Beirdd y Bala/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Beirdd y Bala Beirdd y Bala


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad


Rhagymadrodd

ARDAL dawel, ac ardal lenyddol a darllengar, yw ardal y Bala—Saif y Bala ei hun ar gwrr dau blwyf, sef Llanfor a Llanycil. Ohoni, dros Lyn Tegid, gwelir dau blwyf arall, sef Llangower a Llanuwchllyn. Pumed plwy Penllyn yw Llandderfel. A'r Bala yw’r man cyfarfod Yn y gyfrol hon, ni roddir gwaith beirdd yr ardaloedd cylchynol. Ni roddir gwaith beirdd Llandderfel, megis Bardd y Brenin, Huw Derfel, a Dewi Hafesb. Ni roddir dim o waith beirdd niferus Llanuwchllyn, megis Fychaniaid Caer Gai, Sion Dafydd Las, ac Ap Fychan. Cyfyngir y gyfrol i feirdd anwyd yn y Bala, fu’n byw ynddi, neu fyddent beunydd yn ei heolydd. Y mae i’r Bala lawer o hanes. Y mae ci Llyn Tegid, meddir, yn cuddio tref hŷn, a foddwyd am ei phechod. Ỳ mae amlder y blaenau saethau cerrig o’i chwmpas yn dwyn ar gof gyfnodau hela a rhyfela. Y mae ei Thomen, yn ôl pob tebyg, er y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Yn yr hen ramantau, cysylltir hi ag enw Goronwy Befr ; ac y mae Aber Gwenwynfeirch Gwyddno, lle tlws, teilwng le i bair Ceridwen, ar lan y llyn gerllaw. Yr oedd ynddi gastell yn amser y tywysogion; a chan ei bod yn sefyll ar derfynau Gwynedd a Phowys, bu llawer o ymladd o'i hamgylch. Cafodd siarter gan yr Edwardiaid, ond mae'n debyg na fu erioed yn rhyw annibynnol iawn ar y wlad oddi amgylch. Ynddi y cynhaliai’r goron Court Leet Penllyn. Yn amser gweu gartref yr oedd yn hynod am ei marchnad hosanau, oherwydd eu gwead manwl esmwyth. Ynglŷn a hanes meddwl Cymru, er hynny, y mae’r Bala enwocaf. Hi yw cartre’r Ysgol Sul. Ohoni hi y daeth syniad am Gymdeithas Beiblau i’r holl ddaear ; un o'i beirdd hi oedd wedi dymuno “ Beibl i bawb o bobl y byd.” Bu ci Sasiynau'n gyrchfa i Cymry am flynyddoedd lawer. Y mae’n gartref Cyfarfodydd Llenyddol er’s cenedlaethau. Gwnaeth gwasg Saunderson ac ereill ohoni ddaioni i Gymru nas gellir ei fesur. Ac yn ddiweddarach, bu'n gartref i golegau dau o enwadau pwysicaf Cymru. Yn y gyfrol hon ceir trem ar hanes meddwl y dref o ddechrau’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Ym Morus ab Rhobert ceir adlais o'r Diwygiad Puritanaidd a chyfoeswyr Morgan Llwyd. Yn Rowland Huw a Robert William y Pandy ceir cyfuniad o effaith y Diwygiad Puritanaidd ar lenyddiaeth, oedd megis yn fore i ddydd o ddiwygiad Cymreig, ac effaith y deffroad Eisteddfodol ddaeth a’r mesurau caethion i fri newydd. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, clywodd y Bala ei lais yn ei phregethwyr, Simon Lloyd a Dafydd Cadwaladr, ac yn ei gwehyddion Wiliam Jones a William Edwards. Ac yn y dyddiau hynny daeth Charles i’r Bala Pan ddaeth y Deffroad Llenyddol, cynrychiolir ei wahanol gyfnodau gan Ioan Tegid, Siarl Wyn, Tegidon, a Roger Edwards. Mae beirdd eto yn y Bala.

OWEN M. EDẄARDS.
Llanuwchllyn.