Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II/Rhan II
← Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II | Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian) |
→ |
Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
Gan y TAD MORGAN, C.I.
II.
CYN symmud i draethu yn frysiog ar achosion neilltuol cwymp Protestaniath yng 'Hymru, goddefer imi grybwyll am un achos arall, sy'n hytrach yn gyffredinol nag yn neilltuol, sef ymdeuniad ac ymddadblygiad Iachyddiath (Salvationism).
Seisyn a'i gyfenw yn Bwth ne Booth oedd awdur yr iachawdwriath a elwid yn iachyddiath; ac fe elwid ei ddilynwyr—o yn Fyddin Iach; a hynny, y mae'n debygol, am eu bod-nw'n teimlo ac yn siarad mor iach.
Math o gymdeithas ddirwestol oedd y Fyddin ar y cynta; er hynny, yr oedd-hi o'r dechreuad yn dablo mewn "achub" hefyd. Ond, ysywath, yr oedd yr achub hwnnw yn gynnwysedig mewn troi publicanod yn Phariseied, a phechaduried swil yn weddïwyr digwilidd.
Pa bryd bynnag y gwelid fod chwifio cadacha, curo dwylo a thabyrdda, a gweuddi hoew-gan a gweddi, yn cyffroi gïa'r gwrandawyr, fe gyhouddid eu bod-nw wedi'w cwbwl iachâu. Ond er iached y teimlenw drannoth ar ôl eu troi, yr oeddenw'n credu fod lle iddynw gynnyddu mewn hyfder, os nad mewn gras; am hynny, nw a frysien i fwrw ymath bob gwyleidd-dra trwy ymosod i ddyscu pobol erill cynn ymdrafferthu i ddyscu dim eu hunen. Y cyfle hwn, a roid i holl euloda'r Fyddin i borthi hunanoldeb ac i ennill cyhoeddusrwydd yn ddidrafferth, oedd yr achos penna pa ham y llwyddodd y blaid morr gyflym.
Er hynny, bychan a fu ei llwyddiant-hi mewn gwledydd gwareiddiedig wrth ei llwyddiant yn Lloiger. Ono yr ymgododd-hi, a gwedd Seisnigadd oedd iddi; a chann fod gwerin bobol y wlad honno yn ymhoffi yn ddirfawr mewn boesach ac ymladd, ac mewn pob math o chwara garw yr oedd-hi'n gweddu iddyn nhw yn fwy nag i un genedl arall. Y mae'n wir y medrodd hitha, trwy drafferth, gynhyrfu dynion i'w herlid ar y cynta; ond yr oedd-hi'n porthi nwyda Seisnig yn rhy dda i gael ei herlid yn hir; felly, pann aeth-hi'n fawr, fe droes y rhann fwyaf o'i melltithwyr i'w bendithio; canys y mae'n hysbys ichi fod y Seuson erioed yn mawrygu llwyddiant, pa un bynnag a fyddo-fo ai llwyddiant teg ai amgen.
Heb law hynny, yr oedd y Cad-lywydd Wolseley, a gwŷr rhyfelgar erill, wrth weled fod yn anos cael dynion i ymuno â byddin a llynges Lloiger nag a fyse cynn hynny, yn teimlo na allen nhw neyd dim yn well na chefnogi plaid o grefyddwyr oedd yn llafurio mor effeithiol i gadw'n fyw yr ysbryd milwrol yn y wlad, ac i ddiscyblu rhiwfaint ar yr euloda.. Hefyd, yr oedd bleunoried ambell gyfundeb yn mynd o'u ffordd i gammol y Fyddin, gan obeithio trwy hynny ei hudo-hi yn y mann i'w corlan eu hun. Y mae'n ddiogel imi gyfaddef yn awr mai er mwyn ei amcanion ei hun ac nid o gariad at y Fyddin yr oedd y Prif-archeseob Manning yn ei chefnogi—hi; er y gallase fo ddadla yn ddiragrith ei fod-o'n rhwymedig i'w chefnogi cynn gynted ag y derbyniodd-hi y Cynllun Cymrodol a ddarparse fo'i hun.
Dyma beth arall a naeth y Fyddin yn gymmeradwy gann lawer, sef, fod lliaws o'i swyddogion-hi yn feniwod. Pann y bydde'r rhain yn ifingc, yn ddibriod, ac yn deg yr olwg, fe fydde'r euloda a'r gwrandawyr yn lliosog; ond pann y doe gwragedd priod ne hen ferched hagar yn eu lle«-nw, fe fydde llawerodd yn cilio ymath. Ie, hyd yn noed yn y lleodd y bydde rhianod yn wastadol, fe aed i flino arnynw yn pipian yr un chwedel o hyd. Er fod peth newydd yn taro unwath, etto y natturiol sy'n taro nes torri'r garreg. Y mae merched yn siarad yn natturiolach ac yn edrych yn hawddgarach ym'hobman nag mewn pulpud neu ar fanllor cyssegredig; a rhyfygus o beth ydi i neb ddisgwil i Dduw fendithio brygawthan merchettos ag y gorch'mynnodd-o yn eglur iddynw gau eu cega.
Yr oedd y trosedd hwn yn erbyn gorchymyn a greddf nid yn unig yn ddi-fudd i erill, ond hefyd yn niweidiol iawn i'r beniwod eu hunen. Nid ychydig o niwed a neid iddynw, i ddechra, trwy. hynn: sef, eu bod yn gorfod teimlo mai i edrych arnynw ac nid i wrando arnynw y deuthe llawer i'w cyfarfod. A'r hynn oedd waeth na'r cwbwl, yr oeddenw'n colli prif harddwch merch, sef gwyleidd-dra. Yn wir, yr oedd Bwth wedi dyscu i'w swyddogion beniw anghofio mai beniwod oeddenw, ac i alw y naill y llall yn fo ac nid yn hi. lr mwyn dangos dylanwad mawr y meddwl ar corff, fe dystioleutha meddygon fod barf drwchus wedi tyfu ar wyneb amriw o'r captenied beniw, ac i hwnnw foeli drachefn, yn raddol, o'r adeg y dechreusonw gofio o ba ystlen yr oeddenw.
Y mae'n deg imi ddweyd mai mewn anwybod yr oedd llawer o'r merched yn troseddu'r gorchymyn Ysgrythyrol, am nad oeddenw ddim wedi darllen yr Bpistolau at y Corinthied ac at Timotheus, ac am nad oeddenw ddim yn alluog i'w dyall-nw, pe bysenw wedi'w darllen-nw. Yr oedd erill yn dyall rhai rhanna yn eitha da, ond yn ymyfhau i deuru na ddanfonwyd mo Apostol y Cenhedlodd i ddeddfu i ferched mwy nag i fedyddio, ac am hynny nad oedd ei gynghorion-o ddim yn gyfaddas i wragedd a gwyryfon, yn enwedig y rhai a anwyd ar ôl y Chwyldroad Ffrengig. Yr oedd erill, gann ofni rhedeg yn y gwddw i apostol, yn ymfoddloni ar gyfeirio at dystiolath yr esponwyr caredig oedd yn dadla fod "Tawed" yn y Roeg yn gyfystyr â Llefared; ac fod yr ymadrodd "Nid wyf yn cenhadu i wraig athrawieuthu" yn sefyll fel hynn cynn i'r hen langce Origen ei gyfnewid: "Nid rhaid i mi gen- hadu i wraig athrawieuthu."
Yr oedd y math o lenoriath a elwir dysceidiath gain wedi mynd yn isel yn nyddia Bwth, a'r bobol yscrifengar, bron i gid, wedi troi i sponio a mân-feirniadu; a chann na byse sponiad synhwyrol ddim yn ddigon dyddorol i fod yn werthadwy, fe fydde'r esponiwr olaf ar y maes yn ceisio bod yn saith gwirionach na phob esponiwr a fu o'i flaen. Pa ffolineb neu anfoes bynnag a fydde mewn bri ar y pryd, fe fydde rhiw esponiwr Protestanadd neu gilidd yn barod i ystumio Scrythyr yn union er mwyn ei amddiffyn-o.
Er engraff, pan ofynwyd i bregethwr oedd yn chwennych ennill pleidebau ac ewyllys da y gwragedd gwrywadd, pa ham, tybed, na ddewisasid rhiw wraig yn archoffeiriad ne'n apostol, fo attebodd, heb un dyferyn o afiath ar ei wefus nac yn ei lygad, mai merch yn ddiau ydoedd y pennaf o'r apostolion, pe amgen y galwesid ef yn Apostol Pedwar ac nid yn Apostol Peder!
Fel dywedesi, blino cynn hir a naeth pobol ar weinidogath angylion beniw, a blino a naeth yr angylion eu hunen; canys pann welodd y rhai priodadwy yn eu plith fod y meibion yn barottach i'w cammol-nw nag i'w caru â chariad tragwyddol, nw a ddechreuson warchod gartre, tann obath cael eu gweled yn well yn y dirgel nag yn yr amlwg. Ac yn wir, fe a ddigwyddodd iddynw yn ôl y ddihareb, yr honn sy'n dwedyd fod yn haws i ddyn gael hyd i wraig gymmwys wrth ola cannwyll frwyn nag wrth ola nwy neu drydan.
