na'r holl bobloedd, canys eiddo fi yꝛ holl fyd.

19 6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhenlaeth ſanctaidd: dymma y geiriau y rhai a leferi di wꝛth feibion Iſrael.

19 7 Yna y daeth Moſes, ac a alwodd am henuriaid y bobl: ac a oſododd ger eu bꝛonnau hwynt, yꝛ holl eiriau hyn, y rhai a oꝛchymynnaſe ’r Arglwydd iddo.

19 8 A’r holl bobl a gyd attebaſant, ac a ddywedaſant, nyni a wnawn yꝛ hyn oll a lefarodd yꝛ Arglwydd: a Moſes a ddug trachefn eiriau ’r bobl at yꝛ Arglwydd.

19 9 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, wele mi a ddeuaf attat mewn niwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf a thi, ac fel y credant it byth: a Moſes a fynegaſe eiriau ’r bobl i’r Arglwydd.

19 10 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddyweodd wꝛth Moſes, dos at y bobl a ſancteiddia hwynt heddyw ac y foꝛu: a golchant eu dillad.

19 11 Fel y byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y deſcyn yꝛ Arglwydd yngolwg yꝛholl bobl, ar fynydd Sinai.

19 12 A Goſot derfyn i’r bobl o amgylch gan ddywedyd, gwiliwch arnoch rhac myned i fynu i’r mynd, neu gyffwꝛdd ai gwꝛr ef: pwy bynnac a gyffyꝛddo a’r mynydd a leddir yn farw.

19 13 Na chyffyꝛdded llaw ag ef, onid gan labyddio llabyddier ef, neu gan ſaethu ſaether ef: pa vn bynnac ai dyn ai anifail na chaed fyw, pan gano ’r vdcoꝛn yn hir-llaes, deuant i’r mynydd.

19 14 Yna Moſes a ddeſcynnodd o’ꝛ mynydd at y bobl: ac a ſancteiddiodd y bobl, a hwynt a olchaſant eu dillad.

19 15 Ac efe a ddywedodd wꝛth y bobl, byddwch barod erbyn y trydydd dydd: nac ewch yn agos at wꝛaig.

19 16 A’r trydydd dydd ar y boꝛeuddydd yꝛ oedd taranau, a mellt, a niwl trwm ar y mynydd, a llais, yꝛ vdcoꝛn ydoedd gryf iawn: fel y dychꝛynnodd yꝛ holl bobl y rhai [oeddynt] yn y gwerſſyll.

19 17 A Moſes a ddug y bobl allan o’ꝛ gwerffyll i gyfarfod a Duw: a hwynt a ſafaſant yng-odꝛe y mynyd.

19 18 A mynydd Sinai a fygodd ei gyd, o herwydd deſcyn o’ꝛ Arglwydd arno mewn tân: ai fwg a dderchafodd fel mwg ffwꝛn, a’r holl fynydd a grynnodd yn ddirfawꝛ.

19 19 Pan ydoedd llais yꝛ yvdcoꝛn yn myned, ac yn cryfhau yn odiaeth: Moſes a lefarodd, a Duw a attebodd mewn llais.

19 20 A’r Arglwydd a ddeſcynnodd ar fynydd Sinai, ar benn y mynydd: a galwodd yꝛ Arglwydd a’r Moſes i benn y mynydd, ac aeth Moſes i fynu.

19 21 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes dos i wared teſtialaetha i’r bobl: rhac iddynt ruthꝛo at yꝛ Arglwydd {Arglwyd} i weled, a chwympo llawer o honynt.

19 22 Ac ymſancteiddied yꝛ offeiriaid hefyd, y rhai a neſſânt at yꝛ Arglwydd: rhac i’r Arglwydd ruthꝛo arnynt.

19 23 A dywedodd Moſes wꝛth yꝛ Arglwydd, ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynydd Sinai: o blegit ti a deſtiolaethaiſt wꝛthym gan ddywedyd, terfyna y mynydd, a ſancteiddia ef.

19 24 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛtho, dos cerdda i wared, a thyꝛet ti i fynu ac Aaron gyd a thi: ond na ruthꝛed yꝛ offeiriaid a’r bobl i ddyfod i fynu at yꝛ Arglwydd, rhac iddo yntef ruthꝛo o arnynt hwy.

19 25 Yna’r aeth Moſes i wared at y bobl, ac a ddywedodd wꝛthynt.

20 1 A Duw a lefarodd yꝛ holl eiriau hyn gan ddywedyd.

20 2 Myſi [ydwyf] yꝛ Arglwydd dy Dduw: yꝛ hwn a’th ddygais di allan o wlad yꝛ Aipht, o dŷ y caethiwed.

20 3 Na fydded it dduwiau eraill ger fy mrō i.

20 4 Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a’r [y ſydd] yn y nefoedd oddi vchod, nac a’r y [ſydd] yn y ddaiar oddi iſod: nac a’r [y ſydd] yn y dwfr oddi tann y ddaiar.

20 5 Nac ymgrymma iddynt, ac na waſanaetha hwynt: o blegit myfi yꝛ Arglwydd dy Duw [ydwyf] Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dꝛydedd a’r bedwaredd [genhedlaeth] o’ꝛ rhai a’m caſânt.

20 6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd: o’ꝛ rhai a’m carant, ac a gadwant fyng-oꝛchymynnion.

20 7 Na chymmer enw yꝛ Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yꝛ Arglwydd yꝛ hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

20 8 Coſia y dydd Sabboth iw ſancteiddio ef.

20 9 Chwe diwꝛnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith.

20 10 Onid y ſeithfed dydd [yw] Sabboth yꝛ Arglwydd dy Dduw: na wna [ynddo] ddim gwaith, tydi na’th fab, na’th ferch, na’th wâſanaethwꝛ na’th {nath} waſanaeth-ferch, na’th anifailm na’th ddieithꝛ-ddyn yꝛ hwn a fyddo o fewn dy byꝛth.

20 11 O herwydd [mewn] chwe diwꝛnod y gwnaeth yꝛ Arglwydd y nefoedd, ar ddaiar, y môr, a’r hyn oll [ſydd] ynddynt, ac a oꝛphywyſodd y ſeithfed dydd: am hynny y bendithiodd yꝛ Arglwydd y dydd Sabboth, ac ai ſancteiddiodd ef.

20 12 Anrhydedda dy dad a’th fam: fel yꝛ eſtynno dy ddyddiau ar y ddaiar yꝛ hon y mae yꝛ Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

20 13 Na ladd.

20 14 Na wna odineb.

20 15 Na ledꝛatta.

20 16 Na ddwg gamm deſtiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

20 17 Na chwennych dŷ dy gymydog: na chwennych wꝛaig dy gymydog, nai waſanaethwꝛ, nai waſanaeth ferth, nai ŷch nai aſſyn, na dim ar [ſydd] eiddo dy gymydog.

20 18 A’r holl bobl a welſant y taranau, a’r mellt, a ſain yꝛ vdcoꝛn, a’r mynydd yn mygu: pan welodd bobl yna y ciliaſant, a ſafaſant o hîr-bell.

20 19 A dywedaſant wꝛth Moſes, llefara di wꝛthym ni, ac nyni a wꝛandawn: ond na lefared Duw wꝛthym, rhag i ni farw.

20 20 Yna y dywedodd Moſes wꝛth y bobl, nac ofnwch o herwydd ich pꝛofi chwi y daeth Duw: ac i fod ei ofn ef ger eich bꝛonnau, fel na phechech.

20 21 A ſafodd y bobl o hirbell: a neſſaodd Moſes i’r cwmmwl lle [yꝛ ydoedd] Duw.

20 22 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes, fel hyn y dywedi wꝛth feibion Iſrael: chwi a welſoch mai o’ꝛ nefoedd y lleferais wꝛthich.

20 23 Na wnewch [Dduw arall] gyd a mi na wnewch i chwi dduwiau arian, na duwiau aur.

20 24 Gwna di i mi alloꝛ bꝛidd, ac abertha arni dy boeth offrymmau, a’th ebyꝛth hedd, dy ddefaid, a’th eidionnau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwꝛiaeth o’m henw, y deuafattat, ac i’th fendithiaf.

20 25 Ond os gwnei i mi alloꝛ gerric na nâdd y rhai hynny: pan gottech dy foꝛthwyl arni ti ai halogaiſt.

20 26 Ac na ddos i fynu ar hyd griſſiau i’m halloꝛ: fel nad amlyger dy noethni wꝛthi hi.

21 1 Dymma y barnedigaethau y rhai a oſodi ger eu bꝛon hwynt.

21 2 Os pꝛynni wâs o Hebꝛæad, gwaſanaethed chwe blynedd: a’r ſeithfed y caiff yn rhâd fyned ymmaith yn rhydd.

21 3 Os ar ei benn ei hun y daeth, ar ei benn ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwꝛaig fydd efe, aed ei wꝛaig allan gyd ag ef.

21 4 Os ei feiſtr a rydd wꝛaig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched: bydded y wꝛaig ai phlant iw meiſtr, ac aed efe allan ar ei benn ei hun.

21 5 Ac os y gŵas gan ddywedyd a ddywed hoff gennifi fy meiſtr, fyng-wꝛaig a’m plant: nid afi allan yn rhydd.

21 6 Yna dygwed ei feiſter ef at y ſwyddogion a dyged ef at y ddôꝛ, neu at yꝛ oꝛſyn: a thylled ei feiſtr ei gluſt ef a mynawyd, a gwaſanaethed ef byth.

21 7 Ac os gwerth gŵꝛ ferch yn foꝛwyn gaeth: ni chaiff hi fyned allan fel yꝛ el y gweiſion allan.

21 8 Os heb ryglyddu bodd yng-olwg ei meiſter y bydd fel na chymmero efe hi yn ddyweddi, yna gadawed ei hadbꝛynnu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithꝛ, wedi ido ef ei thwyllo hi.

21 9 Ond os iw fab y dyweddia efe hi: gwnaed iddi yn ol deddf y merched.

21 10 Ac os arall a bꝛioda efe: na wnaed yn llai ei bymboꝛth, ei di llad, nai hiawn.

21 11 Ac os y trî hynn nis gwna efe iddi: yna aed hi allan yn rhad heb arian.

21 12 Rhodder i farwlaeth y neb a darawo wꝛ fel y byddo marw.

21 13 Ond yꝛ hwn ni chynllwynodd [y dŷn] onid rhoddi o Dduw a chlyſur iw law, mi a oſſodaf it fann lle y caffo ffoi.

21 14 A phan wnelo vn yn dꝛahaus ai gymydog gan ei ladd ef trwy dwyll: cymmer ef i farwlaeth oddi wꝛth fy alloꝛ.

21 15 Rhodder i farwolaeth yꝛ hwn a darawo ei dad, neu ei fam.

21 16 Rhodder i farwolaeth yꝛ hwn a ledꝛadhao ddŷn, ac ai gwertho, os ceir arno.

21 17 Rhodder i farwolaeth yꝛ hwn a felldithio ei dad neu ei fam.

21 18 A phan ymryſſono dynion a tharo o’ꝛ naill y llall a charrec, neu a dwꝛn: ac efe hela farw, onid goꝛfod iddo oꝛwedd,

21 19 Os cyfyd efe a rhodio allan wꝛth ei ffonn yna y tarawydd a fydd yn ddihawl: yn vnic rhodded ei golled ain ei waith, a chan feddiginaethu meddiginiathed ef.

21 20 Ac os teru vn ei waſanaeth-wꝛ, neu ei waſanaeth-ferch a gwialen fel y byddo farw tann ei law ef: gan ddial dialer arno.

21 21 Ond os erys ddiwꝛnodneu ddau ddiwꝛnod, na ddialer arno, canys [gwerh] ei arian ei hun ydoedd efe.

21 22 Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wꝛaig feichiog fel yꝛ el ei beichiogi oddi wꝛthi, ac heb fod marwolaeth: gan ddirwyo dirwyer ef fel y goſodd perchen y wꝛaig arno, a rhodded [hynny] trwy farn-wŷꝛ.

21 23 Ac os marwolaeth fydd: rhodder enioes am enioes.

21 24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am dꝛoed.

21 25 Lloſcam am loſc, archoll am archoll, a chlais am glais.

21 26 Os teru vn lygad ei waſanaeth-wꝛ, neu ei waſaneth-ferch fel y llygro ef: gollynged ef yn rhydd am ei lygad.

21 27 Ac os tyꝛt*** efe ddant ei waſanaeth-wꝛ, neu ddant ei waſanaeth-ferch: gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

21 28 Ac os ŷch a goꝛnia ŵr, neu wꝛaig fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yꝛ ŷch, ac na fwytaer ei gîg ef, ac aed perchen yꝛ ŷch yn rhydd.

21 29 Ond os yꝛ ŷch oedd yn coꝛnio o’ꝛ blaen, a [hynny] yn hyſpyſ iw berchennog, ac efe heb ei gadw, ond lladd o honaw ŵr neu wꝛaig: yꝛ ŷch a labyddir, ai berchennog a roddit ifarwolaeth.

21 30 Os iawn a roddir arnaw, rhodded werth am ei enioes, yn ol yꝛ hyn oll a oſſodir arno.

21 31 Os mab neu ferch a goꝛnia efe: gwneler iddo yn ol y gyfraith hon.

21 32 Ond os gwaſanaeth-wꝛ, neu waſanaethferch a goꝛnia ’r ŷch: rhodder iw berchennog ddec ſicl ar hugain o arian, a llabyddier yꝛ ŷch.

21 33 Ac os egyꝛ gŵr bydew, neu os cloddia vn bydew, ac heb gaeu arno: a ſyꝛthio yno ŷch neu aſſyn,

21 34 Perchen y pydew a dâl [am dano,] arian a dâl efe iw berchennog, a’r [anifail] marw a fydd eiddo yntef.

21 35 Ac os ŷch gwꝛ a deru ŷch ei gymydog fel y byddo efe farw: yna gwerthant yꝛ ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r [ŷch] marw a rannant hefyd.

21 36 Neu os dangoſwyd mai ŷch hwylioc ydoedd efo o’ꝛ blaen, ai berchennog heb ei gadw ef: gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw eiddo ef.

22 1 Os lledꝛatta vn ŷch, neu ddafad ai ladd neu ei werthu, taled bum ŷch am ŷch, a phedair dafad, am ddafad.

22 2 Os ceir lleidꝛ yn toꝛri tŷ, ai daro fel y bydda farw, na [thynner] gwaed am dano.

22 3 Os bydd haul wedi codi arno [tynner] gwaed am dano: cwbl daled [y lleidꝛ,] oni bydd ganddo [beth i dalu] gwerther ef am ei ledꝛat.

22 4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lledꝛat yn fyw o eidion neu aſſyn, neu ddafad, taled yn ddwbl.

22 5 Os pawꝛ vn faes, neu win-llan, ac anfon ei anifail i boꝛi maes vn arall, taled o’ꝛ hyn goꝛef yn ei faes, ac o’ꝛ hyn goꝛef yn ei winllan.

22 6 Os tân a dyꝛr allan, ac a gaiff afel ar ddꝛain, fel y difaer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei dꝛoed neu faes: cwbl daled yꝛ hwn a gynneuodd y tân.

22 7 Os rhydd vn iw gymydog arian, neu ddodꝛefn i gadw, ai ledꝛatta o dŷ ĵr gŵr, os y lleidr a geir taled yn ddwbl.

22 8 Os y lleidꝛ ni cheir, duger perchennog y tŷ at y ſwyddogion [i dyngu,] a eſtynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.

22 9 Am bob ſarhaed, am eidion, am aſſyn, am ddafad, am ddilledyn, [ac] am bob peth a gollo ’r hwu y dywedo [vn mai] hwnnw yw efe: deued achos y ddau ger bꝛon y ſwyddogion, a’r hwn y barno y ſwyddogion yn ei erbyn taled iw gymydog yn ddwbl.

