Blodau Drain Duon/Cynghorwr Da

Oddi ar Wicidestun
Yn Ôl Hen Ddywediad Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Ffordd i Gadw Cyfeillion

CYNGHORWR DA

ADWAENWN ŵr a oedd
Yn gwneud bywoliaeth gampus
Drwy ddysgu'r byd i gyd ar goedd
Y ffordd i fyw yn hapus.
Ond er mor deg a doeth ei farn-o,
Blinodd ei wraig, a chefnodd arno.


Nodiadau[golygu]