Branwen uerch Lyr

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Yn flaenorol: Pwyll Pendeuic Dyuet
Yn nesaf: Manawydan uab Llyr

Bendigeiduran uab Llyr a oed urenhin coronawc ar yr ynys hon, ac ardyrchawc o goron Lundein. A frynhawngueith yd oed yn Hardlech yn Ardudwy, yn llys idaw. Ac yn eisted yd oedynt ar garrec Hardlech, uch penn y weilgi, a Manawydan uab Llyr y urawt y gyt ac ef, a deu uroder un uam ac ef, Nissyen ac Efnyssen, a guyrda y am hynny, mal y gwedei ynghylch brenhin.

Y deu uroder un uam ac ef, meibon oedynt y Eurosswyd o'e uam ynteu Penardun, uerch Ueli uab Mynogan. A'r neill o'r gueisson hynny, gwas da oed: ef a barei tangneued y rwg y deu lu, ban uydynt lidyawcaf: sef oed hwnnw Nissyen. Y llal a barei ymlad y rwng y deu uroder, ban uei uwyaf yd ymgerynt.

Ac ual yd oedynt yn eisted yuelly, wynt a welynt teir llong ar dec, yn dyuot o deheu Iwerdon, ac yn kyrchu parth ac attunt, a cherdet rugyl ebrwyd ganthunt, y gwynt yn eu hol, ac yn nessau yn ebrwyd attunt. 'Mi a welaf longeu racco,' heb y brenhin, 'ac yn dyuot yn hy parth a'r tir. Ac erchwch y wyr y llys wiscaw amdanunt, a mynet y edrych pa uedwl yw yr eidunt.' Y gwyr a wiscawd amdanunt ac a nessayssant attunt y wayret. Gwedy guelet y llongeu o agos, diheu oed ganthunt na welsynt eiryoet llongeu gyweirach eu hansawd noc wy. Arwydon tec, guedus, arwreid o bali oed arnunt.

Ac ar hynny, nachaf un o'r llongeu yn raculaenu rac y rei ereill, ac y guelynt dyrchauael taryan yn uch no bwrd y llong, a swch y taryan y uynyd yn arwyd tangneued. Ac y nessawys y gwyr attunt, ual yd ymglywynt ymdidan. Bwrw badeu allan a wnaethont wynteu, a nessau parth a'r tir, a chyuarch guell y'r brenhin. E brenhin a'e clywei wynteu o'r lle yd oed ar garrec uchel uch eu penn. "Duw a rodo da ywch," heb ef, "a grayssaw wrthywch. Pieu yniuer y llongeu hynn, a phwy yssyd pennaf arnunt wy?"

"Arglwyd," heb wynt, "mae ymma Matholwch brenhin Iwerdon, ac ef bieu y llongeu."

"Beth," heb y brenhin, "a uynnhei ef? A uyn ef dyuot y'r tir?"

"Na uynn, Arglwyd," heb wynt, "negessawl yw wrthyt ti, onyt y neges a geif."

"By ryw neges yw yr eidaw ef?" heb y brenhin.

"Mynnu ymgyuathrachu a thidy, Arglwyd," heb wynt. "Y erchi Branwen uerch Lyr y doeth, ac os da genhyt ti, ef a uyn ymrwymaw Ynys y Kedeirn ac Iwerdon y gyt, ual y bydynt gadarnach."

"Ie," heb ynteu, "doet y'r tir, a chynghor a gymerwn ninheu am hynny." Yr atteb hwnnw a aeth ataw ef. "Minheu a af yn llawen," heb ef. Ef a doeth y'r tir, a llawen uuwyt wrthaw; a dygyuor mawr uu yn y llys y nos honno, y rwng e yniuer ef ac yniuer y llys.

Yn y lle trannoeth, kymryt kynghor. Sef a gahat yn y kynghor, rodi Branwen y Uatholwch. A honno oed tryded prif rieni yn yr ynys hon; teccaf morwyn yn y byt oed. A gwneuthur oed yn Aberfraw y gyscu genti, ac odyno y kychwyn. Ac y kychwynassant yr yniueroed hynny parth ac Aberfraw, Matholwch a'y yniueroed yn y llongheu, Bendigeituran a'y niuer ynteu ar tir, yny doethant hyt yn Aberfraw.

Yn Aberfraw dechreu y wled, ac eisted. Sef ual yd eistedyssant: brenhin Ynys y Kedeirn a Manawydan uab Llyr o'r neill parth idaw, a Matholwch o'r parth arall, a Branwen uerch Lyr gyt ac ynteu.

Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu. Ny angassei Uendigeituran eiryoet ymywn ty.

A'r gyuedach a dechreussant. Dilit y gyuedach a wnaethant ac ymdidan. A phan welsant uot yn well udunt kymryt hun no dilyt kyuedach, y gyscu yd aethant. A'r nos honno y kyscwys Matholwch gan Uranwen. A thrannoeth, kyuodi a orugant pawb o niuer y llys; a'r swydwyr a dechreusant ymaruar am rannyat y meirych a'r gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym pob kyueir hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyssen [y] gwr anagneuedus a dywedassam uchot, yn dywanu y lety meirch Matholwch, a gouyn a wnaeth, pioed y meirch. "Meirych Matholwch brenhin Iwerdon yw y rei hyn," heb wy.

"Beth a wnant wy yna?" heb ef.

"Yma y mae brenhin Iwerdon, ac yr gyscwys gan Uranwen dy chwaer, a'y ueirych yw y rei hynn."

"Ay yuelly y gwnaethant wy am uorwyn kystal a honno, ac yn chwaer y minheu, y rodi heb uyghanyat i? Ny ellynt wy tremic uwy arnaf i," heb ef. Ac yn hynny guan y dan y meirych, a thorri y guefleu wrth y danned udunt, a'r clusteu wrth y penneu, a'r rawn wrth y keuyn; ac ny caei graf ar yr amranneu, eu llad wrth yr ascwrn. A gwneuthur anfuryf ar y meirych yuelly, hyd nat oed rym a ellit a'r meirych.

E chwedyl a doeth at Uatholwch. Sef ual y doeth: dywedut anfuruaw y ueirych ac eu llygru, hyt nat oed un mwynyant a ellit ohonunt. "Ie, Arglwyd," heb un, "dy waradwydaw yr a wnaethpwyt, a hynny a uynhir y wneuthur a thi."

"Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd, gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym."

"Arglwyd," heb un arall, "ti a wely dangos ef. Ac nyt oes it a wnelych namyn kyrchu dy longeu." Ac ar hynny arouun y longeu a wnaeth ef.

E chwedyl a doeth at Uendigeituran, bot Matholwch yn adaw y llys, heb ouyn, heb ganhyat. A chenadeu a aeth y ouyn idaw, paham oed hynny. Sef kennadeu a aeth, Idic uab Anarawc, ac Eueyd Hir. Y guyr hynny a'y godiwawd, ac a ouynyssant idaw, pa darpar oed yr eidaw, a pha achaws yd oed yn mynet e ymdeith. "Dioer," heb ynteu, "pei ys gwypwn, ny down yma. Cwbyl waradwyd a geueis. Ac ny duc neb kyrch waeth no'r dugum ymma. A reuedawt rygyueryw a mi."

"Beth yw hynny?" heb wynt.

"Rodi Bronwen uerch Lyr ym, yn tryded prif rieni yr ynys honn, ac yn uerch y urenhin Ynys y Kedeyrn, a chyscu genthi, a gwedy hynny uy gwaradwydaw. A ryued oed genhyf, nat kyn rodi morwyn gystal a honno ym, y gwneit y gwaradwyd a wnelit ym."

"Dioer, Arglwyd, nyt o uod y neb a uedei y llys," heb wynt, "na neb o'e kynghor y gwnaet[h]pwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A chyt bo gwaradwyd gennyt ti hynny, mwy yw gan Uendigeituran no chenyt ti, y tremic hwnnw a'r guare,"

"Ie," heb ef, "mi a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy niwaradwydaw i o hynny."

E gwyr hynny a ymchwelwys a'r atteb hwnnw, parth a'r lle yd oed Uendigeituran, a menegi idaw yr atteb a diwedyssei Uatholwch. "Ie," heb ynteu, "nyt oes ymwaret e uynet ef yn anygneuedus, ac nys gadwn."

"Ie, Arglwyd," heb wy, "anuon etwa genhadeu yn y ol."

"Anuonaf," heb ef. "Kyuodwch, Uanawydan uab Llyr, ac Eueyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac ewch yn y ol," heb ef, "a menegwch idaw, ef a geif march iach am pob un o'r a lygrwyt; ac y gyt a hynny, ef a geif yn wynepwerth idaw llathen aryant a uo kyuref [a'e uys bychan] a chyhyt ac ef e hun, a chlawr eur kyflet a'y wyneb, a menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan yw o'm anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf i na'e lad na'e diuetha; a doet y ymwelet a mi," heb ef, "a mi a wnaf y dangneued ar y llun y mynho e hun."