22 10 Os rhydd vn aſſyn, neu eidion, neu ddafad, neu vn anifail at ei gymydog i gadw, a marw o honaw, neu ei friwo, neu ei ddwyn o anfodd heb neb yn gweled:

22 11 Bydded llŵ’r Arglwydd rhyngddynt ill dau, a eſtynnodd [y ceidwad] ei law ar dda ei gymydog: a chymmered ei berchennog [hynny] ac na wnaed [y llall] iawn,

22 12 Os gan ledꝛatta y ledꝛatteuir ef oddi wꝛtho gwnaed iawn iw berchennog, os gayſclyfaethu yꝛ yſclyfaethir ef, dyged ef yndeſtiolaeth, [ac] na thaled am yꝛ hwn a yſclyfaethwyd.

22 13 Ond os benthygia vn gan ei gymydog [ddim] ai friwo, neu ei farw, heb [fod] ei berchennog gyd ag ef: gan dalu taled.

22 14 Os ei berchennoc [fydd] gyd ac ef: na wnaed iawn: os llôg [yw] efe, am ei lôg y daeth.

22 15 Ac os huda vn foꝛwyn yꝛ hon ni ddyweddiwyd, a goꝛwedd gyd a hi: gan gyneſcaeddu cynheſcaedded hi’n wꝛaig iddo ei hun.

22 16 Os ei thad a lwyꝛ wꝛhyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol moꝛwynion.

22 17 Na chaffed rheibies fyw.

22 18 Llwyꝛ rodder i farwolaeth bôb vn a oꝛweddo gyd ag anifail.

22 19 Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn vnic.

22 20 Na oꝛthꝛymma, ac na flina y dieithꝛ, canys dieithꝛaid fuoch yn nhîr yꝛ Aipht.

22 21 Na oꝛthꝛymmwch vn weddw, nac ymddifad.

22 22 Os gwnewch iddo ddim blinder (canys os gwaedda ddim arnaf, mi a lwyꝛ wꝛandawaf ei waedd ef.)

22 23 Fy nigofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf a’r cleddyf, a bydd eich gwꝛagedd yn weddwon, a’ch plant yn ymddifaid.

22 24 Os nechwyni arian i’m pobl y rhai [ydynt] gyd a thi: na fydd fel occrwꝛ iddynt, na ddod ti vſuriaeth arnynt.

22 25 Os cymmeri ddilledyn dy gymydog ar wyſtl, dyꝛo ef adꝛef iddo erbyn machludo haul.

22 26 O herwydd hynny yn vnic [ſydd] iw roddi arno ef, hwnnw yw ei ddilledyn am ei groef: mewn pa beth y goꝛwedd’: a bydd os gwaedda efe arnaf im wꝛando, canys trugarog ydwyf.

22 27 Na chabla ſwyddogion, ac na felldithia bennaeth dy bobl.

22 28 Nac oeda [dalu] dy ffewythau ſychion, a gwlybion, dod ti i mi y cyntaf-anedic o’th feibion.

22 29 Felly y gwnei am dy eidion [ac] am dy ddafad, ſaith niwꝛnod y bydd gyd ai fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

22 30 A byddwch yn ddynion ſanctaidd i mi, ac na fwyttewch gîg wedi yſclyfaethu yn y maes, teflwch ef i’r cî.

23 1 Na chyfot enllib, na ddod ti dy law gyd a’r anuwiol i fod yn ddyſt anwir.

23 2 Na ddilyn y rhai amlaf i wneuthur dꝛwg, ac nac atteb mewn ymrafael gan bwyſſo yn ol llaweroedd [a] chan wyꝛo.

23 3 Na pharcha y tlawd y chwaith yn ei ymrafael.

23 4 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu ai aſſyn yn myned ar gyfergoll, dychwel ef adꝛef iddo.

23 5 Os gweli aſſyn yꝛ hwn a’th gaſſaa (\sic) di yn goꝛwedd dann ei phwn: paid a gadel iddi, gan gynnoꝛthwyo cynnoꝛthwya gyd ag ef.

23 6 Na wyꝛa farn dy dlawd yn ei ymrafael.

23 7 Ymgadw ym mhell oddi wꝛth ffalſter, na ladd y chwaith na’r gwirion, na’r cyfiawn, canys ni chyfiawnhafi ’r anuwiol.

23 8 Na dderbyn wobꝛ, canys gwobꝛ a ddalla y rhai ſydd yn gweled, ac a wyꝛa eiriou y cyflawn.

23 9 Na oꝛthꝛymma y dieithꝛ, chwi a wyddoch galon y diethꝛ: o herwydd chwi a fuoch ddiethꝛaid yn nhîr yꝛ Aipht.

23 10 Chwe blynedd yꝛ heui dy dîr, ac y ceſgli ei ffrwyth.

23 11 A’r ſeithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd fel y caffo tlodion dy bobl fwytta, a bwyttaed hwyſt-fil y maes eu gweddill gwynt: felly y gwnei am dy win-llan [ac] am dy oliwydden.

23 12 Chwe diwꝛnod y gwnei dy waith, ac ar y ſeithfed dydd y goꝛphywyſi: fel y caffo dy ŷch a’th aſſyn lonyddwch, ac y cymmero mâb dy foꝛwyn gaeth a’r dieithꝛ ddŷn ei anadl atto.

23 13 A Ac ymgedwch ym mhôb peth a ddywedais wꝛthich, na choffewch enw duwiau eraill, na clywer [hynny] o’th enau.

23 14 Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi.

23 15 Gŵyl bara criow a gedwi ſaith niwꝛnod y bwyttei fara croiw, fel y goꝛchymynnais it: ar yꝛ amſer goſſodedic o fîs Abib, canys ynddo y daethoſt allan o’ꝛ Aipht, ac na ymddangoſed [neb] ger fy-mron yn waglaw.

23 16 A gŵyl cynhaiaf blaen-ffrwyth dy lafur yꝛ hwn a heuaiſt yn y maes, a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy lafur o’ꝛ maes.

23 17 Tair gwaith yn y flwyddyn yꝛ ymddengys dy holl yꝛfiaid ger bꝛon yꝛ Arglwydd Ioꝛ.

23 18 Nac abertha waed fy aberth ar fara lefeinllyd: ac nac arhoed bꝛaſder fy aberth dꝛos nôs hyd y boꝛau.

23 19 Dŵg i dŷ ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaen-ffrwyth dy dîr: na ferwa fynn yn llaeth ei fam.

23 20 Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffoꝛdd: ac i’th arwain i’r man yꝛ hwn a baratoais.

23 21 Gwilia rhagddo, a gwꝛando ar ei lais ef, na chyffroa ef: canys ni ddioddef efe eich anwiredd o blegit [y mae] fy enw ynddo ef.

23 22 Os gan wꝛando y gwꝛandewi ar ei lais ef, a gwneuthur cwbl a lefarwyf, mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wꝛhwyneba dy wꝛthwyneb-wyꝛ.

23 23 O herwydd fy angel a aiff o’th flaen di ac a’th ddŵg di at yꝛ Amoꝛiaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yꝛ Hefiaid, a’r Iebuſiaid: a mi ai difethaf hwynt.

23 24 Nac ymgrymma iw duwiau hwynt, ac na waſanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithꝛedoedd hwynt, onid tynn hwynt i lawꝛ, a dꝛyllia eu delwau hwynt.

23 25 A chwi a waſanaethwch yꝛ Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr, a mi a dynnaf ymmaith [bob] clefyd o’th fyſc.

23 26 Ni bydd yn dy dîr di a gollo ei beichiogi, nac vn ni allo blanta, mi a gyflaenaf rifedidy ddyddiau.

23 27 Mi a anfonaf fy arſwyd o’th flaen, ac a laddaf yꝛ holl bobl y rhai y deui attny, ac a roddaf wegil dy holl elynion tuag attat.

23 28 A mi a anfonaf gaccwn o’th flaen, a hwynt a yꝛrant yꝛ Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid allan o’th flaen di.

23 29 Ni yꝛraf hwynt oddi wꝛthit mewn vn flwyddyn: rhac bôd y wlâd yn ddiffaethwch ac i fwyſt-filod y maes fyned yn amlach na thi.

23 30 O feſur ychydic, ac ychydic, yn gyꝛraf hwynt allan o’th flaen di, nes iti gynnyddu, ac ettifeddu y tîr.

23 31 A goſſodaf dy derfyn o’ꝛ môr côch, hyd fôr y Philiſtiaid, ac o’ꝛ diffaethwch hyd yꝛ afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant bꝛeſſwylwyꝛ y tîr, a thi ai gyꝛri hwynt allan o’th flaen di.

23 32 Na wna ammod a hwynt, nac ai duwiau.

23 33 Na âd iddnyt dꝛigo yn dy wlâd, rhac iddynt beri it bechu im herbyn: canys os gwaſanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd [hynny] yn dꝛamgwydd i ti.

24 1 Ac efe a ddywedodd wꝛth Moſes tyꝛet i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab, ac Abihu, a’r dec a thꝛugiain o henuriaid Iſrael: ac addolwch o hir-bell.

24 2 Ac aed Moſes ei hun at yꝛ Arglwydd, at na ddeuant hwynt, ac nac aed y bobl i fynu gyd ag ef.

24 3 Yna y daeth Moſes, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau ’r Arglwydd, a’r holl farnedigaethau: ac attebodd yꝛ holl bobl yn vn air, ac a ddywedaſant, ni a wnawn yꝛ holl eiriau y rhi a lefarodd yꝛ Arglwydd.

24 4 A Moſes a ſcrifennodd holl eiriau ’r Arglwydd, ac a gododd yn foꝛau, ac a adailadodd alloꝛ iſlaw y mynydd, a denddêc colofn, yn ol deuddêc llwyth Iſrael.

24 5 Ac efe a anfonodd llangciau meibion Iſrael a hwynt a offrymmaſant boeth offrymmau, ac a berthaſant fuſtych yn ebꝛyth hedd i’r Arglwydd.

24 6 A chymmerodd Moſes hanner y gwaed, ac ai goſſododd mewn caugiau, a’r hanner [arall] i’r gwaed a daenellodd efe ar yꝛ alloꝛ.

24 7 Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac ai darllenodd lle y clywe y bobl, a dywedſant ni a wnawn, ac a wꝛandawn yꝛ hyn oll a lefarodd yꝛ Arglwydd.

24 8 A chymmerodd Moſes y gwaed, ac ai tanellodd ar y bobl, ac a ddywedodd wele waed y cyfammod yꝛ hwn a wnaeth yꝛ Arglwydd a chwi, yn ol yꝛ hol eiriau hyn.

24 9 Yna ’r aeth Moſes i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a dêc a thugain o henuriaid Iſrael.

24 10 A gwelſant Dduw Iſrael, a thann ei dꝛaed ef megis gwaeith o faen Saphir, ac fel coꝛph y nefoedd o ddiſcleirder.

24 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Iſrael, onid gwelſant Dduw, a bwyttaſant, ac yfaſant.

24 12 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes tyꝛet attaf i’r mynydd a bydd yno, ac mi a roddaf it lechau cerric, a’r gyfraith a’r goꝛchymyn y rhai a ſerifennais iw dyſcu hwynt.

24 13 A chododd Moſes, ac Ioſua ei wenidog, ac aeth Moſes i fynu i fynyd Duw.

24 14 Ac wꝛth y henuriaid y dywedodd, archoſwch am danom ymma, hyd oni ddelom attoch trachefn: ac wele Aaron, a Hur gyd a chwi, pwy bynnac [a fyddo] ag achos iddo deued attynt hwy.

24 15 A Moſes aeth i’r mynydd, a niwl o oꝛchguddiodd y mynydd.

24 16 A gogoniant yꝛ Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a niwl ai goꝛchguddiodd chwe diwꝛnod, ac efe a alwodd am Moſes y ſeithfed dydd o ganol y niwl.

24 17 A’r golwg ar ogoniant yꝛ Arglwydd [ydoedd] fel tân yn difa ar ben y mynydd yng-olwg meibion Iſrael.

24 18 A daeth Moſes i ganol y niwl ac aeth i’r mynydd: a bu Moſes yn y mynydd ddeugain nhwyꝛnod, a deugain nhos.

25 1 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan-ddywedyd:

25 2 Dywet wꝛth feibion Iſrael, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bôb gwꝛ ewyllyſgar ei galon y cymmerwch fy offrwm:

25 3 Dymma ’r offrwm yꝛ hwn a gymmerwch ganddynt: auw, ac arian, a phꝛês.

25 4 A Sidan glâs, a phoꝛphoꝛ ac ſcarlat, a fidan gwyn a [blew] geifr.

25 5 A chꝛwyn hyꝛddod yn gochion, a chꝛwyn daiar-foch, a choed Sittim.

25 6 Olew i’r goleûi, llyfeuau i olew ’r ennaint, ac i’r arogl-darth llyſſeuoc.

25 7 Y maini Onix, a meini iw goſſod yn yꝛ Ephod, ac yn y ddwyfronec.

25 8 A gwnant i mi gyſſegr fel y gallwyf dꝛigo yn eu myſc hwynt.

25 9 Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodꝛefn y rhai ’r ydwyf yn eu dangos it, felly y gwnewch.

25 10 A gwnant Arch o goed Sittim, o ddau gyfydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchder.

25 11 A goꝛeura hi ag aur coeth o fewn, ac oddi allan y goꝛcuri hi: a gwna arni goꝛon o aur o amgylch.

25 12 Bwꝛw iddi hefyd bedair modꝛwy aur, a dod ar ei phedair congl: dwy fodꝛwy ar vn yſtlys iddi, a dwy fodꝛwy ar yꝛ yſtlys arall iddi.

25 13 A gwna dꝛoſſolion o goed Sittim, a goꝛeura hwynt ag aur.

25 14 A goſſot y troſſolion trwy y modꝛwyau, gan yſtlys yꝛ Arch, i ddwyn yꝛ Arch arnynt.

25 15 Ym modꝛwyau ’r Arch y bydd troſſolion, na ſymmuder hwynt oddi wꝛthi.

25 16 A dod yn yꝛ Arch, y deſtiolaeth yꝛ hon a roddaf it.

25 17 A gwna dꝛugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei llêd.

25 18 A gwna ddau Gerub o aur, o gyfan-waith moꝛthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwꝛr y dꝛugareddfa,

25 19 Un Cerub a wnei yn y naill gwꝛr, a’r Cerub arall yn y cwꝛr arall i’r dꝛugareddfa, ar ei dau gwꝛr hi y gwnewch y Cerubiaid.

25 20 A bydded y Cerubiaid yn lledu [eu] hadenydd i fynu gan oꝛchguddio ai hadenydd cros y dꝛugareddfa, ai hwynebau bôb vn at ei gilydd, tua ’r dꝛugareddfa y bydd wynebau y Cerubiaid.

25 21 A dod ti y dꝛugareddfa i fynu ar yꝛ Arch, ac yn yꝛ Arch dod y deſtiolaeth yꝛ hon a roddaf i it.

25 22 A mi a deſtiolaethaf it yno, ac a lefaraf wꝛthit oddi ar y dꝛugareddfa, oddi rhwng y ddau Gerub y rhai y fyddant ar Arch y deſtiolaeth yꝛ holl bethau y ꝛhai (\sic) a oꝛchymynnwyf wꝛthit i feibion Iſrael.

25 23 A gwna di fwꝛdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd, ei lêd, a chufydd a hanner ei vchter.

25 24 A goꝛeura ef ag aur coeth, a gwna iddo goꝛon o aur o amgylch.

25 25 A gwna iddo gylch [o lêd] llaw o amgylch, a gwna goꝛon aur ar ei wꝛegys o amgylch.

25 26 A gwna iddo bedair modꝛwy o aûr, a dod y modꝛwyau wꝛh y pedai congl y rhai a [fyddant] ar ei bedwar troed.

25 27 Ar gyfer y cylch y bydd y modꝛwyau yn lleoedd i’r troſſolion i ddwyn y bwꝛdd.

25 28 A gwna t roſſolion o goed Sittim, a goꝛeura hwynt ag aur, fel y dyger y bwꝛdd ar nynt.

25 29 A gwna ei ddyſglau ef, ai gwppanau, ai gafnau, ai phiolau y rhai y tywelltir a hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

25 30 A dod ar y bwꝛdd y bara goſod ger bꝛon fy-wyneb yn oeſtadol (\sic).

