Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Gwerddonau Llion

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Gerddor Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Y Gweledydd

GWERDDONAU LLION.

I.


CLYWAIS glod Gwerddonau Llion
Yn fy mebyd pell;
Profais hud y cain orwelion
A'r ardaloedd gwell;
Deffro ysbryd y pererin
Diflin yn ddioed
Fynnai'r sibrwd, ond mae'r grawnwin
Eto ar y coed.

II.


Mewn myfyrion a breuddwydion
Crwydrais erwau blin;
Chwiliais am Werddonau Llion
Dan anwadal hin;
Cyrchu atynt oedd fy ngwynfyd
Dan wên haul a ser,—
Tybio'u canfod trwy'r ymachlud
Ambell hafnos ber.

III.


Croesais foroedd a mynyddoedd
Ar fy ymchwil hir;
Fy nisgwyliad melys ydoedd
Yn lladmerydd gwir;
Teimlo'n agos yn y pellter
Anfesurol wnawn,—
Teimlo 'nghalon, er ei gwagder,
Lawer tro yn llawn.


IV.


Ni ddaw hûn na chwsg i hanes
Y pererin brau,
Ymwresygodd at ei neges
Cyn i'r wawr ddyddhau;
Cael a gais ar ymchwil ffyddlon
Wnaiff dan wawr pob nef;
Onid yw Gwerddonau Llion
Yn ei galon ef?


Nodiadau

[golygu]