Ond os beio yr ydwi ar y Fyddin Iach, pa ham, meddwch, y galle-hi fod yn niweidiol i Brotestaniath ac yn fanteisiol i Gatholigath?
Fel hynn: hi a wanhaodd yr hen gyfundeba Protestanadd trwy ddwyn oddi arnynw y werinos —a chofier fod y rheini yn eppilio cystal â phobol gallach; hi a ddyscodd ei heuloda i ufuddhau i'w penneuthied yn lle gweithredu yn ôl eu mympwy a'u barn briod, ac a'u dygymmododd-nw ag unbennath eglwysig; canys yr oedd Bwth, a'i fab, a'i fab ynta, bob un yn fwy o unben na'r Pab o Rufan, ac nag un ymerawdwr a fu'n teyrnasu yn yr oesodd diwedda; ïe, hi a ddygymmododd yr euloda â'r enw Pab; canys er mai "Tad" y Fyddin y galwe Bwth I ei hun, etto pann aeth y plant yn ddigon dyscedig i wybod mai tad ydi meddwl y gair Lladinaidd pab ne papa, nw a droison i alw Bwth II yn gyntaf oll yn bapa, ac wedyn yn bab; ac o barch i'w briod-o (ac efalle o fig i Fair y Forwyn), nw a'i galwason hitha yn famma, ac yna yn babes, yn lle yn fam fel cynt.
Pann aeth y plant hynn yn dippin o wŷr mewn dyddiau ac mewn dyall, nw a ddechreuson flino "chwara sowldiwrs" i ogoniant "capten mawr eu hiachawdwriath", ac a feddyliason y bydde'n llai cywilyddus iddynw gymmeryd eu llywodreuthu gann bab a etholsid, o blegid rhagoroldeb ei ddawn a'i ddysc a'i dduwioldeb, gann hynafgwyr parchediccaf yr Eglwys, nag ymostwng i bob rhiw gyntafanedig gwael a gweddol o dylwyth Bwth. Er buddioled ydi unbennath etifeddol mewn gwladwriath, nw a farnason fod unbennath etholedig yn fuddiolach yn yr eglwys.
Dyma beth arall ag oedd yn dwyn y Fyddin Iach, er cynnifer a chimmin ei beia, yn nes nag un blaid Brotestanadd arall at y Fam-Eglwys, sef, mai rheola'n hen gymdeithasa cenhadol ni yn gymmyscedig â nifer o reolau a gymmerwyd o Lawlyfr Milwrol y Cadlywydd Wolseley, oedd Rheola Discybleuthol y Fyddin.
Mewn un peth, yr oedd y Fyddin Iach yn fwy Protestanadd nag odid un blaid arall o'r hereticied: 'd oedd ganddi ddim offeiried nac un math o weinidogion urddedig. Ond nid oedd hynny yn ei gneyd-hi'n fwy anhawddgar gann y Catholigion. Gann nad oedd iddi offeiried, 'd oedd-hi ddim yn honni bod yn eglwys; a chann nad oedd-hi ddim yn eglwys, 'd oedd-hi ddim yn rhyfygu gweinyddu'r sacramenta. Yr ydan ni, y Catholigion, yn gallu mawrygu cyssondeb hyd yn noed mewn Protestanied; a pha Brotestanied morr gysson â'r rhai sy'n di-ystyru urddau, ïe, ac urddas hefyd?
Erbyn hynn, y mae'n wir fod yr holl Brotestanied sydd ar wascar yn gysson â nhw'u hunen yn y peth yma; canys pann ddechreuwyd dyscu rhesymeg yn yr yscolion beunyddiol, nw a ganfuon mai gwrthun o beth oedd iddyn nhw gredu mewn offeiried, mewn ordeinio, mewn cyssegru ac mewn eglwys. Trwy eynnwyr natturiol, y mae'n ddiau, ac nid trwy ddysceidiath, y dyallodd Bwth I mai offeiriadath ffugiol oedd offeiriadath Brotestanadd, ac nad oedd pob "eglwys" Brotestanadd yn ddim amgen na byddin filwrieuthus. Oni byse fod Bwth morr chwannog i neuthur ei elusen, ei weddi a'i ympryd, yng'ŵydd dynion, mi a ddywedaswn mai o ledneisrwydd y peidiodd-o â chyfeiliorni yn ffordd Cora, a'r Calvinied, a'r Lutheried, a'r Cranmeried, a'r Methodistied. Er y byse gneuthur eglwys newydd, ac ordeinio offeiried, yn rhwystro i'w fyddin-o gynnyddu; etto, y mae'n ddiamma y byse hynny yn peri iddi fyw yn hwy, ac yn ei chadarnhau fel sect.
Y mae hanes y Methodistied, yn arbennig, yn egluro hynn; canys cynn gynted ag yr ymffurfiasonw yn gyfundeb gwahanedig er mwyn boddloni trachwant y cynghorwyr diurddau am goeddusrwydd a chadach gwynn, fe arafodd eu cynnydd ac fe leihaodd eu dylanwad yn ddirfawr; er hynny, fe fu'r hynn a'u hattaliodd-nw rhag tyfu yn gymmorth iddynw i fyw, yn ystyr isa'r gair; canys wedi iddynw godi capelau a cholegau a thrysorfeydd, yr oedd yn anodd gann y rhai oedd yn cael budd oddi wrth y pethau hynn ail-ymuno ag Eglwys Loiger heb fynnu sicrwydd y caffenw wrth hynny fwy nag a adawenw. Er fod Eglwys Loiger, erbyn dechra'r ugeinfed canri, wedi mynd yn dra thebig i Eglwys Rufan, a'r Methodistied, a'r Ymneilltuwyr erill, wedi mynd yn debig i Eglwys Loiger, etto, o achos rhwystrau ariannol a hunanol, fe aeth llawer blwyddyn heibio cynn i'r afradlonied hynn ymostwng yn ddiammodol i'r hen Fam-Eglwys.
Ond nid ordeiniodd Bwth offeiried yn ôl urdd Melchisedec nac Aron. Nid adeiladodd y Fyddin Iach ddinas iddi ei hun, eithyr trigo a naeth-hi mewn lluestai; ac yr oedd ei bod-hi'n fyddin faes, ac morr symudol, yn ei gneyd-hi ar unwath yn fwy gorchfygol ac yn fwy gorchfygadwy hefyd. Yr oedd ei grym hi yn ei gwendid, a'i gwendid yn ei grym. 'D oedd y swyddogion yn colli nemmor wrth ei gadael-hi; a chann fod yr holl drysora yn nwylo eppil Bwth, yr oedd ymchwaliad y Fyddin yn hytrach yn elw nag yn golled i'r rhain.
Y mae'n ddiamma y byse'r Fyddin wedi darfod yn gynt nag y gnaeth-hi, oni byse i Bwth I yn ddoeth iawn ei throi-hi cynn hir yn Gymdeithas Gymhorthol, trwy sefydlu noddfeydd a gweith- feydd a threfedigeutha ar gyfer pobol reidus a di-waith, yn ôl cynllun a gyhoeddesid cynn hynny gann y Prif-archescob Manning. Er hynny, y mae clod am gyflawni'r cynllun hwnnw a'i ddwyn 1 ben yn perthyn yn bennaf i Bwth ei hun, yr hwnn, er nad oedd-o na duwinydd nac athronydd na llenor, oedd yn un o'r trefniedyddion goraf yn Lloiger.
Mi a ddylwn ddweyd fod y Prif-archescob Manning a'r Penllywydd Bwth yn grynn gyfeillion; ac os nad oedd y ddau yn dyall eu gilidd, y mae'n amlwg erbyn hynn fod un o'r ddau yn dyall y llall, a'i fod yn gneyd offeryn o hono i hyrwyddo Catholigath. Gann fod rhagfarn y rhann fwyaf o'r Protestanied yn erbyn Catholigath heb ddarfod, ni allase'r Prif-archescob roi ei gynllun ar waith y pryd hwnnw heb ddirymu ei amcan ei hun a dadguddio'i fwriad i adsefydlu, mewn ffordd gwmpasog, fynachlogydd yn y tir. Felly ymfoddloni a naeth-o ar gefnogi Booth i godi mynachlogydd wrth enw arall mwy Protestanadd, a thrwy arian Protestanadd, am ei fod-o'n gweled eu bod-nw'n ogyffelyb eu natur i'r hen fynachlogydd Catholig, ac fod iddynw yr un amcan; ac am ei fod-o hefyd yn rhag-weled y doe yr adeiladau a'r tirodd, os nad yr arian, i gid yn y mann i feddiant y Catholigion.
A hynny a fu; canys yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad ysprydol Bwth III fe ymostyngodd y fintai olaf o'r Fyddin Iach i'r Pab o Rufan; ac wedi marw o'r Bwth hwnnw, trwy yfed diodydd dirwestol rhy gryfion, fe roes ei blant-o eu hunen a'u harian i'r Eglwys Gatholig.
Y mae hi'n bryd imi bellach enwi achosion neilltuol cwymp Protestaniath yng 'Hymru. Eu henwi, meddaf, am y palle'r amser imi dreuthu nemmor ar chwaneg na dau ne dri ohonynw.