25 31 Gwna hefyd ganhwyll-bꝛen: o aur pûr yn gyfan-waith y gwneir y canhwyll-bꝛen: ei baladꝛ, ei geingciau, ei bedill, ei cnappiau, ai flodau a fyddant o honaw ei hûn.

25 32 A [bydd] chwe chaingc yn dyfod allan oi yſtlyſau, tair caingc o’ꝛ canhwyll-bꝛen o’ꝛ tu arall.

25 33 Tair padell o waith almon, cnap a blodeun ar vn gaingc, a thair padell owaith almon, cnap a blodeun ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc [a fyddo] ’n dyfod allan o’ꝛ canhwyll-bꝛen.

25 34 Ac yn y canhwyll-bꝛen y bydd pedair padell ar waith almon, ai gnappiau ai flodau.

25 35 A bydd cnap tan ddwy gaingc o honau, a chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc a ddeuant o’ꝛ canhwyll-bꝛen.

25 36 Eu cnappiau, ai ceingciau a fyddant o honaw ef: oll yn aur coeth o vn cyfan-waith moꝛthwyl.

25 37 A thi a wnei ei ſaith lufern ef, ac a godi ei luſernau ef fel y goleuo efe ar gyſer ei wyneb.

25 38 A bydded ei efeiliau, ai gafnau o aur coeth.

25 39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl leſtri hynn.

25 40 Ond gwel wneuthur yn ôl cu poꝛtreiad hwynt yꝛ hwn a ddangoſwyd it yn y mynydd.

26 1 Y tabernacl hefyd a wnei di o ddêr llenn o ſidan gwyn cyfrodedd, ac o ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat yn Gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

26 2 Hŷd vn llenn [fydd] wyth gufydd ar hûgain, a llêd vn llenn [fydd] pedwar cufydd, yꝛ vn meſur a fydd i’r holl lennî.

26 3 Pum llenn a fyddant yng-lŷn bôb vn wꝛth ei gilydd, a phum llenn [eraill] a fyddant yng-lŷn wꝛth ei gilydd.

26 4 A gwna ddolennau o ſidan glâs ar ymyl vn llenn, ar y cwꝛr yn y cydiad, ac felly y gwnei ar ymyl y llenn eithaf, yn yꝛ ail cydiad.

26 5 Dêc dolen a deugain, a wnei di i vn llenn, a ddec dolen a deugain a wnei ar gwꝛr y llenn yꝛ hon [a fyddo] yn yꝛ ail cydiad: y dolennan a dderbyniant bôb vn ei gilydd.

26 6 Gwna hefyd ddêc derbyniad a deugain o aur, a chydia a’r derbyniadau y llenni bôb vn wꝛth ei gilydd, fel y byddo yn vn tabernacl.

26 7 A gwna lenni o [flew] geifr [i fod] yn babell-len ar y tabernacl, yn vn llenn ar ddêc y gwnei hwynt.

26 8 Hŷd vn llenn [fydd] dêc cufydd ar hugain, a llêd vn llen [fydd] pedwar cufydd, a’r vn meſur [fydd] i’r vn llen ar ddêc.

26 9 A chydia bun llenn wꝛthynt eu hun, a chwe llenn wꝛthynt eu hun, a dybla y chweched lenn ar gyfer wyneb y babell-len.

26 10 A gwna ddêch dolen a deugain ar ymyl y naill lenn ar y cwꝛr yn y cydiad [cyntaf], a dêc dolen a deugain ar ymyl y llenn [arall] yn yꝛ ail cydiad.

26 11 A gwna ddêc derbynniad a deugain o bꝛês, a dôd y derbynniadau yn y dolennau, a chylymma y babell-len fel y byddo yn vn.

26 12 A’r gweddill a fyddo tros benn o lenn y babell-len [ſef] yꝛ hanner llenn weddill a adewir ar du cefn y tabernacl

26 13 Fel [y byddo] o’ꝛ gweddill gufydd o’ꝛ naill dû, a chufydd oꝛ tu arall, o hŷd y babell-len: bydded y gweddill dꝛos ddau yſtlys y tabernacl o bob-tu iw oꝛchguddio.

26 14 A gwna dô i’r babell-len o grwyn hyꝛddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.

26 15 A gwna ſtyllod o goed Sittim i’r tabernacl yn eu ſefyll.

26 16 O ddêc cufydd o hŷd [yn] yꝛ ſtyllen, ac o gufydd a hanner cufydd o lêd mewn pôb ſtyllen.

26 17 [Bydded] dau dŷno i vn bwꝛdd, wedi goſod fel ffynn yſcal, pôb vn ar gyfer ei gylydd: felly y gwnei am holl fyddau y tabernacl.

26 18 A gwna ſtyllod i’r taernacl, vgain ſtyllen o’ꝛ tu dehau, tu a’r dehau.

26 19 A gwna ddeugain moꝛtais arian tann yꝛ vgain ſtyllen, dwy foꝛtais tann vn ſtyllen iw dau dŷno, a dwy foꝛtais tan ſtyllen arall iw dau dŷno.

26 20 A [gwna] i aſt yſtlys y tabernacl, o du ’r gogledd vgain ſtyllen.

26 21 A deugain moꝛtais o arian [o feſur] dwy foꝛtais tann bôb ſtyllen,

26 22 Hefyd i yſtyls y tabernacl o du ’r goꝛllewin y gwnei chwech ſtyllen,

26 23 A dwy ſtyllen a wnei i gonglau y tabernacl rhwng y ddau yſtlys.

26 24 A byddant wedi eu cyſſylldu oddi tanodd, byddant hefyd wedi eu cyd gydio oddi arnodd wꝛth vn fodꝛwy: felly y bydd iddynt ill dau, ŷn y ddwy gongl y byddant.

26 25 A byddant yn wyth ſtyllen, ai moꝛteiſiau arian yn vn moꝛtais ar bymthec, dwy foꝛtais dann vn ſtyllen, a dwy foꝛtais tann ſtyllen arall.

26 26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ſtyllod vn yſtlys i’r tabernacl.

26 27 A phum barr i ſtyllod ail yſtlys y tabernacl, a phum barr i yſtlys y tabernacl o du ’r goꝛllewin

26 28 A’r barr canol [fydd] {[} yng-hanol yꝛ ſtyllod, yn barrio o gwꝛr i gwꝛr.

26 29 Goꝛeura hefyd ag aur yꝛ ſtyllod, a gwna eu modꝛwyau o aur, i oſod y barrau dꝛwyddynt, goꝛeura y barrau hefyd ag aur.

26 30 A chyfot y tabernacl wꝛth ei boꝛtreiad, yꝛ hwn a ddangoſwyd it yn y mynydd.

26 31 A gwna wahan-len o ſidan glâs, phoꝛphoꝛ ac ſcarlat, ac o ſidan gwyn cyfrodedd yn [llawn] Cerubiaid o waith cywꝛeint y gwnei hi.

26 32 A dod hi ar bedair colofn o [goed] Sittim wedi eu goꝛeuro ag aur, ai pennau o aur, ar bedair moꝛtais arian.

26 33 A dod y wahan-len wꝛth y derbynniadau, fel y gellech ddwyn yno o fewn y wahan-lenn Arch y deſtiolaeth, a’r wahan-lenn a wna wahan i chwi rhwng y cyſſegr, a’r cyſſegr ſancteiddiolaf.

26 34 Dod hefyd y dꝛugareddfa ar Arch y deſtiolaeth yn y cyſſegr ſancteiddiolaf.

26 35 A goſot y bwꝛdd o’ꝛ tu allan i’r wahan-len{ }n, a’r canhwyll-bꝛen gyferbyn a’r bwꝛdd, ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwꝛdd ar du y gogledd,

26 36 A gwna gaead-lenn i ddꝛws y babell, o ſidan glâs poꝛphoꝛ ac ſcarlat, ac o ſidan gwyn cyfroededd o wniad-waith.

26 37 A gwna i’r gaead-led bum colofn, [o goed] Sittim, a goꝛeura hwynt ag aur, ai pennau o aur, a bwꝛw iddynt bump moꝛtais bꝛês.

27 1 Gwna hefyd alloꝛ o goed Sittim o bump cufydd o hŷd, a phump cufydd o lêd, yn bedair-ongl y bydd yꝛ alloꝛ, ai huchder o dꝛi chufydd.

27 2 A gwna ei chyꝛn ar ei phedair congl, o honi ei hun y bydd ei chyꝛn, a gwiſc hi a phꝛês.

27 3 Gwna hefyd iddi grochanau i dderbyn ei lludw, ai rhawiau, ai chawgiau, ai chig wennau, ai thuſſerau: ei holl leſtri a wnei o bꝛês.

27 4 A gwna iddi alch o bꝛês, ar waith rhwyd, a gwna ar yꝛ rhwyd bedair modꝛwy o bꝛês wꝛth ei phedair congl.

27 5 A dod hi dann amgylchiad yꝛ alloꝛ oddi tannodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yꝛ alloꝛ.

27 6 A gwna dꝛoſolion i’r alloꝛ [ſef] troſolion o goed Sittim, a gwiſc hwynt a phꝛês.

27 7 A dod ei thꝛoſſolion trwy y modꝛwyau, a bydded y troſſolion ar ddau yſtlys yꝛ alloꝛ pan ddyger hi.

27 8 Gwna hi ag yſtyllod yn gau: fel y dangoſodd [yꝛ Arglwydd] i ti yn y mynydd, felly y gwnant.

27 9 A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau tua’r dehau: troelloc lenni y cynteddfa fyddant ſidan gwyn cyfrodedd, o gan cufydd o hŷd yn vn yſtlys.

27 10 Ai hugain colofn, ai hugain moꝛtais [fyddant] o bꝛês: pennau y colofnau, ai cylchau [fyddant] o arian.

27 11 Felly o du ’r gogledd [y bydd] ar hŷd, lenni troelloc, a gant [cufydd] o hŷd, ai hugain colofn gyd ai hugain moꝛtais o bꝛês: a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.

27 12 A llêd y cynteddfa tua ’r goꝛllewin [a gaiff] dꝛoelloc lenni o ddêc cufydd a deugain: eu colofnau [fyddant] ddêc, ai moꝛteiſiau yn ddêc.

27 13 A lled y cynteddfa tua ’r dwyꝛain o godiad haul [a fydd] dêc cuſydd, a deugain.

27 14 Y troelloc lenni o’ꝛ [naill] du [a fyddant] bymthec curfydd, eu colofnau yn dair, ai moꝛteiſiau yn dair.

27 15 Ac i’r ail tu [y bydd] pymthec troelloc lenn, eu tair colofn ai tair moꝛtais.

27 16 Ac i boꝛth y cynteddfa [y gwneir] caead lenn o vgein cufydd o ſidan glâs, poꝛphoꝛ, ac ſcarlat, ac o ſidan gwyn cyfrodedd o wniad-wnaith: eu pedair colofn, ai pedair moꝛtais.

27 17 Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian, ai pennau yn arian, ai moꝛteiſiau yn bꝛês.

27 18 Hŷd y cynteddfa [fydd] cant cufydd, ai lêd dec a deugain o bôb tu: a phump cufydd o vchter [fydd y troelloc lenni] o ſidan gwyn cyfrodedd, ai moꝛteiſiau pꝛês.

27 19 Holl leſtri y tabernacl yn eu hol waſantaeth, ai holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa fyddant o bꝛês.

27 20 A goꝛchymyn dithe i feibion Iſrael ddwyn o honynt attat bûr olew ’r oliwydden coethedic yn oleuni, i beri i’r luſernau ennyn yn oeſtad.

27 21 Ym mhabell y cyfarfod o’ꝛ tu allan i’r wahanlenn yꝛ hon [a fydd] o flaen y deſtiolaeth y trefna Aaron, ai feibion hwnnw o’ꝛ hwyꝛ hyd y boꝛau, ger bꝛon yꝛ Arglwydd yn ddedd dꝛagwyddol twy eu hoeſoedd gan feibion Iſrael.

28 1 A chymmer di Aaron dy dꝛawd attat, ai feibion gyd ag ef o blith meibion Iſrael i offeiriadu i mi: [ſef] Aaron, Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar meibion Aaron.

28 2 Gwna hefyd wiſcoedd ſanctaidd i Aaron dy frawd: er gogoniant, a harddwch.

28 3 A dywet wꝛth yꝛ holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag yſpꝛyd doethineb: am wneuthur o honynt ddillad Aaron iw ſancteiddio ef i offeiriadu i mi.

28 4 Ac dymma y gwiſcoedd y rhai a wnant, dwyfronec, ac Ephod, mantell hefyd, a phais o waith edef a nodwydd, meitr a gwꝛegys: felly y gwnant wiſcoedd ſanctaidd i Aaron dy frawd ac iw feibion i offeiriadu i mi.

28 5 Cimmerant gan hynny aur, a ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ: ac ſcarlet, a ſidan gwynn.

28 6 A gwnant yꝛ Ephod o aur, ſidhan glas, a phoꝛphoꝛ: ac ſcarlat a ſidan gwynn cyfroedd a waith cywꝛaint.

28 7 Dwy yſcwydd fydd iddi wedi eu cydio wꝛth ei dau gwꝛr, fel y cydier hi yng-hyd.

28 8 A gwꝛegys ei Ephod ef yꝛ hwn fydd arno fydd o honi hi, yn vn waith a hi: o aur, ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ſcarlat hefyd, a ſidan gwynn cyfrodedd.

28 9 Cymmer hefyd ddau faen Onix: a nadd ynddynt enwau meibion Iſrael.

28 10 Chwech o henwau ar y maen cyntaf: a’r che henw arall ar yꝛ ail maen yn ol eu ganedigaeth.

28 11 Ar waith ſaer maen [gwerthfawꝛ,] fel naddu ſêl y neddi di y ddau faen yn ol henwau meibion Iſrael: gwna hwynt a boglynnau o aur oi hamgylch.

28 12 A goſot y ddau faen ar yſgwyddau yꝛ Ephod yn feini coffadwꝛiaeth i feibion Iſrael: canys Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bꝛon yr Arglwydd ar ei ddwy yſcwydd yn goffadwꝛiaeth.

28 13 Gwna hefyd foglynnau aur.

28 14 A dwy gadwyn gyd-terfynol o aur coeth, o bleth-waith y gwnei hwynt: a dod y cadwynau plethedic wꝛth y boglynnau.

28 15 Gwna hefyd ddwyfronec barnedigaeth o waith cywꝛaint, ar waith yꝛ Ephod y gwnei hi: o aur, ſidan glas, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat, a ſidan gwyn cyfrodedd y gwnei hi.

28 16 Pedair ongl fydd hi [a] dau ddyblyg: yn rhychwant ei hŷd, ar yꝛn rhychwant ei llêd.

28 17 Llawna hi yn llawn o feini [ſef] pedair rhês o feini: rhês o Sardius, a Thophas, a Smaragdus fydd y rhês gyntaf.

28 18 A’r ail rhês [fydd] Rubi, Saphir, ac Adamant.

28 19 A’r dꝛydedd rhês [fydd] Lyncur, ac Achat, ac Amethyſt.

28 20 Y bedwaredd rhês [fydd] Turcas, ac Onix, ac Iaſpis: byddant wedi eu gwiſco mewn aur yn eu lleoedd.

28 21 A’r meini fyddant yn ol henwau meibion Iſrael, yn ddeuddec yn ol eu henwau hwynt: o naddiad fêl, bob vn wꝛth ei henw y byddant i’r deuddec llwyth.

28 22 A gwna ar y ddwyfronec gadwynau cyd-terfynol yn bleth waith o aur coeth.

28 23 Gwna hefyd ar y ddwyfronec ddwy fodꝛwy o aur, a dod y ddwy fodꝛwy wꝛth ddau gwꝛr y ddwyfronec.

28 24 A dod y ddwy (gadwyn) blethedic, o aur trwy y ddwy fodꝛwy ar gyꝛrrau y ddwyfronnec.

28 25 A dod ddau pen y ddwy gadwyn wꝛth y ddau foglyn: a dod ar yſcwyddau yꝛ Ephod o’ꝛ tu blaen.

28 26 Gwna hefyd ddwy fodꝛwy o aur a goſot hwynt wꝛth ddau gwꝛr y ddwyfronnec: o’ꝛ tu mewn ar yꝛ ymmyl yꝛ hwn [ſydd] ar yſtlys yꝛ Ephod.