E kennadeu a aethant ar ol Matholwch, ac a uanagyssant idaw yr ymadrawd hwnnw yn garedic, ac ef a'e guerendewis. "A wyr," heb ef, "ni a gymerwn gynghor." Ef a aeth yn y gynghor. Sef kynghor a uedylyssant: os gwrthot hynny a wnelynt, bot yn tebygach ganthunt cael kywilid a uei uwy no chael iawn a uei uwy. A disgynnu a wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant yn dangneuedus. A chyweiraw y pebylleu a'r palleu a wnaethant udunt ar ureint kyweirdeb yneuad, a mynet y uwyta. Ac ual y dechreuyssant eisted ar dechreu y wled, yd eistedyssant yna.

A dechreu ymdidan a wnaeth Matholwch a Bendigeituran. Ac nachaf yn ardiawc gan Uendigeituran yr ymdidan, ac yn drist, a gaei gan Uatholwch, a'y lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a wnaeth bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei o iawn am y gam. "A wr," heb y Bendigeiduran, "nit wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos. Ac os yr bychanet genhyt ti dy iawn, ti a gehy ychwanegu yt wrth dy uynnu, ac auory talu dy ueirch yt."

"Arglwyd," heb ef, "Duw a dalo yt."

"Mi a delediwaf dy iawn heuyt yt," heb y Bendigeituran. "Mi a rodaf yt peir, a chynnedyf y peir yw, y gwr a lader hediw yt, y uwrw yn y peir, ac erbyn auory y uot yn gystal ac y bu oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw." A diolwch a wnaeth ynteu hynny, a diruawr lywenyd a gymerth ynteu o'r achaws hwnnw. A thrannoeth y talwyt y ueirych idaw, tra barhawd meirych dof. Ac odyna y kyrchwyt ac ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon ydaw, yny uu gwbyl idaw y dal. Ac wrth hynny y dodet ar y kymwt hwnnw, o hynny allan, Tal Ebolyon.

A'r eil nos, eisted y gyt a wnaethant. "Arglwyd," heb y Matholwch, "pan doeth yti y peir a rodeist ymi?"

"E doeth im," heb ef, "y gan wr a uu y'th wlat ti. Ac ni wn na bo yno y caffo."

"Pwy oed hwnnw?" heb ef.

"Llassar Llaes Gyfnewit," heb ef. "A hwnnw a doeth yma o Iwerdon, a Chymidei Kymeinuoll, y wreic, y gyt ac ef, ac a dianghyssant o'r ty hayarn yn Iwerdon pan wnaethpwyt yn wenn yn eu kylch, ac y dianghyssant odyno. Ac eres gynhyf i ony wdosti dim y wrth hynny."

"Gwn, Arglwyd," heb ef, "a chymeint ac a wnn, mi a'e managaf yti. Yn hela yd oedwn yn Iwerdon dydgueith ar benn gorssed uch penn llyn oed yn Iwerdon, a Llyn y Peir y gelwit. A mi a welwn gwr melyngoch mawr, yn dyuot o'r llyn, a pheir ar y geuyn. A gwr heuyt athrugar mawr, a drygweith anorles arnaw oed; a gwreic yn y ol; ac ot oed uawr ef, mwy dwyweith oed y wreic noc ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyuarch uell im."

"Ie," heb y mi, "pa gerdet yssyd arnawch chwi?"

"Llyna gerdet yssyd arnam ni, Arglwyd," heb ef: "y wreic honn," heb ef, "ym penn pethewnos a mis, y byd beichogi idi, a'r mab a aner yna o'r torllwyth hwnnw, ar benn y pethewnos a'r mi, y byd gwr ymlad llawn aruawc."

