Blodau Drain Duon/Pleser a Phoen
Gwedd
← Wylo neu Chwerthin? | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Cynhaeaf → |
PLESER A PHOEN
Y GLUST a gâr y ganig dlos
A boenir gan aflafar sain,
A'r fron a dawdd dan wrid y rhos
A frethir gyntaf gan y drain.