NID oes angen cyflwyno'r Dr. Gwynn
Jones i ddarllenwyr Cymru. Gŵyr
pawb am ramant ei yrfa—gyrfa a
gychwynwyd yn swyddfa'r Faner yn
nyddiau Thomas Gee; syfrdanu Cymru
a'i awdl Ymadawiad Arthur yn 1902; yna
ymuno â staff y Llyfrgell Genedlaethol;
i'r Brifysgol wedyn, i Gadair Llenyddiaeth adran Gymraeg Coleg Aberystwyth. Y mae'n awdur nifer helaeth o
lyfrau, yn nofel, dramâu, cofiannau
a barddoniaeth na ellir dechrau eu
henwi. Y flwyddyn hon gwneir Tysteb
Genedlaethol iddo a fydd yn rhyw arwydd o werthfawrogiad y genedl o'i
gyfraniad amhrisiadwy i'w bywyd a'i
llenyddiaeth.