Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Aur y Doeth

Oddi ar Wicidestun
Y Brigau Hyn Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Nid y Dillad yw'r Dyn

AUR Y DOETH

GOLUD ymhell
A chwilia'r ffôl,
A'r mwnai gwell
I gyd ar ôl.
Ni waeth pa fan
Y bo'n y byd,
Daw aur i ran
Y doeth o hyd.


Nodiadau[golygu]