Neidio i'r cynnwys

Breuddwydion Myfanwy/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod IV


III

Penliniais:
Cleddais fy wyneb yn y mwsogl îr:
A dyna'm ffarwel olaf â santaidd ddaear fy mro.
—WIL IFAN (Bro Fy Mebyd).

YR oedd gan Ifan Rhys ddau frawd yn Awstralia. Ffarmwyr oeddynt hwythau. Dim ond wyth mlynedd oedd er pan aethent allan. Nid oedd ganddynt lawer o arian y pryd hwnnw. Erbyn hyn yr oeddynt yn berchen ar ffarm ddefaid fawr yn New South Wales. Cadwent lawer o weision a morynion. Dibriod oedd y ddau. Er ys amser bellach, ymhob llythyr a ysgrifennent at eu brawd, cymhellent ef a'i deulu i ddyfod allan atynt. Yr oedd yn Awstralia well cyfle i ddyfod ymlaen yn y byd nag oedd yng Nghymru. Byddai'r plant, yn anad neb, ar eu hennill o fynd yno. Caent fwy o le i ddewis cwrs eu bywyd. Byddai'r daith ei hun, a'r byw mewn gwlad a chyfandir newydd yn addysg ac yn brofiad gwerthfawr iddynt. Yr oedd yno alw am ffarmwyr, crefftwyr o bob math, masnachwyr, swyddwyr, athrawon a phregethwyr. Enillai hyd yn oed gweithwyr cyffredin o leiaf gymaint deirgwaith ag a wnaent yng Nghymru, Felly yr ysgrifennid o Awstralia. Wedi pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision yn ofalus, penderfynodd Ifan Rhys a'i deulu ymfudo. Byddent yn cychwyn eu taith hir yn nechreu Hydref. Hoffent fedru perswadio teulu Brynteg i ymuno â hwy. Hynny, yn bennaf, oedd pwrpas eu hymweliad.

Buwyd ar lawr yn hwyr y noson honno, ac, wrth gwrs, Awstralia oedd pwnc yr ymddiddan. Dyna falch oedd Gareth a Gwen y gellid erbyn hyn siarad yn rhydd am y peth. Yr oedd eu calonnau'n llawn wrth feddwl am yr antur a'r pleser oedd yn eu haros. Gwelent y dyfodol mewn lliwiau dengar iawn.

"Gweithio ar y ransh y byddaf i," ebe Gareth. Bydd yn rhaid gweithio'n galed ar y dechreu, wrth gwrs, ond deuwn yn gyfoethog yn fuan iawn. Edrych ar ôl y gweithwyr fydd fy ngwaith i wedyn, Byddaf yn mynd ar gefn ceffyl ar hyd y ffarm, a mynd i'r marchnadoedd i werthu gwlân a defaid."

"Athrawes fyddaf i," ebe Gwen. "Byddaf yn mynd i'r coleg i Melbourne, efallai, neu i Sydney."

"A yw pobl yn saethu'r cangarŵ?" gofynnai Llew.

"Wn i ddim beth am y cangarŵ," ebe Gareth, a blino am nad oedd yn ddigon siwr o'i ffeithiau i ateb yn bendant, "ond byddaf yn saethu'r oppossum, a gwerthu'r croen wedyn am arian mawr."

A'r emu hefyd, er mwyn y plu," ebe Gwen. "Beth yw emu?" ebe Myfanwy.

"Yr Australian Ostrich—estrys Awstralia," ebe Llew, cyn i Gareth na Gwen gael amser i ateb.

"O, mi hoffwn innau fynd i weld y byd," ebe Myfanwy gydag ochenaid.

Siarad â'i gilydd a wnai'r plant â lleisiau isel, a'u rhieni yn siarad ar yr un pryd â lleisiau uwch. Yr oedd cymaint ganddynt i'w ddywedyd. Sut gallent eistedd yn ddistaw a gwrando, heb gyfle ond i roddi gair i mewn yn awr ac yn y man? Clywodd ei thad frawddeg ac ochenaid Myfanwy, er ei fod ef ar y pryd yn siarad yn brysur. Efallai i hynny ei helpu i benderfynu.

Yr oedd yn unarddeg o'r gloch ar y plant yn mynd i'w gwelyau, a chlywid murmur am amser ar ôl hynny o'r ddwy ystafell nes i gwsg fynd yn drech na hwy. Yr oedd wedi hanner nos pan noswyliodd y rhieni. Erbyn hynny, yr oedd Mr. a Mrs. Rhys bron â bod wedi perswadio'r ddau arall mai Awstralia oedd y wlad iddynt hwythau.

"Dyna beth od i'r cyfle hwn ddod i ni'n awr, a ninnau ynghanol ein penbleth ynghylch dyfodol y plant!" ebe'r saer wrth ei briod pan oeddynt wrthynt eu hunain. "Yr wyf bron â chredu mai mynd a fydd oreu i ni."

"Y mae eisiau meddwl llawer cyn cymryd cam mor bwysig," ebe Mrs. Llwyd.

