Brethyn Cartref/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Brethyn Cartref Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Cynhwysiad


RHAGAIR

FEALLAI nad oes nemor gamp ar y torri a'r gwnïo, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a'i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, po bae'r grefft cystal â'r deunydd, fe dalai'r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo'i amgenach wrth law, ryw ran o'r pedwar amser.

T. G. J.
ABERYSTWYTH,
Mehefin 21, 1913.

Nodiadau[golygu]