Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Sêr-Syllydd

Oddi ar Wicidestun
Llenor Cymraeg Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Gŵr Tra Gwybodus

SÊR-SYLLYDD

CYNEFIN oedd â llwybrau'r nen
A chylchdroadau'r pellaf gysawd;
Fe bwysai'r heuliau poeth uwchben
A medrai fesur y bydysawd;
Ond digon cul ei orwel heno,
Aeth trol a mulyn dros ei ben-o.


Nodiadau

[golygu]