Dyma'r achos penna, yn ddiamma: sef diystyrwch Protestanied Cymru o iaith eu tada. Wrth beidio â bod yn ieithgar, yr oeddenw o anghenraid yn peidio â bod yn wladgar, ac yn peidio â bod yn genedlgarol; canys y Gymraeg oedd yn gneyd y rhann honn o Ynys Prydan yn Gymru, a'r Gymraeg oedd yr un ffunud yn gneyd ei phobol-hi yn Gymry. Pe na neuthe'r Cymry ymdrech benderfynol i gadw ac i adfywio'r hen iaith, ni fyse Wales yn ddim amgen nag enw deuaryddol, megis Cumberland, ar randir Seisnig. Fe hawliodd y Gwyddelod y Werddon am ei bod-hi'n ynys; ond fe hawliason ni Gymru, nid am fod rhyngoni â Lloiger nac afon na mynydd, nac am ein bod yn wahanol ein llun na'n lliw, ein crefydd na'n harferion, i'r Seuson, eithyr yn unig am ein bod yn wahanol ein hiaith iddynw.
Ein hiaith sy'n ein gneyd ni yn “' bobol briodol: hynny ydi, yn genedl. Y mae'n wir ein bod-ni yn wahanol i'r Seuson mewn rhai petha erill; ond y mae'r holl fân wahanieutha yn dyfod o'r gwahaniath mawr sy rhyngoni â nw mewn iaith. O'r hynn lleia, y gwahaniath ieithol sy'n ein cadw-ni yn wahanol mewn petha erill; a phe peidiase'r gwahaniath hwnnw fe a ddarfyse pob gwahaniath arall cynn penn tair cenhedlath. Yr oedd rhai o
DIC-SION-DAFYDDION CYFNOD YR ACHOSION SEISNIGEIDDIOL
yn addef y peidie'r Cymry â bod yn genedl pann y peidid â siarad Cymraeg; ac yr oeddenw yn ddigon llygredig i deuru yn ddigwilidd mai bendith ac nid melltith a fydde hynny. Y mae'n dda i'r giwed hynny nad oeddenw ddim yn byw yng 'Hymru yn amser y Chwyldroad; onid e, marw o farwolath bradwyr a fyse'u rhann-nw.
Ond pa ham yr ymofidiwni o blegid na welsoni mo'u dienyddio-nw, a ninnau'n gwybod y cospir yn dost yn y byd arall bob bradwr ag yr esceuluswyd ei gospi yn y byd hwnn? Y mae gwadu priodiaith yn bechod mwy annaturiol na gwadu Crist. Y mae yn rhyfedd yn ein golwg ni fod neb erioed wedi teuru nad oes purdan ac uffern yn y byd arall; eanys y mae rheswm ei hun yn dwedyd y rhaid fod tân wedi ei gynna yn rhiwle ar gyfer bradwyr anedifeiriol.. Os bydd Achoswyr Seisnig- ath yn gadwedig, trwy dân poeth iawn y byddanw yn gadwedig.
Yr oedd gann y Cymry ag oedd yn byw yn oesodd y caethiwed cenhedlig riw eseus am fod yn anwladgar; am fod Cymru, y pryd hwnnw yn enwedig, yn wlad rhy fechan i bawb ei charu trwy aros ynddi; ac yr oedd ganddynw yr un ffunud riw eseus am fod yn anghenedlgarol; canys yr oedd y Cymry, er pann y gwthiodd y babes Elspeth ei Phrotestaniath arnynw, wedi mynd yn genedl anhawddgar, ond nid oedd ganddynw ddim escus am fod yn anieithgar; canys yr oedd ganddynw un o'r ieithoedd cywreiniaf ac ystwythaf ar wyneb y ddeuar, pe bysenw yn ymdrafferthu i'w dyscu-hi; ac er gorfod i lawer ohonynw gefnu ar eu gwlad, 'd oedd raid i neb ohonynw gefnu ar ei iaith; canys y mae iaith yn fwy cludadwy na thir, ïe, nag arian hefyd. Yn wir, y Gymraeg oedd yr unig berl gwerthfor oedd gann y Cymry rhwng yr adeg yr ymwrthodasonw â'r grefydd Gatholig a'r adeg y derbyniasonw-hi drachefen.
Y mae yn deg imi adde na fu'r Catholigion eu hunen ddim morr gefnogol i iaith y Cymry ag y dylsenw fod, ar ôl dechra o'r Seuson ymyryd â matterion y Dywysogath; ac y mae yn ddi-amma i hynny lachau gafal y Cymry yn eu hen grefydd dalm o amser cynn y Chwyldroad Protestanadd; ond ar y Seuson Catholig ac nid ar yr Eglwys Gatholig yr oedd mwyaf o fai; canys y nhw, er mwyn amcanion gwleidyddol, oedd yn gwthio cynnifer o estronied i fywioleutha Cymreig. Yr oedd bai nid bychan ar y Llys Rhufeinig hefyd; canys pann y sefydlwyd dwy archescobath y naill yn Neheubarth a'r llall yng 'Ogleddbarth Lloiger, fe ddylsid ar yr un pryd sefydlu archescobath arall yng 'Hymru. Fe fyse hynny yn fanteisiol i annibyniath Cymru, nid yn unig yn grefyddol, ond hefyd yn wladol; ac fe fyse'r Cymry yn amharottach i ddynwared y Seuson yn eu gwaith yn ymwrthod ag unbennath y Pab. Amryfusedd dybryd oedd peidio â gneyd hynny; ac fe orfu i Gymru, ac i'r Eglwys Gatholig ei hun, ddioddef o'i blegid dross lawer oes.
Gann nad oedd rhwng dyfodiad Awstyn Fynach â'r Chwyldroad na thrydaniadur na threna i ddwyn y pell yn agos, yr oedd yn hawdd i Baba'r cyfnod hwnnw, er eu bod yn anghyfeiliorn ynghylch pyncia cred, gyfeiliorni yn ddirfor yn eu barn am gyflwr Cymru, o rann iaith a theimlad, ac o rann ei pherthynas â Lloiger, yn enwedig gann eu bod-nw yn barnu pob peth ar bwys adroddiada urddasolion Seisnig. Fe geisiodd y Paba bob amser, ar bwys y tystioleutha a ddygid ger eu bronn, neuthur barn deg rhwng gŵr a gŵr a rhwng cenedl a chenedl; ond fe naeth rhai ohonynw yn ddifwriad gam â Chymru am nad oeddenw yn gwybod cimmin am dani â Phaba diweddarach.
Ond os cyfeiliornodd yr Eglwys Gatholig mewn tywyllwch, fe bechodd yr Eglwys Brotestanadd yn erbyn goleuni. Er fod honn mewn cyfleustra i wybod teimlad y Cymry, ni pharchodd-hi ddim arno. Yr oedd hyd yn noed ei henw-hi yn taflu sarhad arnynw—Eglwys Loiger! Y fath fargen wael i'r Cymry—Eglwys Loiger yn lle Eglwys y Byd: Eglwys y Seuson yn lle Eglwys y Pawb!
Ond pa fodd y gall eglwys gwlad a chenedl neilltuol fod yn eglwys gatholig ne gyffredinol? a pha fodd y gall eglwys fod yn eglwys wirioneddol, os na fydd-hi yn gatholig? Sect ydi pob eglwys neilltuol; ac er darfod sefydlu Sect y Seuson trwy gyfrath, nid oedd iddi fwy o awdurdod na'r secta erill, a sefydlwyd wrth fympwy eu cychwynwyr. Ond yr oedd y Cymry, wrth ymuno â sect eu darostyngwyr, heb law gneyd eu hunen yn euog o heresi, yn amharchu eu hunen. Gwybyddwch, os na wyddochi eisys, ddarfod estyn cortyna'r sect honn hyd i Gymru, nid yn unig er mwyn ymwelwyr Seisnig a Chymry Seisnigadd, ond hefyd er mwyn yr holl genedl.'Dalle fod i'r gyfriw sect gann hynny ddim gwell amcan nag oedd i'r Achosion Seisnigeiddiol, a sefydlwyd yn ddiweddarach gan Seisgarwyr Ymneilltuol. Pa ennill i Gymry oedd cael sect Seisnig yn gyfnewid am yr Eglwys Gatholig? A gafodd-hi archescob iddi ei hun? A oedd ei holl escobion a'i holl offeiried-hi yn Gymry? A oedd-hi yn well, ïe, a oedd-hi cystal ei moesa ag o'r blaen? A ymddyrchafodd-hi mewn dysc a dyalltwriath? A fagodd-hi cystal beirdd ag Aneurin Gwawdrydd a Dafydd ab Gwilym? A fedrodd-hi lunio chwedla byd-enwog fel y Mabinogion?
Y mae yn wir y cafodd-hi gyfieithiad rhagorol o'r Bibil gan y Dr. Morgan (diolch i'r mynach a'i haddysgodd-o); ond pa beth attolwg a naeth-hi â'r Bibil hwnnw oddi eithyr ymgecru ynghylch ei athrawieutha, a diystyru'w orchmynion-o? 'D wyf i ddim yn credu fod cimmin o gaddug ar Gymru rhwng y 2Diwygiad Protestanadd a'r2 Diwygiad Methodistadd ag y mynne'r Methodistied ini gredu, na'i bod-hi o dann rwysc y Methodistied a'r mân secta erill wedi mynd mor ddiriwiedig ag yr heure'r Fyddin Iach ei bod-hi; ond y mae yn sicir ei bod-hi yn fwy anfucheddol o grynn lawer yn ystod rhwysc y Sect Sefydledig, ac yn fwy rhagrithiol o lawer iawn yn ystod rhwysc y secta ansefydledig, nag oedd-hi o'r blaen.
