Beirdd y Bala/D. Silvan Evans
Gwedd
← Llyn Tegid (3) | Beirdd y Bala gan John Jones (Ioan Tegid) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ateb i Daniel Ddu → |
I DANIEL SILVAN EVANS.
(Daniel Las) ar ei fynediad i Goleg Dewi Sant.
Llonna byth o'th fodd yn Llanbedr—asgen
Ni chei; dysg yn hyfedr,
Ac am dy ddysg, a'th gymedr,
Mawl Dduw, nid Pawl, ac nid Pedr.
A Llewelyn, llew olwg,
A'i drem a'th gadwo rhag drwg.
Bydd isel, gochel bob gwyd,
Boddia Dduw, a bydd ddiwyd.