Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Gadael Cartref
← Llanw a Thrai | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Llwybrau Mynyddoedd → |
GADAEL CARTREF.
I.
MAE'R bore yn llaith yn fy mhrofiad
Er crwydro ymhell o dref;
A hiraeth yn cadw'i ddechreuod
Gan d'wyllu ffenestri pob nef;
Gadewais fy nghartref ac ing yn fy ngoslef
Yn darllaw ystorom gref.
II.
Hyfryd yw cofio yr Hafod
A'r haul ar y dolydd a'r coed;
Ond tristwch i newid cyweirnod
Fy ysbryd ddaw heibio'n ddioed;—
Gadewais y cyfan ar ol ond fy hunan,—
Bererin bregus ar droed.
III.
Caf gwmni breuddwydion tyner
Wrth symud o lech i lwyn,
A gwrando telynau hyder
Ar ambell i orig fwyn;
Dywedant yn unllef i mi adael cartref
Cyn gadael bro'r rhedyn a'r brwyn.
IV.
Cynghanedd y Cartref di—ofid
Erglywaf mewn emyn a salm,
Ar waetha'r wlad bell a'r cyfnewid,
Mae'r miwsig i'm bron yn falm;
Dof ataf fy hunan ryw ddydd; yn fy anian
Mae Gorsedd a Choron a Phalm.