Beirdd y Bala/Gobaith Seion
Gwedd
← Iesu | Beirdd y Bala gan William Edwards (1773—1853) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Yr Efengyl → |
GOBAITH SEION.
A heibio'r nos gymylog hon,
Mae'r bore bron a gwawrio;
Bydd Seion Duw, a'i gruddiau'n llon,
Yn magu meibion eto.
O cyfod, Seion, na fydd brudd,
A gwel y dydd yn gwawrio;
Cei ar dy fronnau fagu plant
Mewn ffydd a ffyniant eto.
Er bod ar lawr yn wael dy fri,
Flynyddau'n ddi-epiledd,
Cei blant o groth yr arfaeth gu
I'w magu mewn gorfoledd.
Anrhydedd mawr i ti gael trin
Gwir blant y brenin Alpha,
Y rhai a brynnodd Ef, cyn hyn,
A'i waed ar fryn Calfaria.
Cael gweld y rhain yn tyfu'n hardd
O fewn i ardd Jehofah,
A wna i'th galon lawenhau
Pan fo ei dagrau amla.