Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Plismon

Oddi ar Wicidestun
Athro Trafferthus Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Cwyn y Cyfoethog

PLISMON

TREULIODD oes yn ôl ei hobi
Yn dal dyhirod ar ei rownd;
Heddiw dyma yntau'r Bobi
Yn ei gell yn ddigon sownd.


Nodiadau

[golygu]