Blodau Drain Duon/Wrth Ddarllen Papur Cymraeg
Gwedd
← Mynd Ar Ei Oed | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Newydd Briodi → |
WRTH DDARLLEN PAPUR CYMRAEG
MOR welw ei raen, mor llipa yw!
A'i garpiog wisg yn wael ei deunydd;
Ymgripia 'mlaen yn hanner byw
A'i gorpws main feinach beunydd;
Er tân a gwleddoedd Cymrodorion
Mewn oerni deil i grafu sborion;
A holl bapurau'r Sais yn llu
Yn pesgi yma mewn digonedd,
A golud iddynt o bob tu
Yn llifo o logell gwreng a bonedd;
O feirdd, llenorion a darlithwyr
Llawn sêl heb sylwedd, O ragrithwyr !