Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Yr Awdl Lesmeiriol

Oddi ar Wicidestun
Hogyn Ysgol Heddiw Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Ddoe, Heddiw ac Yfory

YR AWDL LESMEIRIOL

 
BU'R Prydydd Crych o Bentre Mawn
Rai dyddiau'n ôl yng Nghnwc yr Hedydd
Yn darllen i gynulliad llawn
Ei awdl lesmeiriol i'r "Gweledydd;"
Yn ôl y newydd diweddaraf
Mae amryw 'n dechrau gwella'n araf.


Nodiadau

[golygu]