Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Eos Prysor

Oddi ar Wicidestun
Min yr Awel Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Deryn y Drycin

EOS PRYSOR.

GWEITHIWR fawr berchid, gerid drwy'n goror;
Gwawriai ei dalent o'i grud i'w elor.
Goludog urddas y gwledig gerddwr
Pura i'w Iesu roes Eos Prysor;
Y gloyw sant; eglwys Iôr, a llaw rydd
 Ddaw i Drawsfynydd i drwsio'i fynor.


Nodiadau

[golygu]