Gann allu, fe allodd "Eglwys" Loiger, trwy gymmorth y gyfrath, ddymchwelyd yr Eglwys Gatholig yng 'Hymru; ond wedi cael y tir yn rhydd iddi hi ei hunan, 'd allodd-hi byth ymgadarnhau ynddo; a pha fodd y gallesid disgwil iddi ymgadarnhau, a hitha yn rhy 'styfnig i ymorwedd ar y teimlad cenhedlig?
Gwaith y Duw ag y mae yn hoff ganddo amriwiath ydi dosparthu dynion yn llwytha, yn ieithodd, yn boblodd ac yn genhedlodd; ac ni all nad aflwydda'r sect a ymdery yn erbyn y trefniad hwnnw. Pa ham, er engraff, yr aflwyddodd yr Hugonotied, sef hen Brotestanied Ffrainge, a nhwtha unwath cynn lliosoeced â'r Catholigion yn y wlad honno? Onid am iddynw ddangos eu bod yn caru'w sect yn fwy na'u cenedl? Y mae'r Eglwys Gatholig, er mwyn bod yn Gatholig mewn gwirionedd, wedi amcanu erioed neyd cyfri o reddwon[1] a theimlada cenhedlig: a rhag diystyru teimlada, a hyd yn noed ragfarna, y gwahanol genhedlodd, yn un peth, y bu yn wiw ganddi arfer ei gwasanath mewn iaith farw a chyffredinol; a rhag hynny hefyd, mewn rhann, y rhyngodd bodd iddi neyd yr offeren yn brif wasanath; canys yn gimmin â bod yr offeiriad yn y gwasanath hwnnw yn llefaru wrth y gynnulleidfa trwy gyfres o weithredodd arwyddochaol, a hysbys i bob eulod Catholig, y mae-o morr ddyalladwy i bawb o bob gwlad â phe bydde-fo yn llefaru wrth bob cenedl yn ei hiaith ei hun.
Ond er gneyd ei gora, fel hynn ac fel arall, i briodi crefydd â greddw ymhob gwlad ac ymhob oes, hi a fethodd rai gweithia, fel yr awgrymisi o'r blaen; a hyd yn noed pann y tybid ei bod-hi yn methu, fe fydde hynny ei hun yn peri agos gimmin o niwed iddi â phe byse-hi wedi ei phrofi yn euog. Fe dybiwyd unwath ei bod-hi yn gwrthwynebu undeb ac annibyniath yr Ellmyn; ac ar y dybiath honno y marchogodd y pab Luther ar eî ymgyrch ry lwyddiannus yn erbyn y Pab o Rufan. Fe dybiwyd fod y Frenhines Elspeth yn fwy cenedlgarol na'r Frenhines Mair; ac o achos y dybiath anghywir honno y cwympodd Catholigath gyd & Mair, ac yr ymddyrchafodd Protestaniath gyd ag Elspeth. Y mae gwybodath hanesyddol a phrofiad chwerw wedi argyhoeddi'r Catholigion yn fwy nag erioed na lwydda eglwys Crist ddim yn hollol, os na bydd-hi ar unwath yn gatholig ac yn genhedlig—yn gatholig er mwyn ennyn parch, ac yn genhedlig er mwyn ennyn cariad.
Am "Eglwys" Loiger yng 'Hymru, nid oedd hi na chatholig na chenhedlig..'D oedd-hi ddim yn gatholig, am mai sect ddiweddar oedd-hi, n sect cenedl neilltuol. D oedd-hi ddim i'r Cymry yn genhedlig: hynny ydi, 'd oedd-hi ddim yn Gymroadd, am mai sect y genedl Seisnig oedd-hi, yr honn genedl yr oedd gann y Cymry, tra y buwyd yn eu cadw-nw yn gaeth, lai o achos i'w charu nag un estror-genedl arall.
Er fod gann y sect sefydledig gywirach credo a gweddeiddiach gwasanath nag oedd gann y secta ansefydledig; etto, er gweuthaf y rhagorieu'ha hynn, ebrwydd y gorfu'r secta erill arni yng 'Hymru; a hynny, yn llawer, o achos eu bod-nw yn y dechra yn fwy Cymroadd na hi. 'D oedd y rheini chwaith ddim yn Gymreigadd eu gwreiddin, am hynny nid mawr a fu'w cynnydd hwytha. O'r adeg y diddymwyd Catholigath, nid ymdeunodd un grefydd dross Gymru oll hyd oni chododd
SECT NEWYDD Y METHODISTIED;
a chann fod honn yn sect Gymreig—yn racy of the soil, fel y dywed y Sauson hi a rwygodd ffynhona'r dyfnder mawr (a ffenestri'r nefodd hefyd a agorwyd, medd rhai); ac ar wyneb y rhyferthwy hwnnw o deimlad Cymreig, fe'i ddyrchafwyd-hi yn ebrwydd goruwch yr holl secta erill.
Er mai ymblaid grefyddol oedd-hi, ac felly o anghenraid yn ddarfodedig; etto, hi a allase gadw eì safle yng 'Hymru yn hwy o lawer nag y gnaeth-hi, oni byse ddyfod chwant arni i ymgystadlu â'r secta erill mewn codi tai cwrdd i ymwelwyr Seisnig a. Dic-Siôn-Dafyddion. Gann na fynne'r Seuson ymostwng i ymuno â sect a gawse'i chredo o Genefa a'i ffurf yng 'Hymru, a gweled 'r Methodistied Seisgar fod y Dic-Siôn- Dafyddion yn brinnach nag y tybiesid eu bod, nw a gymmellason Gymry uniaith i ddyfod i mewn i'w tai cwrdd, er mwyn gallu ohonynw ddwedyd fod yr "achos mawr" Seisnigadd yn llwyddo. Fe hudwyd llawer o benweinion i ymuno â'r Inglis cosys hynn; rhai er mwyn dyscu Seusneg; rhai er mwyn rhoi ar ddyall eu bod yn medru Seusneg, ac erill er mwyn petha erill sy'n rhy ddirmygus i'w henwi yn y dyddia hynn.
Oddi ar y Methodistied Cymreig y dygwyd y rhann fwyaf o'r rhain, yr hynn beth a'u gwanhaodd-nw yn fawr. Y mae yn wir y cyfrifid y rhain hefyd yn euloda o'r Corff, tra bu'r Corff yn eu cynnal ag arian; ond pann y teimlasonw eu bod yn alluog.i gynnal eu hunen, ne'n hytrach pan y gwrthododd yr euloda Cymreig gynnal dynionach oedd yn eu diystyru nhw a'u hiaith, fe ymrwygodd y sect yn ddwy; ac wedi ymrwygo, buan y dihoenodd y ddwyblaid. Wrth feithrin Seisnigath fe fynwesodd Methodistiath wiber a'i brathodd-hi o'r diwedd â brath marwol.
Fe barodd ymddiriwiad prysur Methodistiath syndod nid yn unig i'r Methodistied eu hunen, ond hefyd i'r secta erill.
Cynn bynn, yn wir, fe lawenychase'r Annibynwyr, pann wybuonw eu bod wedi mynd cyn lliosocced â'r Methodistied. Yn y mann, fe gafodd y Bedyddwyr, a secta erill, achos i lawenychu am yr un peth: ond pann welsonw'r Corff yn marw ar garlam, fe droes eu llawenydd yn alar ac yn ofon; canys nw a deimlason fod un o brif golofnau Ymneilltuath a Phrotestaniath yng 'Hymru wedi ymollwng, ac nad allen nhwtha ddim yn hir rwystro'r trychineb a ddigwyddodd iddi hi.
Fe dwyllwyd yr holl secta yn eu hystadega; canys pann oeddenw yn tybied eu bod yn gryfion yr oeddenw mewn gwirionedd wedi mynd yn weinion iawn. Tua thrigian mlynedd cynn eu trangc, yr oeddenw yn gallu ymffrostio eu bod yn lliosoccach nag y buonw erioed; ond cyfri manus yr oeddenw ac nid grawn: canghenna crin ac nid rhai ir, heb ystyried mai hyrddwynt cymmedrol a dycie i chwalu ymath y rhain i gid... 'D oeddenw ddim yn ystyried fod y rhann fwyaf o'u heuloda wedi mynd yn esceulus, a bod eu plant morr ddi-doriad ag anifeilied. 'D oeddenw chwaith ddim yn cofio nad oedd eu cynnydd mewn rhifedi wedi'r cwbwl ddim yn cyfatteb i gynnydd y boblogath, a'u bod yn colli mwy o'u plant eu hunen nag oeddenw yn eu hennill o'r byd. Heb law hynny, yr oedd pob sect, er's talm hir cynn ei marw, wedi mynd yn ddwy sect, sef, yn un Gymreig ac yn un Seisnig; ac er nad oedd dim cydymdeimlad rhwng pob dwy â'u gilydd, yr oedd y naill fel y llall yn ymarfer â phob rhiw gastia i'w galluogi eu hunen i ymgynnal; a braidd nad oedd y secta Cymreig wedi mynd morr anffyddol ac anfoesol â'r rhai Seisnig.
