[Cyfansoddwyd y ddau bennill hyn gan Elin Huw, chwaer Rowland Huw o'r Graienyn, ar ddiwedd dwy flynedd o afiechyd, Rhag. 31, 1762.]
I
DAW terfyn ar fy ngofid, Cai fynd yn goncrwr llawn,
Waith Iesu ar Galfaria, Fu'n talu troswy 'r iawn;
Er teimlo ynw i luoedd O bob rhyw lygredd llym,
Mi gana i dragwyddoldeb Er pechod mawr ei rym.
II.
Er bod gofidiau yma, A'r tonau mawr eu stwr,
Yn rhoddi f'enaid egwan Yn fynych tan y dŵr;
Er maint yw rhwydau Satan, A'i saethau mawr eu llid,
Cai lechu yn mynwes Iesu Tra byddwyf yn y byd.