Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I (testun cyfansawdd)
← | Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I (testun cyfansawdd) gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian) |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I Gweler hefyd Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II (testun cyfansawdd) |
EMRYS AP IWAN
BREUDDWYD PABYDD WRTH
EI EWYLLYS
I
LLYFRAU'R FORD GRON
RHIF 4
WRECSAM
HUGHES A'I FAB
LLYFRAU'R FORD GRON
GOLYGYDD: J. T. JONES
GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM
RHAGAIR
NI sgrifennwyd erioed yn Gymraeg ddim mwy miniog na "Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys." Dychan ydyw ar sectyddiaeth a gwaseiddiwch cenedlaethol.
Breuddwydia'r awdur am stad Cymru yn y flwyddyn 2012. Gwêl Brotestaniaeth wedi cwympo, a'r wlad o'r diwedd (diolch i'r Undeb Catholig") wedi ei rhyddhau "oddiwrth ddylanwad mall y sectau, y rhai, oblegid cenfigen tuag at eu gilydd, a fuasai yn cydymdrechu i'w darnio ac i'w Seisnigeiddio hi.
Breuddwydia ei fod (yn 2012) yn gwrando cyfres o ddarlithiau ar hanes Cymru a hanes yr Eglwys Gatholig, a thrwy'r darlithiau hyn fe dynnir inni ddarlun o'r hyn y gallai Cymru fod o ran bywyd ac arferion ac iaith—pe bai hi'n ffyddlon iddi hi ei hun yn lle dynwared y Saeson Yn Y Geninen, yn 1890, 1891, ac 1892, y cyhoeddwyd "Breuddwyd Pabydd" yn gyntaf. "Ni ddaw un llenor Cymreig o'r holl ganrif yn agos at Emrys ap Iwan," meddai'r Athro T. Gwynn Jones. "Pa beth bynnag y ceisiai ei wneuthur, fe'i gwnâi fel meistr."[1]
Mab i arddwr plas Bryn Aber, gerllaw Abergele, Sir Ddinbych, oedd R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan). Ganwyd ef yn 1851. Ffrances oedd ei hen nain—cymdeithes i wraig fonheddig a drigai yng Nghastell y Gwrych, ger Abergele. Pan oedd yn 14 oed aeth i weithio mewn siop ddillad yn Lerpwl. Daeth yn ôl ymhen blwyddyn, a bu'n arddwr ym Modelwyddan. Dechreuodd bregethu, a phan oedd yn 18 oed aeth i Goleg y Bala. Wedi bod yn athro ysgol am ychydig fe aeth i'r cyfandir. Dysgodd Ffrangeg ac Almaeneg, a bu'n dysgu Saesneg i eraill mewn ysgol yn Lausanne, Yswistir. Bu wedyn mewn ysgolion yn Bonn a Giessen.
Daeth dan ddylanwad y pamffledwyr Ffrengig, yn arbennig Paul-Louis Courier, gŵr a ysgrifennai yn erbyn "gormes y rhai mewn awdurdod," a phan ddychwelodd i Gymru dechreuodd yn ddiymdroi ysgrifennu i'r papurau—"y prif foddion at ehangu gwybodaeth, puro chwaeth, dyfnhau cydymdeimlad a meithrin annibyniaeth y lliaws."
Yn Rhagfyr, 1876, dechreuodd ei gad yn erbyn "y dwymyn Seisnig yng Nghymru," ac yn arbennig yn erbyn achosion Seisnig Methodistiaid. Gwrthodwyd ddwywaith ei ordeinio'n weinidog. Ar gais Dr. Lewis Edwards yng Nghymdeithasfa Dolgellau fe'i boicotiwyd gan y blaenoriaid.
"Tri chyhoeddiad sydd gennyf o hyn i ddiwedd y flwyddyn," meddai mewn llythyr yn 1882. Y mae blaenoriaid y sir . . . am fy ngwthio o'r weinidogaeth trwy fy newynnu."
Ond yn 1883, wedi hir ddadlau, fe'i derbyniwyd ef i'w ordeinio. Ceir hanes yr holl helynt yng Nghofiant Emrys ap Iwan," gan yr Athro T. Gwynn Jones.
Bu Emrys ap Iwan yn byw wedi hyn yn Ninbych, Trefnant, a Rhewl, ac yn Rhewl y bu farw yn Ionawr, 1906. Fe'i claddwyd ym mynwent ei gapel yno.
Ysgrifennodd lawer iawn i'r Faner a'r Geninen. Parchai'r" deddfau sy'n llyfnu'r iaith, eithr nid y mympwyon sy'n ei llygru hi." Wedi ei adnabod, hawdd deall tystiolaeth ei efrydwyr yn Rhuthyn: "Ni buom erioed heb eich parchu; ni allwn yn awr beidio â'ch caru."
Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
Gan y TAD MORGAN, C.I.
"Os gallaf rywfodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun."
CYMRU GYMREIG GATHOLIG a fuasai y peniad gorau, o leiaf gennyf fi, uwch ben yr ysgrif hon; ond gan mai y ddihareb sydd uchod, neu un debyg iddi, a ebychai llawer Protestaniad ar ôl darllen yr ysgrif, y mae yn wiw gennyf uwch ei phen hi, os nad yn ei chorff, gytuno â'm gwrthwynebwyr.
Y mae gennyf gydwybod rhy dawel, a dannedd rhy dda, ac o herwydd hynny, gylla rhy iach, i freuddwydio llawer; a phan y digwyddo imi freuddwydio, ni byddaf odid byth yn coelio fy mreuddwyd; nac, yn wir, yn ei gofio.
A pha ham y byddwn yn goelgar? a minnau, fel ereill o'm brodyr, wedi bod yn astudiwr dyfal am ugain mlynedd a mwy, heb wraig na phlant i'm blino; ac wedi tramwyo llawer gwlad, a dysgu aml iaith, er mwyn ymgymhwyso i fyned yn genhadwr i ba le bynnag y gwelai fy uchafiaid yn dda fy nanfon.
Eithr ti a addefi, ddarllenydd tirion, fod rhagor rhwng breuddwyd a breuddwyd. Yn awr, mi a ddywedaf wrthyt ar fy llawgair (ac y mae fy enw a'm senw, onid ydynt, yn ddigon o warant amdano), na byddaf fi byth yn rhoi coel ar freuddwyd os na freuddwydiaf ef dair gwaith ol-yn-ol.
"Y drydedd waith y mae coel," medd traddodiad Cymreig; ac yr wyt tithau, er yn gwrthod traddodiadau yr Eglwys Gyffredinol, yn ddigon o "babydd, ' os addefi di y gwir, i dderbyn llawer o draddodiadau dy genedl dy hun. A phe rhyngai bodd iti, yn angerdd dy eiddigedd dros Brotestaniaeth, daeru nad yw y dywediad Cymreig a goffeais ddim yn wir, mi allwn brofi iti ei wirionedd allan o Lyfr Job. Ond efallai na thyciai hynny chwaith am y gallet ti, fel yr yslywenaidd Luther, ymlithro o'm dwylaw, ac yna chwythleisio y'ngenau rhyw dwll diogel nad oedd gan awdwr Llyfr Job ddim hawl i ddangos ei drwyn ymhlith yr ysgrifenwyr ysprydoledig.
Dychwelwn at ein defaid, chwedl y Ffrancod. -Breuddwydio a wneuthum dair gwaith fy mod yn y flwyddyn 2012 o.c. mewn ystafell neu ddarlithfa hanner cron, lle yr oedd llawer rhes o feinciau yn ymgodi yn raddol, y naill uwch law y llall, fel yn llofft eithorfa Irving yn Llundain; ac yn eistedd arnynt yr oedd tua dau gant o feibion a merched gweini, heb law aml feistr a meistres, ynghyd â'u plant.
Er fod dillad y rhai olaf yn fwy drudfawr na dillad eu gweinidogion, go gyffelyb oeddynt o ran dull. Clos pen glin diwygiedig oedd gan y meibion, yr hwn, oblegid ystwythter ei ddefnydd a'r brodwaith oedd arno, a'r ysnoden a'r tasel oedd ar gammedd y garr, oedd yn llawn tebycach i glos yr Hungariaid nag i glos y Cymry gynt.
Esgidiau isel ag iddynt fyclau pres, neu arian, yn ôl gallu'r gwisgwr, oedd eu hesgidiau gŵyl; eithr yr oedd rhai, gan ofni gwlaw, wedi dwyn am eu traed fotasau uchel, yr hyn beth oedd yn rhoi lle imi gredu bod y ffasiwn yn eu plith hwy yn newid yn ôl math y gwaith a'r tywydd. Nid cob gynffonnog, gaeth, ydoedd eu harwisg; ond mantell lac, chwyfiannol, o bali teg, go debyg i hugan marchogion Hungaria.
Gan nad oeddynt yn awyddus i leisio yn floesg fel Saeson neu hwyaid gwylltion, nac i ddangos eu bod yn haeddu eu crogi, nid oedd neb o honynt yn gwisgo am ei wddf dennyn Calcraft; yr hwn a enwir mewn cylchoedd cyfrifol yn West End Collar. Cadach sidan llac, yn unig, oedd yn amddiffyn ac yn addurno'u gyddfau hwy, wedi ei rwymo megis yn ysgafala, ond mewn gwirionedd yn dra chelfydd. Ni welais un het corn mwg, na het nyth aderyn, na het à la torth geirch; eithr yn unig hetiau â choryn lled bigfain, llydain a bwaog eu cantel, ac ystwyth wrth reswm; nid anhebyg i ffrwyth priodas rhwng het un o geffylwyr Carl y Cyntaf â het un o hen baentwyr Fflandrys.
Cyffelyb ei llun oedd het y merched, ond ei bod hi wedi ei hamgylchu â rhwymyn sidan, yr hwn yr oedd ei ben yn hongian yn wasgaredig o'r tu ôl. Am y genethod, yr oeddynt hwy ar dywydd teg yn ymfoddloni ar wisgo torch ag ynddi lygadau arian, neu hyd yn oed gylch o flagur a blodau. Gan fod y merched yn bur wahanol eu hoedran a'u sefyllfa, nid yr un peth, ac nid yr un faint, oedd ganddynt oll am eu gwddf; ond yr oedd gwddf pob un ohonynt yn fwy amlwg nag ydyw gyddfau merched yr oes hon.
Gan na fu gennyf erioed na chwaer na gwraig na chariad, ni ddylid disgwyl i mi ddarlunio y mwslin crych, y rhidens, y tlysau, y boglymau, y cadwyni arian, a'r llinynnau cyfrodedd, oedd ar eu gwasgod Yswisaidd.
Cwta oedd pais a gŵn pob un—prin yn cyrraedd hyd fol y goes; ond yr oeddynt yn fwy meinwych o lawer na'r rhai a welir yn awr y'Nghymru, ac yn gorwedd yn well hyd yn oed na'r rhai a welir yn ardal Telmarc y'ngwlad y Norwegiaid. Yn wir, yr oedd y gŵn megis wedi tyfu yn naturiol o'r wasg i wared, fel gŵn Twrcomanes; yr hyn a ddyry ar ddeall nad oedd neb o'r llancesi yn ddigon llygredig eu chwaeth i wisgo crwmp a thindres Groegaidd-pe Groegaidd hefyd. Sidan oedd defnydd yr hosanau; ac nid oedd yr esgidiau yn cuddio y rhai hyn ddim uwch na gwaelod y fferau.
Ti a elli yn hawdd ddyfalu, ddarllenydd, fod y meibion a'r merched yn y gwisgoedd hyn yn ymddangos yn llai cyffredin o lawer na meibion. a merched ein hoes ni yn y wlad Biwritanaidd hon.
Ond os oeddynt yn fwy dillyn eu gwisg a'u gwedd, nid oeddynt cyn falched nac mor afled- nais. Yr oeddynt yn gweled ereill mor drwsiadus a theg yr olwg fel nad oeddynt yn cael dim hamdden i genfigennu wrth ei gilydd, nac ychwaith yn cael achos i ddiolch i Dduw am ddarfod eu gwneuthur a'u gwisgo hwy gymmaint amgenach nag ereill. Yr oedd yn amlwg eu bod hwy yn gallu gwneyd yr hyn nad all y rhan fwyaf o Gymry yr oes hon mo'i wneyd: sef anghofio'u hunain am awr neu ddwy.
Y mae yn rhyfedd nad oes gan y Cymry ddim un gair Cymreig dilwgr i ddynodi eu bai pennaf; aa hynny, pan fyddys yn gofyn pa beth ydyw eu pechod cenedlaethol, rhaid atteb mai cysêt." Ynglŷn â hwn y mae dau fai sy'n ymddangos yn anghyson ag ef, ac, yn wir, yn anghyson â'u gilydd hefyd: sef digywilydd-dra ceffylaidd, ac yswildra mulaidd.