Er morr ddiriwiedig yr euthe corff y genedl, yr oedd yng 'Hymru weddill nid bychan o ddynion pwyllog, duwiolfrydig, a Chymroadd gyda â hynny, ac wrth weled ohonynw nad oedd y secta gann mwya na Chymroadd na Chatholig, nw a ddechreuson alcru ar Brotestaniath, a hireuthu am eglwys ag sydd ymhob gwlad "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd": eglwys a fydde'n gyfaddas i'r Groegied a'r barbaried hefyd, i'r Cymry ac i'r Seuson, ac a fydde'n ddigon cref i fynnu ei gwrando pann yn dadla dross genedl fach yn erbyn cenedl fawr.
Hyd yn noed y pryd hwnnw, yr oedd y llid oedd rhwng cenedl a chenedl, a rhwng dosparth a dosparth yn yr un genedl; herr y gorchfygwr a gwaedd y gorchfygedig, a'r aflywodrath cyffredinol, yn arwyddo fod Armagedon y boblodd gerr llaw; a phwy, eb y rhain ynddyn eu hunen, a ddichon, drannoth ar ôl y frwydyr, gyfryngu yn effeithiolach, a gneuthur heddwch teccach na'r teyrn cadarnaf ar y ddeuar, sef y Pab? Onid ydi-o eisys, meddenw, wedi dadla dross y Gwyddyl a'r Pwylied a brodorion Affrig a'r India pha ham na ddadleua-fo drossom ninna yr un ffunud? Ac od oes grym yn ei air-o yn awr, pa faint mwy o rym a fydd ynddo wedi'r ysiger y Seuson a'r Prwsied, a gormeswyr erill, yn y rhyfel mawr?
Nid gweled ymhell yr oedd y dynion hynn: gweled yr oeddenw yr agos yn eglurach na'u cym'dogion. Yr oeddenw yn gwybod o'r blaen fod Eglwys Rhufan yn eglwys gyffredinol, ond ofni yr oeddenw y cyfarsange'r cyffredinol ar y neilltuol, ac felly yr ymgolle'r genedl yn yr eglwys, eithyr erbyn yr amser yr ydwi yn sôn am dano, yr oeddenw wedi dyfod i wybod yn amgenach. Truenus i'r eitha a fyse cyflwr Cymru yn yr amser hwnnw, pann oedd yr ymbleidia crefyddol yn ymfalurio, o achos eu hanffyddlondeb i'r iaith a'r efengyl yr ymddiriedodd Duw iddynt am danynw, oni byse fod yr Eglwys Gatholig yn ymgodi yn raddol o ganol yr adfeilion. Araf a fyse'i chynnydd hi hyd yn hynn, am mai estronied ac nid Cymry oedd y rhann fwyaf o'i hoffeiried-hi; a distaw hefyd, am y gallase-hi trwy godi ei llef yn yr hewlydd gyffroi rhagfarn y Protestanied.
'D ydan ni, y Catholigion, ddim o'r rhai sy'n llawenhau yn yr anrhefn a fydd yn wastadol yn cyd-fynd ag ymddatodiad crefydda, canys yr ydani yn cydnabod fod gau grefydd yn well nag angrhefydd, a gau grediniath yn well nag angrhediniath; eithyr y mae yn sicceir na fyse'r Cymry ddim yn troi i mewn i'r "ddinas ag iddi sylfeini,”' pe na byse'r gwyntoedd yn dymchwelyd eu pebyll. Fel y darfu i 'scytiada natur gymhwyso'r ddeuar yn gyfaneddle i ddyn, felly y darfu i ddymchweliad pob peth ddarparu Cymru i'r Eglwys Gatholig. Er hynny ni fyse-hi byth yn gallu ymgodi ar y tir lle y cwympodd y cyfundeba erill, pe nad ymbwysase-hi ar y teimlad cenhedlig. Y hi, bellach, er ei bod yn gatholig, oedd yr unig eglwys wir Gymreig.
At y Cymry yn unig yr oedd ei gwyneb hi yng 'Hymru. 'D oedd-hi ddim yn cefnogi Dic-Siôn-Dafyddion a dyfodied o Seuson i barhau mewn anwybodath o iaith y wlad, trwy frysio i ddarparu iddynw wasanath Seisnig; eithyr yr oedd-hi yn barod i gyflogi gwŷr cymmwys ymhob ardal i ddysceu Cymraeg i'r rhai oedd yn meddwl byw yng 'Hymru; ac yr oedd-hi yn cael fod gneuthur hynny yn rhattach o lawer na chodi Inglis Cosys. Yr oedd hi yn ymogelyd rhag rhannu'r genedl, yn ôl arfer y secta, trwy gefnogi'r dosparth cryfaf ar y pryd yn erbyn y dosparth gwanna, pa un bynnag ai y cyfoethogion ynte'r tlodion, ai perchenogion tir ynte deilied tir, ai y cyflogwyr ynte'r cyflogedigion, a fydde'r dosparth cryfa. Ennill ymddiried pob dosparth trwy ennill ffafar y genedl oedd ei hamcan hi; ac wrth neuthur lles i'r genedl yr oedd-hi yn gneuthur cyfiawnder i bob dosparth ohoni. Yn gyttunol â hynn, ni fydde-hi odid byth yn ymyryd â helyntion dosparthol; ond pa beth bynnag a neid tuag at gyfuno'r Cymry yn genedl, a'u cadw rhag ymgolli yn y Seuson, hi a gefnoge hynny yn ddihafarch. Hi a ennillodd serch y dosparth puraf o Gymry y cyfeiriwyd ato, yn gyntaf oll trwy gydnabod cyfreithlondeb gweithredoedd
Y CYFAMMODWYR CYMREIG;
trwy gyflogi cyfreithwyr i'w hamddiffin, pann erlynid-nw; a thrwy dalu eu dirwyon pan y cospid-nw. Cymdeithas o wŷr ifince wedi ymdynghedu i ddileu o'r Dywysogath holl olion Seisnigath oedd y Cyfammodwyr hynn. Yr oedd y rhain yn nac-hau siarad Seisneg ag un Sais a fydde wedi byw dross ddwy flynedd yng 'Hymru; yn nac-hau siarad Seisnig mewn na Senedd na Chyngor na brawdle nac ymchwilfa nac mewn unriw swyddfa gyhoeddus; yn nac-hau dweyd eu neges yn Saesneg mewn na gorsa na siop nac unlle arall; yn nac-hau yscrifennu llythyra Seisnig at fasnachwyr yn Lloiger; yn ymgadw rhag darllen un hyspysiad Seisnig nac un bil Seisnig a yrre y rheini iddynw; yn ceisio cadw allan o bob rhiw swydd gyhoeddus bob estron a fydde heb ddyscu iaith y wlad; yn ymwrthod â phob ymgeisydd seneddol a fydde'n analluog i siarad Cymraeg yn rhwydd ac yn gywir; yn hwtio pob Dic-Siôn-Dafydd, a phob Cadi-Siân-Dafydd, a fynne lefaru ne ganu yn Seusneg mewn cynnulleidfa Gymreig; yn diystyru pob rhybudd cyfreithiol a gyhoeddid yn Seusneg; yn tynnu i lawr ac yn dinistrio pob ystyllen ag arni enw Seisnig ar hewl ne dre yng 'Hymru; yn dileu pob enw Cymreig a fydde wedi ei gam-lythrennu yn y gorsafodd; ac yn taro i lawr bob gwesyn trên a weudde Pen-all yn lle Pennal, a Lenvervcckn yn lle Llanfar Fechan. Yr oeddenw hefyd yn annog ac yn cynnorthwyo'r Cymry i ymsefydlu yn sirodd Caer, Amwythig, Henffordd, &c., er mwyn ehangu terfyna Cymru tua'r dwyran, ac yn gwahoddi Cymry cyfoethog o'r Amerig i gychwyn gweithfeydd o bob math yn eu hen wlad, er mwyn attal arian a gweithwyr rhag treiglo i Loiger.
Yr oeddid wedi cychwyn gneyd rhai o'r petha hynn morr fora â'r flwyddyn 1880, sef cynn bod sôn am y Cyfammodwyr Cymreig. Hyd riwbryd rhwng y flwyddyn honno â'r flwyddyn 1890, fe barhaodd Seisnigath i gynnyddu; ond o hynny allan hi a leihaodd. 'Tua'r pryd hwnw fe ddechreuodd crynn nifer o Gymry dreulio'u gwylia ar y Cyfandir; ac fe aeth rhai gwŷr ifince ono i fyw ac i gael eu haddyscu mewn ieithodd a llenoriath dramor; ac o weled a gwybod mwy nag a allasenw'i weled a'i wybod yn Ynys Prydan, nw a beidiason â meddwl nad oedd na chenedl na iaith na llenoriath o fath y rhai Seisnig. Yn wir, braidd na themtiwyd-nw ar ôl hynny i synio am bobol a phetha Seisnig fel y bydde Dic-Siôn- Dafyddion yn synio am bobol a phetha Cymreig. Heb law hynny, nw a welson fod iaith a hen lenoriath y Cymry yn fwy eu bri gann genhedlodd y Cyfandir na chann y Seuson, ac fod dyscedigion Ffrainc a'r Alman yn cyfri Cymro dwyieithog yn fwy dyscedig o'r hanner na Sais uniaith. Hyd yn noed yn Athrofeydd Seisnig Caer-grawnt a Rhydychen, yr oedd Cymry ifingc yn dyscu digon ï synio yn uwch am eu hiaith a'u llenoriath eu hunen, er cynnifer o betha oedd ono i'w temtio-nw i synio yn is am danynw.
