Breuddwydion Myfanwy/Pennod XIX

Oddi ar Wicidestun
Pennod XVIII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XX


XIX

Tlysau a pherlau a physg,
Gwymon a gemau'n gymysg.
—R. WILLIAMS PARRY
(Cantre'r Gwaelod).

DAETH Mili'n gartrefol ar unwaith gyda'i phobl newydd. Dywedai Madame a hithau ei henw yn union yr un faith,—" Mi-li." Yr enw Saesneg "Milly" a roddai pob un o'r lleill iddi.


Tybid mai tua deuddeg oed ydoedd. Yr oedd ganddi gorff hardd er mai du ydoedd ei liw. Yr oedd yn dál a lluniaidd, a'i gwallt fel gwawl ar ei phen. Medrai redeg fel ewig, yn gynt o lawer na Llew na Gareth na Myfanwy. Dim ond Socrates a gai y blaen arni. Yr oedd ei gallu i weld ac i arogli pethau o bell yn destun syndod parhaus i'r lleill. Un diwrnod o ben y bryn edrychodd yn hir tua'r môr, a dywedodd y gwelai dir ar y gorwel. Yr oedd yn siwr mai ei gwlad hi ydoedd. Methai'r lleill â chanfod dim. Nid oedd gwydrau ganddynt. Er chwilio ni chawsent ddim un math ar deliscop ar y llong, ond sicrhai Mili hwy fod y tir yno. Nid oedd enw ganddi ar y wlad neu'r ynys,—" Mili-land" y galwai hi'r lle. Edrychai'n hiraethus tua'r gorwel, a gofynnodd Mr. Luxton iddi:—

"A gawn ni fynd yno bob un yn y cwch?"

Siglodd ei phen, a rhywbeth fel hyn oedd ei hateb:—

"Sposum pappa belong Mili see boat first, he knock head belong me. Me go finish. By'n by he kill you,— one, two, tri fellow man, one two Mary fellow. You no good. You all dead."

("Beth pe gwelai tad Mili y cwch yng nghyntaf. Rhoddai ergyd i mi ar fy mhen nes byddwn farw. Yna lladdai chwithau bob un,—y tri dyn a'r ddwy fenyw. Byddech i gyd wedi marw.")

Yr oeddynt i gyd o'r un farn â Mili. Cododd chwant enbyd arnynt i fynd wedi deall bod ynys yn y golwg o fewn eu cyrraedd. Ond beth os aent i ganol anwariaid?

Cawsant lawer cip ar fywyd yn y rhan honno o'r byd drwy'r geiriau cymysg a fwrlymai weithiau o enau Mili. Un diwrnod aethant i "Glyn y Groes" a thrwy'r arcêd i le'r deml fel o'r blaen. Dangosodd Mili gyffro anghyffredin. Er dileu llawer o'r olion gan dyfiant y prysgwydd, yr oedd digon ar ôl i beri iddi hi adnabod y lle. Gwyddai ystyr y llwybr troeog dan y coed a'r man ysgwâr ar ei derfyn, a'r polyn a'r llun pen dyn arno. Gwaeddodd ar Madame a Myfanwy i ddyfod yn ôl. Ni chaniateid i fenywod sangu ar y lle cysegredig. Edrychodd yn frawychus, a dywedyd:—

"One fellow man, two fellow man, much flenny fellow mans been come here. Fire, long pig, dance, eat, beat tom—tom. One, two white fellow man, one, two black fellow man long pig."

Deallasant wrth hyn yr arferai pobl Mili ddyfod i Ynys Pumsaint i wledda ar ddynion, a dawnsio a churo tabyrddau. Yr oedd clywed hynny'n ofnadwy, ond yr oedd gwaeth i ddilyn:—

Mans belong Mili him go away flenny long time, him come back, Mili know him come back.

Ceisiodd Mr. Luxton a Madame a'r tri arall ddysgu'r pagan bach mai peth drwg a ffiaidd ac ofnadwy yw lladd dynion a'u bwyta,—nad oes gan neb hawl i fynd. â bywyd un arall, ac yn y blaen. Gwrandawai Mili'n astud, a thynnu ei llaw yn dyner ar hyd braich Myfanwy yr un pryd. Edmygai groen gwýn, neu yn hytrach groen melyn Myfanwy, a dywedai'n aml, "Missy too much pretty." Yna dywedodd:—

"Mission man him say all same. Pappa belong Mili him try knock head belong mission man. Mission man no live now in Mili-land. Him gone finish."

