Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Yr Iaith Gymraeg

Oddi ar Wicidestun
Ateb i Daniel Ddu Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ymladd Cressi


YR IAITH GYMRAEG[1]

Gelyn yr iaith Gymraeg, dywed im' pa ham
Y mynnit in' anghofio iaith ein mam?
Nid yw y Saesneg, ddyn, ond iaith er doe.
Tra mae'r Gymraeg yn iaith er dyddiau Noe.

"Y Saesneg sydd yn well, mwy perffaith iaith,"
Yn well! mwy perffaith! nid yw hyna'n ffaith.

"Gwell yw'r iaith Saesneg nag un iaith o'r byd."
Taw; geiriau benthyg ei geiriau bron i gyd.

"Saesneg, boneddig yw, yn haeddu clod."
A hi mor glytiog, sut gall hynny fod?
Foneddig yw'r Gymraeg; a'i geiriau bob yr un,
Ynghyd â'u gwreiddiau, ynt eiddo'r iaith ei hun.

"Ni chlywir yn Gymraeg ond swn Ch ac LI;
Melus yw'r Saesneg; ac mae'n swnio'n well."
O taw a'th glebar; ond it' ddal ar lais,
A si yr S y sydd o hyd yn iaith y Sais;
Cei weled yn y fan mai llawer gwell
Na si si yr S yw sain yr Ch a'r Ll.


"Iaith y Sais, iaith prynu a gwerthu yw."
Ni thwyllai Sais un Cymro yn ei fyw;
E bryn, e werth, â'r Sais mewn unrhyw ffair,
Mae'n deall iaith y farchnad air am air.

"Y Cymry a'r Saeson gwell eu bod yn un."
Hwy allant fod er cadw eu hiaith eu hun.

"Nid da bod dwyiaith mewn un wlad fal hon,"
Gad heibio'r Saesneg, dysg Gymraeg yn llon.

"Mynnwn pe Saeson fyddai'r Cymry oll,"
Saeson fyddant pan el eu hiaith ar goll.

"Daw'r dydd y try y Cymry yn Saeson pur."
Yn y dydd hwnnw y try y mêl yn sur.

"Mae ymdrech mawr, yn wir mae llawer cais,
I gael gan Gymro ddysgu iaith y Sais."
Er maint yr ymdrech, ac er maint y cais,
Cymro fydd Gymro eto; a Sais yn Sais.

"Mae rhai esgobion am ddiffoddi'r iaith."
Ai yn Llandaf mae'r esgob wrth y gwaith?

"Ni waeth i chwi am bwy yr wyf fi'n son.'
Gwaeth fydd i'r wlad o Fynwy deg i Fon.
Os ni chaiff Cymro bregeth yn y Llan
Yn ei iaith ei hun, ymedy yn y fan;
A phwy nis gŵyr fod Cymro'n caffael cam,
Pan ni phregethir iddo yn iaith ei fam?

"Gwyn fyd na chollai yr hen Gymry eu hiaith."
Pe collent hi nid Cymry fyddent chwaith.

Ond pennwn hyn o ddadl, mae yn hwyrhau,
Gan ofyn barn un arall uwch na ni ein dau;
Esgobb Ty Ddewi, gwr o uchel ddawn,
Sy'n deall y Gymraeg yn gywir iawn;

Pregetha gartref, a phan y bo ar daith,
I'r Cymry uniaith yn eu hanwyl iaith;
Mae'n wr o ddysg, yn deall llawer aeg,
Gofynnwn iddo ef ei feddwl am Gymraeg.
Ni fyn efe yspeilio'r Cymry hen
O'u hanwyl iaith: mae'n ateb gyda gwên:—
"Eich iaith, hen Gymry, denodd hi fy mryd;
Iaith wreiddiawl yw, parhaed tra pery'r byd.
'Eu iaith a gadwant,' medd Taliesin fardd,
'Eu Ner a folant: dywediadau hardd.
Dywedaf innau yn ol ei eiriau ef,
Ac arnoch Gymry, disgynned bendith nef.
Eu hiaith a gadwant, er Saesneg a phob aeg;
A'u Ner a folant yn yr iaith Gymraeg."


Nodiadau[golygu]

  1. Ar ol clywed cyfaill o esgobaeth Llandaf yn lladd ar y iaith Gymraeg, ac yn gweddio am ei difodiad