28 27 A gwna ddwy fodꝛwy o aur, a dod hwynt ar ddau yſtlys yꝛ Ephod oddi tanodd: oi thu blaen ar gyfer ei chydiad oddi ar wꝛegys yꝛ Ephod.

28 28 A’r ddwyfronnec a rwymant ai modꝛwyau wꝛth fedꝛwyau ’r Ephod a llinin o ſidan glâs, i fod ar wꝛegys yꝛ Ephod: fell na ddatoder y ddwyfronnec oddi wꝛth yꝛ Ephod.

28 29 A dyged Aaron yn nwyfronnec y farnedigaeth henwau meibion Iſrael ar ei galon, pan ddelo i’r cyſſegr: yn goffadwꝛiaeth ger bꝛon yꝛ Arglwydd yn oeſtadol.

28 30 A dod ar ddwyfronnec y farnedigaeth yꝛ Uꝛim a Thummim i fod ar galon Aaron pan ddelo ger bꝛon yꝛ Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Iſraell (\sic) ar ei galon, ger bꝛon yꝛ Arglwydd yn oeſtadol.

28 31 Gwna hefyd fantell yꝛ Ephod oll o ſidan glâs.

28 32 A byddedd twll ei benn ef yn ei chanol: bydded eirionyn iw choler o amgylch o wauadwaith, megis coler lluric fydd iddi rhac rhwygo.

28 33 A gwna ar ei godꝛe hi [luniau] pomgranadau o ſidan glâs, a phophoꝛ (\sic), ac ſcarlat ar ei godꝛau o amgylch: a chlychau o aur rhyngddynt o amgylch.

28 34 Clôch aur, a phom-granad [a] chlôch aur a phom-granad ar odꝛe y fantell o amgylch.

28 35 A hi a fydd am Aaron wꝛth weini: fel y clywer ei ſwn ef pan ddelo i’r cyffegr, ger bꝛon yꝛ Arglwydd, a phan elo allan, fel na byddo farw.

28 36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth: a nadd di arni fel naddiadau ſêl, Sancteiddrwydd (\roman) i’r (\roman) Arglwydd. (\roman)

28 37 A goſot hi wꝛth linin o ſidan glâs, a bydded ar y meitr: o’ꝛ tu blaen i’r meitr y bydd.

28 38 A hi a fydd ar dalcen Aaron fel y dygo Aaron anwiredd yꝛ offrymmau y rhai a gyſſegro meibion Iſrael oi holl ſanctaidd offrymmau hwynt, ac yn oeſtad y bydd ar dalcen Aaron i [beri] iddynt ffafoꝛ ger bꝛon yꝛ Arglwydd {Arglwyd}.

28 39 Gweithia ag edef a nodwydd bais o ſidan gwynn: a gwna feitr o ſidan gwyn, a gwꝛegys o wniad-waith.

28 40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beiſiau, a gwna iddynt wꝛegyſau: gwna hefyd iddynt gappanau er gogoniant a harddwch.

28 41 A gwiſc gwynt am Aaron dy frawd ai feibion gyd ag ef: ac eneinia hwynt, cyſſegra hwynt hefyd, a ſancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.

28 42 Gwna hefyd iddynt lawdꝛau lliain i guddio eu cnaw noeth: o’ꝛ lwynau hyd y moꝛddwydydd y byddant.

28 43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion pan ddelont i babell y cyfarfod, neu pan ddelont at yꝛ Alloꝛ i weini yn y cyſſegr, fel na ddygont anwiredd a marw: [hynn fydd] ddeddf dꝛagywyddol iddo ef, ac iw hâd ar ei ol ef.

29 1 Dymma hefyd y peth yꝛ hwn a wnei di iddynt hwy wꝛth eu cyſſegru, i offeiriadu i mi: cymmer vn buſtach ieuangc, a dau hwꝛdd perffeith-gwbl.

29 2 A bara croiw, a theiſennau croiw wedi eu cymmyſcu ag olew, ac afrllad croiw wedi eu hiro ag olew: o beillied gwenith y gwnei hwynt.

29 3 A dod hwynt mewn vn cawell, a dwg yn y cawell hwynt gyda ’r buſtach a’r ddau hwꝛdd.

29 4 Dwg hefyd Aaron ai feibion i ddꝛws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.

29 5 A chymmer y gwiſcoedd a gwiſc am Aaron y bais, a mantell yꝛ Ephod, a’r Ephod hefyd, a’r ddwyfronnec: a gwꝛegyſſa [hynny] a gwꝛegys yꝛ Ephod.

29 6 A goſot y meitr ar ei benn ef, a dod y goꝛon gyſſegredic ar y meitr.

29 7 Yna y cymmeri olew ’r eneiniad, ac y tywellti ar ei benn ef: ac yꝛ enneini ef.

29 8 A dwg ei feibion ef: a gwiſc beiſiau am danynt.

29 9 A gwꝛegyſa hwynt a gwꝛegyſau, [ſef] Aaron ai feibion, a gwiſc hwynt a chappiau fel y byddo yꝛ offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dꝛagywyddol: felly y cyſſegri Aaron ai feibion.

29 10 A phardi ddwyn y buſtach ger bꝛonn pabell y cyfarfod: a rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn y buſtach.

29 11 Yna lladd y buſtach ger bꝛon yꝛ Arglwydd: [wꝛth] ddꝛws pabell y cyfarfod.

29 12 A chymmer o waed y buſtach, a dod ar gyꝛn yꝛ alloꝛ a’th fŷs: a thywallt yꝛ holl waed [arall] wꝛth dꝛoed yꝛ alloꝛ.

29 13 Cymmer hefyd yꝛ holl wêr a fydd yn goꝛchguddio y perfedd, a’r rhwyden [a fyddo] ar yꝛ afi, a’r ddwy aren, a’r gwer yꝛ hwn [a fyddo] arnynt: a lloſc ar yꝛ alloꝛ.

29 14 Ond cîg y buſtach ai groen, ai fiſwel, a loſci mewn tân, o’ꝛ tu allan i’r gwerſſyll: aberth tros bachod yw.

29 15 Cymmer hefyd vn hwꝛdd: a goſoded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yꝛ hwꝛdd.

29 16 Wedi y lleddech yꝛ hwꝛdd: cymmer ei waed ef a thaenella ar yꝛ alloꝛ o amgylch.

29 17 A darnia yꝛ hwꝛdd yn ddarnau: a golch ei berfedd, ai dꝛaed, a dod hwynt yng-hyd ai ddarnau, ac ai benn.

29 18 Felly y lloſci yꝛ hwꝛdd ar yꝛ alloꝛ, poeth offrwm i’r Arglwydd yw: arogl eſmwyth [ac] aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

29 19 A chymmer yꝛ ail herdd: a rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yꝛ hwꝛdd.

29 20 Yna lladd yꝛ hwꝛdd, a chymmer oi waed, a dod ar flaen cluſt ddehau Aaron, ac ar flaen cluſt ddehau ei feibion, ac arfawd eu llaw ddehan hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt: a thaenella y gwaed [arall] ar yꝛ alloꝛ o amgylch.

29 21 A chymmer o’ꝛ gwaed yꝛ hwn fyddo ar yꝛ alloꝛ, ac olew ’r eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wiſcoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiſcoedd ei feibion gyd ag ef: felly ſanctaidd fydd efe ai wiſcoedd, ei feibion hefyd, a gwiſcoedd ei feibion gyd ag ef.

29 22 Cymmer hefyd o’ꝛ hwꝛdd y gwêr, a’r gloꝛen, a’r gwêr yꝛ hwn fydd yn goꝛchguddio y perfedd, a rhwyden yꝛ afi, a’r ddwy aren a’r gwêr yꝛ hwn [ſydd] arnynt, a’r yſcwyddoc ddehau: canys hwꝛdd cyſſegriad yw.

29 23 Ac vn doꝛth o fara, ac vn deiſen o fara olewedic, ac vn afrlladen o gawell y bara croiw yꝛ hwn [ſydd] ger bꝛon yꝛ Arglwydd.

29 24 A dodd y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion: a chwhwfana hwynt yn offrwm cwhwfan ger bꝛon yꝛ Arglwydd.

29 25 A chymmer hwynt ganddynt, a lloſc ar yꝛ alloꝛ yn boeth offrwm: yn arogl efinwyth ger bꝛon yꝛ Arglwydd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

29 26 Cymmer hefyd barwyden hwꝛdd y cyſſegriad yꝛ hwn [fyddo] tros Aaron, a chyhwfana ef yn offrwn cwhwfan ger bꝛon yꝛ Arglwydd: ac i ti y bydd yn rhann.

29 27 A ſancteiddia barwyden yꝛ offrwm cwhwfan, ac yſcwyddoc yꝛ offrwm derchafel yꝛ hwn a gwhwfanwyd, a’r hwn a dderchafwyd, o hwꝛdd y cyſſegriad, o’ꝛ hwn [a fyddo] tros Aaron, ac o’ꝛ hwn [a fyddo] tros ei feibion.

29 28 Ac i Aaron ai feibion y bydd yn ddeddf dꝛagywyddol oddi wꝛth feibion Iſrael: canys offrwm derchafel yw, ac offrwm derchafel y fydd oddi wꝛth feibion Iſrael, oi haberthau hedd [ſef] eu hoffrwm derchafel i’r Arglwydd.

29 29 A’r dillad ſanctaidd y rhai a [wneir] i Aaron a fyddant iw feibion ar ei ol ef: iw heneinio ynddynt, ac iw cyſſegru.

29 30 Yꝛ hwn oi feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, ai gwiſc hwynt ſaith niwꝛnod: pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cyſſegr.

29 31 A chymmer hwꝛdd y cyſſegriad, a berw ei gîg ef yn y lle ſanctaidd.

29 32 A bwytaed Aaron ai feibion gîg yꝛ hwꝛdd, a’r bara yꝛ hwn [fydd] yn y cawell: [wꝛth] ddꝛws pabell y cyfarfod.

29 33 Felly hwynt a fwytânt y pethau hyn [ſef] y rhai y gwnaed iawn a hwynt wꝛth eu cyſſegru hwynt ai ſancteiddio: ond y dieithꝛ ni chaiff eu bwytta, canys cyſſegredic ydynt.

29 34 Ac os gweddilir o gig* y cyſſegriad, neu o’ꝛ bara hyd y boꝛeu: yna ti a loſci y gweddill a thân, ni cheir ei fwytta o blegit cyſſegredic yw.

29 35 A gwna i Aaron, ac iw feibion yꝛ vn modd, yn ol yꝛ hyn oll a oꝛchymynnais it: ſaith niwꝛnod y cyſſegri hwynt.

29 36 A phob dydd yꝛ aberthi fuſtach yn aberth tros bechod, er iawn: a glanhâ ’r Alloꝛ pan wnelech iawn arni, ac eneinia hi iw chyſſegru.

29 37 Saith niwꝛnod y gwnei iawn, ar yꝛ alloꝛ, ac y ſancteiddi hi: felly yꝛ alloꝛ fydd fanctaiddbeth cyſſegredic, pob peth a gyffyꝛddo a’r alloꝛ a ſancteiddir.

29 38 A dymma yꝛ hyn a offrymmi ar yꝛ alloꝛ: dau oen flwyddiaid bob dyd yn oeſtadol.

29 39 Yꝛ oen cyntaf a offrymmi di y boꝛau: a’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos.

29 40 A chyd a’r oen cyntaf decfed rann [Epha] o beillied wedi ei gymmyſcu trwy bedwaredd rann Hinn o olew coethedic, a phedwaredd rann Hinn o wîn yn ddiod offrwm.

29 41 A’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos: ti a wnei iddo yꝛ vn modd, ac i fwyd offrwm, ac i ddiod offrwm y boꝛau, i fod yn arogl eſmwyth [ac] yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:

29 42 Yn boeth offrwm gwaſtadol dꝛwy eich oeſoedd [wꝛth] ddꝛws pabell y cyfarfod ger bꝛonn yꝛ Arglwydd: lle y cyfarfyddaf a chwi i lefaru wꝛthit yno.

29 43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf a meibion Iſrael: ar [lle] a ſancteiddir dꝛwy fyng-ogoniant mau fi.

29 44 A mi a ſancteiddiaf babell y cyfarfod a’r alloꝛ: ac Aaron aifeibion a ſancteiddiaf i offeiriadu i mi.

29 45 A mi a bꝛeſſwyliaf ym myſc meibion Iſrael: ac a fyddaf yn Dduw iddynt.

29 46 Yna y caant wy bod mai myfi [ydwyf] yꝛ Arglwydd eu Duw hwynt, yꝛ hwn ai dygais hwynt allan o dir yꝛ Aipht fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi [yw] yꝛ Arglwydd eu Duw hwynt.

30 1 Gwna hefyd alloꝛ (i arogl-darthu arogl-darth:) o goed Sittim y gwnei di hi.

30 2 Pedairongl fydd hi, yn gufyddd (\sic) ei hŷd, ac yn gufydd ei llêd, a dau gufydd ei huchter: ei chyꝛn [fyddant] o honi ei hun.

30 3 A goꝛeura hi ag aur coeth, ai chaead ai hyſtlyſau o amgylch, ai chyꝛn: gwna hefyd iddi goꝛon o aur o amgylch.

30 4 A gwna iddi ddwy fodꝛwy aur oddi tann ei choꝛon wꝛth ei dwy gongl: ar ei dau yſtlys y gwnei [hwynt] fel y byddant i wiſco am dꝛoſolion iw dwyn hi arnynt.

30 5 A’r troſolion a wnei di o goed Sittim: a goꝛeura hwynt ag aur.

30 6 A goſot hi o flaen y llenn yꝛ hon [ſydd] wꝛth Arch y deſtiolaeth: o flaen y dꝛugareddfa, yꝛ hon [ſydd] ar y deſtiolaeth lle y cyfarfyddaſa thi.

30 7 Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llyſſeuoc bob boꝛeu, pan daclo efe y luſernau, yꝛ arogl-dartha efe.

30 8 Arogl-darthed Aaron hefyd yn cyfnos pan oſotto y luſernau i fynu: [i fod] yn arogl-darth gwaſtadol ger bꝛon yꝛ Arglwydd dꝛwy eich oeſoedd.

30 9 Nac offrymmwch arni arogl-darth dieithꝛ, na phoeth offrwm, na bwyd offrwm: ac na thywylltwch ddiod offrwm arni.

30 10 A gwnaed Aaron iawn ar ei chyꝛn vn waith yn y flwyddyn a gwaed pech a berth yꝛ iawn, vnwaith yn y flwyddyn y gwna efe iawn arni dꝛwy eich oeſoedd: ſancteidd-beth cyſſegredic i’r Arglwydd [yw] hi.

30 11 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

30 12 Pan rifech feiboin Iſrael dan eu rhifedi yna rhoddant bob vn iawn am ei enioes i’r Arglwydd pan rifer hwynt: fel na byddo plâ yn eu plith pan rifer hwynt.

30 13 Hynn a ddyꝛu pob vn a elo tann rîf, hanner ſicl, yn ol y ſicl ſanctaidd: vgain Gerah [yw] yꝛ ſicl, hanner ſicl [fydd] yn offrwm derchafel i’r Arglwydd.

30 14 Pob vn a elo tann rîf o fab vgain mlwydd ac vchod, a rydd offrwm derchafel i’r Arglwydd.

30 15 Na rodded y cyfoaethog fwy, ac na rhodded y tlawd lai na hanner ſicl: i roddi offrwm derchafel i’r Arglwydd, i wneuthur iawn tros eich enioes.

30 16 A chymmer yꝛ arian iawn gan feibion Iſrael, a dod ti hwynt i waſanaeth pabell y cyfarfod: fel y byddant yn goffadwꝛiaeth i feibion Iſrael ger bꝛon yꝛ Arglwydd i fod yn iawn am eich enioes.

30 17 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd:

30 18 Gwna noe bꝛes, ai thꝛoed o bꝛês i olchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r alloꝛ, a dod ynddi dwfr.

30 19 A golched Aaron ai feibion o honi eu dwylo ai traed.

