Bererin llesg gan rym y stormydd

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Bererin llesg gan rym y stormydd,
Cwyd dy olwg, gwêl yn awr
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol
Mewn gwisgoedd llaesion hyd y llawr;
Gwregys euraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odrau clychau'n llawn
O sŵn maddeuant i bechadur
Ar gyfri' yr anfeidrol Iawn.


Cofiwch hyn mewn stad o wendid,
Yn y dyfroedd at eich fferau sy,
Mai dirifedi yw'r cufyddau
A fesurir i chwi fry;
Er bod yn blant yr atgyfodiad
I nofio yn y dyfroedd hyn,
Ni welir gwaelod byth nac ymyl
I sylwedd mawr Bethesda lyn.


O! ddyfnderoedd iechydwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw,
Duw y duwiau wedi ymddangos
Yng nghnawd a natur dynol-ryw;
Dyma'r Person a ddioddefodd
Yn ein lle ddigofaint llawn,
Nes i Gyfiawnder weiddi, "Gollwng
Ef yn rhydd: mi gefais Iawn!"


O! ddedwydd awr tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur yn fy rhan,
Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth, na glan;
Mynediad helaeth byth i bara
I fewn trigfannau Tri yn Un;
Dŵr i'w nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

Tarddiadau[golygu]