"Y kymereis inheu wyntwy arnaf, yu gossymdeithaw: y buant ulwydyn gyt a mi. Yn y ulwydyn y keueis yn diwarauun wynt; o hynny allann y guarauunwyt im. A chyn penn y pedwyryd [mis] wynt eu hun yn peri eu hatcassu, ac anghynwys yn y wlat, yn gwneuthur sarahedeu, ac yn eighaw ac yn gouudyaw guyrda a gwragedda. O hynny allan y dygyuores uyg kyuoeth am ym pen y erchi im ymuadeu ac wynt, a rodi dewis im, ae uyg kyuoeth ae wynt. E dodeis inheu ar gynghor uy gwlat beth a wneit amdanunt. Nyd eynt wy o'y bod; nit oed reit udunt wynteu oc eu hanuod, herwyd ymlad, uynet. Ac yna yn y kyuyng gynghor, y causant gwneuthur ystauell haearn oll; a gwedy bot y barawt yr ystauell, dyuyn a oed o of yn Iwerdon yno, o'r a oed o perchen geuel a mwrthwl, a pheri gossot kyuuch a chrib yr ystauell o lo, a pheri guassaneuthu yn diwall o uwyt a llyn arnunt, ar y wreic, a'y gwr, a'y phlant. A phan wybuwyt eu medwi wynteu, y dechreuwyt kymyscu y tan a'r glo am ben yr ystauell, a chwythu y megineu a oed wedy eu gossot yg kylch y ty, a gwr a pob dwy uegin, a dechreu chwythu y megineu yny uyd y ty yn burwen am eu penn. Ac yna y bu y kynghor ganthunt hwy ymherued llawr yr ystauell; ac yd arhoes ef yny uyd y pleit haearn yn wenn. Ac rac diruawr wres, y kyrchwys y bleit a'e yscwyd a'y tharaw gantaw allan, ac yn y ol ynteu y wreic. A neb ni dieghis odyna namyn ef a'e wreic. Ac yna o'm tebygu i, Arglwyd," heb y Matholwch wrth Uendigeiduran, "y doeth ef drwod attat ti."

"Yna dioer," heb ynteu, "y doeth yma, ac y roes y peir y minheu."

"Pa delw, Arglwyd, yd erbynneisti wynteu?"

"Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth, ac y maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle, ac yn cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a welas neb."

Dilit ymdidan a wnaethant y nos honno, tra uu da ganthunt, a cherd a chyuedach. A phan welsant uot yn llessach udunt uynet y gyscu noc eisted a wei hwy, y gyscu yd aethant. Ac yuelly y treulyssant y wled honno drwy digriuwch. Ac yn niwed hynny, y kychwynnwys Matholwch, a Branuen y gyt ac ef, parth ac Iwerdon. A hynny o Abermenei y kychwynnyssant teir llong ar dec, ac y doethant hyt yn Iwerdon.

Yn Iwerdon, dirwawr lywenyd a uu wrthunt. Ny doey wr mawr, na gwreic da yn Iwerdon, e ymw[e]let a Branwen, ni rodei hi ae cae ae modrwy ae teyrndlws cadwedic ydaw, a uei arbennic y welet yn mynet e ymdeith. Ac ymysc hynny, y ulwydyn honno a duc hi yn glotuawr, a hwyl delediw a duc hi o glot a chedymdeithon. Ac yn hynny, beichogi a damweinwys idi y gael. A guedy treulaw yr amseroyd dylyedus, mab a anet idi. Sef enw a dodet ar y mab, Guern ab Matholwch. Rodi y mab ar uaeth a wnaethpwyt ar un lle goreu y wyr yn Iwerdon.

A hynny yn yr eil ulwydyn, llyma ymodwrd yn Iwerdon am y guaradwyd a gawssei Matholwch yg Kymry, a'r somm a wnathoedit idaw am y ueirch. A hynny y urodyr maeth, a'r gwyr nessaf gantaw, yn lliwaw idaw hynny, a heb y gelu. A nachaf y dygyuor yn Iwerdon hyt nat oed lonyd idaw ony chaei dial y sarahet. Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystauell ac ef, a'y chymell y bobi yn y llys, a pheri y'r kygyd, gwedy bei yn dryllyaw kic, dyuot idi a tharaw bonclust arnei beunyd. Ac yuelly y gwnaethpwyt y foen. "Ie, Arglwyd," heb y wyr wrth Uatholwch, "par weithon wahard y llongeu, a'r yscraffeu, a'r corygeu, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma o Gymry, carchara wynt [ac] na at trachefyn, rac gwybot hynn." Ac ar hynny y diskynyssant.

