Beth sydd imi yn y byd?
Gwedd
← | Beth sydd imi yn y byd? gan Morgan Rhys |
→ |
534[1] Canu am y Gwaed.
77. 77. 77.
1 BETH sydd imi yn y byd ?
Gorthrymderau mawr o hyd ;
Gelyn ar ôl gelyn sydd
Yn fy nghlwyfo nos a dydd.
Meddyg archolledig rai,
Tyrd yn fuan i'm iacháu.
2 O! na allwn, tra fawn byw,
Rodio bellach gyda Duw;
Treulio f'oriau iddo'n llwyr
O foreddydd hyd yr hwyr ;
Canu am ei werthfawr waed
Nes meddiannu'r nefol wlad.
Morgan Rhys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 534, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930