Sylwch ar y brygawthwr Ymneilltuol yna yn eistedd yn y pulpud y tu ôl i'w frawd sydd yn awr ar ei bedion yn cyfarch (cyfarth?) yr orsedd"; mor ymwybodol yr ymddengys efe o'i fodolaeth! mor ymdrechgar ydyw efe, trwy ei sych besychiadau, ei ebychiadau iach, a'i fyd— umiau, i dynnu sylw pawb atto'i hun! hyfed ydyw ei edrychiad! Yn ddiau, nid yw efe nac yn ofni Duw nac yn parchu dyn—tlawd; eithr dodwch ef y'mharlwr rhyw wr goludog y byddo gwae yn ei wg a gwynfyd yn ei wên, a chwi a gewch weled, os nad yw efe yn parchu neb, ei fod yn arswydo llawer un.
Ond ym mhlith y gweinidogion oedd yn yr ystafell ni welais i gymmaint ag un yn gwladeiddio o flaen ei feistr, na neb isel ei radd yn ymhyfhau ar un uwch ei radd oblegid eu bod ill dau yno ar dir cyffredin. Fel pawb a fagwyd ac a ddisgyblwyd yn Eglwys Rhufain, yr oedd pob un yn medru bod yn rhydd ei ymddygiad a'i ymadrodd heb beidio â bod yn foesgar; ac heb anghofio, hyd y mae yn weddus, y gwahaniaeth mewn dawn a sefyllfa a wnaeth Rhagluniaeth. rhwng dyn a dyn; er y clywais un yn sisial nad oedd dim parch yn ddyledus i ddyn ariannog, yn unig am ei fod yn ariannog. Yr un ffunud, yr oedd y meistriaid yn eu hymddygiad tuagat eu gweision yn ymddangos yn fwy awyddus i gael eu caru nag i'w parchu ganddynt: er hynny, trwy gael eu caru yr oeddynt yn cael eu parchu hefyd; o blegid hyd yr ydys yn caru, hyd hynny yr ydys yn parchu.
I ba beth, meddwch, yr oedd y deucant hyn wedi ymgynnull yn yr ystafell hon? I glywed un o gyfres o ddarlithiau a draddodai un o
athrawon yr Ysgol Blwyfol pob prydnawn dydd. Iau i wasanaethyddion y plwyf ar Hanes Cymru, a Hanes yr Eglwys Gatholig—y ddau hanes mwyaf buddiol a dyddorol o bob hanes i'r Cymro Catholig, a'r rhai, o'u trin yn llwyr, sy'n cynnwys y rhan bwysicaf o hanes y byd.
Mi a wybûm rywfodd fod hanner gweinidogion y tai cyffredin, y plasau, y ffermydd a'r siopau, yn cael hanner diwrnod o ollyngdod unwaith bob wythnos, a phawb felly yn ei gael ef bob pythefnos; ac yr oedd blaenoriaid yr Undeb Cymreig Catholig er ys talm cyn hyn wedi manteisio ar yr ŵyl hon i oleuo'r dosparth lleiaf eu dysg y'nghylch eu cenedl a'u crefydd.
I'r Undeb hwn, fel y canfyddir yn y man, yr oedd ar Gymru fwyaf o ddiolch am gael ei rhyddhau o'r diwedd oddiwrth ddylanwad mall y sectau, y rhai, o blegid eu cenfigen tuag at eu gilydd, a fuasent yn cydymdrechu i'w darnio ac i'w Seisnigeiddio hi. Ac efe, trwy gadw iaith. a phriodolion ereill cenedl y Cymry, a'i galluogodd hii hawlio ei hannibyniaeth, pan y daeth ymwared y cenhedloedd caethion yn amser y Chwyldroad Cyffredinol.
Nid oes achos dyweyd nemmor am y darlithiwr heb law mai gwisg lleygwr oedd am dano, a'i fod yn ymddangos tua deugain mlwydd oed. Yr oedd yn amlwg mai Gwyneddwr oedd efe, o blegid yr oedd yn hoffach ganddo o lawer y llythyren a na'r e; eithr am resymau y gall y darllenydd eu dyfalu, e ac nid a a arferai efe yn lle ai yn nherfyn berfau, megis bydde, buase, neu byse. Yn gyt— tunol â deddfau sain a hen arfer gwlad, efe a droai ddwysain ddi—acen yn unsain, oddi eithr o flaen unsain ogyffelyb, megis petha, amma, addo, anga, enad, santadd, ydi; eithr pethau-annelwig, ammau-amryw, addaw-oen, angau- anghynnes, ydiw-un.
Er mwyn rhugledd, ni seiniai efe mo'r f derfynnol o flaen cydsain gair dilynnol; ac ydwi, cymmerai a ddywedai efe am ydwyfi, cymmerafi, yn ôl annogaeth ac esiampl Edward Lhuyd; ie, mi a sylwais ei fod yn gadael dd hefyd allan rhwng r a chydsain ddilynnol; megis fforr fawr, bwrr crwn, yn lle ffordd fawr, bwrdd crwn. mwyn byrder, ac yn gyttunol â'r arfer yn Llydaw, Cernyw, a rhai rhannau o Gymru, efe a adawai allan yr a yn nherfyniadau berfau, ar ôl y llythyrennau tawdd l, m, n, r; megis talse, llamse, cymmerse, yn lle yn lle talasai, llamasai, canse, canasai, cymerasai.
Er mwyn dilyn arfer gwlad, ac er mwyn eglurder hefyd, efe a arferai ragenw bob amser ar ôl berf, pan na byddai rhagenw o'i blaen hi, eithr pan na byddai y rhagenw ddim yn or-bwysig efe a gyssylltai y rhagenw â'r ferf; megis, a welis- ti, y bydd-o (rhag ei seinio yn byddo). Yn lle ef ac efe, efe a arferai fo, neu o ac y fo; yr un ffunud chi ac y chi, yn lle chwi a chwychwi; nhw neu nw, ac y nhw, yn lle hwy a hwynt-hwy; er fod chi yn enwedig yn ymddangos i mi yn bur anghymmeradwy.
Yn gyffredin, efe a droai hanner sill yn sill; megis, brwydyr, magal, yn lle brwydr, magl; eithr weithiau efe a fwriai yr hanner sill allan, gan ddywedyd ffenest, chwibanog, yn lle ffenestr, chwibanogl. Ond ofer a fyddai i mi ymdroi i ddangos yr holl wahaniaethau rhwng Cymraeg y flwyddyn 2012 a Chymraeg argraffedig y dyddiau hyn; am y gall y darllenydd ei hun sylwi arnynt yn y ddarlith yr wyf ar fedr ei chofnodi, yr hon a argreffir yn seiniadol, hyd y gellir gwneyd hynny â'r llythyrennau sydd yn awr ar arfer.[2]
Er fod y pethau hyn oll yn llyfnhau llawer ar yr iaith, ac yn ei gwneyd hi yn ddiau yn bereiddiach i'r glust, etto y mae yn debygol y teimlasai Cymro y dyddiau hyn ei bod yn swnio yn rhy werinaidd, oni buasai fod y darlithiwr yn cadw ei hurddas hi trwy burdeb a glendid ei arddull. Er mwyn cadw'r cyfryw urddas, ni byddai efe byth yn arfer gair estronol, os na byddai gwedd Gymreigaidd arno; neu, o leiaf, os na ellid rhoi gwedd felly arno, trwy ei gyd- ffurfio â deddfau hynodol y Gymraeg; felly ni ferwinwyd mo'm clustiau â'r fath eiriau â finegr, côt, &c., heb sôn am fót, Whig, stesions,[3] Menai Brids, Coleds Bangor, dinas Nêpls, a ffrilion ereill bechgyn ysmala y gymdeithas hanner Cymreig a elwir "CYMRU FYDD."
Fe barodd hyn imi benderfynnu fod rhyw Lanhawr Cymreig wedi ymddangos i fwrw allan yr holl dramgwyddiadau hyn; ac felly i wneyd i'r Gymraeg yr hyn a wnaeth Lessing gynt i'r Ellmynaeg, yr hon, cyn ei amser ef, oedd wedi ei gorthyrru â geiriau Ffreinig.
Diflannu cyn hir, fel "dirprwyaethau Presbyteraidd," "sebon iachawdwriaeth, a llawer ynfydrwydd arall, a wneiff y Wiriolaeth (Realism) eithafol honno sy'n cymmeryd darlun diattreg o air neu blentyn cyn i'w fammaeth gael. cyfleustra i'w amgeleddu.
Nid doeth gan hynny, na gweddus chwaith, ydyw i ddysgawdwr frysio i dderbyn gair estronol a gipiwyd i fyny gan boblach sydd naill ai yn rhy analluog neu ynte yn rhy ddiog i chwilio am air brodorol. Chwareu teg i werin Cymru, y mae hi cyn barotted i groesawu gair Cymreig da, a gyflwyner iddi yn brydlon, ag ydyw hi i groesawu gair Seisnig, neu air Seisnigaidd. Y mae yn naturiol i mi, sy'n ddisgybl i Newman, gredu fod iaith fel pob peth arall yn ymddadblygu; ond arwyddion o ymddatodiad ac nid o ymddadblygiad ydyw geiriau anwes" bechgyn mawr Cymru Fydd." Y mae gennyf fi barch i'r deddfau sy'n llyfnu iaith, eithr nid i'r mympwyon sy'n ei llygru hi.
Gyd â llaw, fe ddechreuwyd arfer yr enw Cymru Fydd gan Gymro rhy Gymroaidd i fod yn aelod o'r Gymdeithas a elwir felly.
[Mr. Golygydd, os cwyna rhywun wrthych nad wyf fi yn breuddwydio yn ddigon iawngred, dywedwch wrtho mai "Cylchgrawn Cenedlaethol," ac nid un sectol, nac Ymneillduol, na Phrotestanaidd chwaith, ydyw Y GENINEN. Os caniatawyd i aelod o'r sect Esgobyddol hon a'r sect Ymneillduol arall draethu ei ddewis chwedl ynddi, pa ham y gwarafunir i aelod o'r Unig Wir Eglwys adrodd ei freuddwyd ynddi? Chwithig o beth a fyddai i'r bobl a aethant cyn belled â Lloegr i chwilio am Undodiad o Sais i'w cynrychioli yn y Senedd, ymgodi yn fy erbyn i, sy'n Gymro ac yn Gristion.]
Mi a ddywedais y cyhoeddwn yr araith, a glywais yn fy mreuddwyd, yn seiniadol, hyd y gellid gwneyd hynny â'r llythyrennau sydd yn awr ar arfer. Wrth hynny, nid oeddwn yn meddwl chwanegu at y lliaws o gynnygion a wnaed yn ddiweddar i ddiwygio yr orgraff, ond yn unig ddangos, mewn ffordd o lythyrennu ag oedd gynt yn gyffredin, pa fodd yr oedd areithiwr o Gymro yn llefaru Cymraeg yn y flwyddyn 2012; ac nid yw y Cymraeg hwnnw fawr amgen na Chymraeg ymddiddanol yr oes hon, a'r tair neu bedair oes o'r blaen. χ Yn ofer y ceisir dwyn i mewn orgraff olygus a gweddol gysson hyd oni cheir arwyddion syml i ddynodi seiniau syml; megis χ yn lle ch; δ groesog yn lle dd; v yn lle f; f yn lle ff a ph; q yn lle ng; l groesog neu ł Ysbaeneg yn lle ll; z yn lle th; j yn lle i gydseiniol; u yn lle w lafar; y yn lle u; ac ʮ, sef h wrthdroedig, yn lle y fynglyd.
Hyd oni cheir hynny, y mae yn well gennyf fi ymfoddloni ar ddewis un o'r dulliau, neu ynte geisio dwyn o dan drefn a dosparth yr amryw ddulliau gogyffelyb, oedd yn arferedig yn y Dywysogaeth er's rhai oesoedd cyn y Diwygiadi crefyddol o waith y Methodistiaid, a'r Diwygiad ieithol o waith Dr. Puw.