30 20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant a dwfr, fel na byddont feirw: neu pan ddelont wꝛth yꝛ alloꝛ i weini gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.

30 21 Golchant ei dwylo ai traed fel na byddont feirw: a bydded [hynn] iddynt yn ddeddf dꝛagywyddol, iddo ef, ac iw hâd, dꝛwy eu hoeſoedd.

30 22 Yꝛ Arglwydd hefyd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

30 23 Cymmer it ddewis lyſſiau, o’ꝛ Myꝛr pur [pwys] pum cant [ſicl] a hanner hynny o’ꝛ Cinamon pur [ſef pwys] deu cant, a dec a deugain [o ſiclau:] ac o’ꝛ Calamus peraidd [pwys] deucant a dec a deugain [o ſiclau.]

30 24 Ac o’ꝛ Cafia [pwys] pum cant [o ſiclau] yn ol y ſicl ſanctaidd: a Hinn o olew oliwyddē.

30 25 A gwna ef yn olew eneiniad ſanctaidd yn eli cymmyſcadwy o waith yꝛ apothecari: olew eneiniad ſanctaidd fydd efe.

30 26 Yna cneinia ag ef babell y cyfarfod: ac Arch y deſtiolaeth.

30 27 Y bwꝛdd hefyd ai holl leſtri, a’r canhwyllbꝛen ai holl leſtri: ac alloꝛ yꝛ arogl-darth.

30 28 Ac alloꝛ y poeth offrewm ai holl leſtri, a’r noe ai thꝛoed.

30 29 A chyſſegra hwynt fel y byddant yn ſanctaidd bethau cyſſcgredic: pob peth a gyffyꝛddo a hwynt a ſancteiddir.

30 30 Eneinia hefyd Aaron ai feibion: a ſancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.

30 31 A llefara wꝛth feibion Iſrael gan ddywedyd: olew eneiniad ſanctaidd a fydd hwn i mi trwy eich oeſoedd.

30 32 Nac îrer ef ar gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: ſanctaidd yw, bydded ſanctaidd gennych.

30 33 Pwy bynnac a gymmyſco ei fâth, a’r hwn a roddo o honaw ef ar [ddyn] dieithꝛ: a doꝛrir ymmaith oddi wꝛth ei bobl.

30 34 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes cymmer it lyſſiau [ſef] blodau Myꝛr, Onycha, a Galbanum, y llyſſiau [hynn,] a Thus pur yꝛ vn feint o bob vn.

30 35 A gwna ef yn arogl-darth arogl-ber o waith yꝛ apothecari: yn gymmyſcedic, yn bur, ac yn ſanctaidd.

30 36 Gan fâlu mâla ef, a dod o honaw ef ger bꝛon [Arch] y deiſtiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf a thi: ſanctaidd-beth cyſſegredic fydd efe i chwi.

30 37 A’r arogl-darth yꝛ hwn a wnelech na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennit yn gyſſegredic i’r Arglwydd.

30 38 Pwy bynnac a wnel ei fath ef i arogl-darthu o honaw: a doꝛrir ymmaith oddi wꝛth ei bobl.

31 1 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

31 2 Gwel, mi a elwais wꝛth [ei] enw ar Beſalel fab Uꝛi, fab Huꝛr o lwyth Iuda.

31 3 Ac ai llawnais ef ag yſpꝛyd Duw: mewn doethineb, ac mewn deall, mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob gwaith.

31 4 I ddychymmygu cywꝛeint wydd i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pꝛês.

31 5 Ac mewn cyfarwyddyd i [oſod] meini, ac mewn ſacrniaeth pꝛenn i wiethio ym mhob gwaith.

31 6 Ac wele mi a roddais gyd ag ef Aholiab fab Achiſamah o lwyth Dan: ac yng-halon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yꝛ hyn oll a oꝛchymynnais wꝛthit.

31 7 Sef pabell y cyfarfod, ac Arch y deſtiolaeth, a’r dꝛugareddfa yꝛ hon [fydd] arni: a holl leſtri y babell.

31 8 A’r bwꝛdd ai leſtri, a’r canhwyll-bꝛen pur, ai holl leſtri: ac alloꝛ yꝛ arogl-darth.

31 9 Ac alloꝛ y poeth offrwm, ai holl leſtri: a’r noe ai thꝛoed.

31 10 A gwiſcoedd y wenidogaeth: a’r gwiſcoedd ſanctaidd i Aaron yꝛ offeiriad, a gwiſcoedd ei feibion ef i offeiriadu [ynddynt.]

31 11 Ac olew yꝛ eneiniad, a’r arogl-darth llyſſeuoc i’r cyſſegr a wnant yn ol yꝛ hyn oll a oꝛchymynnais wꝛthit.

31 12 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

31 13 Llefara di hefyd wꝛth feibion Iſrael, gan ddywedyd, er hynny cedwch fy Sabboth: canys arwydd yw rhyngofi a chwithau dꝛwy eich oſoedd, i wybod mai myfi yꝛ Arglwydd [ydwyf] eich ſancteiddudd.

31 14 Am hynny cedwch y Sabboth, o blegit ſanctaidd yꝛ i chwi: llwyꝛ rodder i farwolaeth yꝛ hwn ai halogo ef: o herwydd pwy bynnac a wnelo waith arno, toꝛrir ymmaith yꝛ enaid hwnnw o blith ei bobl.

31 15 Chwe diwꝛnod y gwneir gwaith, ac ar y ſeithfed dydd [y mae] Sabboth goꝛphwyſoꝛa ſanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnac a wnelo waith y ſeithfed dydd llwyꝛ rodder ef i farwolaeth.

31 16 Am hynny cadwed meibion Iſrael y Sabboth: gan oꝛphywyſo [arno] dꝛwy eu hoeſoedd yn gyfammod tragywyddol.

31 17 Rhyngofi a meibion Iſrael y mae yn arwydd tragywyddol, mai mewn chwe diwꝛnod y gwnaeth yꝛ Arglwydd y nefoedd a’r ddaiar, ac [mai] ar y ſeithfed dydd y peidiodd ac y goꝛphwſodd (\sic) efe.

31 18 Ac efe a roddodd i Moſes wedi iddo lefara wꝛtho ym mynydd Sinai ddwy lêch y deſtiolaeth: [ſef] llechau o gerric wedi eu ſcrifennu a bŷs Duw.

32 1 Pan welodd y bobl fod Moſes yn oedi dyfod i wared o’ꝛ mynydd: yna yꝛ ymgaſclodd y bobl at Aaron ac y dywedaſant wꝛtho, cyfot gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen ni, canys y Moſes hwn y gwꝛ a’n dûg ni i fynu o wlad yꝛ Aipht ni wyddom beth a [ddarfu] iddo.

32 2 Yna y dywedodd Aaron wꝛthynt, tynnwch y cluſt-dlyſau o aur, y rhai [ydynt] wꝛth gluſtiau eich gwꝛagedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch [hwynt] attafi.

32 3 Yna yꝛ holl bobl a dynnaſant y cluſt-dlyſau aur, y rhai [oeddynt] wꝛth eu cluſtiau: ac ai dugaſant at Aaron.

32 4 Ac efe ai cymmerodd oi dwylo, ac ai lluniodd mewn molt, ac ai gwnaeth yn llô tawdd: a hwy a ddywedaſant, dymma dy dduwiau di Iſrael y rhai a’th ddugaſant di i fynu o wlad yꝛ Aipht.

32 5 A phan welodd Aaron [hynny] efe a adailadodd alloꝛ ger ei fren ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, [y mae] gŵyl i’r Arglwydd y foꝛu.

32 6 Felly hwynt a godaſant yn foꝛau dꝛannoeth, ac a offrymmaſant boeth offrwm, ac a ddugaſant aberthau hedd: a’r bobl a eiſteddaſant i fwytta,ac i yfed, ac a godaſant i fynu i chware.

32 7 Yna y ddywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes: cerdda, dos i wared, canys ymlygrodd dy bobl y rhai a ddygaiſt i fynu o dîr yꝛ Aipht.

32 8 Buan y cliaſant o’ꝛ ffoꝛdd yꝛ honn a oꝛchymynnais iddynt, gwnaethant iddynt lô tawdd: ac addolaſant ef, ac aberthaſant iddo, dywedaſant hefyd, dymma dy dduwiau di Iſrael y rhai a’th ddugaſant i fynu o wlad yꝛ Aipht.

32 9 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes: gwelais y bobl hynn, ac wele pobl war-galed ydynt.

32 10 A’m hynny yn awꝛ gad i’m lonydd fel yꝛ enynno fy llid yn eu herbyn ac y difethwyf hwynt: ond mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawꝛ.

32 11 A Moſes a ymbiliodd ger bꝛonn yꝛ Arglwydd ei Dduw: ac a ddywedodd pa ham Arglwydd yꝛ enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl yꝛ rhai a ddugaiſt i fynu o wlad yꝛ Aipht dꝛwy nerth mawꝛ, a llaw gadarn’:

32 12 Pa ham y caiff yꝛ Aiphtiaid lefaru gan ddywedyd’: mewn meliſ* y dygodd hwynt allan iw lladd hwynt yn y mynyddoedd, ac iw difetha oddi ar wyneb y ddaiar: trô oddi wꝛth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennit y dꝛwg [a amcenaiſt] i’th bobl.

32 13 Cofia Abꝛaham, Iſaac, ac Iſrael dy weiſion y rhai y tyngaiſt wꝛthynt i ti dy hun, ac y dywedaiſt wꝛthynt, mi a amlhaf eich hâd chwi fel ſêr y nefoedd: a’r holl wlad ymma yꝛ hon a ddywedais a roddaf i’ch hâd chwi, a hwynt ai hetifeddant byth.

32 14 Yna yꝛ edifarhaodd gan yꝛ Arglwydd: am y dꝛwg yꝛ hwn a ddywedaſe efe y gwnai iw bobl.

32 15 A Moſes a dꝛôdd ac a ddaeth i wared o’ꝛ mynydd a dwy lêch y deſtiolaeth yn ei law: y llechau a ſcrifennaſid oi dau tu, hwynt a ſcrifenaſid o bob tu.

32 16 A’r llechau hynny [oeddynt] o waith Duw: yꝛ ſcrifen hefyd [oedd] ſcrifen Dduw yn ſcrifennedic ar y llechau.

32 17 Pan glywodd Ioſua ſŵn y bobl yn bloeddio: yna efe a ddywedodd wꝛth Moſes, [y mae] ſŵn rhyfel yn y gwerſſyll.

32 18 Yntef a ddywedodd nid ſŵn yn arwyddoccau goꝛuchafiaeth, ac nid ſŵn yn arwyddoccau lleſcder: [onid] ſwn canu a glywafi.

32 19 Yna yꝛ enynnodd digofaint Moſes ac y taflodd efe y llechau oi law, ac ai toꝛrodd hwynt iſ-law y mynydd: wedi dyfod o honaw ef yn agos at y gweſſyll, a gweled y llô a’r dawnſiau.

32 20 Ac efe a gymmerodd y llô yꝛ hwn a wnaethent, ac ai lloſcodd a thân, ac ai malodd yn llŵch: ac ai tanodd ar wyneb y dwfr, ac ai rhoddes iw yfed i feibion Iſrael.

32 21 A dywedodd Moſes wꝛth Aaron, beth a wnaeth y bobl hyn it: pan ddygaiſt arnynt bechod [moꝛr] fawꝛ’:

32 22 Yna y dywedodd Aaron, nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenoſt y bobl mai ar ddꝛwg y maent.

32 23 Pan ddywedaſant wꝛthif gwna i ni dduwiau ifyned o’n blaen: canys Moſes hwn y gŵr a’n dûg ni i fynu o wlad yꝛ Aipht ni wyddom beth a [ddarfu] iddo.

32 24 Yna y dywedais wꝛthynt, i’r neb [y mae] aur tynnwch ef: a hwynt ai rhoddaſant i mi, a mi ai bwꝛiais yn tân, a daeth y llô hwn allan.

32 25 Moſes gan hynny a welodd fod y bobl yn noeth: canys Aaron ai noethaſe hwynt yn wꝛadwydd ym myſc eu gelynnion.

32 26 A’m hynny y ſafodd Moſes ym mhoꝛth y gwerſſyll, ac a ddywedodd, y neb [ſydd] eiddo yꝛ Arglwydd [deued] attafi, a holl feibion Lefi a ymgaſclaſant atto ef.

32 27 Yna efe a ddywedodd wꝛthynt, fel hynn y dywed Arglwydd (\sic) Dduw Iſrael, goſodwch bob vn ei gleddyf ar ei glun: ac ewch, cynniwerwch o boꝛth i boꝛth dꝛwy y gwerſſyll, a lledwch bob vn ei frawd, a phob vn ei gyfell, a phob vn ei gymydog.

32 28 Felly meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moſes: a chwympodd o’ꝛ bobl y dydd hwnnw dair mîl o wŷꝛ.

32 29 Canys dywedaſe Moſes, cyſſegrwch eich llaw heddyw i’r Arglwydd, pob vn ar ei fab, ac ar ei frawd: fel y rhodder heddyw i chwi fendith.

32 30 A thꝛannoeth y dywedodd Moſes wꝛth y bobl, chwi a bechaſoch bechod mawꝛ: ac yn awꝛ mi a âf i fynu at yꝛ Arglwydd, ond odid mi a wnaf iawn am eich pechod.

32 31 Yna Moſes a ddychwelodd at yꝛ Arglwydd, ac a ddywedodd: yn awꝛ y pechod y bobl hynn bechod mawꝛ, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32 32 Ac yn awꝛ y naill ai maddeu di iddynt eu pechod: neu os amgen crafa di fi o’th lyfr yꝛ hwn a ſcrifennaiſt.

32 33 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes: pwy bynnac a bechodd i’m herbyn hwnnw a grafaf o’m llyfr.

32 34 Am hynny dôs yn awꝛ, arwein y bobl i’r [lle] yꝛ hwn a ddywedais wꝛthit, wele fy angel aiff o’th flaen di: a’r dydd yꝛ ymwelwyf yꝛ ymwelaf a hwnyt am eu pechod.

32 35 Felly y tarawodd yꝛ Arglwydd y bobl: am yꝛ hynn a wnaethent i’r llo yꝛ hwn a wnelſe Aaron.

33 1 Yna y dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, cerdda, dos i fynu oddi ymma, ti a’r bobl rhai a ddygaiſt i fynu o wlad yꝛ Aipht: i’r wlad [am] yꝛ honn y tyngais wꝛth Abꝛaham, Iſaac, ac Iacob gan ddywedyd, i’th hâd di y rhoddaf hi.

33 2 A mi a anfonaf angel o’th flaen di: ac a yꝛraf allan a Canaaneaid, yꝛ Amoꝛiaid, a’r Hethiaid, y Phereziaid yꝛ Hefiaid, a’r Iubuſiaid,

33 3 I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: o herwydd nid afi i fynu yn dy blith, o blegit pobl war-galed wyt, rhac i mi dy ddifa y ffoꝛdd.

33 4 Pan glywodd y bobl y dꝛwg chwedl hwn galaru a wnaethant: ac ni oſododd neb ei hardd-wiſc am dano..

33 5 O blegit yꝛ Arglwydd a ddywedaſe wꝛth Moſes, dywet wꝛth feibion Iſrael pobl wargaled [ydych] chwi, yn ddiſymmwth y deuaf i fynu yn dy blith ac i’th ddifethaf: am hynny yn awꝛ dioſc dy hardd-wiſc oddi am danat fel y dwypwyf beth a wnelwyf it.

33 6 Felly meibion Iſrael a ddioſcaſant eu hardd-wiſc [ennyd] oddi wꝛth fynydd Hoꝛeb.

33 7 Yna Moſes a gymmerodd y babell, ac ai heſtynnodd o’ꝛ tu allan i’r gwerſſyll ym mhell oddi wꝛth y gwerſſyll, ac ai galwodd papell y cyfarfodd: fel y bydde i bawb ar a geiſie yꝛ Arglwydd fyned allan i babell y cyfarfod yꝛ hon [ydoedd] allan o’ꝛ gwerſſyll.

