Blodau Drain Duon/Unpeth Er Mwyn Enw
Gwedd
← Helpu ei Gilydd | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Cwyn Cymedrolwr → |
UNPETH ER MWYN ENW
CAEL sôn amdano yn y byd
Ydyw uchelgais hwn o hyd.
Nid oes erchylltra na wnâi'r gŵr
Er mwyn gwneud enw a chreu stŵr.
I'r adyn nid yw cael ei grogi
Ar goedd ond cyfle i ymenwogi.
Nid ofna ddim o dan y rhod
Ond cael ei grogi yn ddi-nod.