Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Siopwr y Pentref

Oddi ar Wicidestun
Y Cardi Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Ffordd i'w Dychrynu

SIOPWR Y PENTREF

YN ei siop gwerthir popeth,―ysgadan
Ac esgidiau'n gymhleth,
Halen, dur, olew'n doreth,
Mats a byllt, 'does dim ots beth.

Glew ail-luniwr glawlenni,—ryparwr
Y peiriant fo'n torri,
Tincer, am ddim ond ' Tanci',
Siwper-nyt yw'n siopwr ni,


Nodiadau

[golygu]