Blodau Drain Duon/Mewn Cwmni o Gymry
Gwedd
← Y Poenydiwr Pen-Heol | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Dim Ond Masnachwr → |
MEWN CWMNI O GYMRY
'DOES eisiau ond gweled un Sais yn ein mysg,
Rhaid troi yn y man i'r iaith fain;
Am y tri Chymro uniaith, annheilwng o'n dysg
Yw gwneud yr un sylw o'r rhain.