Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Y Sant

Oddi ar Wicidestun
Dau Frawd Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Yr Hen Fugail

Y SANT

[O safbwynt hogyn]

Ei waith yw grwgnach ar y plant
Sy a themtasiynau yn eu trechu;
Efallai y trof innau'n sant
Pan elwyf yn rhy hen i bechu.


Nodiadau

[golygu]