Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Er Cof
Gwedd
← Towyn Jones | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Min yr Awel → |
ER COF.
[Am y ddiweddar Mrs. Roberts, priod y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon).]
DRWY flin ymdewi hyd dreflan Madog,
O'i chur y dodwyd ein chwaer odidog;
Bu'n lloer hynaws, bu'n llaw i wr enwog.
Drwy hwyr gofidiau a'r awr gafodog;
Yn llewych barn alluog—gwnaethai les;
Gywir genhades a gwraig gweinidog.