Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Y Cymro Unnos, Neu'r Tân Papur

Oddi ar Wicidestun
Gŵr o Radd Isel Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Rhigymwr Truenus

Y CYMRO UNNOS, NEU'R TÂN PAPUR

AR NOS Gŵyl Dewi'n llawn o dân
Gwladgarol, uchel oedd ei hwyl-o;
Pan ddaeth i'r llwyfan, mawr a mân
Yn wasaidd oedd yn curo dwylo.
Darllen yr arawd ar ei hyd
(A glytiodd rhyw hen Gymro annoeth),
A disgwyl am ei gweld, ynghyd
A'i bictwr yn y papur drannoeth.
Ac yna,—aeth y gwres ar goll,
Tân papur oedd y cyfan oll.


Nodiadau

[golygu]