A hyd yn oed pe ceid egwyddor berffaith, ni ellid byth gael orgraff agos i berffaith o ran sain, heb newid a dieithrio ffurf y geiriau yn ddirfawr; canys er y dywed y Dr. Alexander Ellis mai fel cannht yr ydys yn seinio cant, ac mai fel eingh calon, ac yngh credu, yr ydys yn seinio ein calon, ac yn credu; etto nid wyf yn meddwl y gwnâi cariad neb tuag at y dull seiniadol o lythyrennu ei gymmell ef i fod mor annhrugarog o gysson ag i ddolurio llygaid darllenwyr â'r ffurfiau gwrthun hynny. Yr un ffunud, er y dywed y dysgawdwr Rhys mai fel lletty yr ydys yn seinio yr enw cyfansawdd lled-ty, ac mai fel lletya yr ydys yn seinio'r ferf darddedig lled-ty-a, etto, gan na ellir dim camseinio y ffurf gyffredin llettya tra y byddo yr accen ar y sill nesaf i'r olaf, y mae yn ymddangos i mi ar hyn o bryd mai gormod o beth a fyddai ychwanegu at anhawsderau ysgrifenwyr cyffredin trwy eu rhwymo i dynnu a rhoi un o'r ddwy t yn ôl deddfau caethaf seiniadaeth. Er hynny, os gwelaf y bydd gwr cyfarwydd a "llawn deugain mlwydd oed" fel Mr. Rhys yn parhau i farnu fod achos digonol am wneuthur hynny o beth, mi a ymostyngaf i'w farn.
Am y llythyren h, pe llythyren hefyd, yr wyf yn bleidiol i dynnu a rhoi honno, am y rheswm eglur fod yn hawdd i'r tewaf ei glust wybod pa bryd yr ydys yn ei seinio hi, a pha bryd nad ydys yn ei seinio. Yr wyf hefyd, o barch i ddeddfau sain a hen arfer, yn erbyn dyblu yr m, n ac ng o flaen h; ac er mwyn gwneyd sillebu yn beth haws, yr wyf, yn ôl esiampl Dr. William Morgan, ac eraill o'i flaen ac ar ei ôl, yn tynnu allan yr ail gydsain, ac nid y flaenaf; ac yn ôl arfer ambell un o'r rhai gynt" yn dodi yr h ar ôl yr l a'r r, ac nid o'u blaen, gan ddywedyd cymmorth, cymhorthi, ym'horth; annrugarog, anrhugar, yn'rhugaredd; angrediniur, angrhedu, yng'rhed.
Gan nad pa orgraff a ddewiso dyn, rhaid iddo ymddygymmod â lliaws o eithriadau. Nid rhwng orgraff amherffaith ac orgraff berffaith y rhaid dewis, eithr rhwng orgraff amherffaith a'r un leiaf amherffaith.
I, yn, ych ac u oedd ansoddeiriau rhagenwol y darlithiwr a glywais i yn llefaru; er hynny, rhag gwneyd ei ddarlith yn rhy annarllenadwy i Gymry yr oes hon, ysgrifennu a wneuthum ei, ein, eich ac eu, yn ôl yr arfer gyffredin. Am yr un achos, ni throais mo'r ae yn ay, na'r oe yn oy neu yn ou yn y fath eiriau â maen, moes, a moelyn.
Rhag cuddio gwreiddyn neu fôn gair, yr wyf yn ymattal rhag dangos dylanwad i ac u ar eu gilydd mewn geiriau o fath eithyr, unig, duwiol, a datguddiad; er y gwn mai eythyr, inig, diwiol, a dadgiddiad ydynt yng ngenau pawb oddi eithr y Phariseaid o lenorion sy'n gofalu mwy am lythyrennau nag am eiriau.
Mi a fynnwn i ychydig o eiriau bach cyffredin fel ar, er, os gael eu cyfrif yn eithriadau i'r rheol sy'n gofyn dyblu rhai cydseiniaid er mwyn dangos sain fer.
Gan fod yr y fynglyd yn fwy neu lai ber ei sain, nid wyf yn dyblu cydsain ar ei hôl hi mewn geiriau cyffredin fel yn, yr, yma, dyma, Cymro, nac mewn geiriau mwy anghyffredin chwaith, pan na byddo dim arall yn y gair ei hun yn gofyn hynny; felly yr wyf yn gwyro oddi wrth y rhai gynt trwy ysgrifennu bysedd, &c., ac nid byssedd, &c.
Mi a ddywedais mai Gwyneddwr oedd y darlithiwr, am fod yn hoffach ganddo yr a na'r e. Erbyn hyn yr wyf yn teimlo fod fy rheswm am dybied hynny yn rhy wan, am y gallasai y gŵr yn hawdd arfer yr a o ddewisiad, neu ynte am fod llediaith Gwynedd erbyn ei amser ef wedi gorfod ar ledieithoedd y taleithiau ereill.
Gan nad beth am hynny, nid Cymraeg plwyfol mo'i Gymraeg ef; ac, yn wir, o'r braidd y gellir dyweyd ei fod yn Gymraeg taleithiol chwaith; canys os ydyw efe mewn rhai cyssylltiadau yn troi au ac ae yn a yn ôl arfer y Gogleddbarth, y mae efe yn fynnych hagen yn troi ai yn e yn ôl arfer y Deheubarth a'r Canolbarth.
Diau y bydd yn ein gwlad ni, fel y bu yng ngwlad Groeg, ryfel hir rhwng pobl yr a â phobl yr e, ac na bydd heddwch perffaith hyd oni chyt- tuna Ioniaid y De a Doriaid y Gogledd i arfer llediaith arall fwy cyffredinol, a fyddo'n cyfranogi o nodweddion eu lledieithoedd neillduol hwy, sef Cymraeg Attig; yr hon a fydd yn rhy fain i fod yn llydan fel Cymraeg Dorig, ac yn rhy lydan i fod yn fain fel Cymraeg Ionig.
Gwarchod fi! a ydwyf finnau hefyd ym mhlith y rhagymadroddwyr? neu a euthum i yn debyg i fân ddwnedwyr newyddiaduron Cymru, y rhai sy'n mynnu traethu eu hopiniynau eu hunain yn lle cofnodi yn syml yr hyn a welsant ac a glywsant? Bellach, llefared arall; a chadwer finnau rhag dodi cymmaint â "Chlywch, clywch" rhwng crymfachau[4]:
GYFEILLION, Fel y mae'n hyspys ichi, yr ydwi heddiw yn mynd i dreuthu yn fras ar ACHOSION CWYMP PROTESTANIATH YNG 'HYMRU; a chann fod yr achosion hynn yn llawer, ac yn amriwio o bryd i bryd, diau yr ymddengys fy sylwada, y waith honn, yn debyccach i gofres nag i ddarlith; ond yn y darlithiau a ddaw, mi a ymdriniaf yn bur helaeth â'r pyngcia ag yr ydwi yn awr yn cyffwrdd yn unig â nw.
Fe ellir priodoli cwymp Protestaniath yn y Dywysogath mewn rhann i achosion cyffredinol, ac mewn rhann i achosion neilltuol. O blith yr achosion cyffredinol a ddylanwadodd ar bob gwlad, odid na bydd yn ddigon imi heddiw enwi hwnn yma: sef cynnydd gwybodath y werin, yn enwedig mewn rhesymeg ac mewn hanesyddiath.
Ni fynnwn i ddim rhoi ar ddyall nad oedd y dosparth dyscediccaf o'r Protestanied yn yr oesodd o'r blaen yn gwybod rheola rhesymeg cystal â chitha; ond o blegid rhagfarn ne ddi-ofalwch, ne riwbeth, ni fyddenw byth yn cymhwyso'u rhesymeg at y grefydd Brotestanadd. Pe bysenw'n meddwl yn ddwys ac yn ddiragfarn, ïe, am hanner awr yn unig, nw a welsen mai Protestaniath ydi'r gwrthunbeth anghyssonaf y clywyd erioed sôn am dano.
'D ydi-hi ddim yn gyfundrath o gwbwl; cym- myscedd ydi-hi o ychydig ne lawer o betha Catholig wedi'w neuthur wrth fympwy y cym- myscwr, ac yn ymnewid yn barhaus yn ôl dyall dyn a dull yr oes. Yn wir, nid mewn credu dim pendant y mae hi yn gynnwysedig, eithyr yn hytrach mewn ymwrthod â mwy ne lai 0 athrawieutha, a dyledswydda a defoda'r Eglwys Gatholig.
Fe fydde rhai yn ymwrthod â rhiw athrawiath neu gilidd am ei bod yn ddyrys; rhai yn ym- wrthod â rhiw ddyledswydd neu gilidd am ei bod yn anodd, ac erill yn ymwrthod â rhiw ddefod neu gilidd am ei bod-hi'n drafferthus. Fel engraff, fe ymwrthododd y rhan fwyaf â chyffesu er mwyn gallu pechu yn ddirgel gyd â mwy o rysedd; ac fe ymwrthododd y rhan fwyaf ag athrawiath y purdan, nid am eu bod-nw yn gallu profi fod yr athrawiath honno yn erbyn yscrythyr, traddodiad a rheswm, eithyr am ei bod-hi'n cymmell dyn nid yn unig i gredu yng 'Rhist er mwyn bod yn gadwedig, ond hefyd i ddilin Crist er mwyn bod yn berffath, a thrwy hynny ochel y tân a drefnwyd i boeni ac i buro y rhai am- herffath. Eithyr fe awgrymwyd o'r blaen nad â'r un petha yr oedd pawb o'r Protestanied yn ym- wrthod; canys yr oedd yr hynn a ystyrid yn athrawiath sylfeunol gann rai yn athrawiath ddamiol gann erill. Er engraff, yr oedd rhai o honynw yn cyhoeddi mai melltigedig ydi'r dyn na chredo fod Duw yn Dri Pherson, ac erill yn cyhoeddi mai politheistiad ydi'r dyn a gredo hynny; rhai yn credu fod yr Iesu yn Fab Duw, ac erill yn credu mai dyn amherffath oedd-o; rhai yn dywedyd fod credinwyr yn bwytta cnawd Mab y dyn, ac erill yn teuru mai ei Yspryd-o y maenw yn ei fwytta; rhai yn dywedyd fod bedydd yn tycio llawer, rhai yn dywedyd nad ydi-o'n tycio dim, ac erill yn esponio ei fod-o'n tycio rhiwfaint rhwng llawer a dim; rhai yn dywedyd mai discin a neuthoni o Addaf ac Efa, ac erill yn egluro yn ddyscedig mai esgyn a neuthoni o riw epaod cynffonnog; rhai yn dywedyd fod gweithredodd da yn angenrheidiol i ryngu bodd Duw, ac erill yn dywedyd nad ydynw ddim; rhai yn synio fod Peder a Phaul yn fwy ysprydoledig na Göthe a Carlyle, ac erill yn amma hynny; rhai yn dywedyd mai yr eglwys ydi colofn a sylfan y gwirionedd, ac erill yn dywedyd y bu'r gwirionedd, am fil o flynyddoedd o leia, yn sefyll ar ei sodla'i hun; rhai yn dywedyd gyd â Phaul, "Tawed y gwragedd yn yr eglwysi, ac erill yn llefan gyd â Booth, Y neb sydd ganddo dafod i frygawthan, brygawthed "; rhai yn credu, yn ôl proffwydoliath Malachi, y dylid offrymu arogldarth ac offrwm pur i enw Duw ym'lhith y cenhedlodd, ac erill yn credu fod cyfnod yr arogldarthu a'r offrymu wedi mynd heibio; rhai yn meddwl fod gweddïa saint perffeithiedig yn tycio mwy eroni na gweddïa saint y ddeuar, ac erill yn meddwl yn wahanol; y rhan fwyaf o honynw hyd riw gant a hanner o flynyddodd yn ôl yn gwann gredu fod uffern, ond pan euthonw i ofni y galle'r uffern honno fod wedi ei darparu ar gyfer rhiwrai heb law cythreulied a Chatholigion, a'u gelynion nhw'u hunen, nw daflason uffern i'r un diddymdra ag y taflasenw'r purdan iddo.
Chi a welwch, gyfeillion, fod yn annichon i mi ddywedyd pa beth ydi Protestaniath, canys y mae-hi fel siacced Peder wedi ei cwttogi a'i chyfnewid gan Sïon, a hynny gymmin nes peidio â bod yn siacced o gwbwl.
Ac arfer gair athronyddol, math o negyddiath ydi Protestaniath; a 'd ydi hynny mewn iaith dduwinyddol yn ddim amgen nag anffyddiath- hollol ne rannol. Y mae hynny o betha pendant oedd gynt yn perthyn i Brotestaniath, megis etholedigath Calvin a chyfiawnhad Luther, wedi eu bwrw ymaith er's canrifodd. Yr hawl i brotestio yn erbyn barn ac arfer yr Eglwys gyffredinol ydi'r unig beth y mae'r Protestanied yn dal gafal ynddo. Ac y maenw wedi protestio a phrotestio yn erbyn cynnifer o betha fel nad oes ganddynw mwyach ddim un athrawiath ysprydol i'w chredu nac un ddyledswydd foesol i'w gneuthur. Oddi eithyr y lluodd a ddychwelodd i'r Eglwys, y mae y rhan fwyaf o'r gweddill wedi mynd yn anffyddwyr hollol, fel yr aeth gynt eppil yr Hugnotied yn Ffraingc. Y mae'n wir fod etto yng'Hymru rai cannodd o Brotestanied ar wascar nad ydynw ddim yn anghredu pob peth, ac na fynnanw ddim cael eu cyfri gyda â'r anffyddwyr, ond y maenw yn rhy anammal i ymffurfio yn secta, ac yn rhy anghydfarn i allu ymuno yn un sect. Y maenw fel llawer o'u blaen yn ceisio sefyll ar lain o draeth byw rhwng môr a thir; a rhaid iddyn nhwtha cynn hir naill ai dychwelyd i'r tir neu ymdaflu i'r môr. Nid oes dir cadarn y gellir sefyll arno rhwng Catholigath ac anffyddiath.