Nid aeth neb ohonynt i'r capel y Sul hwnnw. Rhodio yn y caeau ac ar y lôn y bu'r ddau ddyn a'r plant, a'r ddwy wraig yn y tŷ yn paratoi bwyd ac yn siarad.

"Byddai'n hyfryd iawn bod gyda'i gilydd eto, a ninnau ddim ond dwy chwaer, a chael codi'n plant gyda'i gilydd," meddai Mrs. Rhys.

"Byddai'n wir, ond a wyt yn siwr y caem hynny, pe baem yn dod?" meddai Mrs. Llwyd.

"Caem y fordaith gyda'i gilydd, beth bynnag, ac O! wn i ddim beth na wnawn er mwyn cael eich cwmni i gyd ar y môr, a rhaid i ni drefnu i fyw gyda'i gilydd," ebe Mrs. Rhys.

Yr un oedd pwnc yr ymddiddan yn y caeau.

"Nid oes eisiau i ti ofni na allet werthu'r lle bach. Cei ddigon i brynu hwn bryd y mynnot. Nid bob dydd y ceir lle bach fel Brynteg," meddai Ifan Rhys. "Peth mawr yw torri cartref heb fod yn siwr o un arall," meddai Meredydd Llwyd.

"Gellir cael sicrwydd cyn gwneud dim," meddai Ifan Rhys.

Yr un fath eto ar y lôn, ond mewn tôn wahanol yno.

"Y mae digon o aur yn New South Wales," meddai Gareth. "Efallai mai gweithio yn y gwaith aur y bydd nhad a finnau eto. Dyna gyfle i ddod yn gyfoethog wedyn!"

"Beth pe baem yn darganfod aur ar ein tir ni!" meddai Gwen. "Y mae hynny'n ddigon posibl. O, 'rwy'n disgwyl yr amser i fynd!"

"Mi freuddwydiais i neithiwr ein bod ninnau'n dod," ebe Myfanwy.

"Ho! Croes yw breuddwyd," ebe Gareth.

"Gwelwn y llong yn mynd trwy Gibraltar, a'r creigiau mawr ar bob ochr, ac yna, yr oeddem ar y Môr Canoldir, a'r môr yn lâs-lâs ac yn dawel-dawel. O, dyna freuddwyd hyfryd oedd!"

"Y mae breuddwydio am y môr yn lwcus," ebe Gwen.

"Breuddwydia am Awstralia heno, er mwyn i ni gael bod yn siwr o fynd," ebe Llew.

"Efallai mai yn rownd i'r Cape of Good Hope y byddwn yn mynd, ac nid trwy'r Môr Canoldir," ebe Gareth.

Aeth Llew i'r tŷ i hôl ei atlas, a dyna lle bu'r pedwar ar bwys iet y lôn yn astudio map o'r byd, a Llew â'i bensil yn dangos y ddwy ffordd i Sydney.

"Y mae Myfanwy wedi breuddwydio eich bod chwithau bob un yn dod i Awstralia," ebe Gareth, pan oeddynt oll ar ginio.

"Y mae breuddwydion Myfanwy yn dod i ben ambell waith," ebe Mrs. Llwyd.

Erbyn bore Llun yr oedd penderfyniad pwysig wedi ei wneud. Os cai Meredydd Llwyd sicrwydd oddiwrth frodyr Mr. Rhys am waith cyson fel saer, a thŷ mewn man cyfleus, byddai'r ddau deulu yn ymfudo gyda'i gilydd ym mis Hydref.

Dawnsiodd y plant o lawenydd pan glywsant hyn. Byddai'n rhaid aros tri mis o leiaf, cyn ceid ateb o Awstralia, ond teimlai pawb ohonynt yn sicr mai mynd oedd i fod.

Tri mis hir iawn a fu y rhai hynny. Daeth yr ateb o'r diwedd, a phopeth yn ffafriol ynddo. Yna dechreuwyd paratoi o ddifrif am ymadael. Gwerth— wyd Brynteg yn fuan iawn am bris da. Cyn hir, gwelwyd yn ffenestri siopau'r pentref "bapurau acsion" a'r gair "Brynteg" mewn llythrennau bras arnynt, a phob gair arall yn Saesneg, er mai Cymry oedd pob un a fyddai'n debig o'u darllen. Dywedai'r papurau hyn y gwerthid, ar yr ail o Hydref bopeth oedd ym Mrynteg, oddimewn ac oddiallan,—gwair, gwartheg, hwyaid, ieir, ietau, peiriannau, gwelyau, dodrefn, llestri, darluniau a llyfrau. Diwrnod prudd iawn oedd hwnnw, yn enwedig i Mr. a Mrs. Llwyd. Chwalwyd y nyth y buwyd mor hapus yn ei hadeiladu. Mynnai dwy linell o hen rigwm Saesneg redeg drwy ben Meredydd Llwyd drwy'r prynhawn:—

"Not all the king's armies, nor all the king's men,
Can put Humpty Dumpty together again."

Gwerthwyd eu holl eiddo. Nid aent â dim gyda hwy ond a fedrent ei roddi mewn cistiau,—eu dillad, rhai llyfrau, a rhai trysorau bychain ereill na allent ymadael â hwy.

Nodiadau

[golygu]