33 8 Pan aeth Moſes i’r babell, yꝛ holl bobl a godaſant, ac a ſafaſant bob vn [ar] ddꝛws ei babell: ac a edꝛychaſant ar ol Moſes nes ei ddyfod i’r babell.

33 9 A phan aeth Moſes i’r babell y deſcynnodd colofn o niwl, ac a ſafodd [wꝛth] ddꝛws y babell: a’r [Arglwydd] a lefarodd wꝛth Moſes.

33 10 Pan welodd yꝛ holl bobl y golofn niwl yn ſefyll [wꝛth] ddꝛws y babell: yna y cododd yꝛ holl bobl, ac a addolaſant bob vn [wꝛth] ddꝛws ei babell.

33 11 A’r Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes wyneb yn wyneb, fel y llefare gŵr wꝛth ei gyfell: yna efe a ddychwelodd i’r gwerſſyll, ond y llangc [ſef] Ioſua mab Nun ei wenidog ef ni ſyflodd o’ꝛ babell.

33 12 A Moſes a ddywedodd wꝛth yꝛ Arglwydd gwel ti a ddywedi wꝛthif dwg y bobl ymma i fynu, ac ni ddangoſaiſt i mi yꝛ hwn a anfoni gyd a mi: a thi a ddywedaiſt mi a’th adwen wꝛth [dy] enw, a chefaiſt hefyd ffafoꝛ yn fyng-olwg.

33 13 Yn awꝛ gan hynny o chefais ffafoꝛ yn dy olwg di, yſpyſſa i mi dy ffoꝛdd attolwg fel i’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafoꝛ yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di [yw] y genhedlaeth hon.

33 14 Yntef a ddywedodd: fy wyneb a gaiff fyned [gyd a thi] a thoddaf oꝛphywyſoꝛa it.

33 15 Yna efe ddywedodd wꝛtho: onid aiff dy wyneb, [gyd a ni,] nac arwein ni i fynu oddi ymma.

33 16 Pa fodd y gwyddir yn awꝛ gael o honofi ffafoꝛ yn dy olwg, mi a’th bobl’: onid dꝛwy fyned o honot ti gyd a ni? felly myfi a’th bobl a ragoꝛwn ar yꝛ holl bobl y rhai [ydynt] ar wyneb y ddaiar.

33 17 A’r Arglwydd a ddywedodd wꝛth Moſes gwnaf hefyd y peth hynn yꝛ hwn a leferaiſt: o blegit ti a gefaiſt ffafoꝛ yn fyng-olwg, a mi a’th adwen wꝛth [dy] enw.

33 18 Yntef a ddywedodd: dangos i mi atolwg dy ogoniant.

33 19 Ac efe a ddywedodd gwnaf i’m holl ddaioni fyned heb law dy wyneb, a chyhoeddaf Iehofa wꝛth [ei] enw o’th flaen di: ac mi a dꝛugarhaf wꝛth yꝛ hwn y cymmerwyf dꝛugaredd, ac a doſturiaf wꝛth yꝛ hwn y toſturiwyf.

33 20 Ac efe a ddywedodd ni elli edꝛych ar fy wyneb: canys ni’m gwel dŷn fi a byw.

33 21 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd, wele fann yn agos attafi: lle y cei ſefyll ar y graig.

33 22 A thꝛa yꝛ elo fyng-ogoniant heibio mi a’th oſodaf o fewn ogof y graig: a mi a’th oꝛthguddiaf a’m llaw nes i mi fyned heibio.

33 23 Yna y tynnaf ymmaith fy llaw, a’m tu ol a gei di weled: ond ni welir fy wyneb.

34 1 A dywedodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, nâdd it ddwy o lechau cerrig fel y rhai cyntaf: a mi a ſcrifennaf ar y llechau y geiriau y rhai oeddynt ar y llechau cyntaf y rhai a doꝛaiſt.

34 2 A bydd barod erbyn y boꝛau; a thyꝛet i fyny yn foꝛau i fynydd Sinai, a ſaf i mi yno ar benn y mynydd.

34 3 Ond na ddeued neb i fynu gyd a thi, ac na weler neb ar yꝛ holl fynydd: na phoꝛed hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

34 4 Yna Moſes a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fâth y rhai cyntaf, ac a gyfododd yn foꝛau, ac a aeth i fynydd Sinai fel y goꝛchymynaſe yꝛ Arglwydd iddo ef: ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

34 5 A’r Arglwydd a ddeſcynnodd mewn niwl, ac a fafodd gyd ag ef yno: ac a gyhoeddodd Iehofa erbyn [ei] henw.

34 6 Canys yꝛ Arglwydd aeth heb law ei wyneb ef, ac a lefodd Iehofa, Iehofa y Duw trugarog, a graſ{ }lawn, hwyꝛ frydic i ddig, ac aml o dꝛugaredd, a gwirionedd.

34 7 Yꝛ hwn ſydd yn cadw trugaredd i filoedd gan faddeu anwiredd, camwedd, a phechod: ac heb gifrif [yꝛ anwir] yn gyfiawn, yꝛ hwn a ymwel ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blāt y plāt hyd y dꝛydedd, a’r bedwaredd [oes,]

34 8 Yna Moſes a fryſſiodd: ac a ymgrymmodd tua yꝛ llawꝛ, ac a addolodd,

34 9 Ac a ddywedodd os cefais yn awꝛ ffafoꝛ yn dy olwg ô Arglwydd, eled yꝛ Arglwydd attolwg yn ein plith ni: er [bod] y rhai hyn yn bobl war-galed, er hynny ti a faddeui ein hanwiredd, a’n pechod, ac a’n etifeddi ni.

34 10 Yntef a ddywedodd wele fi yn gwneuthur cyfammod yng-ŵydd dy holl bobl, gwnaf ryfeddodau y rhai ni wnaed yn yꝛ holl dîr, nac yn yꝛ holl genhedoloedd: a’r holl bobl y rhai yꝛ wyt ti yn eu myſc a gânt weled waith yꝛ Arglwydd, mai ofnadwy [yw] yꝛ hyn a wnaf a thi.

34 11 Cadw yꝛ hyn a oꝛchymynnais it heddyw: wele mi a yꝛraf allan o’th flaen di yꝛ Amoꝛiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, yꝛ Hefiaid hefyd a’r Iebuſiaid.

34 12 A chadw arnat rhac gwneuthur cyfammod a phꝛeſſwyl-wyꝛ y wlad yr hon yꝛ ei di iddi: rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

34 13 Eithꝛ derniwch eu halloꝛau hwynt, dꝛylliwch eu delwau hwynt: a thoꝛrwch i lawꝛ eu llwynau hwynt.

34 14 Canys ni chei ymgrymmu i dduw dieithꝛ o blegit yꝛ Arglwydd eiddigus [yw] ei enw: Duw eiddigus [yw] efe.

34 15 [Gwilia] rhag it wneuthur cyfammod a phꝛeſſwyl-wyꝛ y tîr: ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu iw duwian, a’th alw di, ac i tithe fwytta oi haberth.

34 16 A chymmeryd o honot oi merched i’th feibion: a phutteinio oi merched ar ol eu duwiau hwynt.

34 17 Na wna it dduwiau tawdd.

34 18 Cadw ŵyl y bara croiw, ſaith niwꝛnod y bwytei fara croiw fel y goꝛchymynnais it, yn yꝛ amſer goſodedic ar y mîs Abib: o blegit ym mis Abib y daethoſt allan o’ꝛ Aipht.

34 19 Eiddo fi yw pob cyn-fab: a phob cyntafanedic o’th anifeiliaid, yn eidionnau, ac yn ddefaid a gyfrifir [i mi.]

34 20 Ond y cyntaf-anedic i aſſyn a bꝛynni di ag oed, ac oni phꝛynni toꝛr ei wddf: pꝛyn hefyd bob cyntaf-anedic o’th feibion, ac nac ymddangoſed [neb] ger fy mron yn wag-law.

34 21 Chwe diwꝛnod y gweithi, ac ar y ſeithfed dydd y goꝛphwyſi: [yn gyſtal] yn yꝛ amfer i aredic, ac yn y cynhaiaf y goꝛphywyſi.

34 22 Cadw it hefyd ŵyl yꝛ wythnoſau [ar] ddechꝛeu y cynhaiaf gwenith: a gŵyl y cynnull [ar] ddiwedd y flwyddyn.

34 23 Tair gwaith yn y flwyddyn: yꝛ ymddengys dy holl wꝛwyaid ger bꝛon yꝛ Arglwydd Iôr, Duw Iſrael.

34 24 Canys my a yꝛraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy frô di: ac ni chwennych neb dy dîr di pan elech i fynu i ymddangos ger bꝛon yꝛ Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.

34 25 Nac offrymma waed fy aberth gyd a bara lefeinllyd: ac nac arhoed aberth gŵyl y Paſc tros nos hyd y boꝛau.

34 26 Dŵg y goꝛef o flaen-ffrwyth dy dir, i dŷ yꝛ Arglwydd dy Dduw: na ferwa fynn yn llaeth ei fam.

34 27 Yꝛ Arglwydd hefyd a ddywedodd wꝛth Moſes, ſcrifenna it y geiriau hynn: o blegit wꝛth deſtiolaeth y geiriau hynn y gwneuthum gyfammod a thi, ac ag Iſrael.

34 28 Felly efe a fu yno gyd a’r Arglwydd ddeugain nhiwꝛnod, a deugain nhos heb fwytta bara, ac heb yfed dwfr: tra y ſcrifennodd efe ar y llechau eiriau y cyfammod [ſef] y dec gair.

34 29 A phan ddaeth Moſes i wared o fynydd Sinai, a dwy lech y deſtiolaeth yn llaw Moſes, pan ddaeth efe i wared o’ꝛ mynydd: ni wydde Moſes i groen ei wyneb ddiſgleirio, wꝛth lefaru o honaw ag ef.

34 30 Yna Aaron a holl feibion Iſrael a edꝛychaſant ar Moſes, ac wele groen ei wyeb ef yn diſcleirio: ac ofnaſant neſſau atto.

34 31 A Moſes a alwodd arnynt,ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa, a ddychwelaſant atto: a Moſes a lefarodd wꝛthynt hwy.

34 32 Ac wedi hynny y neſſaodd holl feibion Iſrael: aca efe a oꝛchymynnodd iddynt yꝛ hynn oll a lefaraſe yꝛ Arglwydd ym mynydd Sinai.

34 33 Pan ddaru i Moſes lefaru wꝛthynt: yna efe a roddes lenn gudd ar ei wyneb.

34 34 A phan ddele Moſes ger bꝛon yꝛ Arglwydd i lefaru wꝛtho, efe a dynne ymmaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddele efe allan y llefare wꝛth feibion Iſrael yꝛ hynn a oꝛchymynnid iddo.

34 35 A meibion Iſrael a welſant wyneb Moſes, [ſef] bod croen wyneb Moſes yn diſcleirio: am hynny Moſes a roddod trachefn y llenn gudd ar ei wyneb hyd oni ddele i lefaru wꝛth Dduw.

35 1 Caſclodd Moſes hefyd holl gynnulleidfa meibion Iſrael, a dywedodd wꝛthynt: dymma y pethau y rhai a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd eu gwneuthur.

35 2 Chwe diwꝛnod y gwneithir gwaith, ar y ſeithfed dydd y bydd i chwi Sabboth ſanctaidd [ſef] goꝛphywyſoꝛa* i’r Arglwydd: llwyꝛ rodder i farwolaeth pwy bynnac a wnelo waith arno.

35 3 Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabboth.

35 4 A Moſes a lefarodd wꝛth holl gynnulleidfa meibion Iſrael gan ddywedyd: dymma y peth yꝛ hwn a oꝛchŷnnodd yꝛ Arglwydd gan ddywedyd.

35 5 Cymmerwch o’ch plith offrewm derchafel i’r Arglwydd, pob ewyllyſcar ei galon dyged hyn yn offrwm derchafel i’r Arglwydd: [ſef] aur ac arian, a phꝛês:

35 6 A ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat, a ſidan gwynn, a [blew] geifr.

35 7 A chꝛwyn hyꝛddod wedi eu lliwio yn gochion {go/chion}, a chꝛwyn daiar-ſoch, a choed Sitti.

35 8 Ac olew i’r goleuni: a llyſſiau i olew yꝛ ennaint, ac i’r arogl-darth llyſſeuoc.

35 9 A meini Onix, a menni iw goſod yn yꝛ Ephod, ac yn y ddwyfronnec.

35 10 A phob celfydd o feddwl yn eich plith: deuant a gweithiant yꝛ hyn oll a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd.

35 11 Y tabernacl, ei babell-lenn, ai dô: ei dderbynniadau ai ſtyllod, ei farrau ei golofnau ai foꝛteiſiau.

35 12 Yꝛ Arch, ai thꝛoſſolion, y dꝛugareddfa, a’r wahan-len yꝛ hon [ai] goꝛchguddia.

35 13 Y bwꝛdd, ai dꝛoſſolion, ai holl leſtri: a’r bara goſod.

35 14 A chanhwyll bꝛen y goleuni, ai leſtri, ai luſeranau: ac olew y goleuni.

35 15 Ac alloꝛ yꝛ arogl-darth ai thꝛoſſolion, ac olew yꝛ eneiniad, a’r arogl-darth llyffeuoc, a chaead-lenn dꝛws y tabernacl.

35 16 Alloꝛ y poeth-offrwm a’r alch pꝛês, yꝛ hwn [oedd] iddi, ei thꝛoſſolion ai holl leſtri: y noe ai thꝛoed.

35 17 Troelloc lenni y cynteddfa, ei golofnau ai foꝛteiſiau: caead-lenn poꝛth y cynteddfa.

35 18 Hoelion y taberncal (\sic), a hoelion y cynteddfa ai rhaffau hwynt.

35 19 A gwiſcoedd y wenidogaeth i weini yn y cyſſegr: [a] ſanctaidd wiſcoedd Aaron yꝛ offeiriad, a gwiſceodd ei feibion ef i offeiriadu [ynddynt.]

35 20 Yna holl gynnulleidfa meibion Iſrael aethant allan oddi ger bꝛon Moſes.

35 21 A phob vn yꝛ hwn y dug ei galon ef: ſef pob vn yꝛ hwn y gwnaeth ei ſpꝛyd ef yn ewyllyſcar, a ddaethant [ac] a ddugaſant offrwm derchafael i’r Arglwydd, tu ac at waith pabell y cyfarfod, a thu ac at ei holl waſanaeth hi, a thu ac at y gwiſcoedd ſanctaidd.

35 22 A daethant yꝛ wŷꝛ, ac yn wꝛagedd: pob vn ewyllyſcar ei galon a ddugaſant fachau, a chluſt-dlyſau, a modꝛwyau, a chadwynau eu gyd yn dlyſau o aur, a phob gwꝛ yꝛ hwn a offrymmodd offrwm cwhwfan [a offrymmodd] aur i’r Arglwydd.

35 23 A phob vn yꝛ hwn y caed gyd ag ef ſidan glâs, neu boꝛphoꝛ, neu ſcarlat, neu ſidan gwynn, neu [flew] grifr, neu grwyn hyꝛddod wedi lliwio yn gochion, neu grwyn daiar-foch ai dugaſant.

35 24 Pwy bynnac a offrymmodd offrwm derchafel o arian, neu bꝛês, a ddugaſant offrwm derchafel i’r Arglwydd: a phob vn, yꝛ hwn y aed gyd ag ef goed Sittim i ddim o waith y gwaſanaeth ai ugaſant.

35 25 A phob gwꝛaig gelfydd a nyddodd ai llaw ei hun: ac a ddugaſant edafedd, ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat, a ſidan gwynn.

35 26 A’r holl wꝛagedd y rhai y derchafodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddaſant [flew] geifr.

35 27 A’r pennaethiaid a ddugaſant feini Onix, a meini iw goſod ar yꝛ Ephod, ac ar y ddwyfronnec.

35 28 A llyſſiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yꝛ ennaint, ac i’r arogl-darth llyffeuoc.

35 29 Holl blant Iſrael yn wŷꝛ ac yn wꝛagedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ac at yꝛ holl waith y hwn a oꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd dꝛwy law Moſes ei wneuthur, a ddugaſant i’r Arglwydd offrwm ewyllyſcar.