Fe all yr ifengaf o honochi ddweyd pa beth ydi Catholigath, a pha beth ydi anffyddiath wyneb- agored hefyd; ond pwy ohonochi, ïe, pa un o'r Protestanied eu hunen, a all ddweyd pa beth ydi'r credo Protestanadd?
Profwch hynny eich hunen trwy fyned at un o'r Protestanied sydd yn y wlad, a'i annog i ddychwelyd i hen eglwys ei dada. Odid fawr nad cammol Protestaniath a neiff-o; yr hynn a ddyry i chitha gyfleustra i ofyn Protestaniath pwy y mae-o'n ei chammol: ai Protestaniath Harri VIII ynte Knox; ai Protestaniath Luther, ai Zuinglius, ynte Calvin; ai Protestaniath Brigham Young ynte Bwth I?
Hynn yn ddiau a fydde'i atteb: "'D ydw i'n cammol Protestaniath neb heb law fym 'Rhotestaniath i fy hun."
Gan fod Protestaniath yn gydgasgliad o ronyna mor anghydiol, efalle fod yn rhyfedd gann rai ohonochi ei bod-hi wedi ymddal ynghyd am gyhyd o amser; ond chi a beidiwch â rhyfeddu pann ddywedaf wrthochi mai trwy wadu ei hun y peidiodd Protestaniath â marw yn yr escoreddfa. Hawl pob dyn i farnu drosto'i hun am byngcia dadguddiad ydi'w heddgwyddor sylfeunol hi; ond ar ôl rhoddi i ddynion yr hawl honn, er mwyn gwrthwynebu ohonynw awdurdod yr Eglwys Gatholig, hi a attaliodd yr unriw hawl oddi wrthynw, trwy eu cymmell i ymostwng i awdurdod eglwys neilltuol.
Yr oedd " Rhydd i bob dyn ei farn ac i bob barn ei llafar "yn burion arwyddair wrth ymladd yn erbyn y Pab; ond pann ymgynnullodd at Luther "bob gŵr helbulus, a phob gŵr oedd mewn dyled, a phob gŵr chwerw'i enad, fo aeth yn dywysog arnynw, ïe, yn bab. Yna, fel pob chwyldroadwr, fo ddadblygodd faner arall ag arni yr arwyddair hwnn:
Rhydd i bob dyn farnu fel Luther, a llefaru yng'eiria Cyffes Ffydd Angsburg; ond melltigedig a fyddo pob dyn a farno ac a lefaro fel Leon X, fel Zuinglius, fel Calvin, ac fel Carlostadt."
A'r un geiria, oddi eithyr fod yr enw personol yn wahanol, oedd ar faneri Zuinglius, a Chalvin a Charlostadt hefyd.
Fel credo gosodedig, fe ddiflannodd Protestaniath gyd â'i bod-hi wedi ymddangos; ond fel sect, ne'n hytrach fel cynnulliad o secta yn ymnewid ac yn ymgenhedlu y naill o'r llall, hi a barhaodd am ganrifodd. Am ei bod yn gynnwysedig o secta, ac iddi Gyffesion Ffydd i gyfyngu ar briod farn dyn, sef ydi hynny: am iddi frysio i ddynwared Catholigath trwy bwyso ar awdurdod yn lle ar ryddid barn, y llwyddodd-hi i hongian byw cyhyd ag y gnaeth-hi. Eithyr, fe ddoeth yr amser pann y bu'n gywilyddus gann ddynion ym- gyfenwi yn Brotestanied, a nhwtha, fel y Catholigion, ac am weulach rheswm na'r Catholigion, yn gwisgo am eu gwddw rwyma caethiwed yn lle gwiscodd rhyddid. A dyma'r pryd y cafodd egwyddor gyntefig Protestaniath gyfleustra teg i ddinistrio Protestaniath ei hun.
Pa beth bynnag a feddylioni am y Protestanied a fynson fod yn Brotestanadd, rhaid ini addef eu bod-nw'n onest yn eu ffordd, ac yn gysson â nhw'u hunen.
"Pa beth ydi Protestaniath (meddanw) amgen na hawl y dyn unigol i brotestio yn erbyn y lliaws, pann y byddo'r lliaws hynny yn cyttuno i gyfyngu ar ei hawl-o, trwy gymmell arno eu credoa, eu Cyffesion Ffydd, eu Rheola Disgybleuthol, a'u defoda? Pa reswm a allwni ei roi am aros y tu allan i'r Eglwys Gatholig, a ninna wedi mynd allan ohoni yn unig am ein bod yn gwrthwynebu egwyddor ag yr ydani yn awr yn ei hamddiffyn ac yn gweithredu wrthi? Ai er mwyn dewis Martin Luther yn bab y cefnasoni ar Leon X? A adawsoni'r Eglwys er mwyn ymgrebachu mewn sect? A fwriasoni ymaith fantell ddi-wnïad o dduwinyddiaeth, a gyd-dyfodd â chorff yr Eglwys dross ystod mil a hanner o flynyddodd, er mwyn gwisco rhiw glytwaith o Gyffes a ddarparwyd mewn brys a llid gan ychydig o feidrolion yn Augsburg? Pwy yn awr sy'n malio pa rai oedd opiniyna Luther ne Calvin ne Cranmer, na neb arall o seiri athrawieuthau amriw a dieithyr y deg a'r seithfed canri? Croeso i bob un ohonynw ei opiniyna'i hun; eithyr pwy a osododd hwnn ne arall ohonynw yn farnwr ne'n llywodr- euthwr arnon ni? Y mae'n wir fod Calvin yn cammol ei hun ac yn difenwi ei wrthwynebwyr cystal â neb fu yn y byd erioed, ond 'd ydi hynny ddim yn ein rhwymo ni i'w ganmol-o[5]. Y mae'n wir fod Luther yn honni ei fod-o wedi derbyn ei ddaliada o'r nef[6] (oddi eithyr ei ddysceidiath am yr offeren, yr honn, yn ôl ei addefiad o'i hun, a gafodd-o gann Sattan),[7] ond y mae pawb yn awr yn ddigon grasol i dybied mai pann y bydde chwiw o wallgofrwydd arno y bydde-fo'n cablu fel hyn. Yr ydani'n gofyn etto (meddanw) pa faint mwy o hawl oedd gann y pabau ymetholedig hynn i ymawdurdodi ar erill nag oedd gan erill i ymawdurdodi arnyn nhw? Y mae pabau ac arglwyddi, a phenneithied, a secta, a Chyffesion Ffydd, a holiaduron, ac awdurdod o bob math, yn gwbwl anghysson ag egwyddorion Protestaniath. Pann y dygwyd y petha hynn i mewn iddi, hi a ddylse newid ei henw neu ynte beidio â bod. Y mae arnon ni Brotestanied lawer o ddiolch i Luther am gychwyn treiglo'r bêl; eithyr wedi i'r bêl fynd o'i ddwylo-fo, yr ydani'n heuru nad oedd ganddo fo na neb arall hawl i osod terfyn i'w rhediad-hi.
"Efalle y dywed rhai nad ydi'r egwyddor sylfeunol y soniwyd am dani yn cynnwys dim mwy na hawl pob dyn i esponio yr Yscrythyra yn ôl ei ddyall ei hun; ond 'd ydi'r eglurhad yma yn lleihau dim ar anghyssondeb y Diwigwyr a'u dilynwyr; o blegid gann fod dyall dynion yn amriwio yn ddirfawr yn ôl eu natur, eu teimlad, eu dawn, a'u dysc-nw, fe ellid disgwil i rifedi'r gwahanol farna fod agos gimmin â rhifedi'r esponwyr; yr hynn a fydde'n rhwystyr digonol i neb allu gneyd un sect ohonynw. Ond pwy a ddichon atteb y gofyniad: Beth ydi gwir- ionedd?' ne gann bwy y mae hawl i benderfynnu pa esponiad sy'n gywir? Y darllennwr ei hun, meddwn ni, er lleied a fyddo'i ddawn a'i ddysg. Yr hen Eglwys apostolig a chatholig trwy ena'i phenn deuarol,' ebe'r Catholigion. Sylfeunwyr y sect ag y mae y darllenwyr yn eulodau ohoni, ne'n hytrach: y gwŷr a osodwyd, neu a ym- osodason ohonyn eu hunen, i lunio Cyffes Ffydd i'r sect honno,' ebe'r rhan fwyaf o Brotestanied. "I ni y mae y syniad olaf o'r tri yn wrthunach na'r ail, sef syniad y Catholigion.
"Ond pa ham, attolwg, yr ydys yn cyfyngu Protestanied i ddangos eu Protestaniath trwy esponio yr Yscrythyra? A ydys yn discwil i bleidwyr barn briod lyngeu pob peth arall cynn ei brofi-o yn gynta? Beth am y Canon? Pwy sydd i benderfynnu nad oes yn y Testament Newydd na mwy na llai o lyfra nag a ddyle fod ynddo? Ai y darllennwr ei hun? ai y rhann fwyaf o Gristionogion? ai pawb, trwy gydsyniad cyff- redinol? ai ynte pwy? Os attebir mai gwell ydi ymddiried y pwnge ynghylch nifer y llyfra i wŷr cyfarwydd, oni ddywede rhiwun, am gystal rheswm, y bydde'n well ymddiried pwnge yr esponio hefyd iddynw? A pha sicrwydd sydd y bydde'r gwŷr cyfarwydd eu hunen yn cyttuno yn y diwedd? Os cyffyrddodd Luther â'r Canon, pa fodd y galle fo na neb o'i ddilynwyr orchymyn i ni gadw'n llaw oddi wrtho? Ac os attebir fod Luther yn fwy dyscedig na ni, pwy sydd i brofi hynny?
"Y mae'n hyspys nad oedd na phroffwyd nac apostol yr ofne Luther roi cic iddo, os bydde'r proffwyd ne'r apostol hwnnw yn anghyttuno ag ef ynghylch cyfiawnhad trwy ffydd. Am hynny fo ddywedodd: Chwedleuwr ydi Job.'
Nid oes gan y Pregethwr na botasa nac ysparduna; gyru y mae-o yn 'rhaed ei hosana." Y mae'r epistol at yr Hebreied yn cynnwys cyfeiliornada sy'n wrthwynebol i holl epistola Paul; y mae'n annichon cael hyd ynddo i yspryd apostoladd a dwyfol.' Epistol soff yw epistol Iago.'[8]
Os oedd yn rhydd i Luther ddangos ei gas at rai o scrifenwyr y Testament Newydd, pa ham na chawn ninna neyd yr un ffunud? Pa ham, er engraff, na chae rhiw escob Seisnig sy'n chwennychu ail briodi, roi cic i'r epistola bugeiliol o achos i'w hawdwr-nw feiddio dweyd fod yn rhaid i escob fod yn ŵr un wraig? Os pwngc agored oedd pwngc y Canon gann Luther, y mae'n wiw iddo fod yn bwngc agored gann erill hefyd; ac yn wir, pwngc agored a ddyle fod pob pwngc dyrys gann Brotestanied egwyddorol.
Pann ddechreuodd Protestanied lefaru fel hynn, yr oedd yn hawdd rhagweled yr ymchwale'r secta Protestanadd ar fyrder.
O'r blaen, yr oedd y secta Protestanadd yn byw wedi'w am fod yr egwyddor Brotestanadd chladdu; o hynny allan fe farweiddiodd y secta Protestanadd am fod yr egwyddor Brotestanadd wedi adgyfodi. Hynn ydi swm y cwbwl a ddywedwyd: sef, mai yn egwyddor ac nid yn gorff y dichon i Brotestaniath fyw yn hir.
Ynglŷn â'r hynn sy newydd ei dreuthu, y mae un anghyssondeb arall a barodd i'r dosparth mwy rhesymegol ddarfod â Phrotestaniath: sef gwaith y Protestanied yn teuru y galle'r Testament Newydd fod yn anffeuledig heb fod yr Eglwys hefyd yn anffeuledig. Nw a barhason i deuru hynny ar y Cyfandir hyd y deg a seithfed canri; ac yn yr ynys honn hyd ddiwedd y deg a nowfed canri.
