Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Fframwaith ariannu newydd i Gymru

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014

gan Llywodraeth y DU

Datganoli ardrethi annomestig (busnes) yn llawn

Fframwaith ariannu newydd i Gymru

1. Ers datganoli ym 1999, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) wedi cael ei ariannu’n llwyr bron gan grant bloc gan Lywodraeth y DU. Mae refeniw trethi ar draws y DU (gan gynnwys o Gymru) yn cael eu cronni’n ganolog, gyda chyfran yn cael ei hailddosbarthu i'r Cynulliad. Er bod gan y Cynulliad gyfrifoldeb a hyblygrwydd sylweddol i benderfynu sut i ddefnyddio’r arian hwn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu datganoli yng Nghymru, ychydig iawn o gyfrifoldeb a gafodd i ariannu ei wariant.

2. Yn 2011 sefydlodd y Llywodraeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn “Silk”) i edrych ar y trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru ac i argymell sut y byddai modd eu gwella. Daeth y Comisiwn i’r casgliad bod angen i’r Cynulliad gael mwy o atebolrwydd ariannol tuag at bobl Cymru ond bod angen cadw’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd o rannu adnoddau fel rhan o’r Deyrnas Unedig.

3. Roedd ymateb y Llywodraeth i adroddiad Rhan 1 Comisiwn Silk yn derbyn 30 o’r 31 o argymhellion (a wnaed i Lywodraeth y DU) yn llawn neu’n rhannol, gan osod allan ei chynlluniau i roi mwy o atebolrwydd ariannol i’r Cynulliad. Bil Cymru sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i ddarparu’r newidiadau hyn, ac mae’r Papur Gorchymyn hwn yn rhoi manylion pellach am weithredu a gweithrediad pwerau trethu a benthyca newydd y Cynulliad.

4. O dan y trefniadau newydd hyn, bydd y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'n cael ei chreu gan ddwy ffrwd ariannu ar wahân:

5. Bydd ffrwd ariannu newydd yn cynnwys refeniw o ardrethi busnes, trethi wedi eu datganoli (treth trafodion tir Gymreig a threth tirlenwi Gymreig) ac, yn amodol ar refferendwm, cyfradd treth incwm Gymreig. Gyda chaniatâd Llywodraeth y DU, gallai’r Cynulliad hefyd ddeddfu i gyflwyno trethi datganoledig newydd yng Nghymru. Byddai’r refeniw fyddai’n cael ei gynhyrchu o’r ffrwd ariannu hon, felly, yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan y Cynulliad.

6. Bydd yr ail ffrwd ariannu’n parhau i fod yn grant bloc gan Lywodraeth y DU ar sail fformiwla Barnett. Er bod Llywodraeth y DU yn cydnabod rhai o’r pryderon a leisiwyd ynghylch fformiwla Barnett, mae gan y system nifer o gryfderau. Rhennir adnoddau a risgiau ar draws y DU, sy’n sicrhau bod gan y Cynulliad lefelau ariannu sefydlog i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r system hefyd yn syml, tryloyw ac effeithlon; gofynion hollbwysig ar gyfer unrhyw system ariannu. Blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw lleihau’r diffyg cyllid ac nid oes ganddi unrhyw gynlluniau i ddiwygio fformiwla Barnett cyn bydd y sefyllfa cyllid cyhoeddus wedi sefydlogi.

7. Fodd bynnag, roedd datganiad ar y cyd gan y Llywodraeth a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2012 yn sefydlu proses i adolygu lefelau ariannu cymharol ar gyfer Cymru a Lloegr cyn pob adolygiad o wariant, a lle bo’n darogan y bydd cydgyfeirio’n ailddechrau, y dylid trafod opsiynau i roi sylw i’r mater hwn mewn ffordd deg a fforddiadwy. Mae’r trefniadau trylwyr hyn, felly, yn sail gadarn ar gyfer symud at y fframwaith ariannu newydd i Gymru, gan gynnwys datganoli treth incwm (os hyn fyddai canlyniad y refferendwm).

8. Ynghyd â datganoli’r pwerau newydd hyn i godi trethi, bydd angen addasu’r grant bloc i adlewyrchu'r refeniw llai a fyddai’n llifo i Drysorlys y DU. Mae’r Papur Gorchymyn yn nodi cynigion manwl y Llywodraeth ar gyfer cyfrifo’r addasiadau, yn gyson ag argymhellion y Comisiwn. Er y bydd y dull o addasu’r grant bloc treth incwm yn gwarchod y Cynulliad rhag effeithiau macro-economaidd ehangach ‘ledled y DU’ y byddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa well i’w rheoli, bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli unrhyw amrywiad yn y refeniw o drethi datganoledig. Felly, mae’r trefniadau ariannu newydd yn cynnwys dulliau i helpu Llywodraeth Cymru i reoli’r diffyg sefydlogrwydd hwn, gan gynnwys cronfa arian parod wrth gefn a phwerau benthyca presennol.

9. Bydd y pwerau trethu newydd hyn hefyd yn darparu ffrwd refeniw annibynnol i gefnogi benthyca cyfalaf. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd pellach i Lywodraeth Cymru benderfynu pryd a sut i fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn sbarduno twf economi Cymru. Cyn gweithredu’r pwerau benthyca cyfalaf newydd hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau benthyca presennol, mwy cyfyngedig i gychwyn gwneud gwelliannau i’r M4. 10. Bydd cynlluniau’r Llywodraeth i ddarparu fframwaith ariannu newydd i Gymru felly’n grymuso a gwella atebolrwydd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru’n sylweddol. I sicrhau y gweithredir y newidiadau sylfaenol hyn yn effeithlon ac effeithiol, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno trefniadau llywodraethu newydd, gan gynnwys creu pwyllgor Gweinidogol rhynglywodraethol dwyochrog.