Blwynyded nit llei no their y buant yuelly. Ac yn hynny, meithryn ederyn drydwen a wnaeth hitheu ar dal y noe gyt a hi, a dyscu ieith idi, a menegi y'r ederyn y ryw wr oed y brawt. A dwyn llythyr y poeneu a'r amharch a oed arnei hitheu. A'r llythyr a rwymwyt am uon eskyll yr ederyn, a'y anuon parth a Chymry, a'r ederyn a doeth y'r ynys honn. Sef lle y cauas Uendigeiduran, yg Kaer Seint yn Aruon, yn dadleu idaw dydgweith. A diskynnu ar e yscwyd, a garwhau y phluf, yny arganuuwyt y llythyr, ac adnabot meithryn yr ederyn yg kyuanned. Ac yna kymryt y llythyr a'y edrych. A phan darllewyt y llythyr, doluryaw a wnaeth o glybot y poen oed ar Uranwen, a dechreu o'r lle hwnnw peri anuon kennadeu y dygyuoryaw yr ynys honn y gyt. Ac yna y peris ef dyuot llwyr wys pedeir degwlat a seithugeint hyt attaw, ac e hun cwynaw wrth hynny, bot y poen a oed ar y chwaer. Ac yna kymryt kynghor. Sef kynghor a gahat, kyrchu Iwerdon, ac adaw seithwyr y dywyssogyon yma, a Chradawc uab Bran y benhaf, ac eu seith marchawc. Yn Edeirnon yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref. Sef seithwyr oedynt, Cradawc uab Bran, ac Euehyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac Idic uab Anarawc Walltgrwn, a Fodor uab Eruyll, ac Wlch Minasgwrn, a Llashar uab Llayssar Llaesgygwyt, a Phendaran Dyuet yn was ieuanc gyt ac wy. Y seith hynny a drigwys yn seith kynueissat y synyaw ar yr ynys honn, a Chradawc uab Bran yn benhaf kynweisyat arnunt.

Bendigeiduran, a'r yniuer a dywedyssam ni, a hwylyssant parth ac Iwerdon, ac nyt oed uawr y weilgi yna: y ueis yd aeth ef. Nyt oed namyn dwy auon: Lli ac Archan y gelwit. A guedy hynny yd amlawys y weilgi, pan oreskynwys y weilgi y tyrnassoed. Ac yna y kerdwys ef ac a oed o gerd arwest ar y geuyn e hun, a chyrchu tir Iwerdon.

A meicheit Matholwch a oedynt ar lan y weilgi dydgueith, yn troi yg kylch eu moch. Ac o achaws e dremynt a welsant ar y weilgi, wy a doethant at Matholwch. "Arglwyd," heb vy, "henpych guell."

"Duw a rodo da ywch," heb ef, "a chwedleu genhwch."

"Arglwyd," heb wy, "mae genhym ni chwedleu ryued: coet rywelsom ar y weilgi, yn y lle ny welsam eiryoet un prenn."

"Llyna beth eres," heb ef. "A welewch wchi dim namyn hynny?"

"Gwelem, Arglwyd," heb wy, "mynyd mawr gyr llaw y coet, a hwnnw ar gerdet; ac eskeir aruchel ar y mynyd, a llynn o pop parth y'r eskeir; a'r coet, a'r mynyd, a phob peth oll o hynny ar gerdet."

"Ie," heb ynteu, "nyt oes neb yma a wypo dim y wrth hynny, onys gwyr Branwen. Gouynnwch idi."

Kennadeu a aeth at Uranwen. "Arglwydes," heb wy, "beth dybygy di yw hynny?"

"Kyn ny bwyf arglwydes," heb hi, "mi a wnn beth yw hynny: gwyr Ynys y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a'm amharch."

"Beth yw y coet a welat ar y mor?" heb wy.

"Gwernenni llongeu a hwylbrenni," heb hi.

"Och," heb wy, "beth oed y mynyd a welit gan ystlys y llongeu?"

"Bendigeiduran uym brawt," heb hi, "oed hwnnw, yn dyuot y ueis. Nyd oed long y kynghanei ef yndi."

"Beth oed yr eskeir aruchel a'r llynn o bop parth y'r eskeir?"

"Ef," heb hi, "yn edrych ar yr ynys honn, llidyawc yw. Y deu lygat ef o pop parth y drwyn yw y dwy lynn o bop parth y'r eskeir."

Ac yna dygyuor holl wyr ymlad Iwerdon a wnaethpwyt y gyt, a'r holl uorbennyd yn gyflym, a chynghor a gymerwyt. 'Arglwyd,' heb y wyrda wrth Uatholwch, 'nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon (auon oed yn Iwerdon), a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont yssyd ar yr auon. A mein sugyn yssyd ygwaelawt yr auon, ny eill na llong na llestyr arnei.' Wynt a gylyssant drwy yr auon, ac a torryssant y bont.

Bendigeiduran a doeth y'r tir, a llynges y gyt ac ef, parth a glann yr auon. "Arglwyd," heb y wyrda, "ti a wdost kynnedyf yr auon, ny eill neb uynet drwydi, nyt oes bont arnei hitheu. Mae dy gynghor am bont?" heb wy.