Ni raid imi ddim ymdroi i ddangos i chi, sydd yma heddiw, fod anffeuledigrwydd y Testament Newydd yn gorphwys ar anffeuledigrwydd yr Eglwys. Os cyfeiliornodd hi wrth sefydlu'r Canon, yna y mae y Canon ei hun yn gyfeiliornus, a'r Protestanied hefyd yn cyfeiliorni wrth apelio atto. Yr oedd Protestanied yr oesodd gynt yn llefaru fel pe bysenw'n meddwl fod Duw wedi rhoddi'r Testament Newydd yn uniongyrchol â'i ddwylo'i hun i'w tada-nw, fel y rhoes-o'r gyfraith i Foesen ar fynydd Sina; eithyr, yn y mann, fe argyhoeddwyd y rhai mwya crefyddol o honynw mai yr Eglwys Gatholig, ym'henn rhai oesodd ar ôl marw yr apostolion, a gasclodd y Scrythyra yng'hyd, o dann arweiniad yr Yspryd, ac a'u traddododd-nw i ni.
"A wyti'n dyall y petha yr wyti yn eu darllen? ebe Phylip wrth yr eunych.
"Pa fodd y galla-i," ebe fynta, "oddi eithyr i riwun fy ng'hyfarwyddo-i?
Yn awr, pa ddyn, ne pa ddosparth o ddynion, sy cynn gymhwysed i gyfarwyddo darllennwr annyallus ynghylch meddwl ymadroddion Duw â'r hen Eglwys yr ymddiriedodd Duw iddi am danynw? Bwrier mai y Bibil yn unig ydi llyfr cyfrath anffeuledig y Cristion, y mae ei anffeuledigrwydd-o yn gwbwl ofer heb farnwr anffeuledig i'w egluro-fo, a'i iawn gyfrannu. Pa morr gywir bynnag ei farn, a pha morr ysprydol bynnag, a fyddo'r dyn unigol, nid oes un broffwydoliath o'r Ysgrythyr o ddehongliad priod.'
Eithyr yr oedd, ysywath, nifer mawr Brotestanied erill nad oedd ganddynw mo'r galon hawddgar a da oedd gann y rheini. Er hynny, fe fynne'r rhain hefyd ymddwyn yn gysson; felly, ar ôl gweled na allenw yn rhesymol ddim myntumio fod y Scrythyrau yn anffeuledig heb fyntumio fod yr Eglwys hefyd yn anffeuledig, nw a droison i deuru nad oedd na'r Eglwys na'r Yscrythyra yn anffeuledig. Belled y gall dyn wrthgilio ar ôl ymwrthod ag awdurdod: cadarn sail pob cymdeithas!
Dyma un peth arall a barodd i lawerodd ddiflasu ar Brotestaniath: sef anghyssondeb pleidwyr rhyddid barn, yn anad neb, yn tarfu, yn gorfodogi, ac yn erlid y rhai a feiddien farnu yn wahanol iddyn nhw.[9]
Yr oedd y gallu i erlid, yn y modd mwyaf eithafol, yn dyfod o gyssylltiad y prif secta â'r wladwriath; ond yr oedd y duedd i erlid cynn gryfed yn y secta Ymneilltuol ag yn y secta gwladwrieuthol-yn gryfach yn wir; am fod euloda'r secta hynny yn byw mewn byd llai nag euloda'r secta sefydledig. Dross ennyd, fel y dywedwyd, y cafodd Protestaniath Ymneilltuol gyfleustra i garcharu ac i ladd yn y wlad honn; ond yn yr hynn a eilw'r Seuson yn petty persecution fe ellir dywedyd am dani yn ei chaethiwed mwya: "Yr hyn a allodd honn, hi a'i gnaeth."
Ni fu erioed ei rhagorach-hi am ddifenwi ei gwrthwynebwyr, ac am briodoli drwg amcanion i'r rhai a ymwrthoden â hi. Gwraig anynad a fu Protestaniath Ymneilltuol, yn torri calon dyn heb dorri llythyren y chweched gorchymyn.
Am Brotestaniath sefydledig ne wladwrieuthol, fe fydde hi yn gyffredin yn torri penn dyn cynn cymeryd amser i dorri'w galon-o. Y Brotestaniath honn a olyga Rousseau yn fwya neilltuol pann y dywedodd-o "fod y Diwygiad Protestanadd yn anghydoddefgar o'i gryd, ac fod ei awdwyr ym'hob mann yn erlidwyr."[10]
Er fod llawerodd wedi ymneilltuo o'r secta sefydledig, a'r rheini wedi gneyd crynn lawer o ddisgyblion ym'lhith y werin, etto fe ellir dweyd mai gwladwrieuthol yn anad un grefydd ydi Protestaniath, a'i bod o'r dechreuad yn hytrach yn grefydd y pendefigion nag yn grefydd y bobol.[11] Trwy ymgysylltu â brenhinodd a phendefigion er mwyn darostwng gweinidogion yr Eglwys y gallodd-hi ymsefydlu yn yr Almaen ac ym'hob gwlad arall. Nid rhyfedd gann hynny ei bod-hi mor falch; a chann ei bod-hi mor falch, nid rhyfedd ei bod-hi morr erlidgar.
Eithyr y mae'n rhyfedd-yn rhyfedd iawn, fod dynion a ymwahanson oddi wrth y Catholigion am y rheswm fod gann bob dyn hawl i farnu drosto'i hun, yn erlid erill o blegid fod y rheini yn hawlio yr un fraint â nhwtha.
Yr oedd gann y Catholigion riw fath o escus, a dweyd y lleia, am erlid rhai anghydfarn, canys y nhw oedd mewn awdurdod—in possession, fel y dywed y Seuson, ac erill oedd y gwrthryfelwyr; ac heb law hynny, y mae y Catholigion erioed yn credu fod camfarn mor feius â chamweithred.
Ac onid un yn dewis ei grefydd yn lle'i derbyn-hi ar bwys tystiolath, a thrwy awdurdod—ne, mewn geiria erill, onid un yn barnu drosto'i hun, a feddylir yn y Bibil wrth "heretic"? Fe allwn ni gann hynny ddwedyd mai hereticied a erlidiason ni, eithyr ni all y Protestanied heuru mai hereticied a erlidiason nhw wrth ein herlid ni.
Wrth sôn am erledigath, yr ydwi'n dyfod at beth arall a ddywedisi yn y dechra: sef fod cwymp Protestaniath i'w briodoli nid yn unig i gynnydd gwybodath y werin mewn rhesymeg, ond hefyd i gynnydd eu gwybodath-nw mewn hanesyddiath.
Hyd ddechra'r igieinfed canri yr oedd yr hanesyddion Protestanadd agos i gid yn dychmygu'w ffeithia yn lle chwilio am danynw; a'r ychydig o rai ymchwilgar hefyd, gann faint eu rhagfarn, yn cuddio ffrwyth eu hymchwil ac yn treuthu celwydda o'u gwirfodd. Llyfra, ne grynhodeb o lyfra, yr ystorïwyr anwybodus a'r hanesyddion rhagfarnllyd hynn a ddyscid yn yr holl ysgolion, ac nid rhyfedd gann hynny fod cenhedlath ar ôl cenhedlath yn y gwledydd Protestanadd yn credu celwydd.
Er mwyn dangos ichi mor anwybodus oedd y bobol yn yr oesodd tywyll pann oedd Protestaniath yn ffynnu yn y tir, mi a ddywedaf ichi ffaith y gellid ei chadarnhau â mil o dystioleutha: sef, fod y cyffredin yn credu yn eu calon, ïe, yn dywedyd yn uchel, fod y Catholigion wedi erlid cymmin ar y Protestanied ag a erlidiodd y Protestanied arnyn nhwtha; a pha ŵr Catholig bynnag a lede'i lyged mewn syndod, ne a lede'i geg i chwerthin, wrth glywed heuriad mor wrthun, fe ofynnid iddo yn hyderus iawn:
"Beth am dana Smithfield yn'heyrnasiad Mari Weudlyd? a pha beth am alanas Gŵyl Bartholomeus?
Er fod Cobbett, Froude, ac amriw Brotestanied erill, yn cyfadde ddarfod i'r Frenhines Elspeth grogi a dadgymmalu a diberfeddu a a darnio cymmin bumwaith ne chwegwaith o Gatholigion, a hynny am weulach escus, ag a loscodd Mair o Brotestanied,[12] etto fe fynne'r bobol wirion alw'r gydwybodol Fair yn" Fari Weudlyd," ac Elspeth halogedig yn "Elsa Dda!"
Pa ryfedd i anfoesoldeb fynd yn anrhydeddus ym'lhith y Protestanied, a nhwtha yn galw yn dda y ddynes aflanaf a chreulonaf a mwya di- gydwybod a fu erioed ar orsedd Lloiger? Nid oes achos i mi geisio cyfiawnhau Mair am farwoleuthu cynnifer o hereticied Protestanadd, oddi eithyr y rhai oedd, fel Cranmer a Ridley, a Latimer a Hooper a Rogers a Poynet a Sandys, yn deyrn-fradwyr hefyd; canys fe fynnodd Mair neyd hynn yn erbyn cyngor caplan ei gŵr, ac yn erbyn cyngor y Prif Arch-escob Pole ei hun, cennad y Pab, fel na ddylid priodoli ei gwaith hi o gwbwl i'r eglwys neu i'r grefydd Gatholig.[13]
Ond pe byswn i'n byw yn amser y bobol dwylledig oedd wedi'w dyscu i gyfenwi Mair yn weudlyd a Betsan y Vir(a)go yn "dda," fe fyse arnai chwant gofyn iddynw, fel y gofynodd llawer un o'm blaen, y mae'n ddiau: Pa ham yr ydachi'n ymgyffroi o blegid yr ychydig o benneithied a loscwyd yn rhybudd i'r lliaws yn amser Mair, ac heb gydymdeimlo â'r llawerodd a farwoleuthwyd yn ddiwahaniath yn amser Harri VIII, Edward VI, Elspeth, Iago I, y ddau Garl,[14] a Chromwel?
Ai am fod gwaed ychydig o Brotestanied yn werthfawroccach na gwaed llawer o Gatholigion?
A fyse'n well gynnochi o lawer iawn gael eich diberfeddu yn fyw gann Elspeth na'ch llosci ar ffagoda crinion gann Mair?
Pa fodd y profwchi fod gann Elspeth fwy o reswm am ladd dynion o achos na fynnenw ddim derbyn ei chrefydd newydd hi nag oedd gann Mair am ladd dynion o achos iddynw adal hen grefydd a fyse yn y byd er's mil a hanner o flynyddodd?
Ie, attebwch hynn hefyd: Pa beth ydi tippyn o erlid gwyllt dross ychydig o fisodd, wrth yr erlid pwyllog, penderfynol a didor a fu ar y Catholigion am dri chann mlynedd a chwaneg?
Pwy a rif fyrddiyna'r Catholigion a laddwyd, a arteithiwyd, a feuddwyd, a garcharwyd, yspeiliwyd, ac a ymlidiwyd o'u cartrefi ac o'u gwlad, o ddyddia Harri dew hyd ddyddia Gwilim dena?
Ond er fod creulondeb eich tada Protestanadd tuag at y Catholigion ym 'Rhydan a'r Werddon wedi bod yn fwy ac yn hwy na chreulondeb un dosparth o bobol, o ddechreuad y creadigath hyd yr awr honn, yr ydachi yn y diwedd yn ddigon digwilidd i sôn wrthai am waith Mair! Ai dena'r cwbwl?
O, na, chi a soniasoch am ddy' gŵyl Sant Bartholomeus hefyd, onid do? A wyddochi riw- beth am ddydd Bartholomeus, ac am y dyddia blinion a arweiniodd iddo?
Os darllensochi hanes yr Hugnotied mewn rhiw lyfra heb law llyfra'r gwyngalchwyr Protestanadd, y mae'n rhaid eich bod wedi canfod nad saint oedd y Ffrangcod hynny, eithyr gwrthryfelwyr angrhefyddol, yn ceisio rhannu Ffraingc, a sefydlu gweriniath y tu hwnt i'r Loire; gwrthryfelwyr a loscason igian mil o eglwysi, a naw cant o drefi, ac a laddason luodd o'u trigolion-nw, yn wŷr, gwragedd a phlant; gwrthryfelwyr a dorfynyglason 256 o offeiried a 112 o fynachod yn Dauphiné yn unig, ac a dreisiason fynachesi a gwyryfon ym'hob parth;[15] gwrthryfelwyr a wahoddason estroniaid i'w cynorthwyo i ymosod ar eu cyd- wladwyr eu hunen, ac a roison Dieppe a Havre i'r Seuson.