Yn awr, pann y canfu gwerin Cymru fod gwŷr ifinge oedd wedi gweld y byd ac wedi astudio llenoriath y prif genhedlodd, yn mynd yn llai Seisnigadd ac yn fwy Cymroadd mewn canlyniad i'r hyn a welsen ac a glywsenw, hi aeth i feddwl nad oedd Seisnigath ddim, o angenrhaid, yn beth eang, ac nad oedd Cymroath ddim o anghenraid yn beth cyfing; ac y bydde yn anrhydeddusach iddi gann hynny ymwascu at Gymry amryw-ieithog nag at Ddic-Siôn-Dafyddion hanner-ieithog.
Er mwyn dangos ichi ebrwydded y cynnyddodd dylanwad Cymroath ar y cyffredin, mi a ddylwn ddweyd wrthochi fod llawer hyd yn noed o Ddic-Siôn-Dafyddion cynn y flwyddyn 1890 wedi ymuno â chymdeithasa hanner Cymreig o fath Kumree Fidd; a'u bod â thafod ac â phinn yn cammol y Gymraeg a'r ymddeffroad Cymreig—yn Seusneg.
Yr oeddenw, er mwyn ennill cyhoeddusrwydd, ac er mwyn marchogath ar y teimlad Cymreig i bwyllgora, i gynghora, ac i'r Senedd, yn ym- ostwng i ddibennu pob arath trwy ddwedyd mewn Cymraeg go ddyalladwy: "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Ond dena'r cwbwl; canys pe byse'r arath yn Gymraeg i gid ni fyse gobath iddi gael ymddangos yn y newyddiaduron Seisnig: a rhad enwogrwydd yn unig oedd euloda
KUMREE FIDD, Y WELSH NATIONAL SOCIETY, Y WELSH FEDERATION SOCIETY, &c.,
yn ei geisio. Yr oeddenw yn yscrifennu hefyd agos gimmin ag yr oeddenw yn ei siarad o blaid petha Cymreig; ond gann mai yn Seusneg y byddenw yn yscrifennu, yr oeddenw yn discwil i olygwyr papura a llyfryna Cymreig droi eu hyscrifa-nw i iaith y wlad; ac yr oedd y rheini, er mwyn cael rhiwbeth i fritho'r dalenna, yn ddigon ynfyd i neyd hynny; er eu bod yn gwybod yn burion na wastraffe cymmin ag un Cymro chweuthus mo'i amser i ddarllen cyfieithiad an- ystwyth o ribi-di-res Seisnig a scrifensid yn arddull y Daily Telegraph.
Gann na fynne'r Cymry hynn ddim ymdrafferthu i ddyscu Cymraeg gweddol gymmeradwy eu hunen, prinn y rhaid dweyd na fyddenw ddim yn dyscu Cymraeg i'w plant, ac na fydde y rhan fwyaf ohonynw ddim yn mynd i addoldai Cymreig, chwaith. Er fod y conachod rhagrithiol ac anghysson hynn yn ail-adrodd amryw betha a glywsenw'u dweyd gan Gymry cywir, etto, gann eu bod yngyfriw rai ag oeddenw, 'd allasonw ddim gneyd cimmin o les i Gymru a neuthonw iddyn nhw'u hunen.
Y mae y dynion eiddewig hynn, sy'n ymgripio i amlygrwydd ar hyd cefna rhai cadarnach, erioed ar y ddeuar; ac os na wyddanw beth sydd dda, nw a wyddan cystal â neb beth a lwydda; ac y mae eu bod nhw wedi ymgasclu morr gynnar i gydweithio â'r Cymroeuthwyr yn arwyddo fod Cymroath wedi cynnyddu yn gyflym yn y tir. O'r pryd hwnnw hyd y Chwyldroad Cyffredinol fe fu yng 'Hymru ddau fath o Ddic-Siôn-Dafyddion, sef Dic-Siôn-Dafyddion oedd yn ceisio lladd y Gymraeg trwy ddwedyd yn ei herbyn-hi yn Gymraeg a Seusneg, a Dic-Siôn-Dafyddion oedd yn ceisio ei lladd-hi trwy ei chammol yn Seusneg yn unig; a'r olaf oedd y dosparth perycla.
Heb law dylanwad y dynion mwya cyffredinol eu gwybodath, dyma beth arall a gywilyddodd y werin bobol i gadw eu cenedligath, sef, yr ymdrech a'r aberth a nae y Gwyddyl er mwyn mynnu'w hawlia cenhedlig. Ond y mae yn deg adde mai Gladstone a Seuson erill a lwyddodd i neyd ymddygiad y Gwyddyl yn gymmeradwy yng'olwg corff y Cymry. Seuson a'u dyscase-nw o'r blaen i gashau eu cefndyr o achos y gwahaniath crefyddol oedd rhyngddynw, a Seuson a'u dyscodd-nw drachefn i ymgyfathrachu â'u cefndyr er gweutha'r gwahaniath crefyddol hwnnw; ond wedi dyfod o'r perthynasa hynn i nabod eu gilidd, 'd allodd gwleidyddion Lloiger byth mwyach eu gyrru-nw yn benben. Gan fod y ddwy genedl o dann yr un ddamnedigath, a'u bod ill dwy gyd â'u gilidd yn wannach na'r genedl Seisnig, nw a welson mai trwy ymgadw ynghyd y gallenw weithio allan eu hiachawdwriath. Yr oedd y ddwy genedl wedi llwyddo i fynnu rhiwfaint o ymreolath er ys talm; ond byth ni lwyddasenw i gaffal eu hannibyniath pe na byse i Loiger ddi- rymu ei hun wrth ymguro yn aflwyddiannus yn erbyn Rhwsia a'r cenhedlodd Lladinig.
Fe fu'r frwydyr ola ar wastadedd Belg—Armagedon Ewrop—yn ergid aneule nid yn unig i benrhyddid Protestanadd ond hefyd i gaethwasanath cenhedlig. Yr oedd y Seuson, fel y Rhufeinied a'r Speunied o'u blaen, wedi mynd i feddwl eu bod wedi ymledu ac ymgadarnhau cimmin fel nad oedd dim perig iddynw gwympo mewn byrr amser i blith cenhedlodd o'r drydedd radd; a chann fod y genedl Seisnig yn alluog odiath i beri cynnen a rhyfel rhwng mân genhedlodd â'u gilidd, ac yna, i'w gorchfygu-nw yn eu gwendid, ac i arosod eu hiaith arnynw, yr oedd-hi yn hyderu y bydde'r Seusneg ym'henn ychydig oesodd yn iaith gyffredinol. I genedl na chododd o honi, yn ôl Hegel ac erill, ddim un metaphysegwr neu elfonwr, yr oedd y cyfriw hyder plentynadd yn ddigon natturiol; a hynny yn fwy, wedi i'r Dyscawdwr Kirchoff o Halle gyhoeddi tua'r flwyddyn 1890 fod rhifedi siaradwyr prif ieithodd y byd y pryd hwnnw fel hynn:—Y Sjinaeg yn 400,000,000; yr Hindwstanaeg dross 100,000,000; y Seusneg yn agos i 100,000,000; y Rhwsiaeg yn 70,000,000; a'r Ellmynaeg yn 57,000,000,—heblaw y rhai oedd yn ei llefaru-hi yn yr Amerig, &c.
Ond yr oedd y breuddwydwyr Seusnig hynn heb ystyried fod y Rhwsiaeg yn y Dwyran, a'r Ellmynaeg yng 'Ogledd Amerig, yn cynnyddu yn gyflymach na'r Seusneg; ac fod un peth mawr arall oedd yn cynnyddu yn fwy na'r tair iaith ynghyd, sef, yr awydd am annibyniath cenhedlig, yr hwnn awydd oedd yn cymmell pob cenedl; gadw ei hiaith ei hun. 'D oeddenw chwaith ddim yn ystyried mai o blegid fod y Seusneg yn iaith cenedl orchfygol ac eang ei llywodrath, ac nid o blegid ei bod hi yn iaith ragorol, yr oedd cynnifer o bobol o genhedlodd erill yn ei dyscu.