Gyda'r un anadl dywedodd, a thynnu ei llaw dros fraich Myfanwy o hyd:—"This flenny good eat."

Y tro cyntaf y gwelodd Mili berlau Myfanwy, dywedodd y gwyddai hi pa le'r oedd digon o rai felly. Edrychai'r plant arni heb ei chredu. Dywedodd Mili y dangosai hi'r lle iddynt os deuent yno gyda hi yn y cwch. Dywedodd hefyd fod dynion gwynion yn dyfod i'w gwlad hi mewn llongau, a'u bod yn rhoddi rhubanau heirdd a gwregysau o bob lliw i'w phobl hi yn dâl am y perlau a gaent iddynt o'r môr. Drwy ambell frawddeg ddifeddwl felly rhoddai Mili i'r pump lu o feddyliau i'w cyffroi a'u hanesmwytho.

Amlwg oedd bod llongau yn galw yn yr ynys neu'r tir ar y gorwel, a bod dynion gwynion yn dyfod yno. A hwythau'r pump alltud yma fel wedi eu torri o blith y rhai byw, a gwaredigaeth, efallai, o fewn cyrraedd iddynt. Sut dderbyniad a gaent os mentrent yn ddiamddiffyn yn eu cwch bychan dros y môr mawr? Os mai i ddwylo'r anwariaid yr aent, efallai mai dyfod yn ôl tua "Glyn y Groes" yn garcharion i gael eu bwyta yno a fyddai eu tynged. Nid oeddynt yn siwr yr hoffent fynd i ddwylo'r dynion gwynion chwaith. Y mae'r dynion sydd â'u holl fryd ar gasglu perlau yn aml yn ddidostur a diegwyddor, yn fwy anwar na'r anwariaid eu hunain. Gwell oedd aros ar Ynys Pumsaint, ond edrychent o hyd yn hiraethus i gyfeiriad y tir pell.

Aethant bob un yn y cwch un bore dan arweiniad Mili. Aethant heibio genau'r afon ac ymlaen heibio "Glyn y Groes." Yna gorchmynwyd iddynt fynd i ymyl y rhibyn i fan lle'r oedd pwll llonydd. Heb rybudd, neidiodd Mili ar ei phen i'r dŵr. A hwythau'n edrych ar ei gilydd mewn syndod mud, daeth i'r wyneb, a thaflu dwy gragen i'r cwch. I lawr â hi drachefn a thrachefn nes cael dwsin o lymeirch. Mewn wyth allan o'r dwsin yr oedd perl pinc hardd.

Daethant i'r un lle lawer diwrnod wedi hynny. Hwnnw yn wir oedd cartref y perlau. Weithiau byddai ganddynt domen fawr o lymeirch ar y traeth yn aros i wres yr haul eu hagor. Dyna waith cyffrous oedd cyfrif y perlau!

Bob yn dipyn daeth Llew a Gareth i fedru ymsuddo fel Mili, ond ni fentrasant hwy erioed i'r pwll dwfn ger y rhibyn. Dywedai Mili fod y morgwn yn hoff anghyffredin o gig dynion gwynion, ac y byddent yn siwr o'u gweld hwy o bell a dyna ddiwedd amdanynt. Felly bodlonodd y ddau ar leoedd mwy diogel yn nes i'r tir, ac yr oedd Mili gerllaw gyda chyllell hir yn barod i ymladd ag unrhyw siarc a ddeuai'n agos.

Dywedodd Madame a Myfanwy nad oedd bellach yn deg iddynt hwy gadw'r perlau i gyd. Rhanasant hwy un diwrnod yn gydradd rhyngddynt. Ar ôl hynny cai pob un berl yn ei dro, un bach neu un mawr fel y digwyddai. Yr oedd ganddynt hefyd rai darnau gwerthfawr o gwrel. Os byth caent fynd yn ôl i wledydd gwâr a chael gwerthu eu trysorau byddent yn bobl gyfoethog iawn.

Cafodd Mili lawer o ddillad a rhubanau oedd yn hardd iawn yn ei golwg hi, ac yn fwy o werth na'r perlau i gyd. Gwnaeth Llew a Gareth hefyd wddfdorch ardderchog iddi o gregyn tlws, a breichled a chlust— dlysau o ddannedd siarc a gawsent un diwrnod yn farw ar y traeth. Rhodiai Mili fel brenhines yn y dillad a'r addurniadau hyn, ac yr oedd yn ddiau yn hapusach nag unrhyw frenhines yn y byd.

Nodiadau[golygu]