Pa ham yr ydachi'n sôn am y gyflafan a fu ar y Protestanied ym 'Haris a lleodd erill, heb sôn am y cyflafanau a fu cynn hynny ar y Catholigion yn Nimes, yn Navarreins, yn Roche-Abeille a Pau? ac oni wyddochi mai o achos i Coligny, bleunor yr Hugnotied, gyflogi dyhiryn i furnio'r Duc Guise yn Orleans y darfu i fab y Duc Guise hwnnw furnio Coligny ym 'Haris? Ac os bu a wnelo'r brenin â'r gyflafan, fe ddylid cofio fod Coligny eynn hynny wedi gneuthur cynllwyn i'w gipio ymath, os nad i'w ladd-o hefyd; a phe na byse'r breninieuthwyr wedi achub y blaen ar eu gelynion, onid oes sail dda i benderfynnu y gneuthe'r Hugnotied iddyn nhw yr hynn a neuthon nhw i'r Hugnotied?[16]
Dynion yn heuddu marwolath yn ddiau oedd agos bawb o'r Hugnotied; er hynny, peth anheg ac anghatholig i'r penn oedd eu cospi-nw yn afreoladd yn amser heddwch, a'u gyru-nw ben- dramwnwg i uffern heb roi iddynw amser i ddweyd eu pader.
Heb law hynny, fe ddylsid eu difa-nw yn fwy llwyr o lawer os oeddid yn meddwl eu hattal-nw rhag cenhedlu rhiwiogath o ddynion mwy anffyddol na nhw'u hunen i beri chwyldroad gwaeth fyth yn Ffraingc, canys os na lwyddodd Cromwell i ddileu Catholigath yn y Werddon trwy gigyddio myrddiyna, pa fodd y gallase'r Duc Guise ac erill obeithio dileu Protestaniath yn Ffraingc trwy ladd ychydig o gannodd ar ddydd Sant Bartholomeus a'r dyddia dilynol? Fe gyhoeddwyd, yn wir, ar y cynta, ddarfod lladd can mil ar y dyddia hynny; ond yn fuan fe ddywedwyd mai 70,000 a laddwyd, wedyn mai 30,000, wedyn mai 20,000, wedyn mai 10,000, ac yn ddiweddaf oll mai 2,000; ond fe ddarfu i un Protestaniad manylach na'r cyffredin ymdrafferthu i chwilio, ac nid i ddyfalu, pa beth oedd y nifer; ac wedi chwilio fo a fethodd â phrofi fod mwy na 786 wedi eu lladd yn holl Ffraingc![17]
Chi a welwch fod yr hen Fetsan wedi'r cwbwl yn rhagorach cigyddes na Chathrin de Medicis, ac fod Olfyr Cromwel yn ymyl Guise fel cawr yn ymyl corach. O hynn allan, galwer dydd Bartholomeus yn ddydd llwyd ac nid yn " ddydd du," canys y mae ei dduach o lawer yng 'Halaniadur y Protestanied.
Trwy ymosod fel ena ar Brotestaniath, ac nid trwy ymfoddloni ar amddiffyn Catholigath, yr attepswn i yr adar dynwaredol a ddyscwyd i weuddi "Dim Pabyddiath."
Gyfeillion Catholig, Da y gŵyr y rhai hynaf ohonoch chi na fu Eglwys Rhufain erioed yn hawlio nac awdurdod na gallu i erlid mewn un modd; eithyr gann fod rhai heresïa yn tueddu i ddymchwelyd llywodrath gyfreithlon, heddwch cyhoeddus a moesoldeb natturiol, ni pherthyn i'r Eglwys rwystro yr awdurdoda gwladol i ddarostwng yr heresia hynny trwy gespedigeutha, pann farner fod achos.
Er engraff, pan y cafwyd Ieuan Huss yn euog o ymgyndynnu mewn heresi, fe gyhoeddodd y cyngor eglwysig oedd yn ei brofi-o mai hawl i gyhoeddi'r ddedfryd yn unig oedd ganddo fo, ac os gwele'r awdurdoda gwladol yn dda gospi Huss yn ôl deddfa'r wladwriath, fod dyled ar y barnwyr eglwysig a'i barnodd o'n euog, i erfyn am faddeuant iddo.[18] Yr un ffunud, pan benderfyn- odd Mair farwoleuthu rhai o'r prif Brotestanied, naeth hi mo hynny yn ôl addysc yr Eglwys Gatholig, nac yn ôl cyfarwyddiada'r Pab, eithyr wrth annogaeth Gardiner a Bonner; a hynny am resyma gwladwrieuthol.[19]
Er nad ydi'r Catholigion yn cydnabod rhyddid cydwybod, y maenw'n cydnabod rhyddid addoliad; ac yr oeddid yn'hiriogath y Pab ac yn Ffraingc yn caniathau rhyddid i addoli er's talm hir o amser cynn i un wladwriath Brotestanadd ganiat-hau dim rhyddid i Gatholigion.[20]
Am Brotestanied, yr oedden nhw o'r dechreuad yn gwrthwynebu rhyddid crefyddol, ar air ac ar weithred.[21] Fe ddaru i Melanchthon, Calvin, Beza a Bulliger yscrifennu llyfra i amddiffin erlid; ïe, hyd anga.[22] Yr oedd Knox yn pleidio hynny yn ei holl ysgrifeniada.[22] Bucer a gyfrifid y gwareiddiaf o'r holl Ddiwigwyr; ac er hynny fo ddywedodd y byse'n rheitiach i Galvin na Ïlosci Servetus dynnu'w berfedd-o allan, a malu'w gorff-o yn ddarna yn ôl dull Betsan Goch;[23] ac os oedd Brucer yn llefaru fel hynn, chi a ellwch ddychmygu pa fodd y llefare rhai mwy cegrwth o fath Luther a Knox.
Y mae'n hyspys fod Senedd Lloiger yn barhaus yn annog Iago I i arfer mwy o lymder tuag at y Catholigion; ac fe ddarfu i'r Archescob Abbott ei rybuddio-fo yn erbyn pechu trwy eu godde-nw.[24] Fe ddiorseddwyd Iago II o achos ei fod-o'n awyddus i bob cyfundeb crefyddol gael mwynhau yr un breintia; ac nid oedd un dosparth yn fwy gwrthwynebol iddo na'r Ymneillduwyr.[25] Yr oedd yn well gann y rhain ddiodde caethiwed eu hunen na gweld y Catholigion yn mwynhau rhyddid. Fe ddarfu i'w duwinyddion Presbyteradd oedd wedi ymgynnull yng 'Holeg Sïon benderfynnu mai peth cyfeiliornus oedd caniathau rhyddid cydwybod.[26] Pan ymwthiodd yr Ymneillduwyr i awdurdod o dann Cromwel, nw a erlidiason hyd anga y Catholigion, ac euloda sect Elspeth hefyd; ac yn ôl eu rhagrith arferol, nw a bennodason ddyddia ymostyngiad ac ympryd i erfyn maddeuant gann Dduw am fod mor oddefgar![27]
Fe fysid yn discwil y byse'r Ymneillduwyr a groesason Fôr y Werydd, er mwyn rhyddhau rhyddid barn a llafar yn Lloiger Newydd, yn ymddwyn yn dynerach tuag at erill, yn y wlad honno, nag yr ymddygase sect Elspeth tuag attyn nhw yn yr hen wlad; eithyr fe ddengys y ddeddf honn a gadarnhawyd yn Plymouth yn y flwyddyn 1657 mai erlidwyr creulon ydi'r Protestanied, i ba sect bynnag y perthynonw:
"It is further enacted that if any Quaker or Quakers shall presume, after they have once suffered what the law requireth, to come into this jurisdiction, every such male Quaker shall, for the first offence, have one of his ears cut off, and for the second offence have the other ear cut off," &c. "Every female Quaker shall be severely whipped, and for the second offence shall have her tongue bored through with a hot iron," &c.[28]
Ac felly ym mlaen hyd anga.
Talath Gwilim Penn, cyfall yr "hanner pabydd," Iago II, a thalath Arglwydd Baltimore, sef Virginia Gatholig, oedd yr unig daleithia lle y cae dyn y pryd hwnnw addoli fel y mynne-fo.
Ond ai erlidiau yn unig ydi ffrwyth y Brotestaniath a gyfododd yn y deg a chweched canri?
Nag e, yn ddiau; canys iddi hi y rhaid hefyd briodoli yr holl chwyldroada, a'r rhann fwyaf o'r rhyfelodd erchyll, a fu yn Ewrop o hynny hyd yr igieinfed canri.[29] Iddi hi yr ydys i ddiolch am y Ddyled Wladol a fu am gyhyd o amser yn orthrwm ar y ddwy ynys hynn; ac i'w gwaith hi yn dinistrio'r mynachlogydd, noddfeydd y rheidusion, ac yn yspeilio yr Eglwys, gwir fam y bobol, o'i meddianna, gann eu trosglwyddo-nw o afal y llawer i ddwylo'r ychydig y rhaid priodoli Deddfa'r Tlodion, a'r tlodi mawr a ddioddefodd milodd yn y wlad honn, er gweutha'r deddfa hynny.[30]
O Brydan, gyhyd y'th dwyllwyd â chlebar dynion trachwantus ac aflonydd!
Yn awr, pann ymgododd ym 'lhith y Protestanied hanesyddion mwy ymchwilgar a diragfarn, a theimlo ohonynw mai cyhoeddi ffeithia ac nid teunu gwrachïaidd chwedla ydi gweddus waith hanesyddion; a phann y gwybu'r darllenwyr yr un ffunud mai crefydd erlidgar, yspeilgar, a rhyfel- gar oedd Protestaniath, hi aeth yn ebrwydd iawn yn ffiadd yn eu golwg-nw, ac a aeth yn ffieiddiach fyth ganddynw pann y dadguddiwyd iddynw wir gymmeriad cychwynwyr Protestaniath.
"A feiddiwni (ebe nhw) ac a allwni gredu ddarfod i Dduw godi dynion didoriad o'r fath yma i' ddiwygio' yr eglwys? Tybed mewn difri mai crefydd Crist ydi'r grefydd a luniwyd mewn trachwant, ac a escorwyd arni mewn celwydd, ac a borthwyd ag yspal ac â gwaed? a'r honn, heb law hynny, a ddygodd i'r byd newyn a noethni, na bu erioed o'r blaen ei gyffelyb; heb sôn am y gynnen a'r ymryson sy'n peri gofid i'r saint a thramgwydd i Baganied."
Cynn yr amser yr ydwi'n cyfeirio atto, yr oedd gwerin bobol y wlad honn, gann eu bod heb fedru na Lladin na Ffreuneg nac Ellmynaeg, ac felly yn gorfod dibynnu ar gyfieithiada coginiedig, yn meddwl mai brith angylion, nad oedd y byd hwn yn deilwng ohonynw, oedd y Diwigwyr Protest- anadd; ond och! fel y didwyllwyd-nw pann y darfu haf yr hanesyddion a'r cyfieithwyr coginiol.
Ni wydden nhw o'r blaen fod Luther morr chwannog i siarad yn serth ag oedd-o i gablu; ni wydden nhw ddim y bydd efo'n diotta ac yn ymloddesta mewn tafarna gyd ag Amsdorf ac oferwyr cyffelyb;[31] ni wydden nhw na bu a wnelo-fo ddim â gwragedd, yn ôl ei dystiolath o'i hun, tra y parhaodd-o yn eulod o Eglwys Rhufan; ni wydden nhw ddim iddo gynghori Harri VIII i gymmeryd iddo'i hun ail wraig, heb ymdrafferthu i ymyscar oddi wrth Cathrin ei wraig gynta.[32] Ni wydden nhw ddim ddarfod iddo fo a Melanchthon a Bucer gyttuno i roi trwydded i Phylip o Hesse, colofn y Diwygiad," i briodi yn ddirgel ail wraig tra yr oedd ei wraig gyfreithlon yn fyw, am y rheswm rhyfedd fod y tywysogyn hwnnw yn tystiolaethu na alle-fo ddim peidio â phechu fel a'r fel heb gael gwraig hawddgarach na'r un oedd ganddo-fo.t Ni wydden nhw i Luther ddywedyd rai blynyddodd cynn hynny wrth bregethu yn Wittemberg: Os bydd y gwragedd yn gyndyn, y mae'n iawn i'r gwŷr ddywedyd wrthynw: Si tu nolueris, alter volet; si domina nolit, adveniat ancilla."[33] Ni wyddenw ddim iddo scrifennu rhigwm ar ddalen wenn Bibil, yn cynnwys gweddi ar Dduw am ddigonedd o gig-fwyd a diodydd meddwol; am liaws o wragedd ac ychydig o blant.[34] Ni wydden nhw ddim. ddarfod iddo unwath er mwyn cael ei ffordd ei hun, fygythio wrth ei gyfeillion y gnae-o ddad-ddywedyd pob peth a lefarse ac a scrifense-fo yn flaenorol, ac ymheddychu â'r Pab.[35] Ni wyddenw ddim chwaith ei fod-o, tra yn taranu yn eon yn erbyn y Pab a'i escobion, yn ymgrymmu hyd lawr i'r brenhinodd a'r tywysogion penrhydd oedd yn pleidio'r Diwygiad; a'i fod felly yn debig i ameuthwyr Cymru gynt, yn wrol dross benn yng'wydd gwŷr Eglwysig diamddiffin, ond yn yswatio fel llygod gerr bronn gwŷr tiriog.
