Blodau Drain Duon/Y Tri Brawd
Gwedd
← Cwyn Cymedrolwr | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Siôn → |
Y TRI BRAWD
Y CYNTAF:
RHWNG blodau'r dydd anghofiodd ef
Am sêr y nos ar feysydd nef.
YR AIL:
Dan hud y sêr bu hwn erioed
Heb weld y blodau o gylch ei droed.
Y TRYDYDD:
Wrth durio'r llwch am aur i'w godau
Aeth hwn yn ddall i sêr a blodau.