Yn awr, pann y collodd y Seuson eu henwog- rwydd, a'u harglwyddiath ar genhedlodd erill, fe beidiodd estronied yn gyffredin â dyscu eu hiaith-nw. iaith hwylus iawn, y mae yn wir, oedd y Seusneg i bawb oedd yn ewyllysio siarad yn rhwydd, ac heb feddwl yn fanwl; ond er pann aeth y byd yn fwy dyscedig ac athronyddol, yr ydys yn teimlo mai yr hynn oedd yn gneyd y Seusneg yn gymmeradwy yn amserodd yr an- wybodath sy'n ei gneyd-hi yn anghymmeradwy yn yr amserodd hynn. Y mae y Cymro, a'r Indiad, a'r Swlw, yn rhy athronyddol, wrth nattur, i allu treuthu eu meddwl yn fanwl a phendant mewn iaith ag y mae ei brawddega-hi mor anwrthdroadwy â'r Seusneg; a hynny ydi'r achos pa ham y mae y cenhedlodd hynn, wrth siarad Seusneg, morr chwannog i ddechra agos bob brawddeg hefo Jt is. Dena un rheswm pa ham y mae yr Ellmynaeg hefyd wedi gorfod ar y Seusneg yn 'heyrnasodd Gogledd Amerig.
Er fod Cymru wedi cael darn helaeth o Orllewinbarth Lloiger yn gyfnewid am y tiriogeutha a berthyne iddi gynt yng 'Ogleddbarth a Deheubarth Lloiger, etto, gwlad fechan ydi Cymru fyth wrth lawer o wledydd erill; ac er fod mwy o lawer yn siarad Cymraeg yn awr nag a fu erioed o'r blaen, etto, ychydig ydi nifer y rhai sy'n eì siarad hi wrth y rhai sy'n siarad amryw ieithodd erill. Er hynn oll, y mae Cymru a'r Gymraeg yn ein sutio ni yn well nag un wlad ac iaith arall. Heb law hynny, 'd ydys mwyach ddim yn diystyru gwlad ac iaith am eu bod-nw'n gyfing eu cylch, mwy nag ydys yn diystyru dyn am ei fod-o'n fychan ei gorffolath. Y mae yn ddigon i ni ein bod yn uu o genhedlodd y ddeuar; a pha genedl arall a all honni ei bod-hi yn amgenach na hynny? West of England y gelwid ein gwlad; West English, ïe, Wild West English, y gelwid ein cenedl; ac English patois y gelwid ein hiaith, yn y dyddiau gynt. Er ys blynyddoedd bellach, y mae arnaf i a'm gwlad a'm hiaith enwa gwel: CYMRO, CYMRU, a CHYMRAEG.
Pann y safo plentyn am ennyd bach ar lann y môr, a gweled wyth o bob naw tonn yn ymdaflu ar y traeth hyd at ei draed, fo all yn hawdd dybio fod y môr yn llenwi pann y bydd-o mewn gwirionedd yn treio. Pe safe-fo yn hwy yn yr un fann, fo wele mai cilio yn ôl y mae y môr, er fod amriw o'i donna-fo yn rhuthro ym mlaen, a hyd yn noed yn gwlychu tywod oedd yn dechra sychu. Cyffelyb i'r plentyn hwnn oedd hyrwyddwyr
YR ACHOSION SEISNIGEIDDIOL:
pann y gwelenw donn Seisnig yn ymdaflu dross y sir honn a'r ardal arall, nw a lefen yn gyffrous:
Wele, y mae y llanw mawr Seisnig yn dyfod! ac ofer ydi codi clawdd na rhagfur yn ei erbyn-o; am hynny ymroddwn i'r anocheladwy trwy dorri ffosydd i ddwyn y môr yn gynt i'r lann; canys gora po fyrraf y parhao tymor y trosi."
Yr oedd y rhain yn pryderu ynghylch yr amser a fydd am nad oeddenw wedi darllen hanes yr amser a fu. Ni wydden nhw, druen, fod tonn Seisnig wedi ymruthro dross orora Cymru fwy nag unwath o'r blaen, ac wedi ymgilio drachefen. Ni wydden nhw y bydde'r Gymraeg yn ennill tir mewn un cyfeiriad, pann y byddai hi yn colli tir mewn cyfeiriad arall. Ni chlywsen nhw y bu'r wlad rhwng y Gonwy â'r Ddyfrdwy unwath yn drigfa Seuson. Ni ddarllensen nhw mo weithia hen feirdd Cymru, ac am hynny ni welsenw mo gân Lewis Glynn Cothi, yn yr honn y mae-o yn edliw i drigolion tre Fflint, yn amser Rhyfel y Rhosyna, eu bod yn rhy Seisnigadd i ddyall ac i brisio'i gerdd-o. Y fath berthynas sy rhwng anwybodath hanesyddol ac anieithgarwch!
Am fleunoried y Catholigion, nw a ddyfalson pa beth a fydde hynt y cenhedlodd yn yr amser a fydd, trwy astudio gogwydd y byd yn eu hamser nhw'u hunen, a'i hanes-o yn yr amser a fu. Am fleunoried y secta, ymbalfalu yr oedden nhw mewn tywyllwch, heb fynnu edrych yn ôl, ac heb allu edrych ym mlaen; ac am hynny pa reola ne athrawieutha bynnag a lunienw, ne pa un bynnag ai Achosion Seisnigeiddiol ai athrofeydd a godenw, nw a gaen achos cynn hir, i ddadneyd pob peth a neuthenw yn fleunorol ne, o leia, i gyfadde fod amgylchiada newyddion wedi dyrysu eu hen gynllunia-nw. Yr oedd Rhagluniath, er mwyn eu difetha-nw, yn eu gwthio i amryfusedd cadarn.
Hwyrach y mynnech ofyn imi pa ham na fyse'r Methodistied Cymreig yn sefyll ar ôl iddynw ymwahanu oddi wrth yr English Presbyterians, a pha fodd na fyse Eglwys Loiger yn sefyll ar ôl ei dadsefydlu a'i gneuthur mewn enw yn Eglwys Cymru. Am liaws o resyma; eithyr un o honynw y mae yn wiw imi grybwyll am dano yn y fann honn: sef, fod
Y SURDOES SEISNIG
wedi dylanwadu ar y secta Cymreig eu hunen. Yr oedd yn well gann eu swyddogion a'u huchelwyr-nw, er yn fora, bladru[2] eu tippyn Saesneg na'u Cymraeg. Mewn hen newyddiadur sydd yng'hadw yn y Gywreinfa Gymreig, yr ydys wedi cofnodi dadleuath a fu mewn cyn- nadledd Ymneillduol; ac yn honno ni cheir odid un frawddeg ag ynddi enw ac ansoddair Cymreig na berf Gymreig chwaith, os gadewir allan yr io sy'n derfyniad ì ferfau. Yr oedd eu hiaith, os cofnodwyd eu geiria-nw yn gywir, yn debyg i iaith Wil Bryan yn Rhys Lewis (yr honn, gyd â llaw, ydi'r unig nofel dda a naed gann Ymnneillduwr, oddi eithyr nofel dair cyfrol John Hughes o Lyrpwll, sef Methodistiath Cymru).
Y mae yn ymddangos y bydde llawer o'r pregethwyr Cymreig yn bur Seisnigadd eu hiaith hyd yn noed wrth bregethu; canys fe geir yn eu pregetha liaws o eiria Seisnig, a mwy fyth o ymadroddion Seisnigadd. Yr wyf yn casclu mai celcio'u pregetha y bydde'r pregethwyr hynn o lyfra Seisnig, a'u bod yn rhy ddiog i estyn ac i agor geiriadur pann na ddoe gair Cymreig yn ebrwydd i'w co. [3] Ond efalle'u bod yn derbyn eu gwobor yr un fath â phe bysenw yn gneyd eu gwaith yn dda. Hyd y gwelis i, odid byth y byddenw yn egluro rhiw athrawiath trwy gyfeirio at ffaith ne chwedel yn Hanes Cymru; cyfeirio y byddenw yn hytrach at riwbeth a welsonw mewn hanesyddiath Seisnig, ne yn chwedloniath y Groegied a'r Rhufeinied. Nid trwy chwilio mewn llyfra chwaith y cawsonw'r petha estronol hynn, eithyr trwy chwilio mewn llyfr a'i enw Handy Book of Illustrations for Busy Preachers. Y maenw yn dyfynu llawer o'r Pretty Bits from the Poets, ond ychydig iawn ohonynw sy'n dyfynu dim o weithia'r hen feirdd Cymreig. Hyd yn noed pann y byddanw yn adrodd rhiwbeth a lefarodd ne a scrifennodd Groegwr ne Rufeiniwr ne Ffrangewr, yn Seusneg, ac nid yn Gymraeg na Groeg na Lladin na Ffrangceaeg, y byddanw yn adrodd y rhiwbeth hwnnw. Tybed fod y gwŷr hynn yn meddwl mai y Seusneg nid yn unig a fydde, ond mai y hi hefyd ydoedd, y iaith gyffredinol er dechreuad y byd?
Fe ŵyr yr ifengaf ohonoch chi mai tramorwr heb fedru dim Seusneg oedd Napoleon I; ond wrth ddarllen treuthoda ac areithia a phregetha Cymreig y cyfnod Ymneillduol, braidd nad ydys yn fyn 'hemtio i gredu mai Sais uniaith oedd-o. Er engraff, mi a welis mewn rhifyn o hen newyddiadur a'i enw Cymro arath Gymreig a lefarse D.D. mewn Cymanfa Fethodistadd yn Llyrpwll, wrth adal y gadar; ac yng'hanol yr arath honno fe neir i Napoleon, "gal y Seuson," lefaru wrth gymdeithion anffyddol yn Seusneg, gan ddwedyd: "Gentlemen, who made all these stars?" Pe yn Seusneg y llefarse Napoleon hynn wrth rai nad oeddenw yn dyall Seusneg yn well nag ynta, y mae yn siccir y byse'i ofyniad-o yn anattebadwy am fwy nag un rheswm.