Nw a glywsen ond odid fod gann Calvin. . . , ond ni wyddenw ddim ei fod. . . . [36] 'D oeddenw ddim yn ddigon hyddysg yn ysgrifeniada Erasmus i wybod mai o glefydon rhy ffiadd i'w henwi y pydrodd ac y bu farw Ulrich von Hutten, marchog y Diwygiad."[37]
Yr oedd yn annichon i'r hanesyddion mwya pleidiol i Brotestaniath guddio oddi wrthynw y prif ffeithia ynghylch cydwybod" a chnawd Harri VIII, Penn cyntaf Eglwys Loiger; ond y mae'n debygol fod yr Escob Burnet a'i debig wedi'w hargyhoeddi-nw fod yn annichon i Dduw ddwyn i benn ei amcanion grasol tuag at Brydan heb ddonio rhiw hen Harri neu gilidd â gwangc anniwall am arian, am wragedd, ac am waed.
Rhaid eu bod-nw'n gwybod mesur o'r gwir am Cranmer, ei weinidog-o, yr hwnn oedd wedi ymwerthu i neuthur ewyllysia'i feistyr-a rhai o'i ewyllysia'i hun hefyd;[38] canys yr oeddo'n cadw dwy feistres ar yr un pryd; eithyr y mae eu bod-nw yn ei alw-fo'n venerable Cranmer yn dangos nad oeddenw ddim yn gwybod mai y fo oedd yr adyn mwya diegwyddor a hyrddiwyd erioed trwy un tân i dân poethach.
Chwara teg i Brotestanied: 'd ydwi ddim yn meddwl y bu neb erioed ohonynw y tu allan i'r Alban, a Nerpwl, Belfast, a gwallgofdai Cymru, yn amddiffyn yr hwnn a eilw Dr. Johnson yn Ruffian of the Reformation, sef y darn-lofrudd Knox.[39] Ie, yn yr Alban ei hun, fe brysurwyd. i ddwyn i mewn drachefn lawer o'r petha y gwenddase Siôn Knox a Siani Geddes mor groch yn eu herbyn.
Nid oes amser i sôn am Zuinglius, a Beza, ac Osiander, a Charlostadt, a Thomas Cromwel, a'r Gwarchodwr_Somerset, a'r "diwigwyr" erill. Oddi eithyr Ecolompadius, ac efalle un ne ddau erill, dynion diras oedd y diwigwyr.[40].
Rhag ichi feddwl fy mod yn seilio fyng 'hyhuddiadau ar dystioleutha Catholigion, gwrandewch pa beth y maen nhw'u hunen yn ei ddywedyd am eu gilydd. Er fod Melanchthon bob amser yn ceisio escusodi Luther hyd y galle-fo; etto, fel hynn y mae-o'n ysgrifennu at Calvin:
"Yr ydwi'n cael fy hunan yng'hanol caccwn ffyrnig, ac yn y nef yn unig yr ydwi'n disgwil cael didwylledd."
Ac fel hyn at Camerarius:
"Dynion anwybodus, na wyddanw ddim oll am dduwioldeb na discyblath, sy'n llywodreuthu yr eglwysi Protestanadd; demagogied yn gwenieithio i'r bobol, fel areithwyr gwlad Groeg. BREUDDWYD PABYDD Dyma'r rhai sy'n arglwyddieuthu; ac yr ydw inna fel Deiniol yn ffau y llewod. . . Y mae'r eglwysi wedi mynd i'r cyfryw gyflwr fel y maenw yn nythle pob drygioni.
Ebe Luther wrth Zuinglius:
"Rhaid eich bod chi ne fyfi yn weinidog Sattan."
Ac yn ei Gyffes Ffydd, fo eilw Zuinglius ac Ecolompadius a'u cyfeillion Swissig yn "ffylied, yn gablyddion, yn greaduried diddim, yn felltigedigion na ddylid ddim gweddïo drostynw."
Attepson nhwtha mai y fo oedd y "Pab newydd a'r Angrist, ac y dylse fod yn g'wilyddus ganddo-fo lenwi ei lyfr â chynnifer o enllibiau a chythreulied."
Fel hynny scrifennodd Calvin at ei gyfaill Bullinger am Luther:
"Y mae'n annichon diodde cynddeiriogrwydd Luther, yr hwnn y mae ei hunanoldeb yn ei rwystro rhag canfod ei ddiffygion ei hun, a rhag goddef ei wrthddywedyd gan erill."
Ebe Luther unwaith:
"Mi a lynaf wrth yr offeren o fig i Carlostadt, rhag i'r diawl feddwl ei fod-o wedi dyscu rhiwbeth ini."
Dyma dystiolath Calvin am Osiander:
Bwystfil gwyllt na ellir mo'i ddofi; y mae'n ffiadd genni'w angrhefyddolder a'i anfad weithredoedd-o.
Fel hynn y mae Calvin yn cyfarch y pennaf o Luthereried Westphalia:
"A wyti yn fy nyall-i, gi? a wyti yn fy nyall yn iawn, ynfyttyn? a wyti yn fy nyall yn iawn, y bwystfil boliog?
Y mae Bucer mewn llythyr at Calvin yn cyfadde "na ŵyr y rhai mwyaf efengyladd o'r Protestanied ddim pa beth ydi gwir edifeirwch." Ac mewn llythyr diweddarach, y mae-o'n dywedyd:
Yn ddiau, y mae Duw wedi talu ini yn chwerw am y sarhad a ddygasoni ar ei enw trwy ein rhagrith hir a niweidiol."
Ac mewn llythyr arall fe ddywed "i'n pobol ni ymwrthod â gormes ac ofergoeledd y Pab. Yn unig er mwyn cael byw yn ôl eu hewyllys eu hunen.
Yr un ffunud y mae Capiton, cydweinidog Bucer, yn yscrifennu at Farel:
"Y mae pob peth yn ymddiriwio. Nid oes gynnoni ddim un eglwys, nac oes, ddim cimmin ag un â dim discyblath ynddi. Y mae Duw yn peri ini weled y cam a neuthoni â'i eglwys trwy ein penderfyniad byrbwyll, a thrwy ein hanystyriath yn ymwrthod â'r Pab, canys y mae y bobol yn mynnu rhedeg yn benrydd heb un ffrwyn."[41]
Y mae'n amlwg fod y rhai pennaf oll o'r Diwigwyr yn hanner edifarhau ar amsera am wadu ohonynw awdurdod yr Eglwys Gyffredinol; canys fel hynn y serifennodd Luther unwaith at Zuinglius:
Os pery'r byd yn hir, fe fydd yn rhaid etto, o achos y gwahanol ystyron yr ydys yn eu rhoi i air Duw, dderbyn penderfyniada'r Cynghorau Eglwysig, a sefyll arnyn nhw er mwyn cadw undeb ffydd."
Ac ebe Melanchthon, ei gludydd arfa:
"Fe fydde unbenath y Pab yn fanteisiol iawn. i gadw ym mysg cynnifer o genhedlodd unffurfiath mewn athrawiath."[42]
Ac medd Calvin hefyd yn ei Inst. 6, 11:
Fe osododd Duw eisteddfa'i addoliad yng-'hanol y ddeuar, ac a osododd yno un Goruchaf Escob, a dim ond un, yr hwnn y gnae pawb yn dda edrych atto, er mwyn gallu yn well gadw undeb.'
Pa ryfedd i'r Cymry, a chenhedlodd erill, ar ôl gwybod y petha hynn oll, droi i felltithio dynion oedd yn melltithio'u gilydd, ac yn methu â chyttuno i neyd dim heb law drygu eglwys eu tada? Pa ryfedd iddynw, ar ôl dyall trwy yscrifeniada'r "Diwigwyr" eu hunen, morr aflywod- reuthus oedd yr eglwysi Protestanadd, droi i alw'r "Diwigiad gogoneddus yn Chwyldroad gwaradwyddus? Ie, pa ryfedd, meddaf inna, ddarfod i ddrwgfuchedd y Protestanied cyntaf attal Protestaniath yn ddisymwth rhag ymdeunu tross ganolbarth a deheubarth Ewrop, ac i ymarweddiad santadd gwŷr o fath François de Sales, Escob Geneva, fod yn foddion i ddwyn milodd yn ôl i'r Eglwys y gwrthgiliasenw ohoni?
Luther, Calvin, Knox, Cranmer-dyma dy dduwia-di gynt, O Gymru!
Ai am dy fod yn caru yr estronol yn well na'r brodorol, y neilltuol yn well na'r cyffredinol, y newydd yn well na'r hen, y cefnisti ar grefydd dy dada? Ai am fod Harri VIII yn frenin y Seuson, ai ynte am ei fod-o'n hannu o Duduried Môn, y derbynisiti o 'n bab yn lle Clement VII?
Pe cenedlgarwch a'th hudase o'r iawn, fe fyse'n haws genn i fadda iti; ond nid hynny, ysywath, a ddarfu dy hudo; canys yr oedd Mair hefyd yn ferch i'w thad, a hynny o'r wraig orau a fu ganddo; ac heb law hynny, hi a fu yn drucaroccach wrth ein cenedl ni nag y bu ei chwaer Elspeth. Er hynn oll, ti a gyttunaist â'r Seuson o'r dechreuad i alw Mair yn Fari Weudlyd!
Y gwir ydi mai am dy fod ar y cyntaf yn ofni'r genedl Seisnig yn fwy na Duw, a'th fod yn ddiweddarach yn ei charu-hi yn fwy na thi dy hun, yr euthosti'n Brotestanadd. Yr oedd gennyt escus hefyd, a dyma fo: yr oedd dy ddarostyngwyr yn dy gadw mewn anwybodath ddygyn; a chann na alleti o achos yr anwybodath honno ddim magu hanesyddion dy hun, pa beth a naeti, druan, amgen na darllen a choelio yr hynn a goeddesid gann hanesyddion y genedl nesaf attati?
Fe fydde'r Seuson yn beio arnat yn finiog am gredu'r chwedla plentynadd ynghylch Brut ac Arthur a Charadog ac Emrys; eithyr gormod o beth a fyse discwil iddynw chwerthin am dy benn am gredu eu chwedla plentyneiddiach nhw'u hunen ynghylch Joan, y pab beniw; marwolath arswydus Escob Gardiner; llawenydd a diolch y Pab Gregor am gyflafan gŵyl Bartholo- meus; Brad y Pabyddion; maddeuant prynn, addoli'r Forwyn Fair, addoli delwau a chreiria, llygredigath y cyffesfeydd a'r mynachlogydd, &c.
Ti a fuost yn wir yn goelgar dross benn, eithyr ti a olchist ymaith dy fai, ac a ddoist allan yn "Gymru lân ; canys pann y cefisti'r gwirionedd ti a gredist iddo yn ebrwydd.
O rann hynny, nid Catholigath a Chatholigion a ddarfu i ti eu cashau, ond gwatwar-luniau ohonynw. Nid Protestaniath a Phrotestanied a ddarfu iti eu hoffi, ond creadigeutha dychymyg y rhai oedd yn ennill eu tammad wrth eu moli-nw.
Pa fachgennyn sydd, ie, yn yr oes ola honn, na's temtid i feddwl, ar ôl darllen llyfr celwyddog Foxe, fod ei “ferthyri" yn "ardderchog lu!"
O! ddiscleiried yr ymddengys y Diwigwyr Protestanadd a'r Puritanied, ar ôl eu gwyngalchu gann yscrifenwyr lliwgar fel D'Aubigné Macaulay.[43] Eithyr tân beirniadath a brawf waith pawb, pa fath ydi-o. Fe ddangosodd hanesyddiath onestach yr oesodd diwedda hynn na fu erioed ddynion mor anghysson, nac efalle, ddynion morr anhawddgar a didoriad chwaith, â'r rhai y dysewyd Cymry yr oesodd tywyll i'w cyfri'n Enwogion y Ffydd. Y mae y corach yn ymddangos yn gawr yn y niwl; ac nid hawdd gweled anaf ac aflendid ar ddyn pell.
