Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Y Gorwybodusion

Oddi ar Wicidestun
Y Rhyngwladwriaetholwr Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Domen A'r Ardd

Y GORWYBODUSION

MAE gorwybodusion yn ein mysg
A'u dawn wedi diffodd o dan eu dysg;
Ffôl o beth, meddai modryb Siân,
Rhoi gormod o lo ar ychydig o dân.


Nodiadau

[golygu]