"Nit oes," heb ynteu, "namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont", heb ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt y geir hwnnw, ac y diharebir etwa ohonaw.

Ac yna guedy gorwed ohonaw ef ar traws yr auon, y byrwyt clwydeu arnaw ef, ac yd aeth y luoed ef ar y draws ef drwod. Ar hynny, gyt ac y kyuodes ef, llyma gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn kyuarch guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr, ac yn menegi o'e uod ef na haedei arnaw ef namyn da. "Ac y mae Matholwch yn rodi brenhinaeth Iwerdon y Wern uab Matholwch, dy nei ditheu, uab dy chwaer, ac yn y ystynnu y'th wyd di, yn lle y cam a'r codyant a wnaethpwyt y Uranwen. Ac yn y lle y mynnych ditheu, ay yma ay yn Ynys y Kedyrn, gossymdeitha Uatholwch."

"Ie," heb ynteu Uendigeiduran, "ony allaf i ue hun cael y urenhinaeth, ac aduyd ys kymeraf gynghor am ych kennadwri chwi. O hyn hyt ban del amgen, ny cheffwch y genhyf i attep."

"Ie," heb wynteu, "yr atteb goreu a gaffom ninheu, atat ti y down ac ef, ac aro ditheu yn kennadwri ninheu."

"Arhoaf," heb ef, "o dowch yn ehegyr."

Y kennadeu a gyrchyssant racdu, ac at Uatholwch y doethant. "Arglwyd," heb wy, "kyweira attep a uo gwell at Uendigeidwran. Ny warandawei dim o'r attep a aeth y genhym ni attaw ef."

"A wyr," heb y Matholwch, "mae ych kynghor chwi?"

"Arglwyd," heb wy, "nyt oes it gynghor namyn un. Ni enghis ef ymywn ty eiryoet," heb wy.

"Gwna ty," heb wy, "o'y anryded ef, y ganho ef a gwyr Ynys y Kedyrn yn y neill parth y'r ty, a thitheu a'th lu yn y parth arall. A doro dy urenhinaeth yn y ewyllus, a gwra idaw. Ac o enryded gwneuthur y ty," heb wy, "peth ny chauas eiryoet ty y ganhei yndaw, ef a tangnoueda a thi." A'r kennadeu a doethant a'r gennadwri honno gantunt at Uendigeiduran; ac ynteu a gymerth gynghor. Sef a gauas yn y gynghor, kymryt hynny; a thrwy gynghor Branuen uu hynny oll, ac rac llygru y wlat oed genti hitheu hynny.

E tangneued a gyweirwyt, a'r ty a adeilwyt yn uawr ac yn braf. Ac ystryw a wnaeth y Gwydyl. Sef ystryw a wnaethant, dodi guanas o bop parth y bop colouyn o cant colouyn oed yn y ty, a dodi boly croyn ar bop guanas, a gwr aruawc ym pob vn ohonunt. Sef a wnaeth Efnyssyen dyuot ymlaen llu Ynys y Kedyrn ymywn, ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty. Ac arganuot y bolyeu crwyn a wnaeth ar hyt y pyst. "Beth yssyd yn y boly hwnn?" heb ef, wrth un o'r Gwydyl.

"Blawt, eneit," heb ef. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw hyt ban gauas y benn, a guascu y benn, yny glyw y uyssed yn ymanodi yn y ureichell drwy yr ascwrn. Ac adaw hwnnw, a dodi y law ar un arall a gouyn, "Beth yssyd yma?"

"Blawt," medei y Gwydel. Sef a wnai ynteu yr un guare a fawb ohonunt, hyt nat edewis ef wr byw o'r hollwyr o'r deu cannwr eithyr un. A dyuot at hwnnw, a gouyn, "Beth yssyd yma?"

"Blawt, eneit," heb y Gwydel. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw ef yny gauas y benn, ac ual y guascassei benneu y rei ereill, guascu penn hwnnw. Sef y clywei arueu am benn hwnnw. Nyt ymedewis ef a hwnnw, yny ladawd. Ac yna canu englyn:-

Yssit yn y boly hwnn amryw ulawt,
Keimeit, kynniuyeit, diskynneit yn trin,
Rac kydwyr cadbarawt.

Ac ar hynny y dothyw y niueroed y'r ty. Ac y doeth gwyr Ynys Iwerdon y'r ty o'r neill parth, a gwyr Ynys y Kedyrn o'r parth arall. Ac yn gyn ebrwydet ac yd eistedyssant y bu duundeb y rydunt, ac yd ystynnwyt y urenhinaeth y'r mab.