Ond erbyn hynn y mae'r haul wedi codi, a'r niwl wedi cilio, a'r pell wedi ei ddwyn yn agos. Er hynny, nid mewn un dydd nac mewn blwyddyn y gorfu'r gwawl ar y gwyll. A phann y doeth y gwirionedd i'w le, yr oedd peth hirath yn ymgymyscu â llawenydd y rhai a fu am gyhyd o amser yn credu celwydd. "Chi a ddymchwel- soch fy nuwia" oedd dolef llawer un. A pheth digon natturiol oedd i'r rhai gwannaf o'n cyndada Protestanadd deimlo'n siommedig, a synnu yn aruthrol wrth bob eilun syrthiedig, gann ddywedyd:
'Ai dyma'r gŵr a naeth i'r ddeuar grynnu, ac a gynhyrfodd deyrnasodd? A wanhawyd titha fel ninna, Luther? a euthost ti, Calvin, yn gyffelyb i ni?"Traethodau Tair Ceiniog.
- BYWYD GWLEDIG CYMRU, gan Dr. R. ALUN ROBERTS.
- WALES AND HER PEOPLE, by Prof. H. J. FLEURE.
- CYMRU A'R WASG, gan E. MORGAN HUMPHREYS.
- DIWINYDDIAETH YNG NGHYMRU, gan yr Athro J. MORGAN JONES a'r Parch. G. A. EDWARDS.
- GWLEIDYDDIAETH YNG NGHYMRU, gan y diweddar Brifathro T. REES.
- THE CULTURE AND TRADITION OF WALES, by Prof. T. GWYNN JONES.
- LLENYDDIAETH GYMRAEG FORE, gan yr Athro IFOR WILLIAMS.
- RELIGION IN WALES, by Prof. D. MIALL EDWARDS.
- Y DEYRNAS A PHROBLEMAU CYMDEITHASOL, gan DAVID THOMAS.
- AN INTRODUCTION TO CONTEMPORARY WELSH LITERATURE, by SAUNDERS LEWIS.
Traethodau Chwe Cheiniog.
- LLENYDDIAETH GYMRAEG A CHREFYDD, gan yr Athro IFOR WILLIAMS.
- BEIRNIADAETH FEIBLAIDD, gan y Prifathro T. LEWIS.
- CYMRU A'I CHYMDOGION, gan Dr. GWENAN JONES.
- THE INDUSTRIAL REVOLUTION IN SOUTH WALES, by J. MORGAN REES.
- POLITICS IN WALES, by R. HOPKIN MORRIS, M.P.
- IECHYD Y CYHOEDD, gan Dr. LLEWELYN WILLIAMS.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR,
WRECSAM
Y Llenor: Cylchgrawn Chwarterol dan nawdd Cymdeithasau Cymraeg y Colegau Cenedlaethol, a than olygiaeth W. J. Gruffydd a T. J. Morgan.
Y mae enwau'r ddau olygydd yn ddigon ynddynt eu hunain i warantu safon uchel i'w gynnwys, a cheir ysgrifau ym mhob rhifyn gan wŷr blaenaf ein llen â'n celfyddyd. Rhowch archeb amdano i'ch llyfrwerthwr, neu anfonwch danysgrifiad am bedwar rhifyn (10/8 y flwyddyn drwy'r post) i
Hughes a'i Fab, 16 Westgate Street, Caerdydd.
★
Y Cymro: Prif wythnosolyn Cymru a gyhoeddir bob dydd Gwener.
Ceir ynddo ddisgrifiad cywir a byw o fywyd Cymru o Gaergybi i Gaerdydd, a digonedd o luniau gwych. Ar werth ym mhobman, neu anfonwch eich tanysgrifiad i Olygydd
Y Cymro,
Croesoswallt.
LLYFRAU'R FORD GRON
Trysorau'r Iaith Gymraeg.
- PENILLION TELYN. Curiadau calon y werin..
- WILLIAMS PANTYCELYN. Temptiad Theomemphus.
- GORONWY OWEN. Detholiad o'i Farddoniaeth.
- EMRYS AP IWAN. Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, I
- EMRYS AP IWAN. Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, II
- DAFYDD AP GWILYM. Detholiad o'i Gywyddau.
- SAMUEL ROBERTS. Heddwch a Rhyfel (ysgrifau).
- THOMAS EDWARDS (Twm o'r Nant). Tri Chryfion Byd
- Y FICER PRICHARD. Cannwyll y Cymry.
- Y MABINOGION. Stori Branwen ferch Llyr, a Lludd a Llefelys.
- MORGAN LLWYD. Llythyr i'r Cymry Cariadus, etc.
- Y CYWYDDWYR. Detholiad O farddoniaeth Iolo Goch, Lewis Glyn Cothi, Tudur Aled, Siôn Cent,
- Dafydd Nanmor, a Dafydd ab Edmwnd, etc.
- ELIS WYNNE. Gweledigaeth Cwrs y Byd (Y Bardd Cwsg).
- EBEN FARDD. Detholiad o'i Farddoniaeth.
- THEOPHILUS EVANS. Drych y Prif Oesoedd (Detholiad).
- JOHN JONES, GLAN Y GORS. Seren tan Gwmwl.
- SYR JOHN MORRIS-JONES. Salm i Famon, etc.
- GWILYM HIRAETHOG. Bywyd Hen Deiliwr.
- SYR OWEN EDWARDS. Ysgrifau.
- ISLWYN. Detholiad o'i Farddoniaeth.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, CAERDYDD
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llenyddiaeth Gymraeg y 19 Ganrif, td. 39.
- ↑ Wrth weled yr arwyddair " Callon urz gallon faner uwch ben pulpud y darlithiwr, mi a fernais fod Cymry 2012 wedi diwygio yr orgraff, ac mai er mwyn dangos sain fer yn unig y byddent yn dyblu cydseiniaid.
- ↑ Fe fuasai 'stasiwn, 'stasiynau, fel ffasiwn, sasiwn, &c., yn Gymreigaidd, er nad yn Gymreig.
- ↑ Er nad yw yn perthyn i mi ymdrafferthu i gadarnhau yr hyn a ddywedir gan un arall, etto, wrth arch y Golygydd, yr wyf yn cyfeirio ar odre'r dalennau at y llyfrau y mae yn hawddaf i'r darllennwr cyffredin eu cael a'u deall, er mwyn chwilio "a ydyw y pethau hyn felly." Rhag i ddarllenwyr tra ieuaingc, a mân feirniadon dienw ac anenwog, wneyd eu hunain yn ffyliaid, fel y gwnaeth rhai eraill gynt, ar ôl ymddangosiad De Foe's Shortest Way with Dissenters, efallai y dylwn hyspysu y bydd fy amcan yn cyhoeddi yr araith hon yn fwy amlwg yn y rhan olaf o honi. Ac os na bydd yr amcan hwnnw yn gymmeradwy gan bob gŵr sy'n rhoi mwy o fri ar Gristionogaeth a Chymroaeth nag ar sectyddiaeth Seisnig- add, yna fe fydd yn rhydd i'r Golygydd gyhoeddi yn niwedd y gyfrol ym mha le yr wyf yn trigo, fel y gallo pleidwyr rhyddid barn a llafar gael hyd imi, ac ymddwyn tuag attaf yn ôl eu hanian a'u harfer.Gan fod y cyfundeb cryfaf yng Nghymru," alias yr Hen Gorff," yn "wan trwy y cnawd," hynny ydyw, yn dra chroen-deneu; ac heb ddysgu goddef, hyd yn noed mewn cylchgrawn cenedlaethol, i Gatholigion ysgrifennu am y Protestaniaid fel y bydd y Protestaniaid yn ysgrifennu am y Catholigion, yr wyf, gan gyd-ymddwyn a'i wendid ef, yn gadael allan y pethau hyllion a ddywedodd yr areithiwr am gymmeriad Calvin.—Y Cofnodwr.
- ↑ Bossuet, Histoire de Variations, Tome i, 420.
- ↑ Cyfeirio yr ydys yma, y mae'n amlwg, at yr ym adroddion cableddus hyn: Certum est dogmata mea habere me de coelo. Non sinam vel vos vel ipsos angelos de coelo de mea doctrina judicare.
- ↑ Europ. Civilisation, Note 11, p. 414.
- ↑ Encyclopédie Theologique, publiée par L'Abbé Migne.
- ↑ Lingard's Hist., vol. viii, 178, 195.
- ↑ Lettres de la Montagne.
- ↑ Balmez' European Civilization, p. 340, a Mensel's Deutsch. Litt., cyf. i.
- ↑ Felly y dywed Bellingham yn Social Aspects, p. 154; er fy mod i wedi methu â chael hyd i eiriau mor bennodol yn Cobbett. Dyweyd y mae efe yn Prot. Ref., viii, ddarfod i Elspeth ladd mwy o Gatholigion mewn blwyddyn nag a laddodd Mair o Brotestaniaid yn ystod ei holl deyrnasiad, ac mai dynion dychmygol, gwrthryfelwyr, a set of most wicked wretches, oedd y rhan fwyaf o ferthyron Foxe.
- ↑ Lingard's Hist of Engl., vol. v, chap. 6.
- ↑ Er mwyn Cymry Rhydychen, mi a ddylwn egluro mai Dsiâms, neu Dzjâms, ydyw Iago, ac mai Tsiarls ydyw Carl (neu Siarl), yn eu hiaith hwy.
- ↑ Felly y tystiolaetha Nicholas Froumanteau, yr hwn oedd Brotestaniad.
- ↑ Encyclopédie Theologique, o dan y gair "Barthelemy." Lingard's Hist. of Engl., vol. vi, 138. Milner's Letters to a Prebendary. Cobbett's Prot. Ref. chap. 10.
- ↑ Cobbett's Prot. Ref., Letter X. Encyc. Theol., Tome xxxvi, 334.
- ↑ Dr. Milner's End of Religious Controversy, p. 231
- ↑ Milner's Letters to a Prebendary, p. 129.
- ↑ Bellingham's Soc. Asp., pp. 416, 235.
- ↑ Hallam's Const. Hist., vol. i, p. 130. Bellingham's Soc. Asp., p. 251.
- ↑ 22.0 22.1 Soc. Asp., 142.
- ↑ Hist. Abreg. Reform., Pays Bas, Tome i, 454.
- ↑ Rushworth's Hist. Collect., vol. i, p. 144.
- ↑ Neal's Hist. of Puritans, vol. iv, and Hist. of Churches, vol. iii.
- ↑ Bellingham's Soc. Asp., 143.
- ↑ Lingard's Hist., vol. viii. Hallan's Const. Hist., vol. iii, p. 532. Bellingham's Soc. Asp., p. 147. End of Controversy, p. 239.
- ↑ Bellingham's Social Aspects, p. 129.
- ↑ Bellingham's Soc. Asp., p. 151, &c.
- ↑ Cobbett's Reformation, Lett. vi, xvi; a Balmez, European Civilization, p. 340.
- ↑ Y mae geiriau Luther ei hun yn ei bregeth ar "Gamarfer" yn cadarnhau hyn hyd ym mhell.
- ↑ Bossuet, Histoire des Variations, Tome i, 230. Hist. des Variations, Tome i, 227-235.
- ↑ T. v. Serm. de Matrim, 123. Fel hyn yn Gymraeg: "Os na fynnwch chwi, fe fyn rhywun arall; os na ddaw y feistres, deled y forwyn."
- ↑ Encyclopédie Theologique, o dan y gair "Luther." Fe 'sgrifennodd Luther rigwm aflanach o lawer na'r un y cyfeiria'r darlithiwr atto, sef yr un sy'n diweddu fel hyn:
In der Woche zwier
Macht des Jahren hundert vier;
Das schadet weder dir noch mir. - ↑ Hist des Variations, Tome i, 59, &c.
- ↑ Gweler y sylw olaf yng ngwaelod tud. 18
- ↑ Drummond's Life of Erasmus, pp. 113, 147.
- ↑ Encyc. Theol. Tome xxxvi, o dan y gair "Cranmer."
- ↑ Bellingham's Soc. Asp., 145.
- ↑ "Perhaps the world has never in any age seen a nest of such atrocious miscreants as Luther, Zuinglius, Calvin, Beza, and the rest of the distinguished reformers of the Catholic religion: every one of them was notorious for the most scandalous vices, according to the full confession of his own followers," ebe'r Protestaniad Cobbett yn Hist. Ref., Letter vii
- ↑ Bossuet, Histoire des Variations, Tome i, 193, 199, 240, 420, 421, 422. Balmez, European Civilization, p. 411.
- ↑ Quoted by Balmez in European Civilization, p. 411.
- ↑ Y mae Macaulay, er yn gorfoli'r Puritaniaid, yn sôn yn bur barchus am y Catholigion mewn llawer man, yn enwedig yn y dernyn huawdl sy'n diweddu fel hyn: "She [i.e, the Catholic Church] may still exist in undiminished vigour when some traveller from New Zealand shall, in the midst of a vast solitude, take his stand on a broken arch of London Bridge to sketch the ruins of St. Paul's." Essays.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.