Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Cofio Milwr

Oddi ar Wicidestun
Hen Ysgol Llwynygell Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Lleddf a Llon

COFIO MILWR.

PAN y paid pob cledd a'i gyffro;
Pan ostega'r rhyfel—gri;
Daw dy dad a minnau heibio'r
Llecyn lle gorweddi di;
Wedi teithio estron—froydd,
Dyma'n hoffrwm ar ein hynt,
Pleth o redyn o Gwmbowydd,
Swp o rug o Fwlch y Gwynt.


Nodiadau

[golygu]