Blodau Drain Duon/Cyfrol Ddiwetha'r Prydydd
Gwedd
← A Orfu a Ddioddefws | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Ddau Ddrwg → |
CYFROL DDIWETHA'R PRYDYDD
EBE cyfaill: "Dal ati
I lunio dy gân,
Mae dy gyfrol ddiwethaf
Yn mynd fel y tân.'
A ffwrdd â mi'n llawen
Gan redeg heb stop,
I gael gweld yr holl fynd
Ar fy llyfrau'n y siop.
Mynd fel y tân! nid oedd mwy le i amau—
Pan welais y siop i gyd yn fflamau.