Ac yna, guedy daruot y tangneued, galw o Uendigeiduran y mab attaw. Y gan Uendigeiduran y kyrchawd y mab at Uanawydan, a phawb o'r a'e guelei yn y garu. E gan Uanawydan y gelwis Nyssyen uab Eurosswyd y mab attaw. Y mab a aeth attaw yn diryon. "Paham," heb yr Efnissyen, "na daw uy nei, uab uy chwaer, attaf i? Kyn ny bei urenhin ar Iwerdon, da oed genhyf i ymtiryoni a'r mab."

"Aet yn llawen," heb y Bendigeiduran. Y mab a aeth attaw yn llawen. "Y Duw y dygaf uyg kyffes," heb ynteu yn y uedwl, "ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf i yr awr honn." A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny want y mab yn wysc y benn yn y gynneu. A fan welas Uranwen y mab yn boeth yn y tan, hi a gynsynwys uwrw neit yn y tan, o'r lle yd oed yn eisted rwng y deu uroder. A chael o Uendigeiduran hi yn y neill law, a'y tarean yn y llaw arall. Ac yna, ymgyuot o bawb ar hyt y ty. A llyna y godwrw mwyhaf a uu gan yniuer un ty, pawb yn kymryt y arueu. Ac yna y dywot Mordwyd Tyllyon, "Guern gwn, gwchuiwch Uordwyt Tyllyon," Ac yn yd aeth pawb ym pen yr arueu, y kynhelis Bendigeiduran Uranwen y rwng y taryan a'y yscwyd.

Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna y byrywyt y kalaned yn y peir, yny uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y bore yn wyr ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan welas Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr Ynys y Kedyrn, y dywot yn y uedwl, "Oy a Duw," heb ef, "guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi," heb ef, "ony cheissaf i waret rac hynn." Ac ymedyryaw ymlith calaned y Gwydyl, a dyuot deu Wydel uonllwm idaw, a'y uwrw yn y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu yn y peir, yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y galon ynteu. Ac o hynny y bu y meint goruot a uu y wyr Ynys y Kedyrn. Ny bu oruot o hynny eithyr diang seithwyr, a brathu Bendigeiduran yn y troet a guenwynwaew.

Sef seithwyr a dienghis, Pryderi, Manawydan, Gliuieu Eil Taran, Talyessin, ac Ynawc, Grudyeu uab Muryel, Heilyn uab Gwyn Hen.

Ac yna y peris Bendigeiduran llad y benn. "A chymerwch chwi y penn," heb ef, "a dygwch hyt y Gwynuryn yn Llundein, a chledwch a'y wyneb ar Freinc ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir; yn Hardlech y bydwch seith mlyned ar ginyaw, ac Adar Riannon y canu ywch. A'r penn a uyd kystal gennwch y gedymdeithas ac y bu oreu gennwch, ban uu arnaf i eiryoet. Ac y Guales ym Penuro y bydwch pedwarugeint mlyned. Ac yny agoroch y drws parth ac Aber Henueleu, y tu ar Gernyw, y gellwch uot yno a'r penn yn dilwgyr genhwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ny ellwch uot yno. Kyrchwch Lundein y gladu y penn. A chyrchwch chwi racoch drwod." Ac yna y llas y benn ef, ac y kychwynassant a'r penn gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Tal Ebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt.

"Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da a dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.

Ac ar hynny, kerdet a wnaeth y seithwyr parth a Hardlech, a'r penn ganthunt. Val y bydant y kerdet, llyma gyweithyd yn kyuaruot ac wynt, o wyr a gwraged. "A oes gennwch chwi chwedleu?" heb y Manawydan.

"Nac oes," heb wynt, "onyt goresgyn o Gaswallawn uab Beli Ynys y Kedyrn, a'y uot yn urenhin coronawc yn Llundein."

"Pa daruu," heb wynteu, "y Gradawc uab Bran, a'r seithwyr a edewit y gyt ac ef yn yr ynys honn?"

"Dyuot Caswallawn am eu penn, a llad y chwegwyr, a thorri ohonaw ynteu Gradawc y galon o aniuyget, am welet y cledyf yn llad y wyr, ac na wydat pwy a'e lladei. Caswallawn a daroed idaw wiscaw llen hut amdanaw, ac ny welei neb ef yn llad y gwyr, namyn y cledyf. Ny uynhei Gaswallawn y lad ynteu: y nei, uab y geuynderw, oed. A hwnnw uu y trydyd dyn a torres y gallon o aniuyget. Pendarar Dyuet, a oed yn was ieuang gyt a'r seithwyr, a dienghis y'r coet," heb wynt.

