Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Cerdd yr Alltud
← Gwenfron | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Y Bedd Di-faen → |
CERDD YR ALLTUD.
PROFAIS Swynion gwlad bellennig,
Gwelais degwch llawer bro;
Crwydrais erwau cysegredig
Fel afonig lefn ar dro;
Ond ar lenni fy myfyrion
Erys un olygfa lân,
Am fod Cymru yn fy nghalon
Cymru erys yn fy nghân.
Ysblanderau prif ddinasoedd
Byd edmygais ar fy hynt,
A'u pinaclau yn y nefoedd
Megis cad ar lwybrau'r gwynt;
Rhof y cyfan mewn llawenydd,
Er nad wyf ond crwydryn llwm,
Am y gorlan ar y mynydd,
Am y capel yn y cwm.
Gyda syndod mud gwrandewais
Salmau clodfawr temlau Dysg;
Wrth eu pyrth yn daer deisy fais
Am gael cyfran yn eu mysg;
Eu cyfnewid yn y farchnad
Wnaf ar encil balchter ffol,
Am hen Ysgol Sul fy mamwlad,
A'r Gymanfa ar y ddôl,
Eled rhwysg y byd a'i rodres
Dan faneri lliwgar fyrdd;
Rhowch i minnau yn yr heuldes
Fwthyn ar y llechwedd gwyrdd;
Ni ddymunaf namyn swynion
Cyfareddol Gwalia lân;
Am fod Cymru yn fy nghalon
Cymru erys yn fy nghân.