Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Green y Bala

Oddi ar Wicidestun
Prydnawn Sadwrn yn y Bala Beirdd y Bala

gan John Hughes (Huw Myfyr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards


GREEN Y BALA.

Y BALA, Salem wen,
Gad im dy alw,
Boed bendith ar dy ben,
Ti haeddi'r enw;
Os bu rhyw lecyn mad
O ddaear ein hoff wlad,
Yn deml i Dduw a'r Tad,
Y Green yw hwnnw.

Ein tadau gyda hwyl,
A pher hosanna,
Fel tyrfa i gadw gwyl
A gyrchent yma;
O na chaed eto'r fraint
O weled yn ei maint
Gymdeithas fawr y saint,
Ar Green y Bala.

Nid tem oedd hon ychwaith,
Heb un Shecinah;
Mor amlwg lawer gwaith
Bu gwedd Jehofah,
Ni feiddiai un dyn byw
Mewn rhyfyg balchaf ryw
Ofyn pa le 'roedd Duw
Ar Green y Bala.

Maes lle bu arfau'r nef,
Rhai nad ynt gnawdol—
Er maeddu uffern gref,
Trwy Dduw yn nerthol;
Cythreuliaid heddyw pan
Dramwyant heibio'r fan
A gywilyddiant gan
Adgofion ysol.


Maes cysegredig yw,
Rhyw hynod Fethel;
Lle bu angylion Duw
Yn cyrchu'n ddirgel;
Bu'n borth y nefoedd trwy
Eu rhad wasanaeth hwy,
Yn gweini balm i glwy'
Pechadur isel.

Y ddeufyd ar y Green
Ddoent i gyffyrddiad,
Nes teimlid fod y ffin
Uwchlaw olrheiniad;
Tebygid lawer pryd
Fod yr ysbrydol fyd
Yn hawlio'r maes i gyd
Trwy oresgyniad.

Fel addfed faes o haidd,
Ymdonnai'r dyrfa;
Mewn duwiol nefol aidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pa chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf,
O ben Calfaria.

Wrth gofio'r amser gynt
Ar Green y Bala;
Yr angel ar ei hynt,
Fan hyn orffwysa;
Nes llwyr anghofio'i daith,
Mewn gwledd fyfyriol faith,
Wrth feddwl am y gwaith
Gyflawnwyd yma.


Pery yr enw pan
Y cyll yn Ngwalia,
Yn air teuluaidd gan
Drigolion Gwynfa;
Tra cenir am y gwaed,
A'r bywyd trwyddo gaed,
Fe gofir am a wnaed
Ar Green y Bala.

Yr adgof am a fu,
Ar Green y Bala;
Sydd gwmwl damniol du
Uwch glyn Gehenna;
Defnynna'n gawod boeth,
Ar lawer enaid noeth,
"O na fuaswn ddoeth,"
Mewn ing ddolefa!

Tydi yr hen wrandawr,
Dy hun na thwylla;
Trwy ddisgwyl pethau mawr
Na chêst hyd yma;
Nac oeda ddim yn hwy,
Ni fedd y nefoedd fwy,
Na'r hyn yr aethost trwy
Ar Green y Bala.

Call rhodio'r ddaear las
Ar Green y Bala,
Fod eto'n foddion gras
I blant Jehofah;
Pob anghrediniol traw,
Pan gofiant, giliant draw,
Flynyddoedd deheu law
Y Duw Gorucha,


Ond heddyw dyma yw
Y syndod mwya'—
Cael dyn yn cablu Duw
Ar Green y Bala;
Clyw adyn lef gerllaw,
Fel llais o'r nef a ddaw,
Yn gwaeddi—Cilia draw—
Rhy santaidd yma.

Maes a neillduodd
Duw, O groth diddymdra,
I godi o farw'n fyw
Aneirif dyrfa;
A phan yn ulw mân,
Troir meusydd Cymru lân,
Yr olaf roir i'r tân
Fydd Green y Bala.

HUW MYFYR.



Nodiadau[golygu]