Ac yna y kyrchyssant wynteu Hardlech, ac y dechreussant eisted, ac y dechreuwyt ymdiwallu o uwyt a llynn. Ac y [gyt ac y] dechreuyssant wynteu uwyta ac yuet, dyuot tri ederyn, a dechreu canu udunt ryw gerd, ac oc a glywssynt o gerd, diuwyn oed pob un iwrthi hi. A fell dremynt oed udunt y guelet uch benn y weilgi allan. A chyn amlyket oed udunt wy a chyn bydynt gyt ac wy. Ac ar hynny o ginyaw y buant seith mlyned.

Ac ym penn y seithuet ulwydyn, y kychwynyssant parth a Gualas ym Penuro. Ac yno yd oed udunt lle teg brenhineid uch benn y weilgi, ac yneuad uawr oed, ac y'r neuad y kyrchyssant. A deu drws a welynt yn agoret; y trydyd drws oed y gayat, yr hwnn y tu a Chernyw. "Weldy racco," heb y Manawydan, "y drws ny dylywn ni y agori." A'r nos honno y buant yno yn diwall, ac yn digrif ganthunt. Ac yr a welsynt o ouut yn y gwyd, ac yr a gewssynt e hun, ny doy gof udunt wy dim, nac o hynny nac o alar yn y byt. Ac yno y treulyssant y pedwarugeint mlyned hyt na wybuant wy eiryoet dwyn yspeit digriuach na hyurydach no honno. Nyt oed anesmwythach, nac adnabot o un ar y gilyd y uot yn hynny o amser, no fan doethan yno. Nit oed anesmwythach ganthunt wynte gyduot y penn yna, no phan uuassei Uendigeiduran yn uyw gyd ac wynt. Ac o achaws y pedwarugeint mlyned hynny y gelwit Yspydawt Urdaul Benn. {Yspydawt Uranwen a Matholwch oed yr honn yd aethpwyt e Iwerdon}.

Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith: "Meuyl ar uy maryf i," heb ef, "onyt agoraf y drws, e wybot ay gwir a dywedir am hynny." Agori y drws a wnaeth, ac edrych ar Gernyw, ac ar Aber Henueleu. A phan edrychwys, yd oed yn gyn hyspysset ganthunt y gyniuer collet a gollyssynt eiryoet, a'r gyniuer car a chedymdeith a gollyssynt, a'r gyniuer drwc a dothoed udunt, a chyt bei yno y kyuarffei ac wynt; ac yn benhaf oll am eu harglwyd. Ac o'r gyuawr honno, ny allyssant wy orfowys namyn kyrchu a'r penn parth a Llundein. Pa hyt bynnac y bydynt ar y ford, wynt a doethant hyt yn Llundein, ac a gladyssant y penn yn y Gwynuryn.

A hwnnw trydyd matcud ban gudywyt, a'r trydyd anuat datcud pann datcudywyt; cany doey ormes byth drwy uor y'r ynys honn, tra uei y penn yn y cud hwnnw. A hynny a dyweit y kyuarwydyd hwnn. Eu kyfranc wy, "Y gwyr a gychwynwys o Iwerdon," yw hwnnw.

En Iwerdon nyt edewit dyn byw, namyn pump gwraged beichawc ymywn gogof yn diffeithwch Iwerdon. A'r pump wraged hynny, yn yr un kyfnot, a anet udunt pum meib. A'r pym meib hynny a uagyssant hyt ban uuant weisson mawr, ac yny uedylyssant am wraged, ac yny uu damunet gantunt eu cafael. Ac yna, kyscu pob un lau heb lau gan uam y gilid, a gwledychu y wlat a'y chyuanhedu, a'y rannu y rydunt yll pymp. Ac o achaws y ranyat hwnnw y gelwir etwan pymp rann Ywerdon. Ac edrych y wlat a wnaethant ford y buassei yr aeruaeu, a chael eur, ac aryant, yny ytoedynt yn gyuoethawc.

A llyna ual y teruyna y geing honn o'r Mabinyogi, o achaws Paluawt Branwen, yr honn a uu tryded anuat paluawt yn yr ynys honn; ac o achaws Yspadawt Uran, pan aeth yniuer pedeir decwlat a seithugeint e Iwerdon, y dial Paluawt Branwen; ac am y ginyaw yn Hardlech seith mlyned; ac am Ganyat Adar Riannon; ac am Yspydaut Benn pedwarugeint mlyned.