Blodau Drain Duon/Y Moch-Yrwyr

Oddi ar Wicidestun
Torri'r Gynffon Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Tynnu'r Gwifrau

Y MOCH-YRWYR

[Yr oedd hen air moch a'i ystyr 'buan'.]

EISTEDD mewn modur yw pleser y ffôl,
A gweled y dolydd yn rasio;
Ond gwell gan y doeth ydyw eistedd mewn dôl,
A gadael i'r ffyliaid basio.


Nodiadau[golygu]