Boed Clod Mawl i Fab y Dyn

Oddi ar Wicidestun

Mae Boed Clod mawl i Fab y Dyn yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).


Boed clod a mawl i fab y dyn
Am ddod yn was, mor wael ei lun
Heb Ie i roi ei ben i lawr
Er nad oedd neb trwy'r nef mor fawr.


Clod byth a mawl fo i had y wraig
Am ddod i'r byd i ladd y ddraig,
Er bod dros dro lawr yn y bedd
Fe ddaeth i'r lan yn wych ei wedd


Clod byth i'r hwn sy'n ddyn a Duw
Daeth dan y ddeddf, heb fai bu fyw
Fe wnaeth ei waith tra'r oedd hi'n ddydd
Ac er ei ddal mae'n awr yn rhydd


Clod byth a mawl a fo i'r oen
Aeth er ei mwyn dan y fath boen,
Clod am ei waith, clod am ei waed
Mae'r ffordd yn rhydd nawr at y Tad


Tu draw i'r bedd, holl lu y nef :
Ront glod i Grist yn llon eu llef
Ymhlith y Un, heb friw na phoen
Os caf fi fyw, rhof glod i'r oen.