35 30 Yna y dywedodd Moſes wꝛth feibion Iſrael gwelwch, galwodd yꝛ Arglwydd yn enwedic: Beſaleel fab Uꝛi, fab Hur o lwyth Iuda.

35 31 Ac ai llawnodd ef ag yſpꝛyd Duw: mewncyfarwyddyd mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith.

35 32 I ddychymygu cywꝛeinrwydd: i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pꝛês.

35 33 Ac mewn cyfarwyddyd i oſod meini, ac mewn ſaernieth pꝛenn: i weithio ym mhob gwaith cywꝛaint.

35 34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddyſcu eraill:] efe, ac Aholiab ma Achiſamech o lwyth Dan.

35 35 Llawnodd hwynt a doethineb calon i wneuthur pob gwaith ſaer a chywꝛeinwaith, a gwaith edef a nodwydd, mewn ſidan glâs, ac mewn poꝛphoꝛ, ac mewn ſcarlat, ac mewn ſidan gwyn, ac i wau: gan wneuthur phob gwaith a dychymygu cywꝛeinrwydd.

36 1 Yna y gweithiodd Beſaleel ac Aholiab, a phôb gŵꝛ celfydd y rhai y rhoddaſe yꝛ Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt i fedꝛu gwneuthur holl waith gwſanaeth y cyſſegr: yn ôl yꝛ hynn oll a oꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd.

36 2 Canys Moſes a alwaſe am Beſaleel ac Aholiab, ac am bôb gŵꝛ celfydd yꝛ hwn y rhodaſe yꝛ Arglwydd gyfarwyddyd iddo, pôb vn yꝛ hwn y dug ei galon ei hun ef i neſſau at y gwaith iw weithio ef.

36 3 A chymmeraſant oddi ger bꝛon Moſes yꝛ holl offrwm derchafel, yꝛ hwn a ddygaſe meibion Iſrael i waith gwaſanaeth y cyſſegr iw weithio ef: a hwynt a dduaſant atto ef ychwaneg o offrwm gwir-fodd bôb boꝛau.

36 4 Felly yꝛ holl rai celfydd a’r a oeddynt yn gweithio holl waith y cyſſegr a ddaethant bôb vn oddi wꝛth ei waith yꝛ hwn yꝛ oeddynt yn ei wneuthu.

36 5 A llefaraſant wꝛth Moſes gan ddywedyd y mae yꝛ (\sic) bobl yn dwyn mwy nac ſydd ddigon: er gwaſanaethu i’r gwaeith yꝛ hwn a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd ei wneuthur.

36 6 Yna Moſes a oꝛchymynnodd, a hwynt a baraſant gyhoeddi yn y gwerſſyll gan ddywedyd, na wnaed na gwꝛ na gwꝛaig waith mwy tu ac at offrwm derchafel y cyſſegr: felly y gwaharddwyd y bobl rhac dwyn [mwy.]

36 7 Canys yꝛ ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith, er gwneuthur hynny, ac ychwaneg.

36 8 A’r holl rai celfydd o’ꝛ rhai oeddynt yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddec llenn o ſidan gwynn cyfrodedd, o ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat [yn llawn] Cerubiaid, o waith cywꝛaint y gwnaethant hwynt.

36 9 Hŷd pôb llenn [oedd] wyth gufydd ar hugain, a llêd pôb llen [oedd] bedwar cufydd: yꝛ vn feſur [oedd] i’r holl lenni.

36 10 Ac efe a gydiodd bum llenn wꝛth eu gylydd: ac a gydiodd y pum llenn [eraill] wꝛth eu gilydd.

36 11 Ac efe a wnaeth ddolennau o ſidan glâs ar ymyl y llenn gyntaf, ar [ei] chwꝛr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl y llenn eithaf yn yꝛ ail cydiad.

36 12 Dec dolen a deugain a wnaeth efe ar vn llenn, a dec dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwꝛr eithaf i’r llen yꝛ hon [ydoedd] yn yꝛ ail cydiad: y dolennau oeddynt yn dal y naill [lenn] wꝛth y llall.

36 13 Ac efe a wnaeth ddec a deugain o dderbynniadau aur: ac a gydiodd y naill lenn wꝛth y llall a’r derbynniadau, fel y bydde [hynny] yn vn tabernacl.

36 14 Efe a wnaeth hefyd lenni [o flew] geifr [i fod] yn babell-len ar y tabernacl: yn vn llenn ar ddec y gwnaeth efe hwynt.

36 15 Hŷd vn llen oedd cufydd ar hugain, a llêd vn llenn [oedd] bedwar cufydd: a’r vnfeſur oedd i’r vn llenn ar ddec.

36 16 Ac efe a gydiodd bum llenn wꝛthynt eu hunain: a chwe llenn wꝛthynt eu hunain.

36 17 Efe a wnaeth hefyd ddec dolen a deugain ar ymyl y llenn eithaf yn y cydiad: a dec dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl llenn yꝛ ail cydiad.

36 18 Ac efe a wnaeth ddec a ddeugain o dderbynniadau pꝛês: i gydio y babell-lenn i fod yn vn.

36 19 Ac efe a wnaeth dô i’r babell-lenn o grwyn hyꝛddod wedi eu lliwio yn gochion: a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.

36 20 Ac efe a wnaeth ſtyllod i’r tabernacl o goed Sittim yn eu ſefyll.

36 21 Dec cufydd [oedd] hŷd yꝛ ſtyllenn: a chufydd a hanner cufydd lled pôb ſtyllen.

36 22 Dau dyno [oedd] i’r vn ſtyllenn wedi goſod fel ffynn yſcal y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ſtyllod y tabernacl.

36 23 Ac efe a wnaeth ſtyllod y tabernacl: yn vgain ſtyllen i’r tu dehau tua ’r dehau.

36 24 A deugain moꝛtais arian a wnaeth efe dann yꝛ vgain ſtyllen: dwy foꝛtais dann vn ſtyllen iw dau dyno, a dwy foꝛtais dann ſtyllen arall iw dau dyno.

36 25 Ac i ail yſtlys y tabernacl o du y gogledd: efe a wnaeth vgain ſtyllen.

36 26 Ai deugain mhoꝛtais o arian: dwy foꝛtais tann vn ſtyllen, a dwy foꝛtais tan ſtyllen arall.

36 27 Ac i du goꝛllewyn y tabernacl y gwnaeth efe chwech ſtyllen.

36 28 A dwy ſtyllen a wnaeth efe yng-honglau y tabernacl i’r ddau yſtlys.

36 29 Ac yꝛ oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd, ac yꝛ oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wꝛth vn fodꝛwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

36 30 Ac yꝛ oedd wyth ſtyllen ai foꝛteiſiau yn vn ar bymthec o foꝛteiſiau arian: ſef (\sic) dwy foꝛtais tann bôb ſtyllen.

36 31 Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ſtyllod vn yſtlys i’r tabernacl.

36 32 A phum barr i ſtyllod ail yſtlys y tabernacl, a phum barr i ſtyllod y tabernacl i’r yſtlys o du yꝛ goꝛllewyn.

36 33 Ac efe a wnaeth y barr canol i farrio yng-hanol yꝛ ſtyllod o gwꝛr i gwꝛr.

36 34 Ac efe a oꝛeurodd y ſtyllod ag aur, ac a wnaeth eu modꝛwyau hwynt o aur i fyned am y barrau: ac a oꝛeurodd y barrau ag aur.

36 35 Ac efe a wnaeth wahan-lenn o ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ a ſcarlat, a ſidan gwynn cyfrodedd: o waith cywꝛaint y gwnaeth efe hi [yn llawn] Cerubiaid.

36 36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn [o goed] Sittim, ac ai goꝛeurodd hwynt ag aur, ai pennau [odddynt] (\sic) aur: ac efe a fwꝛriodd iddynt bedair moꝛtais o arian.

36 37 Ac efe a wnaeth gaead-len i ddꝛws y tabernacl o ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat, a ſidan gwynn cyfrodedd: o waith edef a nodwydd.

36 38 Ai phump colofn, ai pennau, ac a oꝛeurodd eu pennau hwnyt, ai cylchau ag aur: ai phum moꝛtais [oeddyt] o bꝛês.

37 1 A Beſaleel a wnaeth yꝛ Arch, o goed Sittim: o ddau gufydd a hanner ei hŷd a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchter.

37 2 Ac ai goꝛeurodd ag aur pur o fewn ac oddi allan: ac a wnaeth iddi goꝛon o aur o amgylch.

37 3 Ac efe a fwꝛiodd iddi bedair modꝛwy o aur ar ei phedair congl: ſef dwy fodꝛwy ar y naill yſtlys, a dwy fodꝛwy ar ei hyſtlys arall.

37 4 Efe a wnaeth hefyd dꝛoſolion o goed Sittim: ac ai goꝛeurodd hwynt ag aur.

37 5 Ac a oſododd y troſolion dꝛwy y modꝛwyau ar yſtlyſau yꝛ Arch: i ddwyn yꝛ Arch.

37 6 Ac efe a wnaeth dꝛugareddfa o aur coeth: o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a henner ei llêd.

37 7 Ac efe a wnaeth ddau Gerub aur: o vn dꝛyll cyfan y gwnaeth efe hwynt ar ddau gwꝛr y dꝛugareddfa.

37 8 Un Cerub ar y naill gwꝛr, a Cherub arall ar y cwꝛr arall: o’ꝛ dꝛugareddfa y gwnaeth efe y Cerubiaid ar ei dau gwꝛr.

37 9 A’r Cerubiaid oeddynt gan ledu adenydd tuac i fynu yn goꝛchguddio ai hadenydd y dꝛugareddfa, ai hwynebau oeddynt bôb vn at ei gilydd: wynebau y Cerubiaid [oeddynt] tu ac at y dꝛugareddfa.

37 10 Ac efe a wnaeth fwꝛdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei lêd, a chufydd a hanner ei vchter.

37 11 Ac ai goꝛeurodd ef ag aur pûr: ac a wnaeth iddo goꝛon o aur o amgylch.

37 12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o lêd llaw: ac a wnaeth goꝛon o aur ar ei gylch o amgylch.

37 13 Ac efe a fwꝛiodd iddo bedair modꝛwy o aur: ac a roddodd y modꝛwyau wꝛth ei bedair congl, y rhai [oeddynt,] yn bedwar troed iddo.

37 14 Ar gyfer y cylch yꝛ oedd y modꝛwyau: i fyned am y barrau i ddwyn y bwꝛdd.

37 15 Ac efe a wnaeth dꝛoſolion o goed Sittim, ac ai goꝛeurodd hwynt ag aur i ddwyn y bwꝛdd.

37 16 Efe a wnaeth hefyd y lleſtri y rhai [fydde] ar y bwꝛdd, ei ddyſclau ef ai lwyau, ai phiolau ai gafnau y rhai y tywalltyd a hwynt: o aur pûr.

37 17 Ac efe a wnaeth ganhwyll-bꝛen o aur coeth: o vn dꝛyll cyfan y gwnaeth efe y canhwyll-bꝛen, ei balader, ei geingciau, ei bedill, ei gnapiau, ai flodau oeddynt o honaw ei hun.

37 18 A chwech o geingciau yn myned allan oi yſtlyſau: tair caingc canhwyll-bꝛen o vn yſtlys, a thair gaingc canhwyll-bꝛen o’ꝛ aill yſtlys.

37 19 Tair padell ar waith almon, cnap a blodenn [oedd] ar vn gaingc, a thair padell o waith almon, cnap a blodeun ar gaingc arall: yꝛ vn modd [yꝛ oedd] ar y chwe chaingc y rhai oeddynt yn dyfod allan o’ꝛ canhwyll-bꝛen.

37 20 Ac ar y canhwyll-bꝛen yꝛ [oedd] pedair padell: o waith almon, ei gnappiau ai flodau.

37 21 A chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tann ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc y rhai a oeddynt yn dyfod allan o honaw.

37 22 Eu cnapiau hwynt, ai ceingciau hwynt oeddynt o honaw ef: y cwbl o honaw [ydoedd] vn dꝛyll cyfan o aur coeth.

37 23 Ac efe a wnaeth ei ſaith luſern ef: ai efeiliau, ai gafnau o aur pur.

37 24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe hwnnw: ai holl leſtri.

37 25 Gwnaeth hefyd alloꝛ yꝛ arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei llêd yn bedair ongl, ac o ddau gufydd ei hucher, ei chyꝛn oeddynt o honi ei hun.

37 26 Ac efe a goꝛeurodd hi ag aur coeth, ei chaead, ai hyſtlyſau o amgylch ai chyꝛn: ac efe a wnaeth iddi goꝛon aur o amgylch.

37 27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodꝛwy o aur wꝛth ei ddwy gongl, ar ei dau yſtlys, oddi tan ei choꝛon: i fyned am dꝛoſolion iw dwyn arnynt.

37 28 Ac efe a wnaeth dꝛoſolion o goed Sittim: ac ai goꝛeurodd hwynt ag aur.

37 29 Ac efe a wnaeth olew yꝛ enneiniad ſanctaidd, a’r arogl-darth llyſſeuoc pur o waith yꝛ apothecari.

38 1 Ac efe a wnaeth alloꝛ y poeth offrwm o goed Sittim: o bump cufydd ei hŷd, a phump cufydd ei llêd, yn bedair ongl, ac yn dꝛi chufydd ei huchter.

38 2 Gwnaeth hefyd ei chyꝛn hi ar ei phedair congl, ei chyꝛn hi oeddynt o honi ei hun: ac efe ai gwiſcodd hi a phꝛês.

38 3 Efe a wnaeth hefyd holl leſtri yꝛ alloꝛ, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r ciginiau a’r thuſſerau, ei holl leſtri i hi a wnaeth efe o bꝛês.

38 4 Ac efe a wnaeth i’r alloꝛ, alch pꝛês ar waith rhwyd: dann ei chwmpas oddi tannodd hyd ei hanner hi.

38 5 Ac efe a fwꝛiodd bedair modꝛwy i bedwar chwꝛr yꝛ alch pꝛêſ: i fyned am dꝛoſolion.

38 6 Ac efe a wnaeth dꝛoſolion o goed Sittim: ac ai gwiſcodd hwynt a phꝛês.

38 7 Ac efe a dynnodd y troſolion dꝛwy y modꝛwyau ar yſtlyſau yꝛ alloꝛ iw dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag yſtyllod.

38 8 Ac efe a wnaeth noe bꝛês, ai thꝛoed o bꝛês o ddꝛychau y lluoedd [gwꝛagedd,] y rhai a ymgaſcient [at] ddꝛws pabell y cyfarfod.

38 9 Ac efe a wnaeth y cynteddfa ar yꝛ yſtyls dehau, tu a’r dehau: llenni troelloc y cynteddfa [oeddynt] ſidan gwynn cyfrodedd o gan cuſydd.

38 10 Ai hugain colofn, ac ai hugain moꝛais o bꝛês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.

38 11 Ac ar du yꝛ gogledd [y troelloc lenni oeddynt] gant cufydd, eu hugain colofn, ai hugain moꝛtais o bꝛês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.

38 12 Ac o du yꝛ goꝛllewyn llenni troelloc o ddec cufydd a deugain: eu dec colofn, ai dec moꝛtais, a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.

38 13 Ac o du yꝛ dwyꝛain lle y cyfyd haul [yꝛ oedd troelloc lenni] o ddec cufydd a deugain.

38 14 Llenni troelloc o bymthec cufydd [a wnaeth efe] o’ꝛ [naill] du: eu tair colofn, ai tair moꝛtais.

38 15 Ac [efe a wnaeth] ar yꝛ ail yſtyls o ddeutu dꝛws y poꝛth lenni troelloc o bymthec cufydd, eu tair colofn, ai tair moꝛtais.

38 16 Holl lenni troelloc y cynteddfa o amgylch [a wnaeth efe] o ſidan gwynn cyfrodedd.

38 17 Ond moꝛteiſiau y colofnau [oeddynt] o bꝛês, a phennau y colofnau, ai cylchau o arian: a gwiſc eu pennau o arian, a holl golofnau y cynteddfa oeddynt wedi eu cylchu ag arian.