Mewn pregeth o waith ne gyfieithiad gweinidog arall, yr ydys yn rhoi y syniadau a dreuthodd Napoleon yn St. Helena am Iesu Fab Duw, i gid yn Seusneg! Pa beth, gyfeillion ifingc, a fydde'ch syniad-chi am gyflwr fy ymennydd i, pe'r adroddwni wrthochi yn Seusneg yr hynn a ddwedodd Napoleon ar y gadlong L'Orient, ne ar ynys St. Helena? ne pe'r adroddwn wrthochi yn iaith y Ffrangcod yr hynn a ddwedodd Dug Wellington ar fryn St. Jean? Onid adrodde pob dyn call eiria dyn arall naill ai yn ei iaith ei hun, ne ynte yn iaith y dyn hwnnw? Yn wir, y mae yn rhaid fod Seisnigath ne Brotestaniath ne riwbeth wedi gneyd llawer o'n cyndada naill ai yn ynfyd ne ynte yn anwybodus dross benn.
Er mwyn dangos ichi ym'hellach fod llawer o Ddic-Siôn-Dafyddion yn yr hen secta Cymreig hefyd, mi allwn brofi ichi fod
YNG 'HYWREINFA BRAICH-Y-CAFN
garreg ag arni yr yscrifen honn: "Welsh Calvinistic Chapel, A.D. 1868." Fe ddwedir fod y cappel y perthyne'r garreg honn iddo yn sefyll ym Mraich-y-Cafn yn y ganrif o'r blaen; ac y gallase-fo fod yn sefyll hyd heddiw oni byse ddarfod ei losei hyd lawr mewn ffrwgwd a fu rhwng y Methodistied â'r Annibynwyr. Yn agos i'r mann y safe hwn y mae dau hen gappel arall, y rhai y mae un o honynt yn awr yn ystordy a'r llall yn yscol. Yr ydys wedi crafu ymaith yr yscrifen sydd ar wyneb y ddau hynn; eithyr nid morr lwyr chwaith fel na ellir canfod o agos y geiria hynn: Tabernacle Baptist Chapel, 1866. "Siloam, erected A.D. 1872. Lease granted by Lord Penrhyn, and the Hon. G. S. D. Pennant." Er nad oes ar y ddau hynn ddim i ddangos mai hen gappelau Cymreig ydynw; etto fe ellir dwyn tystioleutha i brofi mai rhai Cymreig oedden nhwtha, ac mai tra Chymreig oedd yr ardal hefyd pan yr adeiliwyd-nw.
Yr ymddygiada plentynadd hynn, ynghyd â petha erill, a barodd i'r Cymry dysyml ddiflasu ar y secta, Cymreig a Seisnig; ac a'u gyrodd-nw i freichia'r Eglwys Gatholig; yr honn a naeth yn hyspys ei bod hi yn barod i sefyll ne syrthio, yng 'Hymru, gyd â hen iaith y wlad. Fe fu cyfnod pann oedd y Cymry Cymreig hynn yn llai eu rhifedi na'u gwrthwynebwyr; yn ddirmygedig yng'olwg erill, ac yn eu golwg eu hunen hefyd. A chan eu bod-nw gan mwyaf yn ddistawach, ac yn rhy swil i gymmell y Cymdeithasa Seisnig- eiddiol i gyfrannu arian tuag at godi a chryfhau ; Achosion Cymreig, yr oeddid yn tybied eu bod yn wannach nag oeddenw. Gwann ne amgen, nw euthon, er y flwyddyn 1880, fel tŷ Dafydd, yn gryfach gryfach; ac fe aeth eu gwrthwynebwyr, fel tŷ Saul, yn wannach wannach; gymmin felly, fel pann y daeth dydd dial y cenhedlodd darostyngol, a dydd iachawdwriath y cenhedlodd darostyngedig, yn agos ac yn siccir, y brysiodd y rhan fwyaf o weddill y Dic-Siôn- Dafyddion ìi ymgysylltu â'r dosparth a ddangosase'i hun yn gnewullyn y genedl.
Yr oedd y cyfnewidiad morr gyflym ness bod yn ddigrifol, ïe, yn wyrthiol. Yr oedd y rhai oedd o'r blaen yn siarad Cymraeg yn fawr eu llediaith, erbyn hynn yn gallu siarad morr Gymreigadd â neb. Fe glywid y rhai fu gynt yn fudion mewn cymdeithas Gymreig, yn awr yn llefaru yn eitha llithrig. Yr oedd y rhai a fysen yn rhy ddall i ganfod eu dyledswydda cenhedlig, yn awr yn gweled yn eglur; a'r rhai a fysen yn rhy gloff i fynd allan gyd â byddinodd Cymru, y pryd hwnn yn rhedeg yn siongc. Yr oedd y i rhai a euthen yn gynddeiriog gann drymder y dwymyn Seisnig, bellach wedi ymiachâu, ac yn eistedd yn eu hiawn bwyll. Fe ddengys y petha hynn mai rhiwbeth bas, afrïol,[4] a dibara oedd y Seisnigath a ddaeth dross Gymru, ac fod calon nesaf i mewn pob Cymro, yr un ffunud â'i gydwybod-o, yn wastadol yn lleisio yn gywir, er ei bod weithia yn lleisio yn wan.
Gan mai trwy gymmorth eenhedlodd Catholig, ac yn arbennig trwy gyfryngiad ein santadd Dad o Rufan, y cawsoni'n hannibyniath, ac yr ehangwyd terfyna'n gwlad, yr oedd diolchgarwch a gwladgarwch, heb enwi dim rhesyma erill, yn ein eymmell-ni i dderbyn y grefydd a ddygodd I ni ac i'r byd oll y fath werthfawr ymwared. Diolehwn i Dduw am ein bod bellach yn
UN GENEDL, O RANN TEIMLAD, IAITH, A CHREFYDD.
Yr ydani etto yn ein hyscolion yn dyscu llawer iaith; eithyr un, sef yr hen Gymraeg, ydi iaith ein senedd, ein llysodd, ein cappela, a'n heulwydydd. Yr ydani etto, er mwyn bod yn wybodus, yn ceisio cofio rhifedi ac enwa y gwahanol grefydda a fu yng 'Hymru; eithyr un grefydd, sef yr un Gatholig, yr ydani yn ei proffesu.
Diolchwn hefyd i sprydodd yr hen Gymry pybyr a ffyddiog, a dreuliason eu hamser, eu dawn a'u harian i gynnorthwyo'u cydwladwyr i ymgadw yn genedl, trwy eu cynnorthwyo-nw i gadw'u hiaith. Ni chawsonw ddim tâl na nemmor o ddiolch tra yn y cnawd; yn hytrach, gwaradwydd: a phann y peidid â'u gwaradwyddo, yr oeddid yn eu diystyru. Ond gann eu bod yn obeithiol, ni all eu bod yn drist. Yr oeddenw yn ymladd dross eu hiaith, eu gwlad a'u cenedl, wrth ola seren ag oedd yn dwyn dydd i'w chanlyn. Yr oeddenw yn gweled y tir pell —CYMRU FYDD; Cymru lonydd. Ac O! morr dda ydi cael llonyddwch oddi wrth yr ymgecrath grefyddol ag oedd yn gwahanu ac yn crebachu'n tada yn y dyddiau gynt.
O hynn allan, ni a gawn hamdden i ymddadblygu, i wybod, ac i weithio. Ni a allwn bellach weithio yn ddidrwst ac yn ddibryder, am nad ydani ddim yn ofni un genedl, nac yn cenfigennu wrth un genedl arall. Er pann beidiodd y Seuson â bod yn feistried arnoni, y maenw yn frodyr inì; ac fel y mynneni iddyn nhw ymddwyn tuag atton ni, felly yr ymddygwn ninna tuag attyn nhwtha. Ac er ein bod, a ni yn genedl, yn wahanol ein hiaith iddyn nhw, etto, tra bo gynnoni yr un Tad, yr un ffydd, a'r un bedydd, y mae yn ddiamma gynnoni y gallwn ni a nhwtha gyttuno â'n gilidd yn Ynys Prydan bronn cystal ag y cyttunwn ni â'n gilidd ar ôl hynn yn y gorphwysfaodd llonydd sydd o dann y dywarchen werdd, ac yn y Breswylfa Heddychlon sydd y tu hwnt i'r wybren las.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Greddw-on:Greddf-au. Y mae tafoda'r Cymry eisys wedi troi meddf, gweddf, gwddf, &c., yn feddw, gweddw, gwddw, &c.
- ↑ Pladru: flaunt (display).
- ↑ Nid dyma'r unig reswm; canys ni a wyddom fod rhai yn arfer geiriau Seisnig a hanner-Seisnig o rodres, ac ereill er mwyn bod yn Negroaidd eu harddull, ac felly yn fwy digrifol.—Y Cofnodwr.
- ↑ O an a rhiol: unreal. Y mae "rhiol" yn air cyffredin yn yr ardal y magwyd y Cofnodwr ynddi.