38 18 A chaead-lenn dꝛws y cynteddfa [ydoedd] ar waith edef a nodwynn, o ſidan glâs, a poꝛphoꝛ (\sic) ac ſcarlat, a ſidan gwynn cyfrodedd: ac yn vgain cufydd o hŷd, ai huchter, ai llêd yn bump cufydd ar gyfer llenni troelloc y cynteddfa.

38 19 Eu pedair colofn hefyd, ai pedair moꝛtais [oeddynt] o bꝛês: ai pennau o arian, gwiſc eu pennau hefyd ai cylchau [oeddynt] arian.

38 20 A holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch [oeddynt] bꝛês.

38 21 Dymma gyfrif [perthynaſau] y tabernacl [ſef] tabernacl y deſtiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wꝛth oꝛchymyn Moſes: [i] waſanaeth y Lefiaid dꝛwy law Ithamar fab Aaron yꝛ offeiriad.

38 22 Beſaleel mab Uri mab Hur o lwyth Iuda, a wnaeth yꝛ hyn oll a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

38 23 A chyd ag ef yꝛ ydoedd Aholiab ma Achiſamech o lwyth Dan ſaer cywꝛaint, a gwniedydd mewn ſidan glâs, ac mewn poꝛphoꝛ, ac mewn ſcarlat, ac mewn ſidan gwynn.

38 24 Yꝛ holl aur a weithiwyd yn y gwaith [ſef] yn holl waith y cyſſegr, ydoedd aur yꝛ offrwm chwhwfan [ſef] naw talent ar hugain, a ſeithgant ſicl, a dec ar hugain yn ôl ſicl y cyſſegr

38 25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’ꝛ gynnulleidfa [oeddynt] gant talent, a mîl a ſeithgant a phymthec ſicl a thꝛugain yn ôl y ſicl ſantaidd.

38 26 Hanner ſicl am bôb pen, [ſef] hanner ſicl yn ôl y ſicl ſantaidd am bôb vn a ele heibio dan rif o fab vgein-mlwydd ac vchod [ſef] am chwe chant mil a thair mil, a phum-cant, a dec a deugain.

38 27 Ac yꝛ oedd cant talent o arian i fwꝛw moꝛteiſiau y cyſſegr a moꝛteiſiau y wahan-len: cant moꝛtais o’ꝛ cant talent, talent i bôb moꝛtais.

38 28 Ac o’ꝛ mîl, a ſeith-gant, a phymthec [ſicl] a thꝛugain y gwnaeth efe bennau y colofnau: ac y gwiſcodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

38 29 A phꝛês yꝛ offrwm chwhwfan [oedd] ddec talent a thugain: a dwy fil a phedwar cant o ſiclau.

38 30 Ac efe a wnaeth o hynny foꝛteiſiau dꝛws pabell y cyfarfod a’r alloꝛ bꝛês, a’r alch pꝛes yꝛ hwn oedd ynddi: a holl leſtri yꝛ alloꝛ.

38 31 A moꝛteiſiau y cynteddfa: a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

39 1 Ac o ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat y gwnaethant wiſcoedd gwenidogaeth i weini yn y cyſſegr: gwnaethant y gwiſcoedd ſanctaidd y rhai [oeddynt] i Aaron fel y goꝛchymmynaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 2 FElly y gwnaethant yꝛ Ephod o aur, ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ, ac ſcarlat a ſidan gwynn cyfrodedd.

39 3 A gyꝛraſant yꝛ aur yn ddalennau, ac ai toꝛraſant yn edafedd i weithio ym myſc y ſidan glâs, ac ym myſc y poꝛphoꝛ, ac ym myſc y ſcarlat, ac ym myſc y ſidan gwynn: yn waith cywꝛaint.

39 4 Yſcwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wꝛth ei dau gwꝛr y cydiwyd hi.

39 5 A chywꝛein-waith ei gwꝛegys yꝛ hwn oedd arni [ydoedd] o honi ei hun yn vn waith a hi o aur, ſidan glâs, a phoꝛphoꝛ ac ſcarlat, a ſidan gwynn cyfrodedd: megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 6 A hwynt a weithiaſant feini Onix wedi eu naddu a naddiadau ſêl, yn ol henwau meibion Iſrael.

39 7 A goſododd hwynt ar yſcwyddau yꝛ Ephod yn feini coffadwꝛiaeth i feibion Iſrael: megis y goꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 8 Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronnec o waith cywꝛaint, ar waith yꝛ Ephod: o aur, ſidan glâs, poꝛphoꝛ hefyd ac ſcarlat, a ſidan gwynn cyfrodedd.

39 9 Scwar ydoedd, yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwy-fronnec: o rychwant ei llêd, yn ddau ddyblyg.

39 10 A llawnaſant hi a phedair rhes o feini: rhês o Sardius], Tophas, a Smaragdus [ydoedd] y rhês gyntaf.

39 11 A’r ail rhes [oedd] Ruby, Saphyꝛ, ac Adamant.

39 12 A’r dꝛydedd rhês [ydoedd] Lincur, Achat ac Amethiſt.

39 13 A’r bedwaredd rhês ydoedd Turcas Onix ac Iaſpis: wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.

39 14 A’r meini [oeddynt] yn ol henwau meibion Iſrael yn ddeu-ddec yn ol eu henwau hwynt: pôb vn wꝛth ei henw [oeddynt] o naddiadau fel i’r dauddec llwyth.

39 15 A hwynt a wnaethant ar y ddwyfronnec gadwynau cydterfynol* yn bleth-waith o aur pûr.

39 16 A gwnaethant ddau foglyn aur a dwy fodꝛwy o aur, ac a roddaſant y ddwy fodꝛwy ar ddau gwꝛr y ddwyfronnec.

39 17 A rhoddaſant y ddwy gadwyn o aur trwy y ddwy fodꝛwy, ar gyꝛrau y ddwyfronnec.

39 18 A deu-penn y ddwy gadwyn a roddaſant mewn dau foglyn: ac ai goſodaſant ar yſgwyddau yꝛ Ephod o’ꝛ tu blaen.

39 19 Gwnaethant hefyd ddwy fodꝛwy o aur, ac ai goſodaſant ar ddau gwꝛr y ddwyfronnec: o’ꝛ tu mewn ar yꝛ ymyl yꝛ hwn ſydd ar yſtlys yꝛ Ephod.

39 20 A hwynt a wnaethant ddwy fodꝛwy aur ac ai goſodaſant ar ddau yſtlys yꝛ Ephod oddi tanodd oi thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wꝛegys yꝛ Ephod.

39 21 Codaſant hefyd y ddwyfronnec erbyn ei modꝛwyau at fodꝛwyau yꝛ Ephod a llinin o ſidan glâs i fod ar wꝛegys yꝛ Ephod, fel na ddatodid y ddwyfronnec oddi wꝛth yꝛ Ephod: megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 22 Ac efe a wnaeth fantell yꝛ Ephod ei gyd o ſidan glâs yn wauad-waith.

39 23 A thwll penn y fantell [oedd] yn ei chanol, fel tll pen lluric wedi gwꝛymmio ei tholer o amgylch rhac ei rhwygo.

39 24 A gwnaethant ar odꝛau y fantrell [lun] Pomgranadau, o ſidan glâs, poꝛphoꝛ ac ſcarlat a ſidan gwyn cyfrodedd.

39 25 Gwnaethant hefyd glychau o aur pur, ac a roddaſant y clychau rhwng y pomgranadau, ar odꝛau y fantell o amgylch ym myſc y pomgranadau.

39 26 Clôch a phom-granad, a chlôch a phomgranad, ar odꝛau y fantell o amgylch i weini [ynddynt,] megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 27 A hwynt a wnaethant beiſiau o ſidan gwynn yn wauad-waith i Aaron ac iw feibion.

39 28 A meitr o ſidan gwynn, a chappiau hardd o ſidan gwynn: a llawdꝛau caeroc o ſidan gwynn cyfrodedd.

39 29 A gwꝛegys o ſidan gwynn cyfrodedd, ac o ſidan glâs, poꝛphoꝛ, a ſcarlat ar waith edef a nodwydd: fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 30 Gwnaethant hefyd dalaith y goꝛon ſanctaidd o aur pûr, ac a ſcrifennaſant arni ſcrifen fel naddiad ſêl: Sancteiddꝛwydd (\roman) i’r (\roman) Arglwydd (\roman).

39 31 A rhoddaſant wꝛthi linin o ſidan glâs, iw oſod i fynu ar y meitr: fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

39 32 Felly y goꝛphennwyd holl waith y tabernacl [ſef] pabell y cyfarfod: a meibion Iſrael a wnaethant yn ol yꝛ hynn oll a oꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes, felly y gwnaethant.

39 33 Dugaſant hefyd y tabernacl at Moſes, y babell ai holl ddodꝛefn: ei derbynniadau, ei ſtyllod, ei barrai, ai cholofnau ai moꝛteiſiau.

39 34 A’r tô o grwyn hyꝛddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r tô o grwyn daiar-foch: a’r llenn wahan yꝛ hon oedd yn goꝛchguddio.

39 35 Arch y deiſtiolaeth, ai thꝛoſolion, a’r dꝛugareddfa.

39 36 Y bwꝛdd hefyd ai h holl leſtri, a’r bara goſod.

39 37 Y canhwyll-bꝛen pur ai luſernau [ſef] luſernau iw taclu, ai holl leſtri, ac olew y goleuni.

39 38 A’r alloꝛ aur, ac olew yꝛ eneiniad, a’r arogl-darth llyſſeuoc: a chaead-lenn dꝛws y babell.

39 39 Yꝛ alloꝛ bꝛês, a’r alch pꝛês yꝛ hwn [oedd] iddi, ei thꝛoſolion ai holl leſtri: a’r noe ai thꝛoed.

39 40 Llenni troelloc y cynteddfa, ei golofnau ai foꝛteiſiau, a chaead lenn poꝛth y cynteddfa, ei raffau ai hoelion: a holl ddodrefn gwaſanaeth y tabernacl, ſef pabell y cyfarfod.

39 41 Gwiſcoedd y wenidogaeth i weini yn y cyſſegr: ſef ſanctaidd wiſcoedd Aaron yꝛ offeiriad, a gwiſcoedd ei feibion ef i offeiriadu.

39 42 Yn ol yꝛ hynn oll a oꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes: felly y gwnaeth meibion Iſrael yꝛ holl waith.

39 43 A Moſes a edꝛychodd ar yꝛ holl waith, ac wele hwynt ai gwnaethant megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd, felly y gwnaethant: yna Moſes ai bendithiodd hwynt.

40 1 Yna yꝛ Arglwydd a lefarodd wꝛth Moſes gan ddywedyd.

40 2 Yn y mîs cyntaf ar [y dydd] cynta o’ꝛ mîs y cyfodi y tabernacl [ſef] pabell y cyfarfod.

40 3 A goſot yno Arch y deſtiolaeth: a oꝛchguddia yꝛ Arch a’r wahan-lenn.

40 4 Dŵg i mewn hefyd y bwꝛdd a thꝛefna ef yn dꝛefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll-bꝛen a goleua di ei luſernau ef.

40 5 Goſot hefyd alloꝛ aur yꝛ arogl-darth ger bꝛon Arch y deſtiolaeth: a goſot gaead-len dꝛws y tabernacl.

40 6 Dod hefyd alloꝛ y poeth offrwm ar gyfer dꝛws y tabernacl, [ſef] pabell y cyfarfod.

40 7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r alloꝛ, a dod ynddi ddwfr.

40 8 A goſot hefyd y cynteddfa oddi amgylch, a dod gaead-lenn [ar] boꝛth y cyteddfa.

40 9 A chymmer olew yꝛ enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hynn oll [ſydd] ynddo, a chyſſegra ef ai holl leſtri: fel y byddo gyſſegredic.

40 10 Enneinia hefyd alloꝛ y poeth offrwm, a chyſſegra yꝛ alloꝛ ai holl leſtri: a’r alloꝛ fydd ſancteidd-beth cyſſegredic.

40 11 Enneinia y noe ai thꝛoed, a ſancteiddia hi.

40 12 A phâr i Aaron ac iw feibion ddyfod i ddꝛws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.

40 13 A gwiſc am Aaron y gwiſcoedd ſantaidd: ac enneinia ef, a ſancteiddia ef i offeiriadu i mi.

40 14 Dŵg hefyd ei feibion ef, a gwiſc hwynt a pheiſiau.

40 15 Ac enneinia hwynt megis yꝛ enneiniaſt eu tad hwynt i offeiriadu i mi: fel y byddo eu henneiniad iddynt yn offeiriadaeth dꝛagwyddol dꝛwy eu hoeſoedd.

40 16 Felly Moſes a wnaeth yn ol yꝛ hynn oll a oꝛchymynnodd yꝛ Arglwydd iddo: felly y gwnaeth efe.

40 17 Felly yn mîs cyntaf o’ꝛ ail flwyddyn, ar [y dydd] cyntaf o’ꝛ mis y codwyd y tabernacl.

40 18 Canys Moſes a gododd y tabernacl, ac a roddodd ei foꝛteiſiau, ac a oſododd ei ſtyllod ac a roddes ei farrau: ac a gododd ei golofnau.

40 19 Ac a ledodd y babell-lenn ar {a’r} y tabernacl ac a oſododd dô y babell-lenn arni oddi arnodd fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 20 Cymmerodd hefyd arhoddodd y deſtiolaeth yn yꝛ Arch, a goſododd y troſolion wꝛth yꝛ Arch: ac a roddodd y dꝛugareddfa i fynu ar yꝛ Arch.

40 21 Ac efe a ddûg yꝛ Arch i’r tabernacl, ac a oſododd y wahan-len oꝛchudd, i oꝛchguddio Arch y deſtiolaeth: megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 22 Ac efe a roddodd y bwꝛdd o fewn pabell y cyfarfod ar yſtlys y tabernacl, o du yꝛ gogledd: o’ꝛ tu allan i’r wahan-lenn.

40 23 Ac efe a dꝛefnodd yn dꝛefnuſ arno ef y bara ger bꝛon yꝛ Arglwydd: fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 24 Ac efe a oſododd y canhwyll-bꝛen o fewn pabell y cyfarfod ar gyfer y bwꝛdd ar yſtlys y tabernacl, o du yꝛ dehau.

40 25 Ac efe a oleuodd y luſernan ger bꝛon yꝛ Arglwydd: fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 26 Efe hefyd a oſododd yꝛ alloꝛ aur ym mhabell y cyfarfod: o flaen y wahan-lenn.

40 27 Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth llyſſeuoc megis y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 28 Ac efe a oſododd gaead-lenn [ar] ddꝛws y tabernacl.

40 29 Ac efe a oſododd alloꝛ y poeth offrwm [wꝛth] ddꝛws y taernacl [ſef] pabell y cyfarfod: ac a offrymmodd arni boeth offrwm a bwyd offrwm, fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd.

40 30 Efe a oſododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r alloꝛ: ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

40 31 A Moſes ac Aaron ai feibion a olchaſant yno eu dwylo, ai traed.

40 32 Pan ddelent i babell y cyfarfod a phan neſſaent at yꝛ alloꝛ yꝛ ymolchent: fel y goꝛchymynnaſe yꝛ Arglwydd wꝛth Moſes.

40 33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl, a’r alloꝛ, ac a roddodd gaead-lenn [ar] boꝛth y cynteddfa: felly y goꝛphennodd Moſes y gwaith.

40 34 Yna y niwl a oꝛchguddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yꝛ Arglwydd a lawnodd y tabernacl.

40 35 Ac ni alle Moſes fyned i babell y cyfarfod, am i’r niwl aros arni: ac i ogoniant yꝛ Arglwydd lenwi y tabernacl.

40 36 A phan gyfode y niwl oddi ar y tabernacl, y cychwnne meibion Iſrael iw holl deithiau.

40 37 Ac oni chyfode y niwl: yna ni chychynnne meibion Iſrael hyd y ddyd y cyfode.

40 38 Canys niwl yꝛ Arglwydd [ydoedd] ar y tabernacl, y dydd, a thân ydoedd yno y nos: yng-olwg holl dŷ Iſrael yn eu holl deithiau hwynt.